Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Het y Pregethwr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Het y Pregethwr. (Cymhwysiad). Yr oedd John Jones y blaenor wedi dweyd mai het hen oedd gan y pregethwr newydd -ei bod yn hen- iawn, felly, tu hwnt i bob rheswm. Ond ymhen amser wedyn pan ddaeth y pregethwr i edrych am danom, yr oeddym i gyd yn synnu o weled nad oedd dim yn ymddangos allan o le ar ei het. Nid oedd yn rhyw newydd iawn, feallai, ond yr oedd yn lan, ac yn edrych yn debyg i bob het arall. 0 dipyn i beth, aerholl1 i ymddiddan yn brysur, ac aeth y pregethwr i hwyl, a siarad- odd rywbeth fel liy-i: Cyiinydd, cytiiiydd a gwareiddiad," meddai, ie, yr wyf finnau hefyd yn credu mewn cynnydd, ond nid fel chwi sy'n edrvch arno fel duw, ac fel un yn dilyn llwybr union. Nid yw cynnydd yn dduw, a llwybr cam a throellog yw'r llwybr a ddilyna." "Edrychwch," ac wrth ddweyd hyn rhoes ei het ar ei lin," edrychwch. Y mae'r hen het yma wedi dysgu llawer i mi ynghylch cyfnewidiad pethau. Cred ein parchus flaenor John Jones mai y ffasiwn ddiweddaraf yn wastad yw'r ffasiwn oreu, pa un a'i mewn dillad, cerddoriaeth, neu hyd yn oed mewn diwinyddiaeth. Credu'r wyf fi .mai yr hyn sydd yn gall ac yn rhesymol yw'r goreu i mi ei ddilyn, pa un bynnag a fo yn y ffasiwn ai peidio ar y pryd. Yr wyf wedi darllen rhyw ychydig, a chof genyf fod un awdwr yn dweyd mai'r peth goreu ydyw bod yn y canol, yr un bell- der o'r ddau eithaf, ublegid er i'r gwirionedd fod yn un o'r e'thafion, gellir yn liaws gyrr- aedd ato o'r canol nag o'r eithaf arall." "Pan brynnais i'r het yma, flynyddoedd yn ol, dewisais hi wrth fy chwaeth. Dywed- ai y gwerthwr wrthyf "Nid ydynt yn gwisgo hetiau o'r fath yna yn awr." 11 We], mi gwisgaf i hi, ynte," meddwn innau. A phrynais hi. A llawer o hwyl a gefais i hefyd, wrth weled pobl y ffasi wn ddiwedd- araf yn edrych ar fy hen het ddiniwed, ac yn gwneud gwynebau hyllion ami. Yr oedd ei choryn yn rhy uehel, a'r cantel yn rhy gu I." "Ymhen rhai blynyddoedd, digwyddais fod yn yr un fan eilwaith, a sylwais fod yr het yn tynnu sylw o hyd. Cefais allan mai y rheswm y tro hwn oedd fod ei choryn yn rhy isel a'i chantal yn rhy lydan, er mai yr un het ydoedd o hyd, ac nad oeddwn wedi gwneud dim iddi." Ond y mae'r ffasiynau yn pasio, ac y mae fy hen het innau yn parhau. Felly sylwais pan ddychwelais i'r un Hey drydedd waith, nad oedd yn tynnu dim sylw. Yr oedd het pawb arall, wedi dyfod yn ol i'r lie buont flynyddoedd o'r blaen, ac yn dig- wydd bod yr un fath a fy het a fy ffasiwn innau." "Yr oeddwn yn teimlo fy hun yn fodlon. Nid am fod fy het yn y ffasiwn, ond am ei bod yn ddefnyddiol, yn gwiveud ei gwaith yn iawn, ac yn unol a deddfau tragwyddol rheswm. Aeth fy het allan o'r ffasiwn wedyn, ond ni chynhyrfais fy hun erbyn heddyw, y mae yr hen het wedi dyfod i'r ffasiwn eto, neu'n hytrach, y ffasiwn wedi dyfod yn ol at yr het. Ond nid wyf yn ymlawenhau ac ni fydd o bwys gennyf pan el allan o'r ffasiwn drachefn." "A'r hyn yr wyf yn ei ddweyd am yr het yr wyf yn ei ddweyd yr un fath hefyd am y pen, ac am y galon. Pan ddewisais fy norivaitli, pan ymafaelais yn fy meddyliau, yn fy ffydd i fy hunan, nid oeddynt yn y ffasiwn. Yr oeddynt yn rhy hen, ac y maent felly o hyd i raddau. Ond fe ddawy ffasiwn yn ol eto at yr hen bethau, o bosibl. Pa sut bynag, credu yr wyf fi nad oes i Dduw y fath beth a datblygiad a chynnydd y mae ei ogoniontyn dragwyddo] yrun. Pa un a fyddwn o dan erledigaeth, neu yn fawr ein parch, yr un ydym dim ond y ffasiwn sydd yn newid." A chan gyfodi ar ei draed, terfynodd fel hyn Y sawl sy'n gweled fy het, y mae yn fy ngweled innau. Yu ol fy rheswm y dewis- ais y peth hwn, yn ol fy ffydd a fy nghyd- wybod y dilynais faner yr lesu, ac er bod llawer o bethau sydd yn newid ac yn gwella, ni all ffurf resymol het newid dim, ac ni all fod ffasiwn a guddio ogoniant Crist. Gwae'r hwn a'i dilyno gan edrych pa un ai ychydig ai llawer yw y rhai sydd gydag ef I Y mae'r un peth yn wir am y ffasiwn fel awdurdod ag sydd, yn ol beirniaid craff, yn wir am lawer o bethau ereill-y mae'r ffasiwn hefyd yn awdurdod pan fydd yn iawn a rhesymoll" Ac ar ol i'r pregethwr ddiweddu teimlais innau fy nghalon yn ymlenwi o ddiolch iddo am ei wers semi ac adeiladol, gwers oedd yn cyfiawnhau fy meddyliau a'm hymarwedd- iad fy hun. A. H.

[No title]

"rI Gaiman. I

[No title]

TRUTH.