Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
YR EISTEDDFOD.
YR EISTEDDFOD. Y mae cyfrif yr wythnosau rhyngom a'r Eisteddfod ar ben, a chlywir y naill ar Hall yn dyweud Y mae'r Eisteddfod yr wythnos nesaf ac fe'i cynhelir yn y Neuadd Goffa. Y mae y rhai sydd yn gweithio gyda'r Neuadd Goffa, wedi bod am y prysuraf yn parottoi ar gyfer dydd mawr yr wy], a gwahoddwn y "Muses" i'r Eisteddfod i fendithio llafur y naill fel y llall. Gwyddom fod gan Eisteddfod a Chymanfa afael tyn ar y Cymro yn mhob gwlad er i'r cyfarfodydd hyn ran amlaf gael eu cynnal mewn adeiladau anghyfaddas ac anghyfleus. Nis gellir cael gwell adeilad i gynnal Eistedd- fod a Chymanfa na'r Neuadd Goffa a diau y bydd Cymry Dyffryn y Camwy yn dylifo i'r Eisteddfod i wrandaw ar dalentau a doniau v Wladfa a hyny mewn lie cyfleus a manteis- iol. Ni chafwyd cyn hyn yn y Wladfa adeilad cyffelyb i'r Neuadd Goffa, ond gobeithwn weled ei thebyg yn y Gaiman yn ddioed. Tystiolaeth cyffredinol y rhai sydd wedi gweled y Neuadd Goffa ydyw, ei bod yn adeil- ad gwych, y goreu o ddigon yn y Wiadfa-y mae yn adeilad gwerth dyfod o ben uchaf y Dyffryn i'w weled gan ei fod, fel adeilad, yn ffurfio dosbarth ar ben ei hun. Cofier hefyd mai Neuadd Goffa i sefydlwyr cyntaf y Wladfa Gymreig ydyw. Gwahoddir pawb i'r Wyl ac i gael golwg yr un pryd ar y "Neuadd." Y mae rhagolygon am Eisteddfod lewyr- chus a llwyddiannus, ac am Gyngherdd rhag- orol y noson flaenorol, a hwnw fydd y cyfar- fod cyhoeddus cyntaf i'w gynnal yn y Neuadd Goffa. 44wo —————
Nazareth, Drofa Dulog.I
Nazareth, Drofa Dulog. Dydd Gwener, Hydref 24am, cynhaliodd y lie uchod de yn y prydnawn, a cyngerdd yn yr hwyr, cafwyd diwrnod dymunol iawn. Yr oedd pawb i'w gweled yn treulio dydd yr wyl yn llawen. Yn mhlith chwareuon eraill yn y prydnawn, eafwyd saethu at nod, enill- wyd y brif wobr gan Stephen Jones; rhedeg- fa soi-tija, iif, Thomas Chambers, 2il, John James, 3ydd, David James rhedegfa ceffyl- au, iaf, David James. Gofalwyd am y chwar- euon gan y Bwyr. Llewelyn Berry Rhys a Samuel Jones, Maes Comet. Tra yr oedd yr ieuengctid yn mwynhan eu hunain oddiallan yr oedd yr oedogion yn yfed yn helaeth o ffrwyth dail yr India bell yn y capel, ac yn mwynhau yr amrywiol ddanteithion oedd ar y bwrdd a'r boneddigesau canlynol yn gwas- anaethu arnynt, Mary Lloyd Jones, Blodwen Owen, Jane F. Davies a'i chwaer, Susana Owen, Mair Jones, Elizabeth A. Jones, ac Alice Hughes. (Ni chefais enwau yr oil). Nid oes angen dweyd iddynt wneyd eu gwaith i foddlonrwydd. Yr oedd Luther Lloyd Jones yn tori y bara gwyn a'r brith, a chafodd waith diflino o ddau o'r gloch hyd bump. Erbyn chwech yr hwyr yr oedd y capel yn orlawn. Cymervvyd y gadair gan y Br. D. Rhys Jones, ac arweiniwyd gan y Br. D. Ial Jones yn dda fel arfer. Aed drwy y rhaglen ganlynol mewn llawn "aspri a miri'r ysbryd." Can agoriadol gan y Br. David Ll. Jones yn bur swynol adroddiad, 'Suddiad y Titanic,' yn cyffwrdd a tannau y galon, gan Agnes M. Reynolds unawd, Bedd Llywelyn," gan Br Amram Williams, Trelew, yn wir dda; dadi, Y Cyfarfod Llenyddol," gan Rd. W. Jones a Nefydd H. Cadvan, yn chwaethus ac adeil- adol; datganiad hyfryd gan Barti Gaiman o dan arweiniad y Br. D. Rhys Jones; adrodd- iad gan Elizabeth Mary Jones; chwareuad deheuig ar y crwth gan y Br. Benjamin Dai- Lewis; adrocld "Y dyn a llawer o enwau," gan Nefydd H. Cadvan; unawd rhagorol gan y Br. R. E. Hughes; adroddiad, "Achubwr pechadnr wyt Ti," gan Gweirydd ap Doyle, dalied atti a daw yn adroddwr; datganiad da eto gan Barti Gaiman, o dan arweiniad y Cadeirydd unawd, "Nant y Mynydd," gan y Br. Thomas Morgan yn dda iawn adrodd, "Cefais gam," (gwir y dywedodd), gan yr Arweinydd yn ei lawn brwdaniaeth arferol. Chwareuad ar y crwth, "Yr eneth ddall," Br. Ben D. Lewis unawd swyno] gan Maud LJ. Jones; dadl, "Mr. a Mrs. Denman," gan N. H. Cadvan a Rachel Parry yn bur dda un- awd gan Phylis LI. Jones yn dda o'i hoedran; unawd glir a da eto gan y Br. R. E. Hughes, Trelew. Cafwyd anerchiad fer ac i bwrpas gan y Cadeirydd arddechreu y cyfarfod. Un- awd gan y Br. Thomas Morgan. Byr-anerch a chan gan vr arweinydd i ddiweddu y cyf- arfod, wedi rhoddi clap dda i'r boneddigesau am weinyddu, ac hefyd i'r pwyllgor. Ymad- awodd pawb i'w cartrefi wedi cael cyflawn werth y ddoler, er cymaint y cwyno o'r herwydd.—N. H.
Advertising
Cyfarfod Misol y M. C. o Cynhelir yn SEION, BRYN GWYN, BYDD CALAN, 1914. Mater y Seiat yn y prydnawn fydd:— H Cysondeb a sefydlogrwydd gyda moddion gras," i'w agor gan y Br. Ellis P. Jones, Tir Halen. Pregethir yn yr hwyr gan y: Parchn. J. C. Evans a Tudur Evans Dros yr Eglwys, J. O. EVANS, Frondeg, Tach. I, 1913. Ysgrifenydd. TRIGFAN BOARDING HOUSE, TRELEW.. Dymuna OWEN HENRY JONES Wneud yn hysbys ei fod wedi agor Boarding- House yn Trelew, lie y ceir lie cysurus i lettya. Ciniaw am 12 o'r gloch bob dydd. 'Te neu Goffi unrhyw adeg. PRISIAU yn RHESYMOL.
A Oes Heddwch ?
A Oes Heddwch ? Dyna'r gofyniad glywir heddyw oddiar lwyfannau Eisteddfodol Cymru, Gogledd America, a'r Wladfa. Llawn mor briodol fyddai gofyn drachefn a thrachefn A Fydd Heddwch ? Nid oes heddwch ar ol Eisteddfod y Fenni, nac ychwaith ar ol Eisteddfod Pittsburgh. A fydd heddwch ar ol Eisteddfod Trelew ? Os bydd, cawn anfon i Gymru ac i Ogledd Amer- ica fod y mil blynyddoedd wedi dechreu yn y Wladfa. Pe dechreuai y mil blynyddoedd yma byddai y camp yu llawnach o lawer o bobl nag ydoedd adeg y gorlifiad. Ond pwy gaift "gam" tybed ? Gwelwn fod rhai yn cwyno ar ol Eisteddfod y Fenni iddynt gael cam dybryd a dyna'r gwyn arol Eisteddfod Pittsburgh ac ysgrifena arnbell i ysgogyn at y beirniaid i arllwys ei ddigofaiut ac i wirio y dywediad-" Gwyn y gwel y fran ei chyw." Rhaid i ambell un gael ymyraeth a gwaith dynion galluocach a inwy dysgedig nag ef ei hun, a goreu yw bod yn ddiystyr o'r cyfryw. Y mae pob can ddatgenir gan am- bell i un, a phob llinell ysgrifenir gan y llall yn berffaith nid oes eu rhagorach. Ie, Gwyn y gwel y fran ei chyw." Da ti, fran ddu, taw.
BYWYD.
BYWYD. Yr hen fugail yn siarad wrtho'i hun Mewn difri, rydwi 'n methu 'n lan a deall pam y mae dynion yn glynu cymaint wrth y bywyd yma. Beth mae nhw 'n ei gael sy mor bleserus yn y dydd a nos parhaus yma, a'r haf a gaeaf o hyd o hyd yn dilyn eu gilydd ? Yr un un awyr a'r un un mor yr un un siarad a dwrdio a dadlu yr un rhai 'n ddihirod a'r un rhai 'n aberthau iddynt. Beth yw byw Codi, brecwesta, ciniawa, a gwneud yr un peth y diwrnod wedyn. Ac ar ol deugain rnlynedd fel hyn o wneud yr un peth o hyd, mae dyn yn dechreu blino arno. Mae dynion fel edrychwyr mewn cyfarfod diddyddordeb, rhai mewn lleoedd da, o rhai mewn lleoedd sal, a'r rhan fwyaf ar eu traed -y cyfarfod yn drwm a difywyd, a'r un fath bob nos, a hwythau'n dylyfu gen nes bron yrru eu geneuau o'u lie. Pawb yn cytuno nad yw'r cyfarfod yn werth dim, ac y bydd- ai' n llawer gwell yn y gwely; ond eto nid oes yr un yn fodlon i adael ei leo hono'i hun. Byw I Ond tybed ei fod yn werth i ni agor ein llygaid o gwbl ? Deehreuyn unig sydd i bob peth a wtiawn mae'r ty a adeiladwn yn disgyn i'n hetifedd cyn i ni ein hunain prin gael ei weld, ac mae'r blanced a weuwn gycla gofal i roi drosom yn ein henaint yn cael ei thorri 'n ddarnau man ar unwaith i'w rhoi am ein hwyrion. Ar ol gweithio'n galed ar hyd ein bywyd, dywedwn wrthym ein hunain "Dyma ni wedi cyrraedd pen ein taith," ac yr ydym yn goleuo'r lamp ac yn pocio'r tan, ac yn gosod ein hunain yn es- mwyth yn ein cadair freichiau i fwynhau ffrwyth ein llafur yn dawel, pan ar unwaith daw "cnoc! cnoc I wrth y drws, a rhywun yn galw am danom. "Pwy sydd yna" meddem ninnau, a phwy fydd yno ond yr hen Angeu wedi dyfod i'n cyrchu, ac ni allwn ddim ond mynd. Pan fyddwn ieuanc ac yn llawn bywyd ac awydd i fwynhau pob peth, nid oes gennym un sent; a phan fyddwn yn rhy hen, heb ddannedd ac heb stumog, yr ydym yn werth ein miloedd. Prin y byddwn wedi cael amser i ddweyd wrth ferch ifanc Yr wyf yn dy garu," pan ar yr ail gusan mae hi wedi mynd yn hen wrach hyll. Mae llywodraethau 'r bvd yn dadfeilio pan na fyddant ond prin wedi tyfu; maent fel twmpath morgrug a wneir gan y morgrugyn bach drwy fawr ddiwydrwydd ac ymdrech, a phan na fydd bellach ond un gell fechan i'w gwneud i orffen y cwbl, daw ych neu wagen heibio a'i sathru a'i falurio i gyd, heb sylwi dim. Tybed mai rhyw anferth yw'r cwbl ? Heddyw geill dyn fod yn athronydd neu ysgrifennydd gwych, neu'n fardd neu'n wlad- weinydd mawr, ac yfory tyr gwythien rhy fach i'w gweld yn y mennydd, ac ni fydd y gwychaf o honom ond lwmp o bridd. A pho fwyaf o bethau da fydd gennym, mwyaf yn y byd yw ein poen a'n helynt. Y tlodion sy'n cael hyfrydwch bywyd i gyd. Y mae truan o ddyn os bydd ganddo ychydig o eiddo yn llawn berw a thrallod, a'i weithwyr yn yfed mate yn hamddenol ac yn cael yr holl lawenydd. Mae llawenydd yn pasio heibio 'r tai gwychion ac yn aros i drigo yn y bythynod. Pam mae rhaid i hyn fod? Ai mwyaf fydd ymdrech dyn, lleiaf yn y byd fydd ei dal ? Gwnewch eich goreu, ac fe fyddwch fyth mewn helbul peidiwch a gwneud dim, ac fe gewch y byd yn rhwydd ar ei hyd. Yr ydwi wedi hen flino ar y cwbl —ond eto mae yma ryw swyn mewn byw, hefyd A.H.