Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Addysg y Wladfa.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Addysg y Wladfa. Anfantais arall yw anghysondeb y plant i'r vsgol. Os bydd rhai plant yn absenol o'r ysgol y mae'r ymdeimlad yn meddianu 'r athraw y bydd raid iddo ail adrodd yr un peth dranoeth, ac os cyll rhai wythnos neu ychwaneg cyll yr athraw ddyddordeb yn y plant a chollant hwythau ddyddordeb yn yr ysgol. Y mae eu cyd-ddisgyblion wedi myned y tu hwynt iddynt, a'r canlyniad yw y rhoddir hwy mewn dosbarth is a theimlant y symud- iad yn sarhad arnynt, a'r tebygrwydd yw y byddant yn absenol y dydd canlynol. Gor- wedd y bai ar y rhieni, dylent ar bob cyfrif anfon eu plant i'r ysgol yn gyson er rhoddi pob chwareu teg i'r athraw. Cywtlydd o beth yw gorfod galw ar yr awdurdodau i orfodi rhieni i anfon eu plant i'r ysgol. Y mae hyuyna yn brawf digonol nad yw y rhieni hyny yn gwerthfawrogi addysg. ADDYSG FOESOL.-Y brif ysgol yw y cartref, yma y mae cyfleusterau goreu i ddysgu moes- oldeb, yma y mae ffurfio cymeriad ond gan fy mod wedi traethu ar hyn i raddau yn flaenorol ymataliaf. Y mae yr ysgolion dyddiol yn fan cyfleus iawn i ddysgu moesoldeb a moesgarwch. Dylent feithrin yn y plant gariad at rinwedd, i bwysleisio cymeriad pur, a gwylio eu hym- ddiddanion tra yn yr ysgol. Ond ysywaeth nis gall athraw sydd yn estron i iaith y eu gwylio yn briodol, cant gyfleustra rhagorol i arfer geiriau anweddaidd, a thrwy hyny feithrin teimladau ac arferion anfoesol. Fe glywais blaut yn siarad yr iaith fwyaf isel yn nghlywedigaeth yr athraw, a'r rheswin ei fod yn caniatau meddai oedd nad ydoecid yn eu deall. Os ydym yn ymddiried ein plant i athrawon dylem fod yn sicr nad ydynt yn caniatau iddynt fod yn anfoesgar, na siarad yn anfoesol. Yr Ysgol Sul yw yr un sydd yn arbenig ar gyfer rhan foesol ac ysprydol dyn, ond rhaid dweyd ei bod yn mhell o gyrhaedd ei gwir am can nid yw namyn cysgod o'r hyn ddylai ac a allasai fod mewn gwirionedd. Yn y lie cyntaf nid oes yn y rhan fwyaf o'r capelau le cyfleus i roddi gwersi i'r plant a'r bobl ieuanc; dylasai fod yn mhobeglwys ystafell neilltuol, lie y gellid crynhoi y plant a'r bobl ieuanc i fan nad oes neb i dynu eu sylw. Tra y maent ar wasgar mewn un ystafell pa mor eang bynag y byddo, y mae rhywun o ryw ddosbarth yn tynu eu sylw. Diffyg arall yw nad yw yr athrawon yn parotoi gwersi ar gyfer eu dosbarth, mewn Ilawer ysgol y mae athraw newydd bob Sul, am nad yw yr un ddewiswyd yn gwneyd ei ymddanghosiad ond unwaith y mis, y canlyniad yw nad yw yr athraw a'r dosbarth yn deall eu gilydd. Dylasai y maes llafur fod y goreu posibl dylai yr athraw greu brwdfrydedd yn y dis- gyblion, ac yn enwedig i blant dylai y gwersi fod yn ymarferol, chwaethus a deniadol. Treulir amser gwerthfawr gyda phethau di- fudd. Pwy oedd tad Adda neu Nebuchod- onosor ? Pwy yw yr Efe, hwn ? neu, Pwy sydd yn Ilefaru ? neu Pa faint o ddarnau oedd yn siaced fraith Joseph ? Fel pe bnasai hyny o'r pwys mwyafer eu hiachawdwriaeth. Dylai fod y wers yn symbyliad i'r disgyblion i wrthwynebu drwg a charu daioni. Carwn weled yn mhob Ysgol Sul fwy o ymdrech i roddi sylfaen i gymeriad ydeiliaid. Beth pe rhoddai yr athrawon ar yn ail anerchiad neu gynghorion ymarferol i'r dosbarthiadau gyd- a'u gilydd, am ddeg neu bymtheg munud ar derfyn yr ysgol. Rhywbeth i gyfarfod ag anghenion yr oes. Nid son yn barhaus am yr lddewon, Adda ac Efa yn Ngardd Eden, miloedd o flynyddaedd yn ol. Dylent ym- gydnabyddu a hanes a hwnw yr hanes goreu ac nid rhyw straeon ofergoelus acanwaraidd. Y mae arwyddion yr amserau yn gofyn am ystyriaeth ddwys arweinwyr yr Ysgol Sul. GWERINWR.

DORA.

Geiriau Cymraeg a Sbaeneg.

Family Notices

YR HEN GOP.