Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Taith Dros For i Gymru.
Taith Dros For i Gymru. DIFYNION 0 LYTHYRAU DILYS J. BERWYN. Cawsom bleserdaith o Santos i fyny i'r mynydd a elwir Alto da Serra. Yr oeddem yn ugain o gwmni,—pymtheg o'r dosbarth cyntaf a phump o'r ail, ac yn talu deg swllt yr un a chael byrbryd i fyned hefo ni. Fel yr ydych yn gwybod rhan fechan o'r dref sydd i weled os buoch mor ag'1S i'r Ian ag y buom ni. Nid oes nemawr o dai ar y cod- iadau ac y mae adeilad rnawr o zinc yn cuddio y rhan fwyaf o'r gwastad heb i chwi lanio a theithio drwyddo. Cawsom daith o rhyw ddeg munud mewn modur at yr orsaf-rhyw gipolwg ar dai hardd iawn-y lie yn llaith iawn a thyfiant yn mhob man. Teithiem ugain munud mewn tren cyflym nes cyrhaedd gorsaf Pisaguera, lie llai, ac yno yn dechreu dringo. Tynwyd y peiriant a bachwyd y cerbydau wrth raffau dur a'r rhai hynny yn rhedeg rhwng olwynion llinell ddwbl ydoedd ac fel yr oeddym ni yn codi gostyngai tren arall. Mae y daith yn cael ei rhanu yn dri codiad, ac ar bob un mae y gwifrau yn danddaearol a'r cyflenawd ager ac arhwiliad yn cael ei roddi i'r gwifrau. Teithiem drwy 13 o dyneli, yr hwyaf yn 260 mydr ac i gyd yn gwneyd 1,365 o fyd- rau. Mae y lleoedd hyn yn waith o gerfiad- au yn y graig na chredech eu cywreinrwydd; ac yn oleuedig hefo trydan. Mae y codiad yn 800 mydr uwch y mor rhanau yn bontydd haiarn uwch ben gwagle diwaelod allem feddwl-coedwigoedd tywyll a'r mynyddoedd ychydig pellach wedi eu gorchuddio gan bob math o goed, yn enwedig y Palmwydd, a'r rhai hyn hefo eu copa hardd ar hen gorff mor noeth. Ar ein llaw ddehau wrth ddringo mae y creigiau yn agos ac wedi eu naddu yn risiau a chafnau i bob cyfeiriad isel ac uchel yn arwain dwr y cawodydd ami sydd yn disgyn fel i olchi y creigiau amliwiog i ddangos eu harddwch yn blaenach. Mae rhai manau yn uchel iawn, a'r cymylau yn chwareu o'u cwmpas. Buom ni yn ffodus i gael dim ond ychydig o gynwys y cymylau ar ein taith. Wedi cyraedd yr orsaf Alto da Serra- dyma y lie uchaf,—cawsom ein harwain i le tanddaearol ar hyd risiau cerrig i weled y peirianau trwy ba rai y mae y cwbl yn gweithio, lie y mae yr olwynion yn anferth a'r glanweithdra yn disgleirio fel drychau. Mae y dyn sydd yn arolygu ar le uchel ac yn cyffwrdd rhyw fotwn bychan i yru y peiriant i gyd i weithio. Mae y dref fechan hon yn wasgaredig ar y llechweddau, ac yn arwain i fyny y mynydd mae pont gref. Aethom ar hyd honno ar ein traed a dringo at eglwys unig a'r fynwent dawel wrth ei hymyl. Mae yr eglwys yn ymddangos yn adfeiliedig a Dudrerwedi ei hadailadu yn 1889. Ar yr ochr arall gyferbyn a'r fynwent mae amryw gytiau yn llawn moch. Addurnir y gwrych- oedd ac ymylon y ffyrdd a phob math o flodau gwyllt, a mfethais gael yr un arogl arnynt er fod eu lliwiau yn danbaid. Isel iawn yw y tai a'r toi cerrig, ac nid yw glan- weithdra, credaf yn rheol gan y preswylwyr. Mae y plant druain yn droednoeth ar y cerrig moel-amryw welais yn myned hefo llyfr a llech ar eu ffordd i Santos a'u traed yn graciau. Beth ddywedai plant y Wladfa am beth fel hyn ? Nid yw fy nesgrifiad i o'r lie ddim ond y filfed ran o ardderchowgrwydd Duw a chywreinrwydd dyn. Y cwbl a allaf wneyd yw cymhell pawb sydd am y mwyniant gefais i geisio gweled y lie eu hunain. Mae harddwch y golygfeydd yn estyniad blyn- yddoedd i fywyd credaf. Hanes man arall i barhau.
I Barddoniaeth.
Barddoniaeth. AT FEIRDD Y WLADFA.—Byddwn ddiolchgar yn Swyddfa'r DRAFOD am Englynion neu Benillion pwrpasol i'w hargraphu ar Card- iau Nadolig a Blwyddyn Newydd.
I Y FFON.
Y FFON. (Cyfansoddiad yn yr Ialistic Style, i fod yn obrwyedig o 300 canran yn Eisteddfod Pant Corlan yr Wyn.") Yn nghanol y goedwig 'rwy'n teimlo yn unig Ow frigau uchelfrig, lie trig adar man, Aruthrol foncyffion, yn ddychryn i ddynion A'u brigau'n 'r uchelion yn gwrando fy nghan. Y bleiddiaid, a'r llewod, sydd yma yn dyfod I geisio am gysgod dan ruo yn lion Rhag ofn eu beiddgarwch a mi mewn anial- weh Mae rheswm chwi welwch i mi geisio ffon. Y ffon mewn llaw waraidd, rhag syrthio yn ffiaidd- Yn bendramwnyglaidd un amser i'r llawr Trwy bob man y teithiais, a'r lie ymbleserais Mae 61 lie 'i cymerais, o'r hen goedwig fawr. Ti baentiwr tyr'd allan, rho'th wrychell i grensian (?) Ar ganfas mawr anian wrth dynu llun hon 'R ol blwyddi o dramwy, drwy fyd annirnad- wy, Anhawsder ofnadwy yw byw heb y ffon. Ai cerdded hamddenol, neu yntef chwyrn 'sgubol Bob amser gwastadol beunyddiol yw hi ? Y goedwig ni fyddai, pe pob dyn a dorai Rhyw ffon fel dylasai 'r un fath a myfi. Cyflegred cyflegrau, taraned taranau A choded wych ofnau nes cryno pob bron Dywedaf wrth dewi, y ffon wyf yii hoffi- Gan Samson Cydweli y cefais i hon. SOSIALIST. O. Y.— Os oes dyferyn o "bair Ceridwen" wedi disgyn rhwng y Uinellau hyn, gwn mai nid i foddio'r beirniad (?) y bu hyny; hefyd cofier, y gall gwrthddywediadau ac anghysondebau ddeffroi delfrydau," a 14 chynyrchu dyheadau a chrefiadau" tu yma i linellau amser.—S.
I MORDAITH BYWYD. I
MORDAITH BYWYD. Fe'i magwyd yn dyner ar aelwyd grefyddol, Fe'i dysgwyd i ddarllen ym moreu ei oes; Fe'i dysgwyd i gredu fod pobpeth yn ddwyfol Ym Meibl ei fam ni ddychmygodd am groes. Anogwyd y bachgen i lynu wrth ddarllen, A cheisio gwybodaeth fel ceisio aur coeth. Aeth yntau ym mlaen hyd y Ilwybr yn llawen A chredai ei fam fod ei bachgen yn ddoeth. Aeth allan o'r porthladd heb unrhyw amheu- aeth, 'Roedd pobpeth yn glir iddo ef fel ei fam Aeth allan i ganol mor tonog gwybodaeth, A churai ystormydd y rheswm paham," Tywyllwyd yr wybren gan dduon gymylau- Yr wybren fu unwaith mor oleu a chlir; Aeth cwch uniongrededd y bachgen yii ddryll- iau Ac ymdrech ofnadwy fu cyrhaedd i dir. Os drylliwyd ei gwch yng ngerwinder y ddrychin, Na ddigied y seintiau am anffawd y llangc Cwch arall sydd ganddo i herio'r storm erwin, A rheswm yw'r llyw lywodraetha hyd drangc; Os collodd ei fad, ni chollodd gyfeiriad Y daith, fel y'i dysgwyd ar aelwyd ei fam Mae 'i galon o hyd yn Ilawn cydymdeimlad A'r sawl sydd yn ferthyr i ragfarn a cham. Mae'n rhwyfo ei oreu ar gefnfor mawr bywyd, Yn erbyn Ilifeiriant drygioni yr oes, A cheisia gael eraill i gredu 'r uiiffunud- Mai'r gallu orchfyga yw cariad a moes Croeswyntoedd ystormus rhagfarnau cre- fyddol, Sy'n ceisio ei atal ym mlaen ar ei rawd, Ond rhwyfo wna'r bachgen ym mlaen drwy eu canol,- A chrcd fod y Crist i'r amheuwr yn frawd. Mae'n credu fod Duw yn Dad i ddy noliaeth, Fod dyn i ddyn drwy y cread yn frawd Yr Hindw'n y Ganges dan niwl ofergoeliaeth Yn ymbil ar Dduw reoleiddio ei ffavvd Y Moslem gorselog ar lannau y Nilus, Ac Indiaid y peithiau maent oil o'r un Tad. Mae 'i galon yn gwaedu dros ferched anffodus Droi'r allan o'r eglwys dan warth a sarhad. ARTHUR LLWYD.
[No title]
——— 0 BR. GOL. Y DRAFOD": Tua dau fis yn ol cafwyd gwefreb i hysbysu fod y Br. Harry Jones (neu yn fwy adnabyddus drwy y Diriogaeth Harry Tom Harry) wedi boddi yn afon Teca ar y 12fed o Orphenaf diweddaf tra yn cyflawni ei ddyledswydd fel swyddog perthynol i Hedd- lu'r Fin drwy ddilyn ar ol llofrudd i geisio ei ddal. Diameu genym y bydd yn dda gan berthynasau a chyfeillion y diweddar an- ffodus Harry Jones glywed fod ei gorph wedi ei gael yn ol fel y dengys y gwefrebau canlynol. Gaiman 20/9/13. CYFAILL. TELEGRAMAS. 16 de Octubre, Set. 16/9/13. Senor MacWilliams, Gaiman. Ayer Ii medio dia encontraron el cadaver de Harry a. dos cuadras rnás abajo de donde se ahogo. Mariana ire alii para enterrarle. Avise los parientes." Saludale, NICHOLS. Dos dfas despues Ayer enterramos el cadaver de Harry en el Cementerio de la Policfa Fronteriza, Sunica."—Saludale, NICHOLS. 16 de Octubre, Medi 16/9/13. Br. MacWilliams: Haner dydd ddoe cafwyd Harry tua dau gant o latheni i lawr o'r fan y boddodd. Yforu af yno i'w gladdu. Hysbyswch y perthynasa u. "-Cofion, NICHOLS. Eto ddau ddiwrnod ar ol yr uchod "Ddoe claddasom weddillion Harry yn Mynwent Heddlu'r Fin, Sunica.-—Cofion, NICHOLS. ■ 111 1 ■ MI
UWCHBEN BEDD Y TITANIC.
UWCHBEN BEDD Y TITANIC. Yn ystod ei mordaith i New York safodd y Franconia uwchben bedd y Titanic a rhodd- wyd plethdorchau o lawryfon gasglwyd yn ngardd y diweddar Mr. W. T. Stead ar y llanerch y suddodd y Titanic, a chwareuodd y Seindorf Nearer, my God, to Thee." Yr oedd 1,500 o bobl ar y Franconia yn llygad dystion o'r parch delid i goffadwriaeth y di- weddar W. T. Stead. » Is DIPHTHERIA IN TRELEW." Dan y penawd uchod yn y Buenos Aires, Herald ceir a ganlyn outbreak of diphtheria in Trelew has assumed such pro- portions that it is really and truly an epid- emic, and there is hardly a family who have not some little friend or relative to mourn It is stated that there are two or three deaths daily from this illness and the public naturally are in very great alarm." Pwy sydd yn gwneud y drwg yn waeth nag ydyw ? Ai penny a liner ?