Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

-_-"'-"""'''...-..-,... ,g_;¡,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

,g_;¡, Colofn y Celt. GALST DDYFNALLT. Addysg a Diwylliant y Werin. Yn y trawsgyweiriad mawr sydd ar fin dod yn ein bywyd fel cenedl, rhaid gwyho dau, berigl. Un yw uchelgais y dosbarth dealltwriaethol. Gall y dosbarth hwn dybio mai ganddo ef yn unig y mae doethineb a gweledigaeth. Sonia am godi'r genedl yn unig drwy addysg, a hwnnw gan mwyaf yn hollol anghydnaws ac- anianawd em pobl. Iaith yr estron yw'r unig iaith orfodol yn ein cwrs addysg. Ac os iaith es- tron gweledigaeth estron yn ogystal. Diwylliant yn ol y dosbarth yw math; ar ledneisrwydd balch mewn ystyr feddyliol; yn wir, nid yw ddim yn I amgen weithiau na choegni. Mae -diwylliant y dosbarth hwn yn rhy kunan-feddiannol, ni wyr oddiwrth ymgolli mewn eangfrydedd a mawr- i frydedd a mawrfrydigrwydd. Rhaid diogel'u addysg a diwylliant gwerin I Cymru rhag y duedd ynysig yma sydd yn falltod ar ddiwylliant dosbarth. Y I perigl arall sydd yn em bygwth yw dy- lanwad y dosbarth a chanddo fath ar I safle gymdeithasol. Er enghraifft, yr i ydym yn barod yn gweld dynion ar gyfrif ei" ffortiynau .mewn arian neu swyddi yn y wlad a ddaeth i'w rhan l ,arwo h a'r "aw d tii- ,yn herwydd cyfeillgarwch a'r "awdur- dodau sydd" yn cael lie blaenllaw yn I <ein symudiadau addysgol. Mae'r' werin wedi hen flino ar addysg yn ol y dosbarth hwn (bourgeois education). All y gwerinwr ddim caniatau dim yn ei addysg sydd yn golygu slaffeidd-dra ac israddolleb iddo o hyn allan. llhaid i'r Mudiad Addysg ymgadw rhag bod tdim o liw a delw y ddau berigl hyn .arno, os yw i achub y genhedlaeth sy'n codi. Y Ddau DdtwyHtant. Mae, diwylliant dosbarth yn arwain 1 hunanymwybyddiaeth mae diwylliant gwerin yn arwain i ymwybyddiaeth y miloedd, neu os amgen, hunan, awdiir- dod, a phleser fydd diwylliant gwerin. Cyfraniad diwylliant" dosbarth i swm bywyd y byd yw meddylrychau—swyn a phrydferthwch'meddylrychau, ae nid hacrwch ffeithiau fel y maent.. Pan demtir y gwerinwr i dybio ei fod yn dadrys problem wrth ei dadleu a'i "hymresymu mewn geiriau a thrwy feddylrychau, y pryd hwnnw cyll y cyswllt didor a ddylai fod rhyngddo a bywyd y miioedd. Dyna brofed-igaeth :gyfareddol addysg dosbarth 1 werin- wr. Goreu po hwyaf y deil y gwerin- wr i gredu mai'r unig rym ym mhryd- fe-thwcH meddylrychau yw'r gryn) a ddaw o wella bywyd< Nid gweledig- aeth y gw ladweinyddsydd eisieu ar y sawl a gred yn niwylliant y werin. Yr ydym wedi colli ein ffydd ym mab y werin a gipir drosodd a throsodd o fyd gwerin orthrymedig yn ei gwae a'i hing, i fyd meddylrychau disglair a theg eu golwg. Aiff y dosbarth yma yn elynion heb yn wybod iddynt ymron i ddyhead gwerin. Ar y Haw arall, ,cyiiier y gwr y mae calon y werin yn ■.euro yn ei fynwes gam i gyfeiriad chwyldroad. Dyna sy'n digwydd heddyw yng" Ngogledd Iwerddon. Ni all y cyfalafwr digydwybod' na'r cref- yddwr cul, rhagfarnllyd, atal cyfeiriad gweithwyr Ulster at chwyldroad gwleidyddol yn Iwerddon. Cyn hir, ,credwn y gwel Carson ei gamsyniad o farchogaeth ar gefn gwerin wrth chwarae ar ei theimladau cysegredig. if Dwrn y Teuton. Cyfarfum yr wythnos hon a gwr cymharol ieuane-gwr dysgedig, di- wylliedig, ac ysbryd gwir grefydd yn llond ei feddwl a'i galon. Y mae gan- ddo law" arbennig yn symudiadau gwyr ieuainc yr oes. Ysgotyn ydyw o ran cenedl. Nid yw'n honni unrhyw olyg- !adau gwleidyddol, partiol. Ac yn gymaint a'i fod newydd ddod o'r Iwerddon, holais ef yn fanwl am y pethau a ddigwyddant yno heddyw, ac yr oedd ei ddatguddiadau yn digon i dorri calon unrhyw ddinesydd o Bry- dain. Mae Dwrn y Sais o flaen ilygad v bobl yno ymhobman. Ac erbyn heddyw dyma gyhoeddi barn ar ben pob mudiad cenedlaethol yn y wlad. Nid oes hawl bellach gan Wyddelod i ymgynnull yn unman yn eu gwlad eu hunain heb ganiatad y Teuton, di- gywilydd. Mae ei "danciau" ar bob priffordd a heol plwyf, a'i filwyr ar bob congL A dyma'r dyhiryn sydd i; yn ddigon cableddus o Phariseaidd i honni gerbron y byd iddo fynd i ryfel er mwyn cenhedloedd bach a byd new- ydd. Dyriia'i fyd newydd ef yn Iwer- ddon. Ac un ffordd arall o ddatgan ei gred mewn byd .newydd yn cyhoeddi nad oes gan yr Eifftiaid hawl i anni- byniaeth. Ysgwn 1, a oes hawl gan neb i fyw yn ei ffordd ei hun ond Shon Ben Tarw. Gwir yw gair Golygydd y Darian fod yr un ysbryd yng Nghym- j ru—ysbryd difodi, dileu a llofruddio pob dyhead am annibyniaeth meddwl ac lachawdwriaeth cenedlaethol. Dyna y mae buldugoliaeth yn ei olygu i'r Sais—imperialaeth 'faterol, a dieflig o hunanol..

'.I ,s Maesymeillion " ym…

Byd y Bardd a'r lienor.

Cotnodolion. I

;Y PAS WEDt El WELLA YN DDICED.…

Advertising