Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

V RUIVPE". I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

V RUIVPE". Newyddion gydalr Pellebr. (HAVAS AGENCY.) I Awst 16. THE HAGUE —Mae'r gweinidog yn Llun- dain wedi ei gyfarwyddo i wneud ymholiad ynglyn a'r cyhuddiad fod awyrlongwyr Prydeinig, ar yr i6eg o Gorphenaf, wedi trespasu ar diriogaeth Isellmynaidd. N. YORK.—Dywed yr "Associated Press" fod amryw o swyddogion Rumania wedi croesi Siberia i ymuno a'r Ffrancod. P ARIs.-Mae Cynghorwr yr argenhad- aeth Chileaidd wedi marw. LLUNDAIN. Swyddogol.—Mae cadoffer y gelyn yn weithgar. Gorchfygasom ymosodiad lleol yn nosran Dicheiibier. Mae gweithgarwch cadoffer y gelyn yn cynyddu i'r gogledd ddwyrain o Kimmel. Yr ydym yn parhau i symud yn mlaen yn agos i Vieux Berquin, cym- erasom ynau peirianol. PARIS. SwyddogoJ.- Trodd ymosodiad y gelyn yn agos i Vesle yn fethiant. Gwnaethom ymgyrch ar ffosgloddau y gelyn yn ranbarth Meillesbushlus gan gym- eryd carcharorion. RHUFAIN. Swyddogol. Ymosododd y gelyn ar ein safleoedd blaenaf yn nyffryn Zebru. Gwrthgurwyd ef gyda choliedion iddo. I Awst 18. WASHINGTON.- Mae gweinidogion Bwl- gariaidd a Tyrcaidd i Rwssia wedi cyr- raedd i Berlin o Moscow a chwynant nad yw y Llywodraeth Bolshevikaidd yn abl i'w hamddiffyn. CHRISTIANIA.- Mae'r Uywodraeth wedi anfon nodyn i Berlin ynglyn a suddiad yr agerlong Norwegaidd Somerstadt. LLUNDAIN,-Dywed adroddiad o Moscow fod swyddogion sydd mewn cyssylltiad a'r symudiad gwrthchwyldroadol wedi eu cym- eryd i'r ddalfa yn Moscow a Petrograd ac wedi eu cymeryd i Kronstadt, Mae 236 wedi eu saethu eisioes. LLUNDAIN. Swyddogol,—-I'r gogledd o ffordd Roye ac i'r gogledd o Ancre bu ein cylchwilwyr mewn brwydrau bywiog gyd- a'r gelyn. Yn agos i Vieux Berquin yr ydym yn symud yn mlaen. Yn Merris cymerasom garcharorion. Mae cadoffer y gelyn yn weithgar yn nos- ranau y Somme. WASHINGTON.—Mae'r Kaiser wedi cad- arnhau penderfyniad y senedd Brwssiaidd i anfon ymaith y cyn-deyrngenad Lichn- owsky. STOCKHOLM.—Mae sibrwd ar led o ffyn- onell Ffinnaidd fod yr Almaenwyr wedi cymeryd meddiant o gaerfa Kronstadt. PARIS.—Dywed yr "Echo" fod yr Al- maenwyr yn parotoi i waghau Roye, Las- signy a Noyon. Mae'r uchod yn seiliedig ar yr hyn ddywed carcharorion Almaen- aidd. RHUFAIN. Swyddogol.—Mae brwydrau bywiog gyda'r cadoffer ar wastattir uchel yn ranbarth Grappa a chanol Piave. Ym- osodwyd gan ein cylchwilwyr ar safleoedd blaenaf y gelyn yn Vattelina, gan eu gyrru ymaith. Dygwyd dau o beirianau awyrol y gelyn i lawr. WASHINGTON.—Derbyniwyd heddyw wif- reb oddiwrth drafnnoddwr yr Unol Dal- aethau yn Irkutsk yn hysbysu fod y Checo- Slavs, gyda chynorthwy y Siberiaid, wedi cymeryd Irkutsk. HAGUE. Berlin.-Cyhoeddir -an y "Lo- I kalanzeiger" fod yr Almaen wedi derbyn yr awgrymiad wnaed gan Rwssia mai un o Archdduciau Awstria ddylai fod yn frenin newydd Poland.—Yn ol pob tebyg bydd i Carl Stephen gael ei ddewis. PARIS. Swyddogol.-I'r gorllewin o Roye, mae gweithgarwch mawr gyda'r codoff er. Yr ydym yn parhau i fyned yn mlaen i'r dde o Avre. Gwrthgurasom y gelyn rhwng Martiz a'r Oise, ac yr ydym yn cadw ein safleoedd. Trodd ymosodiad y gelyn i'r gorllewin o Reims yn fethiant. AMSTERDAM.—Cyhoeddir gan y "Berlin Tageblatt" fod y penaeth Sovietaidd lleol wedi eynnyg g-waith fel "typist" i'r Ymher- odres Maria, mam y cyn-Czar. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yr ydym wedi cadarnhau ein safte i'r dde o Bucquey, a gwrthguro ymosodiad dirybudd. PARIS. Swyddogol.-Mae'l' cadoffer yn weithgar rhwng Aisne a'r Oise. Trodd dau ymosodiad dirybudd y gelyn yn fethiant yn Champagne. LLUNDAIN. Kiebe.-Mae terfysgoedd yn parhau mewn canlyniad i gostau uchel byw. Mae'r terfysgwyr wedi yspeilio a llosgi amryw adeiladau. Nid yw'r hedd- geidwad yn abl i roddi y terfysgoedd i lawr, ac y mae cadluoedd wedi eu galw yno o Osaka. RHUFAIN. Swyddogol. Ar wastattir uchel Asiago ceisiodd y gelyn ein gyrru o'n safleoedd i'r dde orllewin o Grave Pa- padeli, ond gwnaethom wrthymosodiad di- oed a gorfodwyd y gelyn i syrthio yn ol ar 01 iddo gael colledion mawr, a gadawodd ar ol ynau peirianol. Cymerasom amryw garcharorion. P ARIS.- Dywed newyddion o ffynonell Swissaidd fod Tywysog Ruprecht Bavaria yn gorphwys yn Munich, a bernir gan y newydduron ei fod wedi ei glwyfo. RHUFAIN.—Mae adroddiadau o Switzer- land yn cyfeirio at y ffaith fod cyflvvr mewn- ol Awstria yn hynod ddifrifol. Mae cadlu gartrefol wedi eu ffurfio i ddal y lladron ag sydd yn cynyddu mewn rhif i raddau dy- chrynllyd. LENTEN.—Dywed adroddiad Prydeinig o'r ffrynt Italaidd fod cadoffer y gelyn wedi bod yn lied weithgar yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Er y gfed cyfisol yr ydym wedi dwyn i lawr 8 o beirianau awyrol, a dinystrio dwy awyren. Mae un o'n peirianau awyrol ar goll. Awst Ig. AMSTERDAM.—Mae Von Reventlow yn y "Tages Zeitung" yra dadleu dros gael gwrthymosodiad effeithiol yn erbyn y pro- paganda wneir trwy ledaenu pamphledau yn yr Almaen yn arbenig y rhai sy'n cyf- eirio at y datguddiadau gan Lichnowsky. LLUNDAIN. Adroddir gan "Reuters Agency" fod y fyddin Ffrengig o dan arweiniad Mangin wedi ymosod ddoe rhwng Oise ac Aisne ar ffrynt o 15 kilo- metres ac wedi myned yn mlaen 3 kilo- metres. WASHINGTON.—Mae'r trafnnoddwr Swed- aidd yn Moscow, ar ran y trafnnoddwyr Cydbleidiol, wedi gofyn i'w wlad anfon llong i Petrograd i gludo yn 01 300 o ym- noddwyr. WASHINGTON.—Dydd lau bydd i'r Senedd ddechreu'r drafodaeth ar y Mesur Milwrol Newydd. TOKIO.-Mae Matssudaira wedi ei enwi fel cynrychiolydd llysgenadol Japan yn yr hynt filwraidd i Siberia. RHUFAIN.-Dywed y newydduron pan y bydd i anhawsderau neullduol gael eu symud y bydd i gadluoedd Roumanaidd a Montenegraidd gymeryd rhan ar y ffrynt Italaidd ochr yn ochr a'r Checo Slavs. RHUFAIN.- Mae dirprwyaeth llyngesol yr Unol Dalaethau wedi cyrraedd. PARIS. Swyddogol.-—BU brwydrau ffyr- nig gyda'r cadoffer yn ystod y nos i'r gog- ledd a'r dde o Avre yn ranbarth Roye. Cymerasom 400 yn garcharorion, a symud- asom yn mlaen 2 kilometres rhwng Oise ac Aisne. Yr ydym mewn meddiant o'r gwastad- eddau uchel i'r gorllewin o Noinpocl, a chymerasom Nouvronuing gyda 3,800 yn garcharorion. AMSTERDAM.— Yn ol y "Frankfort Ga- zette mae y drafodaeth ar y benthyciad newydd Tyrcaidd wedi terfynu. LLUNDAIN.-Dywed adroddiadau o Hong Kong fod gorlifiadau wedi achosi niweidiau difrifol, mae 5000 o bobl yn ddigartref a 250,000 yn dioddef oddiwrth brinder bwyd. AMSTERDAM.-Mae'r "Pravda" newyddur yn Moscow yn cyhoeddi fod y Llywodraeth Sovietaidd am gyhoeddi rhyfel yn erbyn y cydbleidwyr yn lied fuan. Mae gweithrediadau pwysig yn cael eu gwneud yn Murmano gan y Checoslavs. Mae'r Sovietiaid wedi cyhoeddi fod y sef- yllfa yn alarmus, ac fod cyfryngiad Rwssi- aidd )n angenrheidiol. Gwnaed penderfyniad i symud y llywodr- aeth i Kronstadt. COPENHAGEN.—Mae gorchymyn newydd gael ei gyhoeddi gan Weinidog Cartrefol Prwssia yn gwahardd i luddewon, Pwyli- aid a Lithuaniaid i fyned i mewn i'r Al- maen. RHUFAIN. Swydd,)gol.-Mae brwydrau gyda'r cadoffer ar yr holl ffrynt, ac y mae y cylchwilwyr yn hynod weithg'ar. Gwasgarasom wahanluoedd y gelyn yn nyffryn Astico i'r gogledd o Colderosso. Gwrthgurwyd yn ddioed ymgais y gelyn i ymosod i'r dde orllewin o Papadoli. Dis- gynwyd gan ein peirianau awyrol ddwy duneil o ffrwydbeleni ar wersyllfaoedd peirianau awyrol y gelyn yn Livenza. LLUNDAIN. Swyddogol. Cymerasom garcharorion yn nosran Ayette i'r dde o Scarpe lie yr aethom i mewn i ffosgloddi- au'r gelyn. Yr ydym yn gwneud cynnydd yn nosran Merviile. Gwrthgurasom ymosodiad yn agos i Me- teren. Nid yw cyfanswm y carcharorion gymerwyd ddoe ddim yn hysbys hyd yn hyn. PEKIN.—Mae Charles Elliott wedi ei enwi yn Brwyadur llawnawdurdodedig i Siberia, a bydd iddo gychwyn yn fuan am Vladi- vostock. Awst 20. LLUNDAIN. Swyddogol. — Gwnaethom ymosodiadau llwydaianus rhwng Vieux Berquin ac Autersteen, gan symud ein llinell yn mlaen a chymeryd 182 yn gar- charorion. Ymosododd y gelyn bedair gwaith i'r gogledd orllewin o Chilly, ond gwrthgur- wyd ef bob tro. Cyrhaeddasom i ymyf muriau Merviile. LLUNDAIN. "Tirries.Mae y Llywodr- aeth yn bwriadu codi'r prisiau delir i gyn- yrchwyr haidd a ceirch. LLUNDAIN.-Mae'r "Daily Mail" yn rhag- weled y bydd i'r Almaenwyr waghau rhan fawr o diriogaeth Ffrengig, a dywed y dylid rhybuddio'r cadfridogion Almaenaidd y delir hwy yn bersonol gyfrifol am niweid- iau wneir i eiddo &c. STOCKHOLM.—Mae'r anhawsderau sy'n gwynebu yr Almaenwyr yn Ukrania yn cynyddu. Adroddir fod tren wedi ei dinystrio. Mae'r Almaen wedi sefydlu rhagfaeliad gronynau yd, gan wneud darpariaeth yn gyntaf oil ar gyfer y cadluoedd. Anfonir streicwyr i wersyllfa gydganol- iad yn Brest Litovsk. Awst 21. RHUFAIN. Swyddogol.—Ddoe ar ol par- atoad gyda'r cadoffer, ymosododd y gelyn ar ein safleoedd ilr gogledd a'r gorllewin o Corisone. Ar lechweddau Sassaroso, bu brwydro