Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

0 Faes y Gad. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Faes y Gad. PETHAU A GOFIAF.—Y BRWYDRO UWCHBEN. GAN D.D.J. • XIV. Un o ryfeddodau mwyaf y oedd datblygiad y gelf o hedeg. Y n y flwvddyn 1909 ymwelais^ag ar- ddangosfa fawr, lie casglwyd ynghyd j y rhan fwyaf o'r dynion a'r peirianriau a fedrai, y pryd hynny, efelychu yr aderyn. Cofiaf mor ansier oedd y gwaith o gychwyn y peiriannau y diwrnod hwnnw. Rhedai yr offerynnau ar olwynion, dro ar ol tro, yn ceisio codi i'r awyr. Damwain, bron, oedd medru hudo un o'r rhyf eddodau 'newydd i adael y ddaear. Ac os bydd- ai awel fechan yn chwythu, y sty rid y perygl yn ormod i wneud yr ymgais. Pum mlynedd ar ol hyn, pan dieclircu- odd y rhyfel, yr oedd hedeg yn beth cyffredin a chymharol ddiogel. Ond gwnaeth y rhyfel fwy na dim arall i ddatblygu y peiriannau a'r gelf. j Gwelodd y ddwy blaid, ar v dechreu, y defnydd rnawr a ellid wneud o art newydd yr awyr. Yn ystod yr en- ciliad o Moris gwnaeth rhai o'n bech- gyn wasanaeth mawr yn yr awyr j drwy ddatguddio symudiadau a nifer y gelyn. Yr amser hwnnw nid oedd 'peiriannau hedeg wedi eu cyfaddasu i ymladd a'i gilydd. Ac o ran hynny nid oedd y milwyr wedi eu, dysgu i saethu tuag i fyny. Yn ystod yr wvthnos neu ddwy gyntaf saethid at unrhyw aeroplan, os byddai ei sym- udiadau yn amheus. Fel hyn yr oedd ein ehedwyr ni yn ami mewn perygl uwchben ein byddin ein hunain. Gwelais un o'n bechgyn, yn niwedd Awst, 1914, yn cael miloedd o'n bwledau i-ii- o gylch ei glustiau (ond \heb anaf) cyn i ni ddeall mai ffrynd ydoedd. Wrth gwrs, gwnawd pob peth posibl ar unwaith i osgoi am- ryfusedd fel hwn. Gwasgarwyd vmhlith ein bvddin ddarluniau o'n peiriannau ni ac eiddo y gelyn, fel y gkHem wahaniaethu rhyngddynt. Yn ffodus, -yr oedd y mwyafrif o eiddo Germani ar ffurf wahanol i'n rhai ni. Mabwysiadodd y. gelyn beiriant a at- went "y golomen," am fod ei adenydd yn gogwyddo tuag yn ol, fel adenydd deryn. Adenydd pedronglog oedd gan bob aeroplan o'n heiddo ni. Yn gynnar, dechreuodd g-wyr vi- awyr ymladd. Dygent, law-ddrylliau i fyny gyda hwynt. Clywais y rhai hyn yn Cael eu defnyddio gan y ddwy ochr yn ystod brwydr yr Aisne, ym Medi, 1914. Yr un adeg, hefyd, dechreu- asom ni ddefnyddio math ar machine guns i saethu tuag i fyny at ehedwyr y gelyn. Ond nid oedd y saethu hwn yn lhvyddiant mawr. Gwaith an- awdd bob amser oedd taro un, o beiriannau yr awyr oddiar y llawr. i Yr oedd eu cyflymder a'u pellter yn eu diogelu.. Hyd ddiwedd y rhyfel eith- riad oedd i aeroplan fynd yn aberth i dan o'r ddaear. Effaith bwysicaf y dyfeisiadau i saethu at ehedwyr o'r llawr oedd eu gorfodi i hedeg yn uchel, mor uchel fel nad oedd yr hyn a welent o denynt yn ddigon clir i roddi gwy- bodaeth bwysig iddynt. Y canlyniad o hyn oedd i'r ddwy blaid baratoi peiriannau neilltuol i ymladd yn yr awyr. Am nad allem eu saethu oddiar y llawr, ceisiem gadw adar y gelyn ffwrdd drwy ddanfon ein heryrod ni i'w tarfu. Felly daeth brwydro yn yr awyr yn beth cyffredin, a, rhoddodd i ni lawer o olygfeydd mwyaf cyffrous y rhyfel. Ni anghofia neb yr olygfa o frwydr fawr uwchben. Cofier fod y peiriannau yn cyfarfod a'i gilydd ryw ddwyfilItir neu fwy uwchlaw y tir; a bod canndedd o filoedd o lygaid yn edrych i fyny tuag atynt. Mae swn saethu, mor uchel a hynny yn yr awyr, i'w glywed fel pe bae yn agos iawn. atom. Deffrowyd fi lawer gwaith am dri neu bedwar o'r gloch y bore gan ddwndwr y saethu uwchben. Awn allan o'm hysgubor, neu gosodwn fy mhen y tu allan i'r darn canfas a'm cvsgodai, i wylio, dau wrthwynebydd yn yr uchelion. Byddai miloedd o filwyr dros filltiroedd yn edrych ar yr ornest. Weithiau gyrrai un ehedwr y Hall i dragwyddoldeb. Yna elai y rhan fwyaf o edrychwyr y ddaear yn ol i gysgu fel pe na fuasai dim o bwys wedi digwydd. Daw angau yn beth cyfarwydd iawn mewn rhyfel. I Arferiad a ddaeth i fri yri gynnar oedd tanu llosg beleni o'r awyr. Cofiaf i un o'r rhai hyn ddisgyn ychydig latheni oddiwrthyf, yn Ypres, yn Hydref, 19 1 4. Y fi oedd yr agos- af ati, a'r cyntaf i wneud ymchwiliad yn y twll er cael souvenir o hono. Twll bach oedcl, rhyw ddwy lath ar ei draws, oblegyd nid oedd peiriannau 1914 yn medru cario peleni trwm. Yn ddiweddarach daeth .peleni mawr a wnaeth ddifrod helaeth. Yn ystod yr ymladd gefllaw Passchendaele, tua diwedd haf, 1917, gwelais ddwy enghraifft nodedig o'r n'wed y, gailai peleni o'r awyr ei wneud. Un noson disgynnodd dw;, belen fawr I ym muarth ffermdy ger- llaw i mi, a lladdwyd neu anafwyd yn dost tua banner cant o'n ceffvlau ni. Cyn hyn cedwid ein hanifeiliaicl yn dyrrau gyda'i gilydd; & hyn allan codid muriau pridd i wahanu y ceffylau oddiwrth eu gilydd, ac i leihau cylch dinystr y tan oddi uchod. Dyfeisiodd y gelyn bomb a ffrwydrai y foment y cyllyrddai a'r ddaear, ac a wasgarai ddifrod mawr ar y wyneb, yn hytrach na gwneud twll dwfn. Tua'r un adeg gwelais wyth ,0 gerbyd- au a'u holwynion wedi eu dinystrio gan un o'r peleni- effeithiol hyn. Yr oedd y cerbydau yn rhestr, olwyn wrth olwyn; ac yr oedd effaith y ffrwydriad ar bob olwyn heb fod un niwed ar rannau uchaf y cerbydau. Ni wnaeth y belen honnb fwy nag wyth modfedd o dwll mewn daear laith. Dyma oedd un o ddyfeisiadau mwyaf llwyddiannus y gelyn. Profiad pob milwr yw ei bod yn bosibl ymgynefino a shells, ond fod braw parhaus ynglyn a'r dinystr ddaw o'r peiriannau uwchben yn y nos. i- ■ (I barhau.) .'Mf-i'W-

IY CymdeithasaiiI

I ■ Llith y Tramp, - :

Advertising