Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
C. M. C. Hadau Alfalfa. ————————— .ÆX c Ypris yncodi. Tel- ir $7.00 y deg cilo o flaendal ar hadau 'A', a $5.00 y deg cilo ar 'B.* t YR AROLYGIAETH. Trelew, Gorpb. 25, 1918. M. %mom 18 map- DERBYNIA y CWMNI HADAU ALFALFA neu un* rhyw gynnyrch arall ar gonsign= ment, a gwerthir ef yn BUENOS AIRES dan ei fare priodol ei hun. Am y gwaith cwyd yr C.M.C. lai o gomisiwn na neb arall, ni chodir Hog ar y blaendal, ac ni chodir ychwaith am ystorio y cynnyrch yn Ystorfeydd y Cwmni i aros Hong. Y mae yn ddealledig fod yn well gan y Cwmni i'r ffermwyr lanhau eu hadau eu hunain ond iddynt fod i fyny a'r safon. YR AROLYGIAETH. Trelew, Gorph. 31, 1918. i MEL. A Pryna'r C. M. C. fel mewn tyniau mawr, megls tyniau nafta, am bris da. Gofaler am el drln yn briodol. Trelew, Mehefin 24, 1918. YR AROLYGIAETH.
.-GENI. - . - .. - -
GENI. PAKK Y.-Awst 15, ganwyd mab i'r Hr. ar Fones William Parry, Treorci gelwiref Elwyri. Y fam a'r bychan yn dod ymlaen yn gampus.
Advertising
GWYL BANC. Fel arfer bydd holl ystor- ldal yr C.M.C. ynghau pryd- nawn dydd Gwener y 30ain Icyfisol. YR AROLYGIAETH. TRELEW, AWST 15, 1918.
i - -----I Ein Perthynasau…
i Ein Perthynasau Tramor. Diameu gennyf eich bod eisoes wedi clywed lawer gwaith fod gan y Cymry am- ryw berthynasau yng ngvvledydd pell tra- mor. A wyddoch chwi rvwbeth am danynt? Ceisiwn fynd ar ryw wibdaith frysiog i ymweld a hwynt. Er nad gwledydd tramor yw Llundain, priodol i ni yn gyntaf ymweld a'r ddinas enfawr. Cof gennyf i mi fynd gyda chyf- eillion i ryw westy yno, ac o ddireidi, gofyn yn Nhymraeg am de a rhywbeth i fwyta. A, siarad Cymrac I meddai'r Eidalwr oedd yn gweinyddu arnom, a daeth a'r hyn a ddymunaswn, a'i wyneb yn wen o glust bwygilydd. Deallais ar unwaith fod Cymry yn mynychu y gwesty hwnnw, ac mai Cym- raeg a siaredid ganddynt. Yn wir, wedi hyn, clywais ragor o'r hen iaith mewn awr ar yr ystrydoedd yn yr ardal, sef Ffair Jewin," nag a glywais yn ystod diwrnod yngNghaer- dydd. Achosa swyn yr hen iaith i'r Cymry yn Llundain ddynesu at eu gilydd, a phan y cyf- erfydd dau Gymro, ai Saesoneg a siaradent ? Ni choeliaf fi Yn yr Unol Dalaethau, achosa yr un swyn i'r Cymry ymd yrru i amryw dreflannau ar hyd a lId y wlad, ac yn y treflauau hyn sia- redir Cymraeg mor loew a dihvgr ag a sia- redir yng Ngwalia ei hunan. Y mae o leiaf un newyddiadur Cymreig, a gyhoeddir yn Unol Dalaethau'r Amerig, sef y Drych, yn dra adnabyddus yn yr hen wiad. Ond y mae y cysylltiad rhwng Cymru a'r Amerig yn hyn na'r gwladfeydd hyn. Dy- wedir mai Cymro ddarganfyddodd yr Amerig gyntaf, flynyddoedd cyn geni Co- lumbus Yn ol yr hanes a roddir gan Michael Drayton, yn lyfr "Polyolbion," bu newyn mawr yn y wlad hon yn y flwyddyn 1170 0. c. Ac o herwydd hynny, cymerodd Madoc, brawd Dafydcl Ap Owen, tywysog Cymru, nifer o'i filwyr goreu, a hwyliodd i gyfeiriad machludiad yr haul. ac wedi hwylio am amser maith, daethant i wlad eang a phrydferth, lie y cawsant ddigonedd o fwyd, a choed, ac anifeiliaid gwylltion. Ac yna cymerasant feddiant o'r wlad, ac anfon- asant yn oli Gymru. a daeth eu gwragedd, a'u plant, a'u teuluoedd drosodd atynt. Y t'r cyntaf a welsant wrth lanio oedd penrhyn uchel, yr hwn a elwir Cape Breton hyd heddyw. Gwelsant fynyd.d a'i ben yn wyn gan eira. a hwnnw a alwasant yn Bengwyn, a phery yr enw hwnnw hyd y dydd heddyw, Gwelsant hefyd aderyn a phen gwyn ganddo. a gelwir hwnnw hyd heddyw yn Penguin." Feallai mai chwedl yw hon, ond credid hi yn Iled gyffredinol flynyddau yn ol. Mae'n wir fed Butler, yn ei I, Hudibras," yn gwaw- dio yr hanesyn hwn. Dywedai,— U So horses Were invented first from engines, As Indian Britons were from penguins." Ond gwawdia Butler bopeth, drwg neu dda, gwir nen anwir. Nid oes amheuaeth fod rhyw wirionedd yn y traddodiad, fod y Cymry wedi darganfod yr Amerig tua tair canrif cyn geni Columbus. Y mae cysylltiad arall rhwng Cymry a'r Amerig. Yn y flwyddyn 1865, rhoddodd llywodraeth yr Arianin ddarn mawr o dir i Cymry ymsefydlu ynddo. Bu y Wladfa dan brofedigaethau trymion yn y dechreu, ond ni fu farw. Cewch ddarllen desgrifiad dy- ddorolohoni yn Dringo'r Andes gan Eluned, ac hefyd yn llyfr Hesketh Prichard, "Through the heart of Patagonia." Ond nid dyna'r tro cyntaf i'r Cymry .groesi'r mor i geisio cartref newydd. Pan ymosodwyd ar Brydain Fawr gan y Peith- wyr o'r Gogledd a'r Ysgotiaid, o'r Dwyrain, a'r Saeson o'r Goiilewin, yi hyn a ddigwydd- odd yn union wedi ymadawiad y Rhufeiniaid yn 407 o. c., nis gallai Brythoniaid gwareidd- iedig y De eu gwrthsefyll. Felly, ffoi a wnaethant i Ffrainc, a gwladychu yno yn y rhannau dwyreiniol, ar hyd ],-in y mor. Gal- wasant eu cartref newydd yr Armorig (sef y wlad ar y mor). Ond gelwir hi heddyw gan y Saeson Brittany (Fr. Bretagne), a Uydaw gan y Cymry. A ddarfu i chwi sylwi mor rhwydd y dysga'r Llydawyr Gymraeg ? Maent yn gwybod enwau Cymreig llawer o bethau cyn dyfod yma. Onid ydych yn adnabod Lly- dawr ? We], ariwaenweh ef yn well dan yr enw Shoni Winwns," feallai. Peidiwch a'i ddirmygu. Cofiwch ei fod yn perthyn o waed a chenedl i chwi. Cewch ragor o fan- ylion am y LIydawyr os darllenwch Drych y Prif Oesoedd," gan Theophiius Evans, a Tro yn Llydaw," gan O. M. Edwards. Yng Ngogledd yr Almaen, ar lannau'r Baltic, ceir llwyth bychan o bob) na pherth- ynant i'r Ellrnyn. Ni siaradent yr Almaen- eg, ond iaith tra gwahanol, yr hon a elwir Wendic, neu Windic. A beth a feddyliech chwi ? Nid yw yr iaith honno ddim angen na hen Gymraeg gwreiddiol! Cymry ydynt a adawyd ar ol gau ein cyn dadau areu taith i'r wiad hon, filoedd o flynyddoedd jrn ol. Ar lethrau'r Pigyrnau (Pyrenees), ceir llwyth o bobl na pherthynant i'r Ffrancod nac i'r Hispaenwyr. Iberiaid yw y rhai hyn, rhan o hen drigolion Prydain Fawr cyn dyfodiad y Celt. Basques y gelwir hwy. Pan oedd Iorwerth 1. yn goresgyn Cymru, diangai'r Cymry i'r mynyddoedd. Yna ceisiodd Iorwerth fyddin o filwyr y Basques i'w dilyn, a thrwy hynny y bu yn llwyddian- nus. A ddartlenasoch chwi yn y newyddiaduron rywbeth am Hughesoffska ? Dyna ein gwladfa ddiweddaraf. Sefydliad Cymreig Hughesoffska, yn neheu Rwsia; I Gaerdydd y perthyna y rhan fwyaf o'r trigoliou, ac aethant i Rwsia er mwyn gweithio yn y glofeydd. Ceir cymdeithasau Cymreig ym mhob cwrr o'r ddaer. Nid yw yr hen iaith byth yn fwy swynol a mwy melus i'r Cymro na phan y clywir hi ymhlith liafar dieithr yng ngwlad estroniaid, a pha le bynnag y bydd rhyw nifer o Gymry wedi gwladychu, fel y rhed y dwr ilr dyffryn, felly yr ymdyrrant ynghyd i gadw yr hen iaith yn fyw.O CymriCr Plant, OWEN L. HUMPHREYS.