Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Hyn a'r Llall.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hyn a'r Llall. Cychwynodd y Bwyr. John Rogers, Dyff- ryn Uchaf, a John Davies, Drofa Dulog fore LILIti diweddaf am Rio Colerado, gyda diadell o bed air mil o ddefaid i'r C. M. C. -0- Wythnos i ddydd Mercher diweddaf, cych- wynodd y Br. Moses Jones, Triangl, Drofa Dulog, i fyny tna Bro Hydref. Caffed daith ddymunol a hwylus. o- Fe ainvyd mab i Mr. a Mrs. Lewis Jones (Coop), Drofa Dulog, dydd Llun wythnos i'r diweddaf. Y fam a'r mab yn dyfod yn mlaen yn rhagorol. Mewn tref yn ymyl Llundain, medd un newyddiadur Seisnig, mae yna Ellmynes wedi gweitliio yn barod, faner Ellmynaidd i'w chwifio ar ben neuadd y dref, pan, medda hi, y'i cymerir gan filwyr y Kaiser. Bydd yn well iddi yn sicr, os gall, ei hanfon i Gennani ar ei hunion, rhagofn iddi ei gweld rhyw ddydd yn ddefriydd tan. -0- Nos Fawrth, Ebrill 27, cynhaliwyd cyfar- fod llenyddol yn Hen Gapel y Gaiman. Hwn oedd y cyntaf o'r gyfres cyfarfodydd fwriedir eu cynhal gan bobl ieuanc y Gaiman yn ystod tymor y gauaf. Cafwyd rhaglen dda a sylweddol, a dyma Iii:-Cdti agor iado], Br. D. lal Jones papur ar Hywel Dda gan y Br. Richard H. Rowlands; adroddiad, Saf i fyny dros dy wlad," gan y Br. J. A. Jones; anerchiad gan y Cadeirydd-Br. Bob Williams; papur, "Diffygion y Cymeriad Cymreig," y Hr. R. E. Hughes; can gan y Br. Bob Wil- liams. Yr oedd y ddau bapur—yn enwedig yr olaf, yn wirioneddol dda. Cododd amryw i adolygu y naill a'r Ilall o'r papurau, cafwyd sylwadau da a phwrpasol. Arweiniwyd y cyfarfod gan lal. -0- Fel yr hysbyswyd yn y DRAFOD dro yn ol, fod y Br. Robert Jones, brawd y Br. John Arfon Jones, C. M. C., Gaiman, yn gwasan- aethu ar yr S. S. Ambrost,-un o longau rhyfel Prydain, sydd ar hyn o bryd yn gwylio'r glanau. Bu'r llong yn ddiweddar rnewn tipyn o enbydrwydd. Dodwn dde3- grifiad Robert Jones o'r amgylchiadau fel yr anfonodd i'w frawd :— H. M. Ship Ambrose, Victoria Dock, Birkenhead, Mawrth 12, 1915. Cyrhaeddasom yma boreu heddyw, ar ol bod allan am dair wythnos. Prydnawn ddoe cawsom adeg bryderus iawn. Tua haner awr wedi un o'r gloch, clywid y waedd All hands on deck," canys canfyddwyd fod Ger- man Submarines o'n cwmpas. Fe ollyngwyd atom gan y gelyn dri o torpedos a methwyd ni ofewn ychydig latheni gan ytri. Tanias- om 43 o shells arnynt, a chredwn i ni Iwyddo i suddo un o honynt, canys gwelsoni un o'r shells yn burstio ac olew yn nofio ar wyneb y dyfroedd. Cyn gynted ag y dcchreuasom danio, wele ddwy o destroyers Lloegr yn dyfod i'r golwg yn y gorwel, ac yn cyfeirio yn syth tuag atom, a chyn pen nemawr fun- udau yr oeddynt yn ein hymyL Nis gall y llongau tanforol wneud dim i'r rhai hyn gan nad oes iddynt fawr gwaelod," ac hefyd teithiant mor gyflym (25 knots yr awr) fel nad oes fantais i'r getyu anelu atynt. Gymaint oedd y twrw pan y cyd-daniodd y gynau mawr, fel y crynodd yr hen long yn aruthr; gymaint oedd yr ysgydwad fel y maiwyd llawer o'r drysau a'r ffenestri; a chymaint oedd y swn arosodd yn ein clust- iau feI y methasom glywed dim am oriau lawer. Paratowyd yr holl gychod rhag ofn y gwaethaf, agwisgodd pob un ei swigan (math newydd o life belt er cadw'r pen uwchlaw'r dwr). Ymddygodd pawb yn ardderchog, y mae y navy men yn ddynion gwrol, nid oes arnynt ofn dim. Yn ystod y daith daliwyd pump o longau, a rhoddwyd prize crew arnynt i'w cymeryd i Kirkwall yn y Shetland Islands. Mor gynted ag y glatiiasom, aethai pob un am y cyntaf i brynu papur newydd er cael ychydig o newyddion. Cawi) yn awr di-i diwrnod o ryddid, a thocyu rhad i deithio ar y railway i'r lie a fynom. Cufion cynes at bawb yn y Wladfa. Yr eiddoch, &c., ROBERT JONES. Darlleiiasom,-os cofiwn yn iawn,—rhyvv bedair neu bum mlynedd yn ol, am gri mawr godwyd yn Lloegr a Cliymi-u,-yii enwedig yr olaf, gan Bwyllgor yr Eglwysi Rhyddion yn erbyn y Sunday Papers-papurau new- yddion ar y Sul. Teimlai arweinyddion moes a chrefydd y wlad, fod tawelwch ac yn enwedig sancteiddrwydd y Sabbath yn cael ei ysbeilio gan gyhoeddwyr newyddnron, fynent gyhoeddi papurau ar gyfer y Sul, fel y byddai i hyny droi yn elw arianol iddynt hwy. Dal mantais ar Ddydd yr Arglwydd a'i wneud yn ddydd i addoli Mamon. Trwy yr ymgyrch a wnaed y pryd hwnw gan ar- weinwyr ysprydol y werin fe wnaethpwyd dirfawr les. Gwnaethpwyd Sancteiddrwydd y Sabbath yn destyn pregethau ac areithiau. Siaradwyd ar wahanol Iwyfanau y wlad, yn ogystal ac mewn seiadau a chyfarfodydd gweddi, &c., ar y niwed mawr yr oedd dar- llen y Sunday Papers yn wneud i feddwl a chalon y sawl geisiai wneud y dydd yn ddydd o addoliad. Bydolent y meddwl, oerent y galon, amateralant yr ysbryd a thrwy hyny rhwystrid yr addolwr i fod yn yr ysbryd y dylai fod ynddo, ac yr hawlir ef i fod ynddo pan yn addoli. Fel canlyniad yr ymgyrch hwnw fe leihawyd dosbarthu pa- purau'r Sul wrth yr ugeiniau o filoedd. Beth am ein Gwladfa y dyddiau hyn? Nis gallwn lai na theimlo wrth weld einnewydd- iaduron- Y DRAFOD a'r Gwerinwr yn cael eu cario at ddrysau ein haddoldai, ie, ysywaeth, i fewn i'r addoldy i gael eu dosbarthu. Pan ar ymweliad a chapel neiilduol un o'r Suliau diweddaf yma, sylwn ar y pregethwr yn pregethu o fy mlaen, ac wrth fyochryr oedd y news boy a bwndel o bapurau yn eu paratoi ar gyfer eu rhanu. Ar ol i'r gwasanaeth orphen, wele ef yn codi at ei waith. Aeth yn mlaen i ddechreu, at y blaenoriaid oedd wrthi yn clirio oddi ar y bwrdd lestri'r Cym- un Sanctaidd. Aeth yn ol wedy'n at y gyn- ulleidfa, yn y capel cofier,-i'w ihanu iddynt hwythau. Y Sul o'r blaen, mewn capel arall, gwehvn ddau ddosbarthwr yn sefyll wrth y capel, un yn rhanu'r DRAFOD, a'r llall y Gwerinwr. Deuai'r addolwyr a'r papurau i fewn i'rcapel a gosodid hwy gan rai ar y seti er mwyn cael cip arnynt, feddyliwn, tra yr oedd y pregethwr druan, yn ceisio cael ei feddwl ei hun, ac arwain meddwl ei wrandawyr at yr orsedd sanctaidd. Mae'r hyn a ddywedir genyf yn awr yn berffaith wir; a gallwn ysgrifenu llawer mwy pe o ryw fudd. Tybed mewn difrif, nad yw yn bryd i rywun osod ei droed i lawr yn ein heglwysi yn erbyn y Sunday Papers. Nid wyf yn gul fy syniadau, a gwn am yr an- hawsterau sydd yn y gwahanol ardaloedd i gael y newydduron. Eto, yr wyf yn gwbl argyhoedcledig fod pethau fel y maentheddyw ynglyn a'u dosparthu, yn cael eu cario yn rhy bell. Beth bynag ddadleuir, gellir dadleu mai nid y Sul yw'r dydd, ac nid y capel yw'r lie i ddosparthu papurau newyddion.

Porth Madryn.

VSGOL NOS.