Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
O'r Gogledd. I O'r Gogledd.
O'r Gogledd. I O'r Gogledd. GAN GASNODYN. I Dyma'r haf yn ei rwysg a'i rym, o r diwedd, a si'r bladur ar fil o leys, dd 1 Ac mor newydd yw'r hen Eryn j Brysiwch i fyny, ffryndiau'r De. Mae'r Prif Weinidog bellach yn ein mysg. Cafodd groeso, tan gamp ypg Nghricieth pan gyrhaeddodd yno, gan Saeson a Chymry. Edrychai'n bur dda a bywiog, ar waethaf yr holl lafur trwm a'r pryder mawr y bu tanynt. Yr oedd y dref yn "fanerau a phont ydd i gyd," a phawb yn siriol a sionc. Bu raid i'r dorf fawr gael Ilusgo r cerbyd" yr oedd yr Arwr yn ei farch- ogaeth, a hynny hyd Fryn Aw el on. Diolchodd yntau'n dyner a gwresog i bavvb—Sais a Chymro. Melys iawn a fo'i dipyn gwyliau. A chofied pob un o ddarllenwyr y Beirniad am y tro mai gan y gwr da ac annwyl y sonnir am ei Oedfa Olaf ynddo, y magwyd Lloyd George. Son am Gymraeg; dyma'r amrydd- awn Sam yr Halier yn gofyn i mi am air ar "hegar," fel ped fai gennyf ddysg a dawn at drafod geiriau. Ond rhag. i mi siomi Sam, goreu imi addef yr arferir y gair tan sylw yn ein plith ni "bob sut." Am hynny, prin y gellir dywedud y ceir ystyr iddo mewn llawer lie. Tebyg yw i "atlawen Dolgellau, "anferth" Dinas Maw- ddwy, "ofnadwy" Porthmadog, &c., er esiampl: (I) Mae Elin Jos y Froa i yn i chael hi'n hegar iawi-i,-stlm gwcrth ar pan fuo farw'r hen wr, a mae Lisa'r ferch wedi marw heuddiw (2) N a, paid a chyffio hefo fo, Johnni achos mae o'n hen gena hegar a brwnt. Stim dyn yn i siort o. (0) Mae hi'n chwythu a bwrw glaw vn hegar ofnadwy. (4) Ydi, mae o wedi brifo yn y chwaral, ac wedi i cbael hi'n hegar iawn. Ond nid wyf yn b cofio. clywed neb yn son am ddim vn chwerw neu ielys fel peth hegar. Crybwyllais rai misoedd yn ol am yr hynaws Isander fel heliwr, neu fab Nimrod, a rhoi englyn M'Gil i mewn, He gelwid Isander yn angau i'r cwn- hingod. A'r Sadwrn diwethaf, dy" ma imi lythyr oddiwrth Eifion Wyn in son am Isander yn "hela" Porthmadog am Mr. Evans, Bod Athro (trysorydd tysteb F. YY., fel un yn ofni i bwrs y gwr hwnnw, sef Mr. Evans, gau ei enau cyn iddo ef fwrw ei rodd i'r Drysorfa—ac nid rhodd fechan a rvdd Isander i neb !) ac am yr hen Gas- nodyn 'na. Ac yn Haw yr heliwr cad- am gan Isander yr oedd yr englyn hwn:— Nimrod cwnhingod? Wei, na !—ba iaith wiw Bytheuaid yn hela Cwnhingod Anghlftd, lane da I gwn enwog hynvna "Hounds" sy gen i, nid "daeargwn!' Ac yr wyf i a M'Gil yn begio'n pardwn "i hochor hi." A bychan a wyddai na :\l'Gil na minnau nad oes onid dau, sel Mr. Greaves, Llangwnadl, Llyn, ac Isander yn cadw Huadgwn (beagles;, I sel own at y pwrpas hwnnw sy moi hoff gan fy hen H'rynd.
[No title]
Treffo rest P regetliwyd yi-i y cvfar- foddyd blynyddol gan y Parch. Gwilym Owen, B.A., Ferndale. Cafwyd cynnll- iadau lluosog, Bore Sul, Gorff. 5, gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd gan y gweinidog. y Parch. D. E. Davies. Aeth pedwar 0 fechgyn ieuainc, a dwy chwaer, drwy y dyfrllyd fedd, a derbyniwyd hwynt yn aelodau yn y Cyiinindeb yr un noson. Aeth 21 o ysgolheigion yn llwydd- iannus drwy'r arholiad blynyddol ym mis Mawrth. Cipiwyd pump o wobrau, set' un ym mhob dosparth. Yr eniIl- wyr oedd :-Drtn 12 oed Eirlys Davies., cyntaf y dosparth rhwng 12 a 15 oed, Stanley Jones dan 18 oed, Albert War- low dan 21 oed, Mr. Willie Davies. cyntaf yng Nghymanfa JJwyrain Mor- 1 gannwg; dros 21 oed, Mr. D. Davies, ail y Gymanfa. Dosparthlvyd y gwobrwyon gan Mrs. Hughes, yr aelod hynaf yn yr Ysgol Sul. Bu gwasanaeth o ddiolch am derfyn ar y rhyfel. Llywyddwyd gan y gwein- idog, y Parch. D. E. Davies, a chafwyd anerchiadau gan y Parch. Owen Jones (gynt o Bontfaen), a Mr. D. Davies, arolygydd yr Ysgol Sul. Pontypridd. -Bu eglwysi clyeh Ponty- pridd ar y blaen yn cynnal cyfarfodydd neilltuol er dathlu cyhoeddiad heddwch. Gwnawd y paratoadau drwy gyd- weithrediad Cymdeithas y Cymrodor- ion a Chyngor yr Eglwysi Rhyddion- Derbyniw^yd v newydd fod heddwch wedi ei lofnodl ar brynhawn Sadwrn, Mehefin 28, ac anfonwvd hysbysiadau yr un noson i holl eglwysi'r cylch- Trefnwyd y cyfarfod Seisnig (er i emynau Cymraeg gael eu canu gyda bias yno) yng Xghapel yr Annibynwyr Seisnig, nos Fawrth, Gorffennaf 1- Llywyddwyd gan Mr. Wm. Jones (B.), Y.H., a dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. H. G. Humphreys (W.). Caf- wyd anerchiadau gan y Parchn. E. E. Probert (B.). Philip Jones (M.E.). J- R. James, B.A., Ficer Cilfynydd, a Mr Rhys Morgan- M.A. (A.). Offrymwyd gweddiau dwys a thaer gan v Parchn. J. D. Evans, M.A. (M.C.), J. L. Howell (ciwrad Pwllgwaun), a J. R. Dykins (M.C.), Graig. Canwyd y "Te Deum" (Chant 'Boyce') ac emynau. Cynhaliwyd y cyfarfod Cymraeg yn y Tabernaci, nos Iau. Gorff. 3. dan lywyddiaeth y Parch. 0. Llpyd Owen (A.). Cymerwyd rhan gan y Parchn. Wm. Williams (B.), Walter Daniel (M.C-), J. Rowlands (W.). Richard Yvillifiins (A.), Cilfynydd. a Mr. T. Arthur Lewis, A.S. cwrdd yn llwyddiannus dros ben. Yr ysgrifen- yddion oedd Mr D. Davies (Adran Seis- nig), a Mr. John Morgan a'r Parch. W. Deri Morgan (M.C.) yr Adran Gym- raeg. Mynyddcerrig.IILI cwrdd croeso i un o ddewrion y Mynydd ar ei ddych- weliad o'r Aiffl, sel" Ivor Thomas, Groglvynion. Cafwyd canu ac adrodd gan oreuon y gymdogaeth. Cyflwynwyd y rhodd arferol iddo gah yr arvveinydd, y Parch. D. Rhydd- efch, B.A., a rhoddwyd cadw} n aur yn anrheg i' r ccrddor mcdrus, Mr. TUfil Da\ ies, arweinydd y Mynvdd, am ei lalur ar er eroesawu'r mil- a d re f wyr adrel. Cyfeihdd, Miss Owen, Mynydd ( errig. Cadeirydd, Mr. Morgan, ysgolfeistr. \n Ysgoldv Llanddarog hefyd y bu cwrdd croeso i bump o filwyr v lie. Bu cyiarlodydd blynyddol (B.), Porthyrhyd, yn ddiweddar. Pre- gethwyd gan y Parchn. Morgan Jones, B. A., Y hitland, a Davies, Llanyferi. (\-ifwyd «-\nhulliad lluosog a chenadwri rymus. Yng Nghapel Scion cafwyd hanes yr India gan y genhades ieuanc, Miss Mary Ellen Roberts, o Ferndale, ac yr oedd hi yn traddodi yr hanes N-ii diddorol dros ben. Y mae ganddi flwyddyn o vvyliau yma, a gobeithio v caiff bob rhwvdtlineb ar ol mvnd yn ol eto.
[No title]
Dydd Mercian. hn dii])rw yaeth 0 yn cyn- rychi'oli 3(K),(H)0 o weithwvr l)enywaidd trefnedig yn ynswelod a'r (Jv.ir Aiirh. G. N. Barnes, A.S.. a hawlient y dylai merched gael cynrychioiaeth ar AdVan Llafnr Cynghr ail' y Cenhedloedd Ar- weiniwyd y Ddirprwyaeth gan I.s-iarlles illiondda. :i ciiyflw\ 11 wye] ij| gan y Gwir Anrh. J. R. dynes. A.S. Cynrychiolid Undeb y Gweithw yr gan Miss Jnlia Var- ley; Undeb Coned laetbol Argraff wyr a Gwneuthnnvyr Papur gan Mrs. Bridge; Undeb Ccnedlaethol y Gweitliwyr Cyffred- ol gan Mrs. Cohen lTndeb Cenedlaethol yr Athi'awon gan 31iss Conway; Cynghrair Cenedlaethol Athrawon Benywaidd gan Miss A. Da a1 son Cvmdeitlia s T'nedig Clarcod ac Tsgrifenydflion Benywaidd gan Miss D. Evans Oymdeithas Unedig Teilwriaid, gan Miss Holmes; Cymdeithas Frenhinoi Nvrsis Prydoinig gaii Miss J. Maedonald Y Coleg Nyrsio Cyf., gan Miss M. S. Rundle, R.P.C.. Undeb Cenedlaetb- ol Unedig Llafnr, gan Mrs. Sims. Der- byniwyd y Ddirprwya?th yn garedig ac nddawyd rboddi \-styr)a?th la?n i'w hawliaii. w
Advertising
Rhamant y Rhos (MOELONA), Yn awr yn barod. Pris 10c.Drwy'r post 1112-9. Anfoner yr archebion i Swyddfa'r DARIAN.
PIGrON Y COLOFNAU. 1
PIGrON Y COLOFNAU. Beirniadaethau 2 Colofn y celt. 3 Yr Ysgol Cymraeg 3 Llythyrau Agored. 3 Undeb y Cymdeithasau Cymraeg 3 Llifh y Col 4 SenerSd a Seneddwyr 4 Trem ar Undeb Pontypridd 5 Dyffryn Maelor. 5 Mewn Car at y Cewri 6 Cofid Mam gan Cylch Dewi. 6 Qwaith i Fetched 7 Cenedlaethoii Clofeydd. 7 Aelwyd y Beirdd 7 Heddwch y Byd 8 Cwragedd y Clowyr a'u Cartrefi 8
[No title]
Bydd yn flin gan ddarllenwyr y DA- ti IAN glywed am i'arwolaeth Mrs. S. A. Lloyd, priod ein cyfaill Ap Hefin, gol. harddoniaeth y Darian. Cleddir ei gwedd- illion heddyw dydd Mawrth. Cydym- -deiinlwii o gaion a'n cyfaill yn ei alar.
Nodion o Ddyffryn Aman. I
Nodion o Ddyffryn Aman. Y Proffeswr Miall Edwards, M.A., Aberhonddu, a dynnai sylw rhan uchaf Brynaman y Sul o'r blaen. Pregethodd yn hwylus am gyfiawnder yr efengyi a anwybyddir mor ddi- gywilydd yn y dyddiau hyn. Hyder- wn y bydd i'w bregethu grymus adael argraff, nid yn unig ar feddwl y lie, end hefyd ar ei fywyd. Dywedodd rhywun wrthyf bod Her- mon wedi cael gwell "pencwarter" na "Charmel. Does dim sy'n sicrach, .canvs os medr Alfa ddenu'r plant mor llwyr ag y medr ddenu beirniaid eisteddfodol, mae'r dywediad yn hawdd iawn i'w gredu. Bu amryw o vladgarwyr pybyr y Waun heddwch nos Sadwrn ui-w^ci^ tr\\y gusanu ci gilydd mewn modd tarawiadol iawn. In Memoriam," ar ddull llygaid <3uon Aeth deintydd enwog i dy hedd- geidwad y Waun dydd Mercher di- weddaf i dynnu rhai o ddannedd drwg y gwr da hwnnw. Ac wedi gorffen o'r deintydd ei ysgelerwaith, trodd at y truan gan ddweyd wrtho yn ham- ,ddenol, "Dyna dewch i'r Neuadd Gyhoeddus heno am saith o'r gloch, a chi gewch y pleser o ,edrych arnaf yn tynnu dannedd y 'capitalists' eta." A chlywais hefyd iddo boeni y trueiniaid hynny yn ,aruthrol. Cafodd y merched ieuainc a berthyn i'r Senanna wledd neilltuol yn Siloam, Brynaman, dydd Iau di- weddaf. Llwyddiant ar eu hym- .drechion. Mae mwy gan y merched i wneud ynglyn ag adeiladu y Demi Fawr nag a allwn ni fyth ei ddych- mygu. Carwn fanteisio ar y cyfle i lon- gyfarch y canlynol ar eu llwyddiant yn ddiweddarMiss Jennie. Evans, 'Garnant; Miss Maggie Davies, Bryn- aman Miss Hannah Hopkin, Bryn- aman, a Master Willie Rees, Bryn- aman. Talentau ieuainc, bob un o honynt. Mae'n ddydd mawr ym Mrynaman heddyw (y Sadwrn). Rhoddir gwyl de i filwyr a morwyr y cylch yn rhad. Ac yn ymyl y lie y cynhelir y te y mae teulu trwm yn gorfod ymdrechu i gynnal bywyd tri o blant bychain ar bed war swllt yr wythnos y pen o dal plwyf. Mae'r tad wedi ei glwyfo \m mrwydr galed Ilafur, ac ar hyn o bryd mewn sanatorium. Ai gormod yw galw sylw'r Guardians at y teulu hwn sy'n gorfod dioddef cymaint caledi ? GERALLT.
[No title]
Llawenydd maw i ni oedd gweled cadwnleth y Gymraeg yn cael lie mor amlwg yn Undeb yr Annibynwyr ym Mhoiitypridd. Nid oeddem yn cydolygn, er hynriy, a'r hyn a ddywedai'r Parch. Fred Jones am yr Ysgolion Haf. Gwneir gwaitli da gan y rhai hynny. Cytartu Cyngor Undeb y Cymdeithasan 'Cymraeg yn Anertawe y Sadwrn diweddaf. Ceir yr banes yn y nesaf.
_ - - -Llith y Tramp. I
Llith y Tramp. Mishtir Golycydd,— Fe gwplws proseshion cyhoeddi'r Steddfod yn y Pare, wrth yr Orsedd. A dyna'r lIe reit i bob proseshion i gwpla-wrth yr Orsedd. Mynta Brynfab wrth Dafydd Niclas a ifnna, "Dewch chi'ch dou miwn yma gita fi." A miwn a ni'n tri i ring fowr rownd, isht a ring circus. Y peth am synnws i yn od odd fod pawb y tu fiwn a tu fas i'r ring, yn nabod Brynfab, ac yn bowo iddo fa. Ma'n wir fod amball i fam odd weti bod yn byw ym mhlwy Eclwsilan yn nabod D.N. fel Registrar, ac amball i Gownsilor ddodwyd miwn ar rw Gownsil ne giddil, heb yn anghofio inna, ond rodd pawb yn nabod Brynfab, a phwy ryfadd ag ynta weti bod yn mag' 1) am 40 mlynadd. Ma gita fa fwy o ddileit i fagu prytyddion nag sy gitag a i fagu lloi a ebolion. Pu'n sy'n talu ora iddo fa, wys? Dyma fi weti mynd i grwydro odd wrth y matar odd da fi dan sylw, ond dyna, Tramp w i. Tu miwn i'r ring rownd fowr rodd diddag o gerrig hir weti u dodi ar eu penna yn y ddiar, a gwr ne was, ne ferch ne wraig, yn sefyll wrth bob un o honyn nhw. Fe ofynas i D.N. i sponio'^ ring rownd a'r cerrig i fi, a mynta fa, "Fe fydd circus yn dechra mas law. Fe fydd dyn yn canu corn, a fe gewch weld y dynon ar gwracadd na sy miwn gwishgodd od-clowns ma nhw yn u galw nw—yn neido i ben y cerrig uchel yco, ac yn downso 'jig y gannwll,' ar dyn teneu yco-Eifionydd ma nhw yn i alw a—yn canu'r accompaniment ar y big drum. Wetny fe neir y clasgad i chi shag at gal siwt newydd." "Ffarnws," myntwn inna, "a gwetweh wrthyn nhw taw 'silver collection' yw a i fod. Ond beth ma'r diddeg carreg hir yco yn olycu?" "Bachan, w, sdim o chi'n gwpod? Fe ddylach chi fod weti whilo miwn i bethach cyn dod yma, blecid ma dyn yn dwp iawn os na fydd a'n gwpod beth yw pethach. Fe weta wrthoch chi. Ma nhw'n cynrychioji deg llwyth Isrel. Gannodd a milodd o flynydda'n ol fe ath deg o Iwythi Isrel ar goll yn sytyn iawn—dim ond diddeg odd ar y start-a chlywd dim siw na miw am danyn nhw, a wydda neb i ble yr ethon nhw. Fe adfertishwd, a fe halwd i bob polis steshion ymhob gwlad, ond no gwd. Flynydda'n ol fe startwd Cymdithas i neud ail gaish i'w ffindo nhw. A fe Iwyddws. A ble ych chi'n meddwl y ffindws hi nhw? Yng Nghymru. Ni'r Cymry yw'r deg llwyth ath ar goll! A dyna ma'r cerrig yco'n olycu." Ma pawb yn gwpod fod D. N. yn getyn o Sgrythyrgi. Myntwn i wrtho fa wetny, "Y deg llwyth yw'r Cymry, ond ma na ddiddeg carrag yn y ring rownd. "Os siwr," mvnta fa, "a ma'r ddwy garrag arall yn cynyrchioli y Jews sy'n catw ponshops, gwerthu pictwrs, etc., yng Nghymru." "Jew, Jew, dyna sponiad! mynta Brynfab. "Nage, nage, Mr. Nicolas," blecid yr odd Dr. Herbert Kenvyn weti dod aton ni erbyn hyn. "Y mae'ch hesboniad yn anghywir. Cynrychiola'r deuddeg carreg ddeuddeg arwydd y Sidydd. (Twelve signs of the Zodiac). Yr oedd yr hen Gymry gwiw- gof yn gryn seryddwyr, ac ystyr seryddol sydd i'r cerrig hyn. A dyma yw barn vstyrbwyll Morien a Toriel hefyd." "Nonsens!" mynta Brynfab, gan ddishgwl yn gas ar D.N. a'r Dr., a chwnnu i laish. "Otych chi weti colli'ch sensis, boys?" A mynta fa wrth Kenvyn, "Rych chi, chaps y coleca a'r digris, yn meddwima gita chi y ma dothineb a gwbodath yn byw j ac ma gita chi y byddan nhw farw. Ych chi'n crampo'r Steddfod a phopath i'ch dwylo'ch hunen, ac yn scwto'ch ffiloreg ar bobol. Cofiwch chi taw'r werin bia'r Steddfod, ac os na chatwch chi'ch lie, fe gewch chi fynd. Fe all y Steddfod neud y tro hebddoch chi yn well nag y gellwch chi neud heb y Steddfod. Pidwch chi a gadal i fi weid yn gas wrthoch chi yto. A phidweh chi, y Tramp, a grondo arnyn nhw, ne fe ewch yn ddwlach nag ych chi'n awr. Dyma yw ystyr y diddeg carreg-cynrychioli diddeg sir Cymru-Cymru gyfan yn yr Orsedd. Otych chi'n diall nawr?" "Thanciw, Brynfab, ond w i 'ddim yn diall yto. Diddeg carreg sydd yma, a ma petar sir ar ddeg yng Nghymru. A shwd ma Cymru gyfan yn yr Orsedd a dwy sir mas?" "Petar sir ar ddeg yng Nghymru!! Ble buoch chi'n dysgu Giograffi, liewn i wpod? Y n yr I wniversiti, spo. Diddeg sir sydd yng Nghymru. Whech yn y North, a whech yn y vSowth. 6 a 6—12, onte fa, Dafydd Niclas?" D.N. "Wel, ia, be siwr." Y Tramp: "la, whech sir sy yn y North, w i'n gwpod, blecid fe halas at Casnodyn I ofyn, a fe wetws i bod hi'n bwrw glaw, ne yn oer yndyn nhw rownd abowt. A ma whech yn ddicon i'r North, bed, ond ma gita ni wyth yn y Sowth ac os ych chi'n ama, cowntwch nhw." "Na, cowntwch chi, nhw, blecid w i'n gweld ych bod chi'n scolar." "Reit i'w ar—Sir Berteifi, i Sir Bemro, 2; Sir Garfyrddin, 3; Sir Fasyfed, 4; Sir Forgannwg, 5; Sir Frychinog, 6; Sir Fynwa, 7; Sirhowi, 8." "Wel, clywch y dyn, chi sy'n reit! Ma'n rhaid i fi gyfadda nad own i ariod weti u cownto nhw, mwy nag w i weti cownto'r bwtwna sy ar vn wasgod i, ne ddannadd y grib sy da fi'n cribo ngwallt. Fe fydda i'n fwy gofalus o hyn i mas, a w i'n began ych pardwn chi o wPod y nghalon a fe fydda i'n cwnnu'r matar yng Nghwrdd y Beirdd nesa, a fe ro notis o motion i Eifionydd heddi. Ma'n dda gita fi fod gita ni ddwv sir yn fwy nag sydd yn y North. Tawn i heb gwrdd a chi yma heddi fyswn i ddim yn gwpod. Os dowch chi sha Chorwen fe ddwa i a'ch ces chi am ffugenw o flan y Beirdd—a grondwch, cofiwch fod shec down i chi yn vr Hendre, pryd y licwch chi, a dim ar y lein dillad, bed, isht a gesoch chi da Celyn yn Carfilili slawar dvdd, a fe gewch 'am an eggs' i frecwast bob dydd. Cofiwch chi ddod. Gwd bei nawr. Ma'r Archdderwydd n galw arno i i annarch vr Orsedd. Y TRAMP, O.B.E.
[No title]
Ar gais Pwyllgor Gweithiol Cym deithas Ryddfrydig Ceredigion, bur- iada Mr. Asquith ymweled a'r Li)-f, Aberystwyth 0 hyn i'r Hydref. Ac is y gro bellach y mae yntau yr hen Robert Lewis, un o drigolion hynaf Aberystwyth. Adeiladydd Hong- au ydoedd "wrth ei alwedigaeth, a hanai' o deulu hen o Aberystwyth. Hoed melys ei hun wedrr ^5 mhvydd o la[twio ym myd yr anial.