Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

" V RHYPBL.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

V RHYPBL. Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) Ebrill 23 a 24am. LLUNDAIN.—Dywecl adroddiad o Grimsby fod Hong" bysgota Saint Lawrence wedi ei suddo g-an long- tanforol, lladdwyd dau o'r dwylaw ac achubwyd 7. Y Brydeinigf Ruth wedi ei suddo yn y North Sea. Achubwyd y dwylaw. Yn y Baltic Sea darfu i long tanforol suddo yr agerlong* Frank perthynol i Finland. Y mae yr adroddiad Almaenaidd eu cod wedi cymeryd Hill 60 wedi ei wrthddyweud yn Swyddogol. Cyhoeddir yn Swyddogol -an y Gazette fod Affrica Orllewinol Almaenaidd wedi ei warchae. TOKIO.—Dywed newyddion Swvdclc-tgol os bydd i China wrthod yr hyn ofyna Japan y bydd y safle yn un ddifrifoL pmno¡'!> IT, ""JO íÍ"Ç!l",re u nl.c PETROGRAD.—Y mae destroyers y Black Sea wedi tanbelenu y cost Tyrcaidd gan ddinystrio gwersyllfeydd, ystorfeydd, llongf- au, a defnyddiau rhyfel. LEMBERG.—Y mae y Czar wedi cyrhaedd i ymddiddan gyda'r Grand Duke Nicho l as. Cafodd dderbyniad crocsawgar .g-an y trig-olion. PARIS, Swyddogo1. Y mae y Belgiaid wedi gwrthg-jro ymosodiad ffyrnig yr Al- maenwyr ar Chateau Vicoque gan achosi colledion trymion ar y milwyr oedd yn ym- osod. Y mae'r Alinaenwyr wedi defnyddio ffrwydbeleni llysmariaidd am y tro cyntaf yn ei hymosodiad i'r gogledd o Ypres, geliid teimlo effeithiau y rhai hyny 2 kilometer tu 01 i'n llinellau. RHUFAIN.— Y mae'r Newydduron yn gwadLl fod cyfarfod o Weinidogion wedi ei gynnal heddyw i benderfynu ar ag-wedd derfynol Itali. CHIASSO, Switzerland.—Y mae mynediad allan Almaenwyr o Itali trwy y dref hon yn parhau i gynyddu. LLUNDAIN, Swyddog'ol.—-Y mae'r brwydro am y tir a gollasorn lie y daeth yr Almaen- wyr i'n llinellau rhwng Steenstrate a Lan- gemarck i'r ochr ogledd ddvvyreiniol i Ypres yn parhau. Oherwydd colli rhan o'r llinell hon gorfu i'r milwyr o Canada encilio er mwyn bod mewn cyffyrddiad a'r milwyr ar y dde iddynt, yn ddiweddarach gwnaeth y Can- adiaid ymosodiad ardderchog a chymeras- ant y gynau gollwyd a nifer fawr o g'archar- orion yn cynwys pencatrawd Almaenaidd. Y mae colledion y Canadiaid yn drymion, ond darfu i'w dewrder achub y sefyllfa. Dywed adroddiad swyddogol Ffrengig eu bod yn y goedwig ger Saint Mihiel wedi cymeryd prif ffosgloddiau Almaenaidd a chymerwyd rhai carcharorion. PETROGRAD —Y mae nifer o feirch filwyr Rwsiaidd (Cossack) wedi myned eto mor bell a Memel yn Ddwyrain Prwsia. AMSTERDAM.—Dywed y Newyddur Het Volk fod Von Buelow wedi dechreu trafod- aeth newydd gydag Itali ar y sail o roddiad i fyny diriogaeth Awstriaid, a'r Almaen roddi i Awstria atdaliad trwy gyflwyno iddi ran o Silesia yn ranbarth Glatz. LLUNDAIN.-Parheir i sibrwd fod Awstria wedi gofyn i Rwsia ar wahan wneud hedd- weh. Ebrill 26. LLUNDAI.N.-Dywed gwifreb o Salonica i'r Datly Mail fod Itali wedi cydsynio i gadw i Serbia borthladd ar yr Adriatic ac y bydd i Itali a Rwsia drefnu y mater. Y mae'r llong bysgota Envoy gafodd ei niweidio- gan torpedo yn y North Sea wedi ei thynu i'r Tyne. NEW YORK.—Dywed cenadwr i lys y Pab fod gohebydd y newyddur Le Matin wedi cael ymgom yn Rhufain ar y Igeg gyda'r teyrngenad Almaenaidd Von Buelow yr hwn ddywedodd fod y sefyllfa yn un dywyll iawn ac nad oedd yn tyhio y deuai dim daioni o geisiadau ffugiol Itali, pa rai nad oedd modd i Awstria eu derbyn, ac yr oedd y darpariadau miiwrol wedi cymeryd y fath gwrs fel nad oedd ymgais unrhyw lys yn ymddangos o unrhyw ddiben, ac yr oedd y symudiad pres mol gan Itali yn unig' er mwyn enill amser. PARIS, Swyddogol.—Y mae y Belgiaid a'r Prydeinwyr wedi gwrthguro ymosodiad- au ffyrnig" ar Paschandaele a Brodesinde, darfu i'r Almaenwyr drachefn danbelenu yr Ypres. Y mae y brwydro yn parhau yn yn Hantsdenense. PARIS.—Dywed y Peiit Parisien fod swydd- og ag sydd yn gyfaill i Peppino Garibaldi wedi adrodd mai yr argraff gafodd Peppino ar ol ei ymddiddan g'yda Gwein- idogion y Brenin vw y bydd i Itali ymuno a'r Cydbleidwyr cyn i'r Senedd gyfarfod. Ebrill 27. RHUFAIN.- Y mae'r teyrngenad Italaidd yn Ffrainc wedi cyraedd o Paris i gael ym- ddiddan gyda'r Gweinidog Rhyfel, bydd i'r teyrngenadon o Llundain, Berlin, a Vienna hefyd gyrhaedd yn fuan. SALONICA.—Y mae ffrwydbelen clocwaith ( clockwork ) wedi ei chanfod yn Ystafell Gynghorfa Gweinidog Rhyfel Tyrcaidd yn Constantinople, ac wedi eihamseru iffrwydro yn ystod y cyfarfod yn mha un yr oedd Enver Pasha, Baron Von der Goltz, General Lenman Von Sanders i gynorthwyo. Y mae amryw wedi eu cymeryd i'r ddalfa. LLUNDAIN, Swyddog'ol.—Y mae'r Belgiaid wedi gwrthguro tri ymosodiad Almaenaidd i'r De i Dixrnude, Y mae colledion yr Al- maenwyr yn drymion. Yn ystod y dydd y mae cadoffer y gelyn wedi bod yn brysur iawn, ond atebwyd hwynt yn llwyddianus gan y Belgiaid. Yn y prydnawn ymosodasom a g-wnaeth- om gynydd yn ngnymydogaeth Saint Julian. Darfu i'n awyrlongwyr danbelenu y rheilffyrdd a'r gorsafoedd yn Fourcoing, Roubaix Ingelmunster, Thielt a Roulers. PARIS, Swyddogol.—I'r gogledd i Ypres ac ar yr ucheldiroedd ar hyd y Meuse yr ydym wedi cadarnhau ein saflecedd. Boreu ddoe darfu i'r Almaenwyr gymeryd uchel- diroedd Plartmaunsweillerkiff, ond cymer- asom hwy yn ol yn ystod y nos. GENEVA.—Y mae y Rwsiaid wedi ail ddechreu ymosod yn gulffordd Uszok, ac y mae colledion yr Awstriaid-Almaenaidd yn ystod y ddau ddiwrnod diweddaf yn 20,000 o ddynion. Ebrill 28. PARIS.—Y mae'r Havas Agency wedi hysbysu y \Vasg fod y rhyfel long Gambetta wedi ei suddo gan torpedo yn yr Adriatic Sea yn ystod nosweithiau iSeg- a 17eg. Hyd yn hyn y mae sicrwydd fod 190 o'r dwylaw wedi eu hachub. (Gorphenwyd Gambetta yn y flwyddyn 1906; tunelliaeth 12,351; pedwar o ynnau 7.6 modfedd unarbymtheg o ynnau 6.4 modfedd; cyflymdra 23 knots LLUNDAI,N'. Gwifreb o Bucarest yn y, Times-a. ddywed fod y Rwsiaid wedi myned i mewn etto i Bukovina ac yn ymgasglu yn Bokan gyda'r amcan tebygol o fynu croesi yr afon Pruth. PARIS, Swyddogol.-I'r gogledd i Ypres yr ydym yn parhau i symud yn mlaen yn enwedig ar ein hochr chwith. Yr ydym wedi cymeryd chwech 0 ynnau {machineguns) dau o beiriannau i daflu ffrwydbeleni, swm o ddefnyddiau rhyfel, ac amryw ganoedd o garcharorion. Y mae colledion yr Almaen- wyr yn enfawr, cyfrifasom mewn un lie yn unig yn agos i'r canal chwe chant o gyrph. Yn mhob rhan o'n llinellau yr ydym yn enill tir gan achosi colledion trymion i'r gelyn a dinystrio batteris., Parhad yn tudalen 4.

[IN CYFliNDREFN DDYFRHAOL.

Family Notices