Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Is German Philosophy responsible…

—————? ————— I Llaeth Sur.

IGwaith.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Gwaith. "Yr unig hapusrwydd y mae dyn dewr vn trafferthu dim vn ei gylch, "meddai Thomas Carlyle, "ydyw digon o hapusrwydd i allu gwneud ei waith yn iawn." Nid oes dim tebyg i waith am gadw pethau mewn trefn. Nid oes dim cystal am gadw iechyd a digon o waith priodo!. Osbyddwch yn methu cysgu'r nos, gweithiwch fwy yn y dydd nes blino digon i ymawyddu am y gwelv. Os byadwch yn dioddef oddiwrth y diffyg treuliad, nid oes dim fel gwaith am dreulio bwyd. Y mae rhyw ysfa yn enaid dyn sy'n peri bod gwaith yn anhepgorol angenrheidiol iddo. Y mae llawer un yn sal yn ami am nad oes ganddo ddigon i'w wneud. Dywed- ir am Napoleon a San Martin eu bod yn colli eu hiechyd mewn adeg o heddwch, a bod rhyfel yii aiigeiii-lieidiol iddynt i gael digon o waith i'w wneud er mwyn cadw'n iach. Hoff o beth yw clywed swn gwaith yn clecian yn sodlau'r plant wrth redeg o awmpas y ty. Os am roddi'r help goreu a ellir i blant i gadw rhag rnyned oddi ar yr haearn yn eu hieuenctid, rhodder digon o waith iddynt. Nid oes dim tebyg iddo. Ar yr un pryd coficr hefyd "All work and no play Makes Jack a dull boy," neu os merch [veld hi, "All work and no play Makes Jane a dull girl." Oes chwareu yw ieuenctid, a dylid rhoi gwaith i blant yn y fath fodd fel y bydd cystal a chwareu ganddynt, neu'n well nag ef. Pan fu farw gvvr einvog yn Lloegr, gofyn- mvyd i'w frawd beth oedd achos ei farwol- aeth. "Bu farw," meddai hwnnw, "am nad oedd ganddo ddim i'w wneud." "Ie", moddai rhyvvun arall," y mae hynny'n ddigon'i ladd un dvn." A. H.

Betsi Cadwaladr.

. - - , Gwroldeb.