Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

" frechaf freisied.79

Barddoniaeth.

YMWELIAD Y Br. JOHN WILLIAMS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMWELIAD Y Br. JOHN WILLIAMS, YR ATHRAW. Y mae pob dosbarth yn mhob arda! yn y Wladfa yn talu gwarogaeth a pharch i'r Br. John Williams sydd yma ar ymvveliad a ni. ac er foci yma lawer nas gwelsant ef o'r blaen nid oes yma neb nad ydynt wedi clywed dill dano a'r gwaith mawr wnaeth ef fel YsgoI Feistr yn y Wladfa. O dan ei addysg cododd to o ddynion ieuainc sydd yn glod iddo fel Athraw. Nid yn unig y mae yn feddiannol ar allu neillduol igyfranu addysg, ond y mae y gallu hwnw wedi ei drwytho ag ysbryd crefydd, a dynion felly sydd arnom eisiau i ddysgu ein plant. Cymhellir ef gan y naill gylch a'r Hall i aros gyda ni i gadw Ysgol, ond yrnddengys nad yw hyny yn unol a'i gynllun. Y rnae yn Swyddog Eglwysig yn Nghymru ac hefyd yn aelod o Gyngor Siriol-y mae dynion fel hyn yn werthfawr yn mhob gwlad.