Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Pwyllgor Eglwysi Rhyddion…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa. Dan y penawd uchod yn y DRAFOD ddi- weddaf ceir y penderfyniad catilynol:- Ein bod yn ystyried rhoddi llythyrau cyrn- eradwyaeth i bersonau teilwng yn rhau o waith y pwyllgor hwn, er i hyny gael ei anghymeradwyo gau Cwrdd Misol y Meth- odistiaid." Yn ei ysgrif olaf yn y DRAFOD, fel hyn y dywed y diweddar Br. R. E. Jones (Otro) am y Pwyllgor uchod,—" Y mae y Pwyllgor yn penderfynu pethau yn hollol ddifeddwl o'u pwysigrwydd." Yr oedd gan y Pwyllgor feddwl uchel o farn y Br. R. E. Jones (Otro), oblegid datganodd ei golled ar ei ol yn y geiriau hyn :—" Siaradwyd gyda dwysteram y golled gafodd yr undeb drwy farwolaeth sydyn y blaenora'r cynrychiolydd ffyddlawn Br. R. E. Jones (Otro)." Credu yn gryf yr oedd ef fod y Pwyllgor wedi gwneud cam- gymeriad, ac nid oes neb yn ameu nad oedd ef yn gywir yn ei farn. Pwy glywodd son am Bwyllgor Eglwysi Rhyddion mewn unrhyw wlad arall yn dweud fod rhoddi llythyrau cymeradwyaeth i bersonau teilwng yn rhan o'i waith ? Ai aelodau Eglwysig yn gyffredinol neu bregethwyr yn neillduol olygir wrth "bersonau teilwng"? Os aelod- au Eglwysig yn gyffredinol y mae Pwyll- gor yr Undeb" yn cymeryd hawliau yr Eglwysi oddiarnynt. Ond os y pregethwyr olygir wrth "bersonau teilwng" y mae y pwyllgor yn cymeryd hawliau Eglwysi Anibynol ac Anenwadol oddiarnynt yn ogystal ag hawl y Cyfarfod Misol. Onid y rheol gyda'r Anibynwyr a'r Eg- lwysi Anenwadol yw fod pregethwyr i gael papur cymeradwyaeth gan yr Eglwys y mae yn aelod o honi ? Pa Bwyllgor Eglwysi Rhyddion—heblaiv un y Wladfa-fuasai yn rhoddi llythyr cym- eradwyaeth i bregethwr heb iddo yn gyntaf gael llythyr cymeradwyaeth gan ei Eglwys ei hun? Heblaw hyny, Pa Eglwys neu enwad fuasai yn derbyu pregethwr yn aelod o honynt.yn Nghymru heb fod ganddo Iythyr oddiwrth yr enwad y perthynai iddo ? Peth arall y dylid rhoddi ystyriaeth iddo yw hwn Pa un ai y gymdeithas y mae un yn aelod o honi ai y gymdeithas nad yw yn aelod o honi sydd i benderfynu "teilyngdod personau i gael papur cymeradwyaeth ? Gan fod yr ateb ar y wyneb gwelir fod Pwyllgor yr Eglwysi Rhyddion wedi troseddu rheol ac arferiad cymdeithas. Y rnae'n amlwg fod y "Pwyllgor" yn ceisio cymeryd iddo ei hun yr hyn berthyn i'r Eglwysi, ac felly yn anwybyddu eu hawliau. Gwnaed yr un peth yn hollol gyda'r crecio hwnw dro yn ol—gwneud peth na freudd- wydiodd Pwyllgor Eglwysi Rhyddion un- rhyw wlad arall erioed am dano. Beth tybed fydd barn Pwyllgorau Eglwysi Rhydd- ion yr hen wlad am benderfyniad Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa ynglyn a'u hawl i roddi llythyr cymeradwyaeth i ber- sonau teilwng er i'r Eglwys beidio rhoddi un ? Dyma farn y "Darian" o dan y penawd CYFFES FFYDD PATAGONIA. "Gofyna "Pryderus" farn deg a phwyllog gohebwyr y Darian" ar Gyffes Ffydd Eglwysi Rhyddion Patagonia. Mewn difrif, y mae yn anhawdd iawn bod yn bwyllog uwchben y fath fater. Mae gweithrediadau ceidwadol yr Eglwysi hyn yn ddigon i beri i ddyn feddwl mai rhan fawr o'u gwaith ydyw erlid rhyddid allan o'r byd." Dylid anfon i'r Darian" i ddweud mai nid yr Eglwysi sydd yn geidwadol nac yn gyfrifol ond y Pwyllgor. Y mae y Wladfa yn cael cam. Y mae yr un mor anhawdd bod yn bwyll- og uwchben penderfyniad diweddaf y Pwyll- gor ynglyn a chymeryd hawliau yr Eglwysi oddiarnynt—fel y dywed y Darian y mae gweithrediadau ceidwadol yr Eglwysi hyn yn ddigon i beri i ddyn, &c. Pan ddywedwyd wrth y rhai oedd tu cefn i'r credo rhyfedd hwnw fod gan y Meth- odistiaid Gredo eisoes, yr ateb roddwyd oedd, mai credo i'r Anibynwyr a'r Eglwysi Anenwadol ydoedd. Pwyllgor Eglwysi Rhyddion yn myned at y gwaith o wneud Credo i'r Anibynwyr! Pwy glywodd am y fath beth o'r blaen ? Dyma eto waith i'r Darian a newydduron eraill Cymru, sef, clorianu gwaith y Pwyll- gor yn ystyried fod rhoddi llythyrau cym- eradwyaeth i bersonau teilwng yn rhan o'i waith, ie, cofier, pan nad yw yr Eglwys y mae un yn aelod o honi wedi rhoddi llythyr iddo fel pregethwr. Onid gwaith yr House of Lords yn myned a hawliau yr House of Commons oddiarno yw hyn? Gwyddom beth wnaed i'r House of Lords, a dylai Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa gym- eryd rhybudd mewn pryd. Gwell i ni feirniadu ein gilydd na bod yn destun beirn- iadaeth a chondemniad yr hen wlad. I ba beth y chwareuir gyda phethau mor gysegredig ? Trwy benderfyniadau fel y rhai yr ydym wedi cyfeirio atynt, a phethau eraill cyffelyb, yr ydym yn gyflym golli ein gafael ar ein pobl ieuainc mwyaf craff a dysgedig, y rnaent yn ddigon cryf eu ham- gyffredion i weled trwy weithrediadau per- sonau, a chollwn hefyd gydymdeimlad Eg- Iwysi Cymru perthynol i bob enwad. Os oes rhywun yn ameu, anfoner y penderfyn- iadau ynglyn a'r "Credo" ac ynglyn a llyth- yr cymeradwyaeth i bregethwr i gael barn unrhyw enwad, neu unrhyw Bwyligor Eg- lwysi Rhyddion, arnynt yn Gymru.

Gohebiaethau.

AT MISS EVA (SPANKHURST GYNT)…

CYHUDDIADAU YN ERBYN U. S.…