Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Hyn a'r Llall.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hyn a'r Llall. Yn Bethel, Gaiman, nos Lun diweddaf, fe gynhalivvyd cyfarfod arbenig (na fu ei fath hyd y gwyddom, yn y Wladfa o'r blaen), i gydnabod Mrs. Thomas S. Williams am ei rhodd haelionus i Eglwys Bethel, sef darn helaeth o dir, ar yr hvvn yr adeiladvvyd y capel newydd yn ogystal a'r hen gapel. Fe gyfrifir fod y rhodd hon o eiddo Mrs Wi!- liams yu werth dim llai na rhyw wyth mil o ddoleri. Nid bob dyckl y rhoddir rhodd mor fawr tuag at yr achos goreu. Dymunwn i Mrs. Williams, yr hon fu yn hynod ffyddlon gyda'r achos ar hyd ei hir oes,—nawnddydd teg a dymunol, a phan ddel yr alwad caffed fynediad hdacth i mewn i ogoniant ci Har- giwydd. -0-  0 Colowapi fe ddaeth y Br. Jchnney B. Jones am dro i weld ei dad a'i fam, sef Mr. a Mrs. Owen Jones, DyiFryn Uchaf. Ymedy am ei gartref gyda'r cyile cyntaf o Fadryn. Hyfryd iddo, mae'n ddiau, oedd cael ei dad yn gwella ar ol ei hir waeledd. Daeth y ncwydd o Choele Choel fod peir- iant dyrnu y Br. Edward Owen, MaeslSaned, wedi ilwyr losgi. Cydymdeimlir ag cf yn ei gelled. --0- Dydd Llun diweddaf, dychwelodd Modur y IJywodraeth o Esquel, yr hwn gychwyn- odd i fyny ar y 15fed. iddo gael taith hvyddtanus. Cafiaeliad mawr yw y moduron hyn, mae Cwm Fly fry d yn awr yn ein hymyl. Yn lie treulio deg neu ddeu- ddeg diwrnod ar y ffordd i fyny, gellir mynd I a dod yn awr meWll llai nac wyth nos. -0-- Clywsom mai'r darlun goreu fa yn mhalas y Darlnniau Symudol, pe eawsid snap shot o hono, fnasai o'r ddau hyny y nos o'r blaen, rhwng y Caiman a Tlii-elew,-uti a chwip yn ei law a'r llail a rug, ac yn gofyn yn drist i bwy bynag ddaethai j'w cyfarfod,—"A wel- soch chwi geftyl a cherbyd yn eich cyfarfod"? Dyddorol iawn fuasai darlun o'r cwymp i'r pwll dwr, ond ni fuasai yn gyflawn heb i'r operator waeddi "IPs me" -0- Ymadawodd y Br. Robert Edwin Roberts, C.M.C., Gaiman, yr wythnos ddiweddaf, am vvib i Fro Hydref. Mynd i fyny am iechyd fel y deallwn yr oedd, a sicr genym y caiff adgyfnerthiad mawr wrth yfed awyr iach yr Andes uehel. -0- Clywsom i'r Br. J. WiHiams (yr Athraw), yr hwn oedd yn arlioli un dosbarth yn yr Arholiad Ysgrifenedig iu yn Seion, Bryn Gwyn yn ddiweddar, roddi gair uchel i'r ymgeiswyr, ac yn neillduol felly i un, sef yr uchaf yn yr arholiad. Dywedodd fod ganddi gof neillduol a gvvybodaeth eang o'r wers, craffder meddwl a chrebwyllder diail, yn ogystal a llawysgrif hynod o ddestlus a chain. Beth mwy all'sai ddweyd ? Eled rhagddi pwy bynag ydyw. -0- 0 ie, tra yn son am arholiadau, cofiwn fod Cymanfa Ysgolion Sul y Methodistiaid ger- Ilaw, fe'i cynhelir fel arfer ar y Groglith. Yn Tabernacl, Trelew, y bydd eleni, ymddcngvs fod yna ddarpariadau newyddion a threfn- iadau eangach eleni i'r hyn a fu yn y blyn- yddoedd a aethant heibio. Bydded i holl aelodau yr Ysgolion Sul y perthyn iddynt, fod yn ffyddlon iddi a rhodded eraill o'r tu- ¡-¡!Ian Iwfyd eu presenoldeb. M,e'r Gymanfi Ysgolion yn anad dim yn werth ei chefnogi, canys yn ddi-ddadl hyhi fu yn un o'r cyfryng- au effeithiolaf yn nadblygiad ein cenedl ni. A thra yn son am Gymanfa Ysgolion ac Arholiadau Ysgrifenedig, etc., goddefer i mi awgrymu y priodoldeb i'r eglvvysi eraill nac sydd a rhan yn y gymanfa hon, fynnu Cym- anfa iddynt hwythau hefyd, neu wet! fyth, uno gyda y rhai sydd yn barod a Chymanfa i gael un Gymanfa fawr drwy'r Wladfa i gyd. Tybed na ellir casgln pwvllgor o'r gwahanol eglwysi i drefnu Maes Llafur ar gyfer y gwa- hanol ddosparthiadau, rhoddi rhyw fiwyddyn o amser i'rcyfryw i lafurio ynddynt,-fel ac y gwneir yn Ysgolion Sul Cymru, ac hefyd yma gan y M.C., athrefnu arholiadau ychydig cyn y Gymanfa, fel y gellir cad y ca¡¡lyniad- au erbyn y dydd hwnw, a rhoddi tvstysgrif- au, etc., i bawb fyddant deilwng o honynr. Yr wyf wedi siarad o bryd i bryd a 11awer o aelodau Ysgolion Sul yr Annibynwyr a'r eghvysi rhwng-enwadol sydd yn y Dyffryn ar y mater Invn, ac hyd yn hYll, ni chyfar- fyddais ag un nad oedd yn ffafriol iawn iddo. Ac YI1 ddiwccldar bum Yl) siarad acamryw o swyddogion y M.C. mewn perthynas i'r un mater, a da oedd deallfod y cyfryw yn hynod gefnogol iddo. Wrth gael un Gymanfa Ys- golion Gyffredinol i'r Wladfa gaJl fod yn foddion i ddwyn y gwahanol Ysgolion Sul yn nes at eu gilydd, ac felly ddod i adnabydd- iaeth well o'r naiH a'r llall, yn ogystal a hod I yn gyfrwng cymorth a help i'r nail! a'r llall i esbonio a deall Gair Duw yn llawnach ac yn well. Dyma faes i eraill ddod allan i draethu eu barn arno, a chymhellwn hyny 3m galon- og. Hydcrwn y cymerir y mater i fyny gan lawer (a hyny yn yr ysbryd goreu wrth gwrs) fel y gellir, os yn bosibl, wneud Ysgol Sul y Wladfa yn y dyfodol, yn well ac yn fwy lhvyddianus nac y bu yn y gorphenol, a nag I y mae ar hyn o bryd. --0- Daeth i law Rhaglen Cyfarfod y Plant yn y Gymanfa Ddirwestol sydd i'w clonal ar y tofed o Fai nesaf. Cynwysa ddwy benod o Holwyddoreg Dirwestol a phedair ton tra swvnol. Ymdreched y plant i ddysgu ell gwaith yn dda fel y gallont gael cyfarfod cvstal, ie, a gwell hefyd na'r un gafwyd yn y gymanfa ddiweddaf.

I GAIMAN.

I Rortli Madryn.