Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

- T-W- -. Ein Senedd a'n Seneddwyr.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

T-W- Ein Senedd a'n Seneddwyr. GAN Y GWYLIWR. Enilhvyd etholiad Chester-Ie-Street gan gynrychiolydd Llafur. Wele'r iii-(,,Lirati, I Mr. J. Lawson (Llafur) 17,838 Mr. D. Gilmour (CefnOgwr. y Llywodraeth) 5,313 Mwyafrif, • 12,52 s Can i bwnc Cenedlaetholi y Glofevdd gael sylw mor helacth yn .ystod yr or nest, hawlia'r glowyr fod y dyfarn- iad uchod yn mynegu barn y wlad ar y mater hwnnw yn ogystal ag ar y Llywodraeth.. i Gwyddys bcllach mai gorncst dri- chqrnel fydd yn Nyffryn y Spen am hen sedd Syr Thomas Whi taker. Cyfyd Mr Myfers y faner, gyda ragol- ygo-n disglair. Ca Ryddfrydiaeth berffaith chwaraeteg gan y dadleuwr cryf a medrus Syr John Simon, ac o'r diwedd ceir ymgeisydd dros y Lly- wodraeth ym mherson Charles Bryan Fairfax, gwr na wyddys ond y nesaf peth i ddim am ei syniadau gwleid- yddol. Gwelodd lawer o frwydro yn China, De .Affrica, ac yn ddiweddar Yn Ffrainc. Y m welodd dirprwyaeth gref a'r Prif Weinidog dydd Mercher, i erfyn arno ddwyn drwy'r Senedd Fesur Dirwestol yn cynnwys y "Naw pwynt". sydd yn argraffedig ar faner Cyngor Dirwestol Eglwysi Cristnogol Cymru a Lloegr, Y Cyngor hwn drefnodd y ddirprwyaeth, ac a gyn- hwysai aelodau o Eglwysi Rhufain, Lloegr, ac Eglwysi Rhyddion y wlad. Y "naw pwynt yw (1) Cau ar y Saboth,; (2) Cyfyngu ar oriau "gwerthu ddiod feddwol ar ddyddiau'r wythnos; (3) Ueihau nifer y trwyddedau; (4) Rhoi mwy o, allu i'r awdurdodau tnwyddedol lleol; (5) Llywodraethiad Clybiau; (6) Difodi trwyddedau 'grocers'; (7) Gwahardd gwerthu diod i bersonau ieuanc; (8) Dewisiad Lleol ynglyn a nifer y trwyddedau; (9) Dar- paru tai a sefydliadau Dirwestol yn lie tafarndai. Arweiniwyd y ddirprwyaeth gan Archesgob Caergaii-it a chafodd dder- bvniad cynnes a chalonogol fel y gellid disgwyl, gan Mr Lloyd George. Ni ddeliodd efe a'r "naw pwynt" bob yn un ac un, oind datganodd ei law- enydd oherwydd unfrydedd yr Eg- lwysi ar y mater. Cyfrifai y gallas- ent fod wedi cael llawer mwy o fes- urau Dirwestol yn ystod. y rhyfel pe baem yn unol. Ysywacth, deil i gredu mewn prynu a chenedlaetholi y Fasnach Feddwol. Dywedai fod Mesur pwysig eisoes yri barod gan y Llywodraeth, y dygir ef i mewn, cyn y Nadolig, a bod Dr. Fisher, sydd a gofal y Mesur,- wedi llwyddo i'gae1 graddau helaeth o gyd-ddcalltwriaeth yn ei gylch yn barod. Nid ydym yn deall ei eiriau parthed "Dewisiad LIeol. Dywed y bydd ynamhosibl cario mesurau yn rhoi dewusiad lleol rhwng hyn a'r Nadolig. A yw hyn yn y Mesur o gwbl tybcd? Os nad yw, -bydd yn siom fawr i bob dir- westwr aiddgar a goleuedig- Geilw'r P-rif Weinidog arnom i wylio' canlyn- iadau gwaharddiad yn America, ac i gadw meddwl hollol agored ar y pwnc. Ei ddadl yw y buasai yn am- hosibl pasio gwaharddiad yn y wlad honyn ystod y rhyfel. Ein hofn yw fod ein cydwfadwr mewn gormod 'serch a'r cais am brynu'r fasnach i allu wynebu ei charedigion gyda dim sydd yn arwrol a chwyldroadol ynglyn a hi. Dal yn dywyll iawn y mae pethau yn yr Aifft. Erfvnia'r Eifftiaid am Ymreolaeth, ond yn ol pob hanes, atebir bwy gan y dwrn haiarn. Gwrthododd Lloegr gamatau cyn- rychiolwyr i'r Aifft a Phersia yng n-ghynhadledd Heddwch Paris, tra caniateid hynny i wledydd a phobL oedd llai a llai eu pwys o. lawer. Er nad yw yr Eifftiaid yn cynnyg dwyn arfau, yn erbyn y wlad hon, eto i gyd teflir eu harweinwyr i garchar yn ddisyfyd. Apwyntiodd y Llywod- raeth ddirprwyaeth gydag Arglwydd Milner yn ben ami, i fynd allan i'r Aifft i astudio y drysbwne yn y fan a'r lie. Teimlir cryn hyder yn y wlad.. hon yn Llywydd presennol yr Aifft, y Cadfridog Arglwydd Allenby, oblegid cvfrifir ef yn wr doeth tyner a phwys- Hog. Er hynny cafodd ef wlad mown < vfivvr gresynus iawn. Yn ei araith yn Nhy yr Arglwyddi nos Fawrtb tadogai Arglwydd Curzon y blinder i gyd i annealltwriaeth mawr a *dybryd, a thystiai mai amcan Cen- hadaeth Arglwydd Milner oedd rhoi rhyddid helaeth yn ol dyheadau y bobl am Y mreolaeth, ac y byddent yn ymgynghori a phob plaid gyda'r am- can o (iclnu 'Cyfansoddiad' boddhaol i'r wlad i'r penvyl hwnnw. Ychwan- egai, er hynny, mai siomiant hollol fyddai i blrwb a ddisgwyliai annibyn- iaeth lawn i'r Eifftiaid gan nad oedd buddiannau yr Ymerodraeth Brydein- ig yn caniatau inni olchi ein dwylo oddiwrlii ein cyfrifoldeb am yr Aifft." Digrif o beth oedd gweld Mr. J. H. ThornMS, arweinydd gwyr v rheil- Ifyrdd, yn Nhy y Cy-ffredin dydd Mercher yn gwastraffu ei nerth a'i amser i gynnyg Mesur yn rhoi hawl i "Arglwydd" i daflu ei arglwyddiaeth i fyny ac i eistedd yn Nhy y Cyffredin os mynnai ac os cawsai ei ethol. Gvnaeth araith hapus ddigon, ond gv\'rthw-,n{:bwyd ef gan Major E. F. L- WVmkI, mab Arglwydd Halifax, yotau hefyd a'i wyneb ar Dy yr Arglwyddi, ac yn cyfrif y gall dyn wasnaethu ei wlad yn y Tv hwnnw mor ddefnyddiol ag yn y Hall. Pc bae Mesur Mr. Thomas yn cynnyg agor 'i'y yr Arglwyddi 1 wyr "Cyff- redin" buasai rhyw synnwyr ynddo. Fodd bynnag gwrthodwyd y cynnyg gyda mwyafrif o 169 yn erbyn 56. Treuliodd Mr. David Davies, Llan. dinam ddeuddydd yn Rhyl yr wythnos ddiwecUhii yn llywyddu Cyfarfodydd Blynyddol C,;i,v,,igliraii- Eglwysi SEfengyl- aidd Cymru a thraddododd anerchiad cryf o'r gadair. Geilw yn uchel .am fwy o un del) rhwng yr eglwysi ac am lai o sylw i hen wahaniaethau dibwys. Dywed fod y rhyfel wedi dysgu'r wlad i osod pwyslais ar bethau ymarferol a hanfodol Cristnogaeth. Condemn- ia'r syniiid o genedlaetholi y prif ddiwydiannau, fel gweithfeydd gio, a ffatrioedd, am y byddai i hynny ddifetha masnach. Ar y llaw arall, fel y Prif Weiniog, deil i gredu mewn eenedlaetboli y fasnach feddwol. Ei ddadl yw y gellid ei Hadd hithau trwy genedlaetholiad. Ond atolwg pwy sydd i'w lladd? Yn sicr nid y Lly- wodraeth, fydd yn derbyn miltynau 0' bunnau o chv oddiwrthi. Nid y dyrfa o weision cyflog ac o swyddogion gwlad fydd yn byw arni. Nid y dyrfa hon a flysia, ac a lygrir gan ddiodydd meddwol. Tebycach o; lawer yw y llygrai'r fasnach y wlad, a'r wladwr- iaeth yn arbennig. Cafodd pawb shoe arall gan Syr Auckland Geddes yn ystod yr wyth- nos. Nid oes ond ychydig er pan gyhoeddodd godiad o chwe swllt y dunell a'r bris y glo. Yr adeg honno rhaid oedd codi'r pris i gyfarfod a, chodiad eyftog a byrhad oriau'r glowr. Tystiodd arweinwyr y plowyr yr ad,eg honno nad oedd eisieu codi, ond bod ffigyrau yn prbfi mai gostwng y pris a ddylid yr adeg honno. Am ysbaid daliodd at ei stondin. Daliodd y glowyr hefyd i ddinoethi'r gwall ac 1 gvboeddi lfigvrau. Mewn canlyniad argyhoeddwyd y wlad 01 gamgymeriad y Llywodraeth, a gwelwyd fod hwn yn troi vn anfantars yn yr ethoHadau. O'r diwedd hysbyswyd gpstyngiad o chweigen f dunell vmhris glo at ddybcnion cartref, a dywedai na fydd | hyn yn costio< 'run ddimai i bwrs y wlad. Gwr go feiddgar a rhyddfrydig yw Canon Peter Green, Manchester, yr hwn yn ddiweddar a wrthododd Esgobaeth Lincoln. Mewn pregetTs o'i eiddo hysbysodd ei fod yn credu y bydd Llafur mewn awdurdod ym Mhtjydain cyn pen pum mlynedd, ac y bydd Datgysvlltiad Eglwys Loegr yn Lloegr yn un o actau buan y Llywod- raeth honno. Os pery'r llifeiriant gwleidyddol i lifo fel y gwelir ef yn etholiadau y flwyddyn 1919, nid oes dim yn ormod i'w ddisgwyl 'oddiwrth Lafur. Dal i addo proli, > os nad crogi'r Caisar y mae y Llywodraeth o hyd. IVn ei ateb yn Nhy y Cyfferdin dydd Iau, dywedodd Mr.' Lloyd George fod i-riiloe(ld o dystiolaethau wedi eu casglu ar gyfer y prawf a bod cyfres der- fynol y rhai sydd i'w profi gyda'r | taisar yn awr o;, dan ystyriaeth. Sibrydir y bydd y gyfres yn cynnwys enwau rhyw fil o Germainiaid. Hys- byswyd eisoes mai yn Llundain y profir y Caisar. Tybed a ddygir y fil carchararion ereill yma gydag ef? Tybcd hefyd y crogir y Caisar yn y dlivedd ? Mwy tebygol yw y joii- demn ir ef i fyw mewn palas yng nganol digonedd a thawelwch a diog- elwch fel y gwnawd a Napoleon. Wedi bywyd mor stormus a blin- derus, diau mai da fydd gan ei 'Fawr- hydi' gael gorffwys mewn amgylch- iadau 0'1' fath. Er nad yn y Senedd pery Mr. E. T. John ar lwybr rhyfel. Ar hyn 0 bryd cyfeiria ei fidog at Gynghrair Eglwysi Efengylaidd Cymry. Danfonodd benderfyniad cry,f i'r Ysgrifennydd ar gyfer Cynhadledd Rhyl, ond wedi ymgynghori. a'r pwyllgor gweithiol, I hysbysodd yr ysgrifennydd Mr. John fel y canltn :—"Ystyriant fod y pen- derfyniad yn golygu pleidlais o ger- ydd ar y Llywodraeth, a theimlant nad gwaith cynhulliad megis yr eiddom ni, yw pasio pleidlais o gerydd neu 0 ymddiriedaeth yn y Llywod- raeth yn gyffredinol." 0 gwrs etyb Mr. John mewn geiriau cryfion. Amheua athrawiaeth anffaeledigrwydd y. Llywodraetha; cred fod gan Eglwysi Cyrnru hawl i ddatga11 barn ar bync- iau moesol a chyhoeddus; cyfrifa Gynghrair y Cenhedloedd; militar- iaeth reibus a dinistr miliynau babanol a phlant bychan Iwrop a rhan Pryd- ain yn Rhyfel Cartrefol Rwsia yn eitha pynciau i sylw y Cynghrair Cenhedlaethol Cvmreig. Ond barna'r pwyllgor yn wahanol. Yn hytrach nag ymddangos fel pe'n beirniadu'r Llywodraeth, gwell gan y Pwyllgor Gweithiol yw' mygu ppb argyhoedd- tad; a distewi proffwydi.

Mountain Ash. -I

[No title]

Byd y Bardd a'r lienor.

Advertising

[No title]