Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
AR WERTH. MELIN FLAWD GAIMAN NEWYDD mewn cyflwr da.—Am fanylion, ymofyner a WILLIAM T. HUGHES. RICARDO BERGADA, Surgeon Dentist. Wedi graddio gyda diploma o Brif Ysgol Gwyddor Feddygol Buenos Aires.5 Mae y Dentist uchod yn aros yn nhy y Br. OWEN JONES, Trelew.
I Lloyd George a'i Erlidwyr.…
I Lloyd George a'i Erlidwyr. I Gan SAM ELLIS. Mae pob dyn mawr wedi bod yn wrthrych erledigaeth, ac nid ydyw Lloyd George yn eithriad. Erlidiwyd a merthyrwyd hen broffwydi Israel, a chroeshoeliwyd Arglwydd y Bywyd gan ddwylaw anwir. Dywedir pob drygair am brif gymwynaswyr y ddyn- oliaeth tra y maent yn fyw, a gwyngalchir eu beddau ar ol myned o honynt oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Yr oedd Abraham Lincoln yn un o'r dyn- ion puraf a thyneraf, ac yn un o'r gwladwein- wyr crafhlf a doethaf, er hyny cafodd yntau ei erlid hyd farwolaeth. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol, cyhuddid ef o fod yn orthrymydd gwaed-sychedig a phentyrid dirmyg ar ei ben gan lawer o bobl a phapyrau yn y wlad hon. Ceir hanes yn ail adrodd ei hun gyda Lloyd George yn awr. Y mae efe yn cael ei warthruddo gan ddosbarth cyffelyb i'r rhai a erlidient Lincoln. Ceir cryn gyfatebiaeth cydrhwng copperheads oes Lincoln a pasi- ffistiaid yr oes hon. Anhawdd penderfynu pa un ai dylni ynte inalais ydyw'r uodwedd amlycaf yn eu cymeriad. Ceir engraifft o ddylni y pasiffist yn ngwaith Llywydd eu cenadledd yn Llandrindod yn tystio mai perchenogion llongau Prydeinig oedd yn gyfrifol am barhad y rhyfel, a chaed amlyg- iad o'u malais yn ngwaith y Cocoa Press," y Sinn Feiner, a rhai o'r papyrau Cymreig yn cynllunio cwymp Lloyd George, pan oedd y baich drymaf ar ei ysgwyddau. Bu rhai pasiffistiaid yn ddigon ffol i geisio rhoddi gwenwyn yn ei fwyd, ond ymfodd- lona y rhan fwyaf ar geisio gwenwyno meddyliau ei gydwladwyr. Rhyw angenfil croes-rywiol cydrhwng cnaf a ffwl ydyw'r pasiffist-rhyw gyfutiiad .annghydgordiol o gyfrwysdra y naill, a hurtrwydd y lIaII. Mae'n wybyddus fod llawer o basiffistiaid yn y wlad hon wedi bod yn gweithio am wobr annghyfiawnder," ond mae'n debyg mai gweithio o genfigen yn unig a wnel pasiffistiaid Prydain. Y gosbedigaeth oreu ellid weinyddu i elynion Lloyd George fydd- ai ei gorfodi i fyw gyda'u gilydd ar ryw ynys. Meddylier am Sosialiaid, Anarch- iaid, Sinn Feiners, Cwaceriaid, offeiriaid Pabaidd, pregethwyr Ymneillduol, dau neu dri o olygyddion papyrau Cymreig, a bagad o gydwybodolion, yn ceisio cyd-fyw gyda'u gilydd, ac yn cydganu y Salm, Wele mor (idaioiius, Ac ilior hycryd yw trigo o frodyr yn nghyd." Buasent fel cathod Kilkenny yn cnoi a thraflyncu eu gilydd, ac ni fuasai achubydd iddynt, a dyweded yr holl bobl, Amen." Dywedodd Lloyd George dro yn ol ei fod yn gofidio gweled rhai o'i gyfeillion gynt wedi troi yn ei erbyn. Condemnid ef am na wrandawodd ar ffugdelerau heddweh y Kaiser, Gwrandawodd Rwsia ar addewid- ion Germani, ac mae'rcanlyniad yn wybydd- us i bawb. Dadganodd-yr Arlywydd Wilson ei fod ef wedi rhoddi astudiaeth fanwl i delerau Germani, ac wedi eu cael yn anonest. Mae Clemenceau, Prifweinidog Ffrainc, wedi profi a dadgan fod Cangellydd Awstria yn gelwyddwrtiigydwybod, ac eto ceir mair ddynioniach yn Mhrydain ac America yn beio ein harweinwyr am na roddasant eu gyddfau yn nghyraedd y rhaff a barotwyd gan y gelyn. Rhyfedd ydyw canfod yr un ffugresymau yn cael eu harfer gan Pro-Germans y wlad hon a rhai o bapyrau Cymru. Ail adroddjr yr hen stori ddwl ntai achos parhad y rhyfel ydyw pwnc Alsace-Lorraine, a lied awgrym- ir felly mai ar Ffrainc y gorphwys y cyfrif- oldeb mwyaf am y rhyfel. Hyd yn nod yn awr ar ol i'r tywysog jLichnowsky (y llys- genadydd Germanaidd yn Mhrydain adeg toriad allan y rhyfel) gydnabod fod Prydain wedi gwneyd a allai i gadw heddwch yn Ewrop, ceir rhai yn ddigon haerllug i daeru mai ar Brydain a Ffrainc y gorphwys rhan o'r bai. Cofus genyf ddarllen ysgrif faith yn y Goleuadamser yn ol yn beio Lloyd George am na wrandawai ar lais Ilywod- raethwyr Germani. Druain o. ddarllenwyr y Goleuad os mai dvna yr unig gyfrwng goleuni sydd yn eu meddiant. Os ydyw y goleuni sydd ganddynt yn dywyjlwch, pa faint fydd y tywyllwch." Mae Tarian y Gweithiwr'" hefyd wedi cyhoeddi rhai peth- au godai gywilydd ar filyn," chwedl Dewi Hafesp. Anhawdd genym gredu fod v "Genedi" ychwaith yn cyurychioli ond lleiafrif bychan iawn o geneftl y Cymry. Credwn fod mwyafrif aruthrol o'u cyd-gen- edl yn wladgarol a dyngarol. Pan gofiwn am y myrdd aelwydydd trist sydd yn ein. inam-wlad, teimlwn rnai gwaith gwael ydyw hau hadau amheuaeth yn myn- wesau y rhieni gollasant eu hanwyliaid tra yn gwneyd eu rhan ar y Cyfandir. Mae yn ffynonell o gysur i deimlo a chredu fod y bechgyu anwyl a glewion wedi syrthio tra yn amddiffyn cartref, gwlad a gwareiddiad. Creulonwaith brwnt ydyw gwaith golygydd neu bregethwyr yn creu ameuaeth yn medd- yliau y bobl gartref parthed cyfiawnder achos y CyngreirijMd a'r cyfrifoldeb o'r tywallt gwaed parhaus yn Europ. Ms gall undyn ystyriol a diragfarn gloffi rhwng dau- feddwl. Mae cyn hawsed penderfynu pwy sydd ar du'r Arglwydd yn awr ag ydoedd pan gydgyfarfyddodd Elias a phroffwydi Baal ar ben Carrnel. 'Rydym yn dra hyder- us na fydd raid i Lloyd George ffoi i'r an- ialwch fel yr hen broffwyd. Na, y mae efe yn fwy na choncwerwr ar lawr Sant Stephan ac yn nghalonau ei gydwladwyr ac eraiU. Byw fyth fyddo Lloyd George.—O'r Drych. ft CD a iIII ——————
O'r Cwm.
O'r Cwm. GWYL Y GLANIAD. Cynhaliwyd yr wyl hon eleni yn gapel (Bethel) y Cwm. Yr arferiad oedd, ei cliyii- al yn llynyddol yn Esquel, ond eleui drwy fod y tywydd yn anffafriol t'r flyrdd oddi yma i Esquel bron yn amhosibl eu tramwyogyda cherbydau, barnwyd mai doethach fyddai ei chynnal yma. Er fod yr hin yn fygythiol iawn yn y boreu, cafwyd diwrnod da er y cyfan, a daeth lJifer I uosog o'r trigolion yn nghyd ac aed ati yn syth i barotoi ar gyfer cael te. Erbyn berwi dwr a gosod y byr- ddau, a hyn a'r llall, yr oedd y merched glandeg oedd i ofalu am y byrddau wedi cyrraedd ac yn barod i'r gwaith.' Y rhai a gymerasant ran yn y gwaith hwn oedd a ganlyn :-Gofalu am y te, Mrs. Brychan Evans, tori bara tiienyn Mrs. Moses Jones, tori bara brith Br. Derfel Roberts. Y rhai a ofalent am y byrddau oedd Misses. Nesta Jones, Esti Hughes, Gwladys C. Thomas, Mabel Jones, Daisy Hammond, Cordelia Evans a Ellen Williams, ac yr oedd pob un o honynt yn feistr ar eu gwaith, ac ar ol digoni pawb gyda'r te a'r bara brith, cliriwyd y byrddau, ac aeth yokerched a'r bechgyn ieuainc i gyflavvni y gwaith peryglus o chwareu dau a thri, ac yna ar ol iddynt gael ychydig o amser i ddifyru eu hunain, galwyd pawb i mewn er cael dechreu ar y prifwaith sef y gyngherdd. Ar ol i bawb gymeryd ei le a chael tawelwch, galwodd cadeirydd y pwyllgor, sef Br. Derfel Roberts, ar' yr hen wladfawr Br. John D. Evans yn mlaen i gymeryd y gadair, ac yna ar y Br. W. L. Jones Glyn i arwain y cyfarfod, yr hyn waith a gyflawnant mor fedrus bob amser; Yna aed yn mlaen gyda'r rhagleu fel y can- lyn :—Can agoriadol gan Bob Roberts (Trefriw) a mab ynghyfraith i'r cadeirydd adroddiad gan Nefyn Jones, anerchiad gan y cadeirydd adroddiad gan Dewi Jones parti dan arweiniad Brychan Evans; adrodd- iad gan Dyfed C. Thomas adroddiad gan Morfydd Jones can gan Gwladys Roberts; adroddiad gan Morgan Evans adroddiad gan Meredyth O. Jones; adroddiad gan Alen Evans parti dan arweiniad hen arweinydd y gan sef Br. Dalar Evans adroddiad gan Newton Jones dadl gan Mabel a Matilda Jones unawd gan Miss Derfel Roberts adroddiad gan William H. Pugh adroddiad gan Gwladys Roberts parti dan arweiniad Br. John Owen adroddiad gan Dalar Evans. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau gan y Br. Bob Roberts, ac aeth pawb adref heb golli amser, o herwydd fod yr hin wedi oeri, aIr nos yn dod, a ffordd bell gan lawer o honynt i'w theithio adref. B. E. ><
Llongau.-
Llongau. ASTURIANO I'W disgwyl ym Madryn heddyw. QUINTANA i'w disgwyl i Madryn o'r De yfory (Sadwrn). CAMARONES yn y Brifddinas. MITRE i adael y Brifddinas, ar y 31am cyf. am y De.
V RUIVPE". I
-,yda'r d,jyla-,v. Cadwasom y gelyn yn ol gan aclwsi coiled iddo, a chymerasom am- ryw garcharorion. Yn Asiago cymerwyd carcharorion gan gylchwilwyr Prydeinig. Mae gweithgarwch mawr gyda'r cadoffer ar ran y ddwy ochr. AMSTERDAM,—Mae Gaccta Rhin West- phalia yn cyhoeddi fod cadluoedd Soviet- aidd wedi chwythn i fyny twnel Baikal ar y rheilffordd Trawsiberaidd. BASLE.-Dywed hysbysrwydd cyfrinachol fod anesmwythder mawr yn Warsaw. Mae'r heolydd yn llawn o gylchwilwyr Almaen- aidd. Mae llawer wedi eu cymeryd i'r ddal- fa. WASHINGTON.—Yn ystod Gorphenaf dyg- wyd i lawr gan beiriannau awyrol Ffrengig 45 o beiriannau awyrol y gelyn yn linellau y Cydbleidwyr, a 139 yn lineilau y gelyn, heblaw clinystrio 49 o awyrenau. PARIS. Swydclogol. TanbeJenir gan y ddwy ochr yn ardal Lassigny a Deslincourt. Tanbelenwyd Naucy gan beiriannau awyrol Almaenaidd, gan achosi 6 o farwolaethau, a chlwyfwyd 20. LLUNDAIN. Swyddogol. Gwnaeth Haig ymosodiad boreu heddyw ar ffrynt eang i'r gogledd o An ere. Gwnaethom gynnydd ffafriol mewn can- lyniad i'r ymosodiad. Gorchfygasom yn IJwyrymosodiadau cryfion y gelyn, yn cael eu dilyn gan dan- beleniad ffyrnig ar ein safleoedd newyddion i'r gogledd a'r dde o Scarpe. Cadarnhasom ein safleoedd yn ardal Fain- poux, a chymerasom rai carcharorion. Yr ydym yn symud ein llinell ym mlaen yn ar- dal Festhubert, AMSTERDAM. Dywed newydduron Al- maenaidd na fydd i Von Helfferich ddych- welyd i Pskov, o herwydd anghydfod gyda Von Hintze ynglyn a'r polosi i'w gymeryd yn Rwssia. AMSTERDAIII.-Dywed "BerUn Lokalan- zeiger fod y Bolsheviskiaid wedi cymeryd i'r ddalfa y cyn-Grand Duke Pablo Alex- androvitch. RHUFAIN. Swyddogol.—Mae gweithgar- wch mawr gyda'r cadoffer ar ran y ddwy ochr yn y cylch mynyddig. Darfu i ergydion ein gynau peirianol gyrraedd cylchwilwyr y gelyn %ar lanau y Piav-e. Dygwýd i lawr bedwar o beirianau aw- yrol y gelyn. LLUNDAIN. Reuter.- Y mosododd y drv- dedd fyddin ar ffrynt o naw milldir gan gymeryd Courcetles ac Achiet-le-petit. PARIS. Swyddogol.— Rhwng yr Oise a'r Aisne mae'r sefyllfa heb newid. Yr ydym yn parhau i symud yn miaen ac yr ydym wedi cymeryd Carlepont. Gorchfygasom ymasodiad dirybudd yn Champagne. PARis.-Mae Clemenceau wedi dych- welyd o'r ffrynt a gwelodd yr ymosodiad cyntaf o dan arweiniad Margin a datgana edmygedd ynglyn a'r holl weithrediadau, ac y mae wedi ei foddhau yn fawr gan ei ymweliad. MANAGUA.—Cyhoeddir fod Nicaragua a Honduras mewn anghydwelediad ynglyn a chwestiwn y ffiniau. Mae Honduras yn barod i gyflwyno y mater i gyflafareddiad brenin Ysbaen. Yr un pryd bydd iddi anfon cadluoedd i'r ffin.