Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Pwyflgor Eglwysi Rhyddion…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pwyflgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa. BR. GOL.- Ymddengys fod Cyfarfod Misol y Methodistiaid yn nghyd a'r DRAFOD wedi brochi yn erwin oherwydd i'r Pwyllgor uchod ryfygu cyhoeddi y penderfyniad can- lynol yn y DRAFOD :— "Ein bod yn ystyried rhoddi llythyr- au cymeradwyaeth i bersonau teilwng yn rhan o waith y pwyllgor hwn, er i hyny gael ei anghymeradwyo gan "Cwrdd Misol y Methodistiaid." Gan mai myfi ddigwyddai fod yn Gadeir- ydd yr Undeb pan basiwyd y penderfyniad uchod, hwyrach y byddai gair o eglurhad ar y mater yn dderbyniol gan ddarllenwyr y DRAFOD. Yehydig wythnosau cyn pasio y penderfyniad, daeth y Br. W. M. Hughes ataf, a gofynodd a wnawn ofyn i Eglwys y Gaiman y Sul eanlynol am lythyrau aelod- aeth iddo ef a'i deulu, gan eu bod yn bwr- iadu myned i'r Hen Wlad am ychydig amser ac nas gallai fod yn bresenol i ofyn am danynt ei hun, am ei fod i bregethu y Sul hwnw yn y Dyffryn Uchaf. Felly y Sul crybwylledig gofynais i'r Eglwys am lythyrau cymeradwyaeth iddo ef a'i deulu, a phasiwyd yn unfrydol eu bod i'w cael; a cheisiwyd gan Ysgrifenydd yr Eglwys eu rhoddi iddynt. Yr oedd eu bwriad yn wybyddus i'r gynulleidfa, sef eu bod yn amcanu myned i ffwrdd yn fuan. Boreu yr ail Sul (wedi pasio iddynt gael llythyrau aelodaeth) dywedai Ysgrifenydd yr Eglwys wrthyf, nad oedd ef wedi rhoddi llythyr i'r Br. Hughes fel pregethwr, am ei fod yn ystyried mai gwaith yr Undeb oedd hyny, ac am i mi ddwyn y mater gerbron Pwyllgor yr Eglwysi Rhyddion, pa un oedd i gyfarfod yn y Gaitnau yn fuan. Gwnaeth- um innau hyny, a phasiwyd y penderfyniad fod y Br. Hughes i gael llythyr, ond con- demniwyd ei waith gan "Cwrdd Misol y Methodistiad a'r DRAFOD cyn y ddiweddaf. Gofyna awdwr yr ysgrif o dan y penawd uchod yn y DRAFOD am Awst 15, Pwy glywodd son am Bwyllgor Eglwysi Rhydd- ion mewn unrhyw wlad yn dyweyd fod rhoi llythyrau cymeradwyaeth i bersonau teilwng yn rhan o'i waith ? Nid wyf yn honi fy mod wedi dilyn hanes gweithrediadau gwahanol Undebau Eglwys- ig yn ddigon manwl i roddi atebiad cadarn- haol na nacaol i'r gofyniad hwn, ond yr hyn a wn i yw fod newyddiaduron Cymru yn ami yn cyhoeddi penderfyniadau Cyfarfod- ydd Misol a Chwarterol pa rai oedd yn cymeradwyo personau unigol i sylw yr Eglwysi, ac yr wyf yn teimlo awydd gofyn i ysgrifenydd yr ysgrif dan sylw, pa wahan- iaeth sydd rhwng hyny a gwaith Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa, yn pasio ei benderfyniad ? Tybed nad yw yr ysgrif yn gwireddu y dywediad "Hidlo Gwybedyn a llyncu Camel." Gofyna eto, Ai aelodau Eglwysig yn gyffredinol ueu bregethwyr yn neillduol a olygir wrth bersonau tellwiig ? Atebaf mai yr hyn a ddywed y penderfyniad a ystyrid. Eto dywed fod "Pwyllgor yr Eglwysi Rhyddion wedi troseddu rheol ac arferiad cymdeithas." Gofynwn ninau, Pa wahaniaeth sydd rhwng rhoddi llythyrau cydymdeimlad a llythyrau cymeradwyaeth ? Os nad yw yn ormod hyfdra gofynaf i awdwr yr ysgrif gondemniol yn y DRAFOD am Awst I sfed fod garediced a chyhoeddi yn y DRAFOD eto y rhan a adawyd allan o erthygl y Darian ar Cyffes ffydd Patagonia," ynghyd a'r gredo ryfedd hono, hefyd nodi, pa bryd y pasiodd Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa y cyfryw gredo. Efallai y byddai ychydig o ymddiddan ar bwnc y credoau ar faes y DRAFOD yn fanteisiol i'r bobl ieuanc talentog hyny y sonia am danynt—pa rai sydd yn alluog i dynu y llinell wahaniaethol rhwng rhagoriaethau y credoau Cristionogol. Oherwydd bychandra y DRAFOD gadawaf y mater y waith hou fan hyn. Gaiman. J. C. EVANS.

Y Diweddar R. E. Jones (Otro).

Nazareth, 'Drofa Dulog.

- Trelew.