Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

-Croesau Crefyddwyr.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Croesau Crefyddwyr. PENNOD XII. Yr oedd Lora wedi ei "gwisgo a'r wisg ddisglaerwen oleu," ac yr oedd ei theimladau tyner yn denu serch a bryd pawb-yn hen ac ieuanc, yn ddynion a merched ac yr oedd creaduriaid gwylltion yn dofi yn ei phresen- oldeb. Gwirfod rhai o'r merched ieuainc yn yn eiddigeddu wrthi oherwydd ei bod yn enill mwy na neb o sylw y dynion ieuainc. Yr oedd ei hysbryd addfwyn a gostyngedig yn ei gwneud yn fwy atdyniadol a swynol na'r lili dlos fel nas gallai y merched eiddigeddus ddirn peidio hoffi Lora-yr oedd ei charedig- rwydd a'i haddfwynder yn eu gorchfygu. Mewn attebiad i gwestiwn Lora, a oedd rhywbeth yn ei flino ? attebodd Fred, yr wyf yn teimlo fel arfer, ond paham y gofynwch Lora ? Cyn i Lora gaol amser i atteb dy- wedodd Abel, feallai mai hiraethu am Kate y mae Fred. Yr oedd gan Abel ddull an- nghelfydd a dirybudd o gyflwyno ei feddwl. Y mae Kate ych wanegai Abel yn dyfod adref cyn pen yr wythnos a chewch weled Lora y daw Fred atto ei hun. Yna bu ychydig ddis- tawrwydcl annaturiol a Lora o gydymdeim- lad a Fred yn cochi fel rhosyn yn llygad yr haul. Y mae genyf awydd dechreu pregethu meddai Fred wrth ei dad. Deallodd Lora mai poen meddwl yn codi oddiar ei fwriad i ddechreu pregethu oedd yn lladratta ar- chwaeth Fred at fwyd. Gwell i ti beidio dechreu pregethu meddai Abel. Paham, gofynai Fred ? Am fy mod, attebai Abel, yn gwybod am yr helyntion blin yr aeth Tom Thomas trwyddynt pan yn dechreu pregethu. Os wyt ti am ddechreu pregethu Fred, meddai Abel, byddi yn wrthrych ymosodiad ffyrnig nid yn unig ysprydion dieflig y tywyllwch ond byddi hefyd yn nodgwawd ami i ysgog- y 11 anwybodus, hunanol, a diras, yn ogystal ag yn nod i saethau rhai alwent eu hunain yn Gristionogion. Aros Abel, meddai ei dad, paid a bod yn rhy ftyrnig a llawdrwm- dyro chwareu teg hyd yn nod i ysprydion dieflig y tywyllwch. Fel yna y bu pethau, ychwanegai Abel, gyda Tom Thomas, a pheth arall nhad, os yw Fred am fyned yn bregethwr, rhaid iddo benderfynu peidio myned i ddanfon Kate adref ddim yn rhagor, ond o ran hyny gallaf fi ei danfon gartref os na allaf bregethu. Yr wyt ti Abel, meddai ei dad, yn tueddu i fod yn rhy ysgafn a chwareus gyda phethau sydd yn gofyn sobrwydd a dwysder. Rhyw brydnawn pan yn casglu at y Feibl Gymdeithas dywedodd Kate wrth Lora fod Fred yn son am ddechreu pregethu, ond cadwodd Lora y cwbl iddi ei hun. Dywedai pobl yr ardal fod blodau boneddigeiddrwydd Lora a Kate yn tarddu o'u crefydd-eu crefydd oedd yn eu gwisgo mor dlws. Wel Fred, meddai ei dad, os wyt wedi penderfynu myned yn bregethwr, ac wedi meddwl digon cyn penderfynu, ni raid i ti roddi heibio Kate, ond dichon y gwna rhyw rai dy flino o'i phlegid. A phe byddai raid i ti roddi Kate heibio cyn cael caniattad i ddech- reu pregethu yr wyt yn sicr o wneud hyny os yw y syniad o ddechreu pregethu yn tarddu oddiar amcan cywir. Rhaid gadael pob peth, a phawb, os bydd galw, er mwyn Crist. Wei, Fred bach, meddai ei fam, os wyt yn caru Iesu Grist fe ddymunwn dy weled di yn ei bregethu er fod dy dad a finau yn hoff iawn o Kate hefyd. Pa uu fyddai oreu genyt Fred, gofynai ei dad, troi cefn ar Iesu Grist ai ar Kate ? Troi cefn wir! meddai Abel; os yw Fred am fod yn bregeth- wr bydd Petr Davies, a'i ffon ar ei gefn byth a hefyd ac fe wyddoch, nhad, y byddaf finau yn rhoi rhywbeth ar gefn Petr Davies os nad ar ei ben hefyd. Aros Abel, meddai ei dad, i mi ofyn cwestiwn i tithau. Pa un ai er mwyn Iesu Grist ai er mwyn Petr Davies y mae Fred i fod yn bregethwr ? Gobeithio yr anwyl, attebai Abel, nad er mwyn Petr Davies. Ie, nac er mwyn yr un Petr arall chwaith ychwanengai ei dad. Onid wyt tithau Abel yn barod i ddioddef er mwyn Iesu Grist? Onid wyt ti yn barod i groes- hoelio hunan er ei fwyn Ef ? Ydwyf nhad, meddai Abel, a byddaf yn meddwl hefyd y byddwn farw, pe byddai galw am hyny, er mwyn Iesu Grist. Da iawn, Abel, meddai ei dad, yr wyf yn synio yn lied uchel am dy grefydd di yn y gwraidd er dy fod yn arfer geiriau lied fryntion weithiau ac yn bygwth rhoddi rhywbeth ar gefn os nad hefyd ar ben Petr Davies. Yr hen benbwl gan Petr Davies yna sydd yn gwneud i mi golli fy nghrefydd, nhad, meddai Abel. I'w barhau.

Ein Sefyllfa.

Y Diweddar Edwyn Clarke Roberts

I DIOLCHGARWCH.

I MESUR DADGYSYLLTIAD.