Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Llafur a Cbyfalaf.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llafur a Cbyfalaf. GAN MYRDDIN. Arglwydd Rhondda, yn ddiweddar, a ychwanegodd at y nifer lliosog o gwmnioedd glo oedd eisioes dan ei ofal. Gan feddwl, efallai, y byddai'r cam hwn o'i eiddo yn achos pryder yn rhengau Llafur, efe a frysiodd i symud eu hofnau, ac i godi'r lien, ryw ychydig, ar yr egwyddor a'i cym- hellai i ymgymeryd a'r cyfrifoldeb newydd hwn. Gwyddom, bawb ohon- om, mai nid peth newydd yn ei hanes yw dwyn hynny a all o lofeydd y De- heudir dan ei nawdd; mai efe a ddygodd y Cambrian Combine i fod, y cyfundeb cyntaf o'r fath yng Nghymru, os nad ym Mhrydain Fawr. Ein hamcan, meddai, yw cyfeirio polisi, trefn a gweinyddiad y gweith- feydd hyn i'r un llwybr. Nid oes berigl i'r cyhoedd nac i Lafur pddi- wrth yr hyn a wnelom. Mae inni ein hyder y llwyddwn i arbed gwastraff mewit llawer cyfeiriad, ac ni fwriedwn godi pris y glo. I'r gwthwyneb, y tebygolrwydd yw y gostwng y pris wrth inni gynnilo yn y gost o wein- yddu. Hefyd, i raddau pell, byddwn yn gwerthu'r glo ein hunain. Wrth hynny byddys yn diddymu'r masnach- wr canol, ac nid yw'r dosbarth hwnnw o fasnachwyr, bob amser, yn fendith i gymdeithas, gan nad ydynt yn gyfrifol 1 neb ond iddynt eu hunain. Nid oes, felly, elyniaeth i fuddiannau Llafur. Yn wir, geill y cyfundeb hwn fod yn fendith ddiamwys i'r werin. Dywedir llawer y dyddiau hyn ar yr angen- rheidrwydd: o osod diwydiannau'r wlad ar seiliau sicrach, a'u dwyn i gyswllt agosach a chyfundrefn addysg. Mae hyn yn bwysicach, o bosibl, yn y fas- nach lo, nag mewn un fasnach arall. Ni all y cwmni unigol ddwyn hynny i fod, ond y mae o fewn cyrraedd cyfundeb ohonynt. Byddwn yn awr mewn sefyllfa i sefydlu swyddfa newyddi ynglyn a'r glofeydd hyn, a'i hunig waith fydd casglu a threfnu ystadegau a gwybodaeth fo'n dal cysylltiad a'r fasnach. Rhoir ynddi'r swyddogion galluocaf a fedr y cyflogau uchaf eu denu, gan hyderu y'n cedwir ni mewn perthynas agos a phob dat- blygiad ymhob rhan o'r byd yn y fas- nach lo ^'r ami ddiwydiannau sy'n dibynnu arni. 0 fanwl ystyried y manteision di- hafal a lifontoddiwrth gyfundebau riiasnachol cyffelyb, yr wyf yn mawr gredu y byddant yn gyfrwng i sicr- hau gwaith cyson i filoedd o lowyr ac yn fendith i gymdeithas. Datblygiad naturiol ydyw, a'n galluoga ni i gynhyrchu mwy a lleihau'r treuliau ar yr un pryd. Byddai ceisio deddfu yn ei erbyn ar linellau'r Sherman Anti- Trust Law yn yr Unol Dalaethau yn sicr o fod yn fethiant, ac nid gwiw, ychwaith, fyddai ceisio'i atal mewn unrhyw ffordd arall. Yn wir, ar hyn o bryd, y mae mesur adgyweiriol o flaen y Senedd Americanaidd sydd a'i amcan i ddiddymu'r Sherman Anti- Trust Law, ac y mae'r mesur wedi ei gymeradwyo gan y Federal Trades Commission. Ystyrir bod I y gyfraith yn ei ffurf bresennol yn milwrio'n erbyn datblygiad a ffyniant diwyd- iannau'r America ac yn annheg &'i masnachwyr fo'n trafnidio a gwledydd tramor. Gwyddys fod y pyllau glo hyn sydd yn awr o dan lywodraeth Arglwydd Rhondda ymhlith y pwysicaf a'r gwerthfawrocaf yn Neheudir Cymru. Eu glo hwy a ddefnyddir yn bennaf gan ein Llynges, ac felly y mae'n bwysig bob amser fod heddwch yn teyrnasu rhwng y glofeydd hyn a'r Llywodraeth. Nid felly y bu yn ystod y rhyfel hwn. Dro ar ol dafth cwestiwn y gyflfig fel cwmwl du, oygythiol, ar draws y ffurfafen ddiwydiannol oni wasga^wyd ef gan y Llywodraeth. Bwysiced, yn wir, yw'r Pyllau glo hyn i'r wlad fel y tueddir ni 1 gredu y meddianna'r Llywodraeth hwynt ryw ddydd, Os byth y delo i hynny, bydd yn fantais anhraethol.i'r Weinyddiaeth eu bod ym meddiant un cwmni rhagor llawer.

Glyn Nedd.I

.."""-"""" -= ""- .-I Dan…

Ltith Partnar Dai.I

* _» Eu Hiaith a Gadwant.-I

Advertising