Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Bwyd y Bobl. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwyd y Bobl. I PWYSiC I BAWB El WYBOD. I A oes rhyw gyfnewidiad yn Rheolau'r Bwyd?—OPS, amryw. Ymwnant yn bennaf a plilant o dan ddeg oed, a bechgyn rhwng tair-ar-ddeg a deunaw oed, a ctefnyddio coupons y cardiau cig, a'r modd i brynu cig moch, ac a gwerthu blawd. Beth am y Plant ?—Teimla Arglwydd Rhondda ei bod yn bwysig iawn fod y plant, yn anad neb, yn cael digon o fwyd maethlawn. Dyna paham y rhoddodd, dro yn ol, awdurdod i rieni i hawlio cael llefrith i blant dan bum mlwydd oed o Haen pawb arall. Am yr un rheswm mae yn awr yn rhoi bawl. i bob plentyn uwch- Jaw chwe mlwydd oed i gael yr un ration o gig ag a ganiateir i rai mewn oed. J. rai uwchlaw deg oed yn unig y can- iateid hyn gynt, ond o hyn allan estynnir y fraint i blant oedd yn chwech oed dydd Cfwyl Ddewi eleni. Beth am y Bechgyn?—Tyb-ia Arglwydd Rhondda fod bechgyn wrth dyfu i fyny yn gofyn nnvy o faeth nag a gaent o dan red y iowans cig hyd yma. Felly mae yn trefnu yn awr i ganiatau lowans chwan- egol o bob cigfwyd (oddigerth cig fires) i fecligyn rhwng tair-ar-ddeg a deunaw oed. Bydcl y lowans chwanegol hwn yn gyfartal i un coupon yehwanegol ar y cerdyn cig. llynny Yw, yn lie pedwar lowans yr wyth- nos, ca y Ijechgyn hyn bump ration o gig fwyd bob wythnos. Pa le, a. pha fodd y ceir y lowans chwanegol? Drwy wneud cais yn Swyddfa.'i' Pwyllgor Bwyd ymhob ardal. ] Rhaid myned a. cherdyn cig plentyn rhwng chwech a deg1 oed i'r Swyddfa, a liewidir ef am gerdyn a fo'n rhoi hawl i ration llawn, yn lie banner ration. lthaid gwneud cais am gerdyn cig yehwanegol i fecbgyn rhwng 13 a.c 18 oed. Ceir cerdyn yn rhoi hawl cyfartal i un coupon yeh- wanegol. Pa. bryd y gellir hawlio hyn?—Gellir gwneud y cais unrhyw amser ar ol Ebrill It eg. Daw hawl y plant o 6 i 10 oed mown grym yn ddioed, hynny yw, cant y "ration" llawii ar ol Ebrill 14eg. Am y bechgyn o 13 i 18 oed, daw y lowans yeh- wanegol iddynt hwy ar, ac ar ol, Mai 5ed. A geir pob math o gig drwy'r coupons newydd?—Ceir i blant rhwng 6 a 10 oed. Ond am y bechgyn rhwng 13 a 18 oed ni ellir eael cig ffres a'r coupon newydd; coir un lowans yr wjrthnos o gig moch, neu ffowl, neu wnhingen, neu'r cyffelyb, yn fwy nag o'r blaen. Pa sawl coupon a ellir ei ddefnyddio at gael cig ffres?—Mae pedwar coupon am bob wythnos i bob. person ar bob cerdyn cig. Hyd Mai 5ed gellir defnyddio tri o'r coupons hynny i gael cig ffres. Ar ol Mai oed ni ellir defnyddio ond dau o'r pedwar at y pWrpas hwnnw; bydd y ddau arall at brynu cig' moch, sosages, ffowl, cwn- hingen, neu unrhyw gigfwyd. a fynnoch (heb law cig' eidion, cig dafad, a phorc; ni ellir cael y rhai hyn)." A raid cofrestru am gig rooch ?-R.haid, Dewised pob un y shop lie y dymuna gael 0i gig moch. Cofrestred ei hun yn y shop honno fel cwsmer cig moch. Ar ol Mai 5ed ni eill efe gael cig moch, ond yn unig yn y shop lie bo efe wedi cofrestru fei I 3-11 y shop Ile. bo efe wedi cofrestru fol A oes raid cofrestru am flawd ?-Hhaid i'r shopwr, ond ni raid i'r cwsmer. Dylai pob shopwr fo'n gwerthu, neu am werthu blawd, wneud cais -at y Pwyllgor Bwyd am leisens cyn Mai laf. Ar ol Mai llfed ni cha werthu blawd o unrhyw fath os na bydd ganddo y leisens gofynnol, Ni ehostia'r leisens ddim iddo. A gospir trosedd wyr ?—Gwneir, ao yn drymach na chynt. Dii-wj-wyd shopwr yr wythnos ddiweddaf i gan punt am godi ffyrling yn ormod am dorth o fara. Dirwy- | wyd Ixuieddwr a'i wraig i chwe chant o bunnau am hordio bwyd. Dengys hyn benderfyniad yr awdurdodau i fynnu ufudd- I dod i Gyfraith y Bwyd.

Byd y Bardd a'r lienor.

Yma ac Acw. I

Advertising