Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Penderfyniadau Cwrdd Misol,…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Penderfyniadau Cwrdd Misol, GYNHALIWYD YN TABERNACL, TRE- I LEW, HYDREF 6ed, 1913. 1.—Cymeradwywyd penderfyniadau y Cwrdd blaenorol. 2.—Ein bod yn ymddiried y mater o gael Colofn Goffa i'r diweddar Barch. Robert Jones. Bryn Gwyn, yng nghyd a'r trefniadau i'r Brodyr o Eglwys Bryn Gwyn. 3.-Ein bod yn gwneyd symudiad er cael Cymanfa Ddirwestol, a'n bod yn cymhell holl eglwysi y Wladfa i ymuuo, ac anfon eynrychiolwyr i gyfarfod gynhelir i'r amcan yn y Gaiman, Sadwrn, 25 Cyf., am i o'rgloch. 4.-Ein bod yn anfon llytbyr o gydym- deitnlad a tlieulu'r Fuelies Wen, yn eii prof- edigaeth o golli priod a thad,—y diweddar R. E. Jones. S.-Fod cynal Achos yn Rawson i gael s-ylw yn y cyfarfod nesaf. 6.-Fod Cymanfa y Groglith nesaf i'w chynal yn Sion, Bryn Gwyn, fel y caiilyn Am 10 a.m. Cyfarfod i'r Plant. Maes Holi Cyhoeddus-y 9fed bennod o Rhodd Mam. Holwr :-y Brawd O. Owens, Bryn Gwyn. Arweinydd y Plant:—y Brawd Lewis A. Jones. Chwareuydd :—y Brawd John O. Evans. Am 2 p.m. Holir yr Ail Ddosbarth yn Hanes Josua, gan y Brawd Rt. M. Jones, Trelew. Llywyddir cyfarfod y boreu a'r prydnawn gan y Parch. R. R. Jones, Trelew. Am 6 p.m. Holir ar yr Hebreaid gan y Parch. R. R. Jones, Trelew. 7.—Trefnir Cwestiynau Arholiad i'r Ail Ddosbarth gan y Brawd R. J. Berwyn, ac i'r Dosbarth Hynaf gan R. R. Jones, Trelew. 8.-Llywyddir cyfarfod yr hwyr gan y Brawd W. E. Williams. g.-Arweitiydd Cyffredinol y Gân :-=c:y Brawd Llewelyn Williams. Chwareuydd:— y Brawd Owen Lloyd, Trelew. lo.-Fod pob ysgol i wneyd casgliad ar gyfer y treuliau. 11.—Fod y cyfarfod nesaf i'W gynal yn mis Ionawr 1914. 181 VRR.

Cwrdd Pen Chwarter Ysgol Suly…

Ffarwel i Sali Selog. i .—-…

\Gohebiaethau.