Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

- - - -.- - -.- - _"' '"-'"…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-,or Peryglon yr Eglwys a Chwareuon yr Oes. GA N MR. W. REES DAVIES, LLWYDCOED, ABERDAR. Cwestiwn amserol a phwysig iawn yn y dyddiau ysgafn hyn ydyw yr un parthed Perthynas yr Eglwys a chwareuon yr oes." Mater ydyw ag sydd yn peri poen meddwl a blinder calon i wir dduwolion ein heglwysi. Y mae rhyw awch angerddol am chwareu, ymhob agwedd arno, fel pla nerthol, wedi meddiannu ein pobl ieuanc yn ddiweddar. Dilyn chwareuon ydyw prif nod eu bywyd. Cymer ordinadau crefydd yr ail le,-a mynych ofnwn 11a chaiff yr un lie o gwbl. Carem edrych ar y daioni neu y drygioni a ddeillia o'r chwareuon sydd mewn bri yn ein gwlad heddyw cyn penderfynu dyledswydd yr Eglwys ynglyn a hwynt. Beth, tybed, ydyw y daioni a geir mewn rhedegfeydd, ymladdfeydd, hap-chwareuon ami eu rhif, y bel droed, chwareudai ami eu rhywogaeth, sef theatres, cinemotographs" cinemas, &c. ? Dywedaf yn groew, ar ol rhai blynyddau o brofiad fel chwareuwr ac fel edrychydd ar- nynt, nad oes ynddynt yr un daioni gwerth yr enw. Er i unrhyw chwareu fod o les corfforol, rneddyliol, moesol ac ysbrydol, rhaid iddo fod yn wirfoddol. Rhaid i elw ariannol fod yn gyfangwbl absennol. Meth- wn ar ol edrych gyda Ilygad di-ragfarn, weled yr un chwareu y tu allan i fyd y plant, nad oes elw ariannol ynglyn ag ef. Ym myd y plant yn unig y mae chwareu yn llesol yn ei holl weddau. Iddynt hwy, nid oes dim yn fwy naturiol. Fel wyn ar ein dolydd, ym- branciant am eu hiechyd. Ond pan y daw yr ysbryd chwareu i fyd y rhai sydd wedi neu ar fedr esgyn dros ris olaf plentyndod, y mae yn niweidiol; llenwircwpan pob chwar- euwr yn raddol a gwenwyn, a'r diwedd—y nef yn unig a wyr Anmhosibl braidd ydyw i'r chwareuwr gadw o fewn y terfynau; a phan yr a chwareuwr dros derfynau priodol unrhyw bleser neu fwyniant, try y pleser neu'r mwyniant hwnnw ar unwaith yn an- nghyfreithlawn. Yn awr, beth am y drygioni a ddeillia o chwareuun yr oes ? Taflwn gipdrem i hanes yr oesau a fu. Beth am Groeg ? Ar ei gwyl- iau ymgynullai yr hen a'r ieuainc i chwareu neu i edrych ar y campau. Mawr oedd y ffwdan a'r paratoad er ennill y gamp I Gym- aint oedd swn curiad y dwylaw a'r ysgrech- feydd yn ystod ac ar ol y gwahanol ymdrech- feydd yn ddi-ddadl bu y sylw craff a beun- yddiol dalai y Groegiaid i'w campau yn achos machludiad eu haul milwrol, gwladol, a moesol. Beth am y Rhufeinwyr ? Cawn hwynt yn treulio amser dirfawr ac yn ymgolli yn yr ymladdfeydd rhwng dynion a bwyst- filod yn y Coliseum. Arweiniodd hyn i'w dirywiad a'u cwymp. Bu yr Ysbaen am faith flynyddau yn brif allu y byd, yn ddychryn ar for a thir. Diwedd ei sylliad beunyddiol a gormodol ar ymladdfeydd teirw oedd ei chwymp annisgrifiadwy yn 1588. Beth am Gymru heddyw? Gwelir mai galluoedd mawrion er dirywiad gwlad a chymeriad ydoedd y ch wareudai gynt; ac nac anghofiwn mai galluoedd nerthol sy'n gweith- io i'r un cyfeiriad ydyw chwareudai a chwar- euon Cymru heddyw. Y mae eu heffaith ar rinwedd a moesoldeb yn niweidiol a gwen- wynig. Y mae ein chwareuon, pa un a flyn- nant mewn chwareudai neu allan ar y maes, ynghwyneb haul neu loer y nef, yn difa hadau rhin a moes yng nghalonnau miloedd o'n cyd-ieuenctyd. Y mae rhai o'n cyfeillion mwyaf mynwesol, ar yr awr bresennol, yn gwingo dan draed gelyn y gor-chwareu. Cyd- wybod effro a gydnebydd mai llygredig ydyw pwy bynnag a fyddo dan lywodraeth nwyd a chwant am bleser tymhorol. Mewn difrif- wch, ai nid gwastraft ar amser, talent ac arian, yn y dyddiau prysur hyn ar gorflf a meddwl dyn, ydyw cymeryd rhan yn, neu edrych ar, chwareuon ein hoes ? Yn hytrach, talwn warogaeth i lyfrgelloedd ein cartrefi a'n gwlad Yno y mae llu o lyfrau rhagorol dda megis yn wylofain am oleuni llygad a meddwl. Trwy ddarllen cawn faeth i'n meddyliau, bendith i'n hysbryd, ac adnoddau i adeiladu cymer- iad glan. Exercise cae y bel droed Os am exercise cerddwn lwybrau toreithiog cread ein Hior. Wrth syllu ar ac studio gwaith bys- edd y Dwyfol Fod, ystwythir ein hesgyrn, purir ein gwaed, a chawn wledd i'r meddwl a'r enaid. Byddwn ddoeth yn ein dydd. Gwrandawn ar Islwyn pan y dywed yn un o'i ganeuon prydferth—"Efryda weddau natur." Yn ngwyneb yr ystyriaethau uchod, hawdd ydyw penderfynu perthynas yr Eglwys-y wir Eglwys-â chwareuon yr oes. Rhaid iddi olchi ei dwylaw yn lan oddiwrthynt. Cyll yn ei hamcan ac yn ei flfyddlondeb i'w Phen os dengys, yn y modd Ileiaf, oddefgar- wch i'w haelodau sydd a chwyn chwareuaeth yn tagu blodau rhin a moes eu calonnau. Amcan sefydlog pob credadvn a ddylai fod ymdebygu i Grist; ymdebygu i ddiafol a wna y neb a ymgollo yn chwareuon yr oes. Os mai ymlonni a disgleirio mewn chwareu ydyw prif nodau rhai o aelodau ein heglwysi hedd- yw, yna rhodio yn y tywyllwch y maent, heb erioed weled harddwch eu Gwaredwr, na theimlo blasgwir grefydd. Ammhosibl ydyw bod yn blentyn seiat a phlentyn y chwareu. Lleng, mi ofnaf, ydyw nifer yr aelodau o'n heglwysi sydd a phleser tymhorol, fel a geir mewn chwareu, yn brif lwydd ac amcan eu bywyd. Rhydd y cyfryw rai yn llawen ugain swllt am fwynhau chwareu, ond grwgnach llawer wnant wrth roddi ugain ceiniog am fwynhau gwleddoedd Seion. Dyledswydd i'w Phen ac i'w gogoniant ei hun ydyw i'r wir Eglwys dynnu allan bob chwyn gor- chwareu a flagura o'i mewn. Os diffygia yn hyn o ddyledswydd, yn hwyr neu hwyrach llygrir ei hawyr foesol ac ysbrydol, ac fe'i teflir i lawr dan gondemniad y Drindod Sanct- aidd. Rhaid cadw y Deml yn lan. Aflan y bydd os caiff colomennod y chwareu hedfan a nythu o'i mewn. Ysbrydol ydyw dinas- yddion y wir Eglwys, ond materol ac anianol ydyw dinasyddion byd y chwareu. Ymwrol- ed yr Eglwys, ac yn nerth ei Phen coded furiau moes a sancteiddrwydd yn erbyn holl chwareuon yr oes. Dihuned at ei gwaith neu yn sicr, yn fuan neu yn hwyr, fe'i llygrir gan ysbryd gwenwynig chwareuon gwallgof yr oes.—O'r Drysorfa trwy law CREFYDDWR. —

Nodion o Dreorci.

INodion o'r Bryn Gwyn.

- w., tYR EISTEDDFOD AGOSHAOL.