Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

RHAGAIR. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHAGAIR. Br. Gol. Ysgrifenais y nodiadau canlynol sydd o dan y penawd Y Genhadaeth a'r Cenhadwr Roberts," yn fy oriau hamddeno] i'r Andes yn mis Tachwedd divveddaf, ac wedi cyrhaedd pen fy nhaith, copiais hwynt, ac anfonais hwynt a'i neges i gyfeiriad y DRAFOD, ond trwy rhyw amryfusedd neu gilydd, ni chyrhaeddasant pen eu taith mor brydlon ag y tybiwn felly erfyniaf eich hynawsedd i'w cyhoeddi pan yn gyfleus, gan obeithio y gwnant les, oblegid dyiii y prif nod inewii golvvg genyf.—T. M. Y GENHADAETH A'R CENHADWR ROBERTS. Mae yn debyg ei fod argof darllenvvyr y DRAFOD, fod amryw ysgrifau wedi ymddang- os yn y DRAFOD a'r Gwerinwr ar y mater uchod, rhai yn ffafriol, eraill yn anffafriol, fel y mae bob amser, a hyny hycl yn nod gyda'r pethau goreu a feddwn, ie, y sefydliadau mwyaf dyrchafol afeddwn. Na synwn ddim gan hyny fod rhai yn dadvveinio ei cledd yn erbyn y genhadaeth a'r cenhadwr. Y cyntaf i wneyd ei ymddanghosiad ar y maes ydoedd H. P. E. o dan faner gwirionedd (truth), ond nid oedd yn ganfyddadwy ond yn unig yn y penawd amlwor oedd mai ei nod ydoedd di- ystyru y genhadaeth a'r cenhadwr, ac yn attegiad iddo, dyna "Carwr Tegwch' ag ysgrif ar Ein Cenhadaeth Gartrefol." Gwelir yn yr ysgrif nad oedd nod uwch ganddo na thori yr ysgrif iiad oedd no, i fyny y genhadaeth, gan ymhyfhau hyd yn nod i gymylu cymeriad y cenhadwr gweith- gar, ac hefyd i daflu amheuaeth ar allu a gras y Meistr mawr ei hun. Ytnddengys i mi mai tro llvvfr i'r eithaf ydyw ymosod ar ddyn yn ei absenoldeb, ie wyth mil o filltiroedd oddi- wrthym, a'r dyn hwnw yn gweithio a'i holl egni er ein lies ni a'n cymydogion estronol; ac yn wir Mr. Gol., y mae wedi peri gofid i mi fod hyn wedi dod i ddwylaw ein plant drwy gyfrwng y DRAFOD, yr hwn a gerais er dydd ei enedigaeth. Erfyniaf arnoch Mr. Gol. i ganiatau gofod i minau draethu ychydig o fy meddwl ar y mater uchod gan nad oes "heddwch cydwybod i mi heb wneyd hyn. Fel y dywedais, amlwg ydoedd yn ysgrifau H. P. E. Had oedd yn credu mewn Cenhadon na'i Cenhadaeth, gan mor ddiystyrllyd ydoedd o'u gwaith ac o'r ceiniogau gesglid at eu cynal. Y mae yn fifaith hysbys i bawb sydd wedi dilyn ychydig ar hanes y genhadaeth yn mhob gwlad, fod y brodorion, wedi derbyn y wybodaeth yr hon sydd oddiuchod, nid yn unig yn barod i gynal eu hunain, ond hefyd i aberthu yr oil a feddant i ddwyn eu cyd- wladwyr i gyffyrddiad bywiol a "lachawdwr y byd." Heb i mi ymhelaethu ar hyn buas- wn yn cymell H. P. E. i roddi ei enw fel tanysgrifiwr am y Baptist Missionary Field am flwyddyn, iddo gael profion o'r hyn a ddywedais ar y Congo India, Corea, Jamaica, etc, a cheisied ieuengctid y Wladfa Chundra Lela, yr hwn sydd lyfryn bychan gwerth ychydig cents, ac i'w gael drwy Mr. Walters, rhag iddynt fyned i [edd NI nad oes sylwedd yng nghrefydd eu tadau a'u mamau, wrth weled pethau ffol yn awr ac eilwaith. Cof genyf, i mi weled hanesyn bychan tebyg i li*vn, Digwyddodd i foneddwr ar- ianog dalu ymweliad o ran cywreinrwydd a chyfarfod cenhadol, ac wedi i'r siarad fyned trosodd, aeth boneddiges ieuanc (a phwy mor gymwys) a'r blwch oddiamgylch i gasglu at y genhadaeth, a phan ddaeth gyferbyn a'r boneddwr, ebai WI thi "nid wyf fi yn credu mewn cenhadaeth," o'r goreu," ebai'r fon- eddiges, cymerwch beth allan o'r blwch ynte." Na, nid oes arnaf angen arian," ebai yntau. Cymerwch chwi yn eofn, oblegid i'r paganiaid y maent," meddai hithau. Ynfyd- rwydd ynof fyddai ceisio rhoddi ychwaneg o fin ar atebiad y foneddiges. I'r sawl sydd wedi talu sylw i'r cyfnewidiad sydd wedi cymervd lie mewn gwahanol wledydd yn eu dull a'u hymgais i enill yn onest foddion cynhaliaeth, glanweithdra, moesau a chrefydd, trwy gyfrwng y genhad- aeth a'r cenhadon protestanaidd y mae hyny wedi cymeryd lie, oblegid y gris cyntaf y ceisia y cenhadwr godi yr anwar ydyw gon- estrwydd a pharchu eu cyd-ddynion. Rhyf- eddol yw'r cvfnewidiad vn Madagasgar, ac Ynysoedd Mor y De. Haner can mlynedd yn ol, nid oedd ddiogel i ddyn gwyn roddi ei droed ar ynys Madagascar, erbyn heddyw, y mae yn mhrif ddinas y wlad hono rai degau o gapelau protestanaidd. Clywais Gymro fu yno yn dweyd hyn. Yr wyf yn cofio i mi ddarllen hanesyn bach tebyg i hyn am fodeddwr yn talu ym- weliad ag un o Ynysoedd Mor y De o Bryd- ain. Un diwrnod, pan yn myned am dro gyda boneddwr o'r wlad hono yn ei gerbyd, cyfarfyddasant a chenhadwr, ac aeth yn ym- ddiddan wresog cydrhwng y boneddwr brod- orol ag ef ynglyn a rhai pethau er hwylysu y "gwaith da" yn ei flaen. Yna wediysgwyd dwylaw yn gynes aethant i'w ffordd acebai yr ymwelydd yn sydyn, ai cenhadwr oedd y dyn yna?" "Ie siwr," ebai'r boneddwr. Nid oes genyf fi fawr o feddwl o honynt, er cymaint o fri roddir arnynt ym Mhrydain acw," ebai'r ymwelydd. Felly'n wir, mae hyn yn syn genyf," ebai'r boneddwr. Tran- oeth aethant allan yn y cerbyd drachefn, ac wedi teithio gryn bellder, daethant i le an- nghyfanedd at hen adfeilion. Ni ddisgyn- wn am ychydig yn y fan hon, y mae arnaf eisiau dangos rhanau o'r adfeilion yma i chwi," ebai y boneddwr. Wedi dangos ac egluro rhanau yr adfcilion awei at ffwrn (pob- ty), a dangosodd ef yn fanwl i'r ymwelydd, ac ebai, pe buasech wedi anturio i'r wlarl hon yn nyddiau fy nghyn-dadau, cyn i'r cen- hadon ddod yma, buasech yn cael eich lladd, ac yna eich rhostio yn hon neu un arall tebyg iddi, yn gigfwyd i'r cenhadon y mae i chwi ddiolch fod y lie hwn yn adfeilion fel y gwel- wch ef." Gadawaf H. P. E. ar hyn, ond nid o ddiftyg engreifftiau tebyg. Gyda Haw, teimlaf yn ddiolchgar iddo am ddweyd ei feddwl o dan ei enw priodol. Gwnaeth Carwr Tegwch ei yrnosodiad tu ol i lwyn, galwai yr anfarwol Christmas Evans y dosbarth hwn yn Bushfighters (ym- laddwyr y llwyni), ac yn ei ymdrech i ddrygu y gwas, y mae yn methu ymatal nes tori ar draws hawliau a gallu y Meistr. Y mae yn amheus genyf mai codi Mr. Walters oedd ganddo mewn golwg pan yn rhoddi deg o farciau mewn gweith-arweh yn mhen un i'r cenhadwr. Nid oes arnaf awydd ewtog; gweithgarweh Mr. Walters yn y mesur lleiaf gyda'r achos dirwestol a'r plant, ond plant yn arfer mynychu y capel ydynt. Onid oedd y cenhadwr yn ddiwyd gyda'r plant hefyd, a'r rhai hyny yn blant "prif-ffyrdd" y Gai- man a Trelew o wal-aiiol genedloedd ? A oedd Carwr Tegwch yng nghyfarfod yin- adawol y cenhadwr yn y Gaiman ? Yno canai plant bach ystrydoedd y Gaiman yn dra swynol (yn yr Hispanaeg), ac un hogyn bach digon tywyll ei groen yn canu wrtho ei hun, emyn o fawl i'w Waredwr, a'r cyfaill ieuanc E. R. Evans yn cyfeilio iddo ar y ber- doneg. Y mae yn ofidus meddwl na wnaeth neb ymgais i gadw y fyddin fach wrth eu gilydd yn y Gaiman na Trelew wedi i Mr. Roberts ymadael. Gadewch i ni gael gweled yn gllretto, beth olygir wrth luosogi gyda deg fel y sonia C. T Beth pe cawsai ffermwyr y Wladfa eleni bum tunell o wenith ardir lie yr arferent gael dim ond haner ? Acyn lie bod y peirianau dyrnu yn gollwng dim one! ugain tunell o wenith i'r sachau mewn diwrnod, eu bod yn gollwng dau gant o dunelli iddynt yn yr un amser ? (Beth teddyliai fy nghymydogion W. Hughes a R. O. Roberts am hyny). Ac yn lie ein bod yn cael y pris cyftredin o chwe dolar ein bod yn cael chwe deg! Teimlwn dosturi dros Mr. Walters ei fod yn cael ei godi gyda'r fath lanw o ormodiaeth, a gwylied rhag i'r llanw droi yn ol i'r un graddau gan yr un gwr, oblegid gwyr Mr. Walters (wn i ddim am C. T.) fod trai a llanw yn ddeddf anghyf- newidiol. Peth arall ddywedodd C. T. oedd ei fod yn "anmhosibI argyhoeddi y Lladinwyr." Nid wyf yn meddwl fod eisiau pryderu am foment i ddweyd yn groew, fod y fath ddywediad yn gabledd yn erbyn yr II wn roddodd orchymyn i'w ganlynwyr fyned a'r Efengyl i'w chyhoeddi yn yr holl fyd. A ydyw C. T. yn golygu nad ydyw yr Eidal a'r Hispaen yn gynwysedig yn yr "holl fyd?" Onid Lladinwr oedd y canwTiad Jairus ? Ac fe ddywedodd Un pur graff" na chafodd gymaint ftydd naddoyn yr Israel," ag a gafodd yn -y Lladinwr hwnw. Onid Lladinwr oedd y gwr hwnw y gwelodd Duw yn dda anfon angel i'w hysbysu fod ei weddiau a'i elusenau yn gymeradwy, ac vn cael eu cadw mewn cof ganddo." Yn sicr mae hwnyna yn nod gwerth i C. T. a minau i ymestyn atto. Ai ty bed fod C. T. wedi bod mor garedig i'r cenhadwr Roberts ag y bu y Lladinwr hwnw i Paul y cenhadwr ar ei taith helbullis i Rhnfain ? Onid oes yn yr Eidal heddyw, agos i gan mil o brotestnniaid ac onid oes eglwysi protestanaidd yn Rhuf- ain ei hun yn ngolvvg gorsedd y Pab? Onid oes yn Argentina eglwysi cyfan o brotestan- iaid yn fugail a phraidd ? Ac onid ydym wedi gweled y geiriau hyny, Ac o'i flaen rEf yr ymgryma trigolion yr anialwch," yn cael eu gwireddu yn y Wladfa yn nvfodiad rhai o breswylwyr y paith, am yn agos i dri chant o filldiroedd i wneyd proffes gyhoeddus o'u ffydd yn y Ceidwad, yn ol yr argyhoeddiad gawsant yn eu hunigrwydd, gan ymostwng i'r ordinhad o fedydd trwy dansuddiad yr holl gorph yn y dwfr yn ol esiampl a gor- r chymyn eu Gwaredwr. Dichon fod yr eng- raifft uchod yn lied ddiweith yng ngo hvg C. T., ond y mae yn brawf ychwanegol er hyny y mynn y gwirionedd ei ftordd, Gair Duw nis gellir ei rwymo." Ceisia C. T. gymylu cym ;riad y cenhadwr trwy ddweyd ei fod yn "cardota," tebyg ei fod yn cyfeirio at Mr. Roberts yn myned o gwmpas a'i lusern gyfrin. Os wyf yn cofio yn iawn, onid oedd cyfrif o'r arian gasglodd yn yr ymweliadau da inus hyn yn y fantolen gvflwynai yn flynyddol i'r pwyllgor ? Os yw hyn yna yn gvwlr, sut na fuasai y pwyllgor vn edrych fod enlhb C. T. yn cael y sylw dyladwy ? Dichon fod rhywun yn barod i ofyn beth yw fy syniad i am Mr. Roberts y Cenhadwr. Wel ynte, yr wyf yn credu ei fod wedi ei alw i fod yn arloeswr (Pioneer), un yn torchi ei lewys i glirio y ffordd i efcngyl tangnefedd gael lie i weithio; credai yu ddiysgog yn ei genadwri, ac yr oedd yn feddianol ar sel a dewrder digonol i wahodd pob gradd a chen- edl i wrando arno- yn ei thraddodi. Nid dychymyg yw hyn ond ffaith, oblegid aethai o amgylch gyrwyr y trollati ychain a'r gwag- eni oeddynt yn sypiau yn Trelew a'r Gaiman, yan eu cymell i'w fan-cyfarfod, ac ar brydiau IIwyddai i gael cynnulliad da o honynt, a llafuriai yn galed trwy eu cynghori, dysgu emynau iddynt a chanu. Cofiwn mai nid i newid lliw y croen yu benaf, er addefaf fod Cristionogaeth yn gwneyd hyny i raddau, ond i olchi a phuro y galon o'i haflendid yr ymddangosodd Mab Duw, ac os yw "Carwr Tegwch a minau am ddod yn lâtl, rhaid i ni foddloni i Ladin- wr yn awr ac yn y man ddod i fewn i'r "olehfa atom. Gwir fod yna feini geirwon yn mhlith y Lladinwyr a phreswylwyr cym- ysg y paith yma, ond y mae genyf awdurdod digonol o'm tu i ddweyd y dichon Duw, ie, o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham." Yr hyn sydd yn angenrheidiol ydyw, llai o ni,r a mwy o Dduw. Ofnwyf fod mwy o'r yn dod i'r golwg yn y Wladfa y dyddiau hyn nag yn y blynyddau basiodd, a llai o Dduw. Yn yr ystyr o genhadon ni fu, ac nid oes ond Mr. Roberts a'r hen gyfaill Mr. Esau Evans. wedi gwneyd ymgais i dori tir newydd yn y diriogaeth, ac nid oes ond y dydd hwnw a ddengys ffrwyth eu llafur, er mai fel II dyrn- aid o yd ym mhen y mynyddoedd," yr ym- ddengys yn awr. Drwg genyf fod iechyd Mr. Evans wedi dirywio, hyderaf y caiff adferiad buan a llwyr. Ac yn nglyn a Mr. Roberts, nid wyf yn an- obeithiol na chawn ei weled yn gweithio etto yn ein plith. Y mae ganddo luaws ogyfedl- ion calon yn y Wladfa, er fod y Pwyllgor wedi troi ei gefn arno, a priu iawn yr wyf yn credu fod cydwybod yr eglwysi wedi ei gynrvchioli yn y weithred oer hono, Ac os na ddaw yn ei ol yma, y mae yn dra thebyg y bydd rywle yn Argentina, a bydd fy auadl gydag ef, am fy mod yn credu ei fod yn weithiwr i Iesu Grist. Credais am hyny y lleferais." T. MORGAN, CLYDFAN. Br. Go].-Carwn gael rhoddi gair bach yn eich newyddur. Ymddangosodd ysgrif yn y DRAFOD, Ion.- 29ain, dan y penawd Hanes yn ail adrodd ei hun." Ac wedi i mi ei darllen yn fanwl,. gallwn feddwl nad ydyw yr awdwr wedi meddwl nac ystyried yn ddwys, am yr hyn a ysgrifena, gan efallai yr ystyria nad oes. hawl gan neb ond efe a'i bleidwyr i ysgrif- enu eu barn ar wahanol byngciau y byd. Er engraipht,—Yn gyntaf, dywed fod yn flin gweled rhai o'n cydgenedl trwy gyfrwng y Gwerinwr, yn defnyddio yr un moddion dieflig i geisio dilorni a niweidio yr C. M. C." Yr wyf yn methu deall ei ysgrif, na'i ymad- roddion, na pha'm y gosoda gvvmni'r gamlas. yn y mater, os nad ydyw yn golygu fod ael- odau a gohebwyr y Gwerinwr dan orfod i.