Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Gohebiaethau. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. I Br. Go].-Nis gallaf lai nag ystyried ceis- iadau taer M. Ph. Jones am i mi gyhoeddi'r penillion fel y buont yn y gystadleuaeth ond ffolineb, gan na fydd y gwahaniaeth di- bwys yn newid dim ar degwch neu anhegwch ei feirniadaeth. Gofynais iddo amddiffyn ei feirniadaeth yng ngoleuni ei safon cred Morgan dybygaf, mai mantais iddo er gwneud hynny fydd cael pedair llinell olaf y pumed peniIl fel y maent yn y gwretddiol. Dyma nhw Mae beilchion segur, ac offeiriaid anllad Yn tyru tua'r lie er ceisio byw Ar lafur hwn hwy ddont o bob cyfeiriad. A thwyllant werin er cael aur i fyw." Newidiais i ychydig ar y llinellan yna i'r amcan a nodais o'r blaen cymharer fy llin- ellan i a'r rhai hyn a oes gwahaniaeth han- fodol rhyngddynt ? Dim, ag eithrio fod fy nghyhuddiad i yn erbyn yr offeiriaid 'feallai, yn fwy eithafol a ehyffredinol nag eiddo J. P. J. Y mae dyn di-gariad yn llofrudd. Ond paham yr oedd Morgan mor awyddus am gael y llinellau gwreiddiol gerbron y wlad ? Gwn hynny hefyd, ond caiff Morgan ateb os dewisa, ac anfarwoli ei hun fel beirniad teg trwy hynny os gall. Pe buasai Morgan wedi condemnio'r llin- ellau hyn fel rhai heb fod ar y testyn, ni ddywedasid dim yn ei erbyn, ond nid dyna wnaeth condemniodd y penillion yn gyffred- inol heb fanylu, fel rhai heb fod "ar y testyti.' "Parthed meddyliau a syniadau y penill- ion hyn, credwn mai doethach yw peidio manylu, gan nad ydynt ar y testyn, yn ol fy marn ostyngedig i cynwysant brofiad, caledfyd, llafur a llwyddiant. Pa un ai yr "Hen Wladfawr ai yntef Buddugoliaeth y "Llafurwr ar anialwch dyffryn y Camivy ddylai fod yn destyn ? Darllener y pen- nillion a bernwch chwi." Mae Morgan yn ddigon o werinwr i apelio at y lluaws; fel un o'r lluaws gofynaf iddo, A fuasai'r Hen Wiadfawr yn bod pe heb droi yn ddyfrhawr? ac onid fel dyfrhawr y buddugoliaethodd "y llafurwr ar anialwch dyffryn y Camwy ? Mae "Y Dyfrhawr" yn cynwys testynau Morgan i gyd, a rhagor. Darllener a bern- wch. Ond fel bardd cyfarwydd yr oedd gan Morgan eisyniad ei hun parthed yr hyn ddy- lasid ddweyd ar y testyn, dywed:- Disgwyliwn benillion bywiog a desgrif- iadol o'r Dyfrhawr yn ei drafferth a'i helynt gyda'r dyfrio. Meddylier am dano gyda'i raw fach yn tacluso'r cloddiau ar ol yr horse-shovel cyn gollwng dwfr, ac wedi ei ollwng, yn gollwng gormod efallai, yna yn rhedeg at y sliw i'w leihau, ac erbyn dych- welyd gwel'd y cob oedd yn troi y dwfr i'r sgwar wedi myn'd ffwrdd Eto'n ail gych- wyn—pob peth yn mynd yn mlaen yn 'Idd y i-nutiol-ytitauwrtligerddedgyda"-Ioclir y clawdd yn canu ei brofiad ar yr hen alaw swynoI-Dwr parhaus. Bob yn dipyn y "mae yn arafu, ac yn distewi, a chyda theinilad amheus am ryw fan gwan allai fod yn y clawdd eistedda i lawr,-aiff ar ei led-orwedd; wrth aros mor hir i'r dwfr ei gyrhaedd cysga, hyd nes y bydd i wylan "neu ddwy ei ddeffro- bod ei draed yn y dwfr I Dyma ddeffroad I Dyma olwg freuddwydiol! wrth wel'd y dwfr yn gor- foleddu, pan yn myn'd drwy fwlch mawr a'r sgwar heb haner dyfrio &c. &c." Mae'n sicr fod y meddyliau hyn yn cynwys barddoniaeth wirioneddol pe buasem ond yn gallu sylweddoli hynny. Oherwydd dyma fuasai cynwys can Morgan pe yn cystadlu ei hun, ac wrth gwrs gan nad oedd penillion J. P. Jones yn debyg, na chystal o ran medd- yliau a syniadau i'r rhai oedd ganddo ef yn ei feddwl, condemniodd hwynt, ac yn an- uniongyrchol gwobrwyodd ei hun. Tra yn credu yn ddiysgog yn rhagoriaeth ei syniad- au ei hun, ac wedi penderfynu beth i'w ddisgwyl, gorfodwyd ef i gollfarnu syniadau J. P. Jones. Yng ngoleuni hyn gellir gweled paham y mae cynifer o gyfansoddiadau barddonol wedi eu condemnio gan Morgan fel rhai an- heilwng o'r wobr. Dyfernid y wobr yn ddistaw i'r cyfansoddiad gwell oedd wedi ei baentio ar leni ei ddarfelydd ef ei hun. Cyf- rifasid pethau fel hyn yn hunanoldeb a balchter trahaus ac anoddefol ym mhawb ond mewn bardd cadeiriol. Mawr yw dir- gelwch barddoni a beirniadu Diolchaf i Willie Williams (Prysor) am wneud sylw o honof; ofnaf na chyrhaedda'r wasg byth ei hamcan os defnyddir hi fel cyfrwng i daflu llaid at bersonau. Yr wyf yn barod i amddiffyn fy syniadau Sosialaidd os bydd raid, a rhoddi rheswm am y ffydd sydd genyf yn uniondeb a llwyddiant egwydd- orion Sosialaeth, ond ni bum erioed yn euog o "enllibio neb am eu bod yn methu gweld lygad yn llygad a mi. Yr wyf o'm bodd yn caniatau rhyddid meddwl, a rhyddid barn i eraill, ac yn ei hawlio i mi fy hun. Desgrifia Prysor fy sylwadau yn y DRAFOD fel "cynwys esgymun calon elyniaethus a dialgar." Fel Ceiriog gallaf ddweyd I eiriau dirmygus dieithriol nid wyf, Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth." felly nid yw brathiadau'r cleddyfau hyn yn clwyfo llawer, obosibl mai engrafft ydynt or dywediad hwnw if you have no case abuse your opponent." Pa reswm sydd ganddo tros fy ngalw yn blackguard nis gwn. Gwn fod dynion cyfrifol mewn byd ac eglwys yn sibrwd pethau tebyg iawn i hyn am danaf yn llechwraidd, ond byth yn wyneb agored, ac o bosibl fod Prysor yn rhoi'r pethau hyn ar bapur er rhoi cyfle i mi amddiffyn fy hun, trwy daro yn ol. Credaf nad oes angen, gan fod ymddygiadau mor wael yn sefyll yn hunan-gondemuiedig yng ngoleuni dynol- iaeth chwaithach Cristionogaeth. Credaf finau fel yntau, nad doeth yw gor- ganmol cynyrchion di-awen, ac nid wyf yn ddall i'r brychau sydd ym mhenillion J. P. Jones i'r "Dyfrhawr," ond ai teg condemnio'r haul am fod ysmotiau duon ar ei wyneb, ac anwybyddu ei wres ai oleuni ? Cywirer a rhybuddier yr ieuenctid, ond na ddigaloner hwy, yn hytrach cefnoger hwy i ddweyd yr hyn a welant ac a deimlant gyda beiddgarwch. Dywed Cymydog Arthur Llwyd, nid y paragraph o'r feirniadaeth gyhoeddasoch yn y DRAFOD ddiweddaf oeddy feirniadaeth ddar- Ilenwyd, na'r rhesymau tros eu condemnio," os gwir hyn, rhaid fod M. Ph. Jones wedi ysgrifenu dwy feirniadaeth, neu darllenwyd beirniadaeth rhywun arall yn y cwrdd, oher- wydd mae'r un sydd genyf fi yn llaw-ysgrif Morgan ei hun, ac o honno y dyfynais i, ar unig reswm tros eu condemnio oedd, nad oeddynt ar y testyn. Nid yw y gweddill o'i lythyr yn galw am atebiad. Gobeithiaf y parha i gadw yspryd "cymydogol," a pheidio rhuthro yn fyrbwyll i gyhuddo eraill yn ddi- sail, mae hynny yn anfoneddigaidd a dweyd y lleiaf; ac y mae galw dyn yn blackguard heb ryw reswm fel y gwnaeth W. W. yn an- foesgar, ac mae'r rhai sy'n meddwl pethau felly ac yn eu dweyd yn ddirgelaidd, neu o dan gysgod ffugenwau yn llai na dynion. Yr eiddoch fel arfer, DAVID IAL.

Llyfr Eluned.

,GWYNETH FACH,