Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
"TWR BABEL." Br. Gol.Cred,-if inii nid anyddorol fyddai cael (os oes modd) gwybod, pa faint o wahan- •ol genhedloedd sydd yn y Wladfa; raao yn y rhanbarth yr wyf fi yn byw, gymaint ag unarddeg, mewn cylch o bump o ftermydd agosaf at eu gilydd, sef-Ffrancwr, Cymro, Sais,Rwsian, Spaenwr, Portugues, Awstrian, Italian, Groegwr, Basco, Argentine. HUGH JOHN HUGHES. I
C. M. C. I
C. M. C. I Diolch i Hen Wr Profia-dol am ei ysgrif j afaelgar yn y DRAFOD ddiwcddaf ar y mater pwysig o ddewis swyddogion cymhwys i'n gwasanaetlm ar y Coop. Er nad xvyf yn credu fod y cwmni yn gwbl berffaith, eto i gyd credaf ei fod y cyfrwng masnachol goreu a thecaf welodd y Wladfa hyd yn hyn, ac ni wel ei well ychwaith cyhyd ac y pery yr aeiodau yn fiyddlon a chywir iddo. Pe na buasai am dano ef, beth fuasai hanes y Wladfa heddyw ? pwy all ddirnad yr ormes fasnachol fuasai yma pe ceid ef i ffwrdd o'r maes-pc tynnid y tair llythyren C. M. C. a'r hyn a gynrychiolant allan o fywyd beunydd- iol y Wladfa a'r Diriogaeth, a thrwy hyny ein gadael at drugaredd y Maeldai eraill yma, pa un ai enill ynte colled olygai hyny i ni ? Yti awr, un ffordd effeithiol i ddwvn y fnth drychineb a hyny oddiamgylch fyddai i'r aeiodau fod yn ddihidio a chlaiar 0 berthynas i ddewisiad y Swyddogion perfthynol iddo. Dylem gofio bob amser mai nid "chwareu plant" ddylai fod y gwaith o ddewis rhai i ofalu am a chario yn mlaen fasnach mor enfawr ac un y C.M.C., y mae'r concern wedi dadblygu cymaint erbyn hyn nes yr hawlia oreu goreu ei swyddogion ofalant am dano, yr hyn a olyga y>gofyna hefyd am ininau yr aeiodau cyffrediu; wneyd yr oil a allom i geisio cael y dynion cymhwysaf i lenwi y gwahanol swyddi, ac fel un o'r rhai cyntaf a gymerodd gyfran ynddo ac na chollodd yr un etholiad yn ei hanes (er heb erioed redeg ar na Hyrwyddai, Sindic, etc.) credaf y gallwn tongyfarch ein gilydd ddarfod i ni ar hyd y blynyddoedd lwyddo i gael dynion cymwys g da, y nifer luosocaf o lawer ohonynt felly beth bynag, i lenwi y gwahanol swyddi per- thynol iddo. Er's misoedd bellach y mae'r byd mewn argyfwng masnachol pwysicach na'r un a welwyd er pan y mae'r C. M. C. wedi ei ffurfio, ac yn ystod y misoedd yna y mae rhai ugeiniau os nad canoedd o dai masnachol cryfion yn yWerilliaeth hon wedi i-nytied yn deilchion, a nifer fwy wedi gorfod Manteisio at' nawdd cyfraith y wlad i'w galln- ogi i fyn'd, ond yn nghano! y cyffrawd, wele'r Coop yn cerdded yn mlaen yn iach a hoew ac estyn cortynau ei babell i gyfeiriadau newyddion, yr hyn a brawf y rhaid fod yr Arolygu a'r cario yn mlaen ar linellau cadarn a diogel, yr hyn a ddylai ein symbylu i ben- derfynu g wneyd yr oil a allwn i sicrhau gwasanaeth y dynion goreu i barhau wrth y Ilyw. Y inaegenym Arolygydd sy'n fonedd- wr craff, ac wedi cael blynyddoadd lawer o brofiad o'r fasnach, ac yn un a hawlia ein hymddiriedaeth ynddo fel dyn o allu ac ym- xldiried, a gobeithio y cawn hefyd wneyd yr oil a ellir er cael y dynion goreu i mewn ar y gwahanol fyrddau i'w helpu i wneyd y C. M. C. yn fwy o allu nac erioed yn hanes IIwyddianta dadblygiad y Wladfa a'r Diriog- aeth yn gyffredinol. I AELOD CYFFREDIN. Br. GoI.Gyda'r llythyrgod ddiweddaf, derbyniais lythyr oddiwrth y Parch. R. Talfor Phillips, Gweinidog Bethel (A.), Ffestiniog a chan nad oesyn y llythyr ddim o nodwedd gyfrinachoI, ond yn hytrach yn dwyn perth- ynas a mater cyhoeddus o deilyugdod diam- henol, credaf mai priodol, drwy eich caniatad, i fyddai ei gyhoeddi,fel y caffo y Ffestinog- iaid yn arbenig, ac eraill a deimlant ar eu calon, gyfle i fwrw eu hatHng i drysorfa er anfon cynortlnvy i'w cydgenedl yn ardal y chwarelau. Nid oes ddadl nad yw yn amser caled ar nifer fawr o weithwyr y chware!au oherwydd sefyllfa y fasnach lechi er's blynyddoedd, a dyma y rhyfel ddifaol wedi achosi i bethau fyned o ddrwg i waeth. Teimlaf yn flyddiog nabydd ir Ffcstitiiog- iaid, yn arbenig, ac eraill yn y Wladfa, adael i'r aptil hon at cu tosturi fyned heibio yn ddisyhv. Vr eiddoch, &c., HUGH GRIFFITH. -0- Lhvyn, Ffestiniog, North Wales. Anwyl Mr. Griffith, Yr wyf yn anfon gair atoch ar ran yr ardalwyr yma. Mae y fasnachlechi wedi bod yn nodedig o isel er's oddeutu naw mlyncdd bellach; a daeth y Rhyfel, gan wneud y sefyllfa yn is o lawer nag yr oedd cyn hyny. Nid yw nuvyafrif chwarelwyr Ffestiniog yn gweithio ond tridiau bob wyth- nos er's haner blwyddyn o ganlyniad mae yma lawer o dlodi, os nad eisiau, mewn ugeiniau o deuluoedd. Mae rhyw ychydig yn dod o wahanol ftynnonellau er cyfarfod a'r angen, ac mae Pwyllgor Cynrychioliadol yn ccisio cael allan yr achosion mwyafteihvng. Awgrymodd y Pwyllgor uchod i migrybwyll wrthych chwi-fel un sydd yn gwybod am- danom yn dda yma, a fuasai ddim yn bosibl codi tipyn o arian trwy gydymdeimlad Cymry gwladgar Patagonia tuag at helpu eu cyfeillion yma, hyd nes yr a y rhyfel dros- odd ? Gwyddoch chwi cystal a neb yna os oes modd gwneud rhyw beth i'r cyfeiriad uchod yn y Wladfa. Gwnaeth Cymru Ame- rica £ 500 at anghenion eu cydgenedl yn y wlad hon, ond £ 20 o'r uchod ddaeth yma i ni. Os tybiwch fod y mater yn un all apelio at galon y gwladfawyr yna, 'rwyn gwybod y gallwch chwi osod y peth o'u blaen yn y ffordd fwyaf effeithiol. Efallai y gall y DRAFOD roddi sylw i'r awgrym, Os ilwyddwch i gael swm, bychan neu fawr, trwy roddion personol, neu trwy rhyw ddull arall, bydd yn bleser o'r mwyaf genyf eu cyflwyno i'r Pwyllgor oddiwrth Gymry Patagonia. Maddeuwch i ni am fod mor hyf arnoch. Cofion pur, a'n dymuniadau da. Yr eiddoch, R. TALFOR PHILLIPS. Jon. 29 1915. Gweinidog Bethel (A). CAU FFORDD YN DROFA DULOG. I Br. Golygydd.Yn eich DRAFOD ddiwedd- af, gwelais hysbysiad gan un o berchenogion tiroedd y Drofa Dulog (sef Rachel Jones) yn hysbysu y bydd iddi gau ffordd glan yr afon ar ol ryw ddyddiad neullduol. Mae yr afon a'i glanau yn perthyn i'r genedl ac o ganlyniad i'w deiliaid, sef i bawb yn gyffredinol a di-wahaniaeth. Mae yr hwn a gaua ei dyddyn i mewn yn nghyd a'r afon a'i glanau yn amddifadu y cyhoedd o'r hyn a berthyn iddo fel yr awyr a anadla. Dywed rhai o'r perchenogion hyn sydd yn cau yr afon i iiiewn,-ei bod yn perthyn iddyut i wneud y 100 hectarca sydd ar eu gweithred i fynu, ond camgymerant a hyny efallai yn fwriadol. Dywed gweithredoedd y ftermydd lie pasia yr afon yn gyffredip,- 100 hectareas menos el rio y la rivera a phan na ddywed hyny dywed y gyfraith, ac y mac pob gweithred yn ddarostyngedig i'r gyfraith. Gwyr pawb (ond perchenogion ffermydd ar lan yr afon) mai collcd enfawr i'r Wladfa i'w colli ffyrdd glanau y Camwy. Maent o herwydd eu lleoiiad, eu huchder, ansawdd y tir, etc., y ffyrdd mwyaf trainwyol ar bob adcg o'r flwyddvn sydd ar ein dyffryn, heblaw eu bod y rhai mwyaf manteisiol i bawb, a dylid ar bob cyfrif wahardd eu cau. Nid wyf yn meddwl i f-fermwr glaii yr afon beidio cau ei fferm i mewn, na, dylai wneud hyny yn ol y gyfraith, drwy adael 35 mydr gyda glan yr afon. Ni wna cau i'r afon a gadael clwyd ychwaith y tro, gan y byddai y ffermwr drwy hyny yn cau i mewn dir uad yw yn perthyn iddo, ac yti gwneud anhwyl- usdod i bawb. Mae mater y ffyrdd yn y Wladfa erbyn heddyw yn fater pwysig, gan fed pob Die, Twm a Harri yn taflu y ffyrdd yn oleu man- tais a'u mympwy eu hunain. Gallasai y ddau gynghorwr sydd yn yr ardal wylio fod eiddo y cyhoedd yn cael chwareu teg os ydynt yn anmhleidiol ac heb wneud yr uti peth eu hunain. Caniatawyd cau y ffordd gefn a chodi y pynt, ac yn awr ccuir ffordd glan yr afon. Ar y raddfa hon bydd yn rhaid i bob! Drofa Dulog bwrcasu moddion i deithio yn yr awyr yn fuan. Mae y ffordd fygythir gau yn mvr, yn cael ei thramwyo er cyn cof y rhan fwyaf o hon- om, ac wrth ei chau bydd yn i. Y gyfraith yn cael ei thori. 2. Llawer o fforddolion yn cael eu hamddi- fadu o'i gwasanaeth. 3. Plant a ffermwyr dwyrain ogleddol yn cael eu cau o'r ysgol ddyddiol a'r capel, neu orfod teithio rhai miloedd o fydrau yn ychwaneg, ac heb reswm dros hyny. Gobeithio y bydd 1 ch papur clodfawr gy- meryd materion fel hyn i fynu, ac amddiffyn llawer o bethau cyhoeddus sydd yu cael eu hesgeuluso yn druenus. Yr eiddoch. Mawrth 15, 1915. —— ).( DULOG.
Y Gymdelthas feiblaidd,
Y Gymdelthas feiblaidd, Wele gyfi-if or hyn dderbyniwyd i'r Cym- deithasau y flwyddyn ddiweddrf Matitol mewn Haw yn yr C.M.C. $ 10.11 Bryn Crwn 96.00 Bethel, Tir Halen 34-75 Bethel, Gaiman 71.85 Moriah 15.50 Tair Helygen 16.10 Treorci Bryn Gwyn Ebenezer 42.00 Nazareth. 37.50 Parch. D. D. Walters am Feiblau 56.00 $587-46 DANIEL R. EVANS, Ysgrifenydd.
Y Gymanfa Ganu.
Y Gymanfa Ganu. Gelwir y PWYLLGOR i gyfarfod yng Ngwesty Aberystwyth, am DM o'r gloch, dydd SADWRN, Mawrth 27ain. EDWARD R. EVANS, Mawrth 16, 1.915. Ysgrifenydd.