Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YN EISIEU.

.Dalier Sylw. I

Lord Roberts Memorial Fund.

Yr Eisteddfod.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr Eisteddfod. Da genyf ddeall fod nifer dda o gynyrch- ion ar gyfer hon wedi eu hanfon i'r ddau feirniad yng Nghymru, a bod cryn barotoi gyda dysgu yr Adroddiadau a phethau eraill sydd i'w clorianu gan ein beirniaid lleol hai ati bobl ieuainc y Wladfa, y mae genych eto fis llawn o amser i orphen a chaboli eich cynyrchion cyn yr amser a nodir ar y rhag- len i'w hanfon i mewn, hai ati o ddifrif 'mhlant i.— Deallaf nad yw y copiau cerddorol hyd yn hyn wedi cyrhaedd o'r Hec Wlad, eithr nid bai y pwyllgor mo hyny, gan yr archwyd yr oil yn brydIon-y rhytel echryslon yn Ewrop sydd wedi dyrysu a thaflu y byd oddiar ei echel megis, ond fe ddaw pethau i drefn eto yn araf deg, ergwaethaf holl alluoedd y fall a'i chynrychiolydd ar y ddaear, ond hyd oni cheir trefn a heddwch i deyrnasu, rhaid gwneud goreu o bethau fel y iiiaeiit-gydalr eisteddfod a phobpeth arall. Yn awr, carwn awgrymu i'r pwyllgor yr hyn a ganlyn,-ar iddynt ddewis Anthem Gymreig allan o un o'u llyfrau Tonau arferir genym yn y Wladfa, i fod yn brif ddarn cys- leuol yn yr eisteddfod eleni; nid wyffathyn y byd o gerddor, ond credaf yn onest y mwynhai ygwrndawyr ddatganiad felly yn fawr, oblegid nid oes neb a wad nad ywcanu da ar emyn ac anthem yn dra thebyg o fed- ru'r ffordd yn syth i galon pob cymro, a chymry biau'r eisteddfod drwy'r byd. Yn bersonol, nid oes genyf ddim yn erbyn. y dulliau y cerir y gwahanol wyliau perthynol i genhedloedd eraill yn mlaen yms, ond credaf fwy yn yr Ysgol Sul, y cyfarfod LIen- yddol a'r Eisteddfod fel moddion addysgol ac adlonol, na'r oil o honynt gyda'u gilydd, a phell fyddo'r diwrnod i'r Wladfa-yr elfen Gymreig o honi-ollwng ei gafael o'r Ysgol, ei Chyfarfod Llenyddol a'i Heisteddfod, o golli y rhai'n, collwn ein pethau goreu-yn olasyniaffi. Hyderaf yn fawr na fydd i'r ffaith fod y copiau heb gyrhaedd, beri gohiriad yr eis- teddfod eleni, y mae rhyw ddiflasdod cas yn dilyn y gohirio yma bob amser, Traethed arall ei farn ar hyn, y mae yn bosibl y gellir taro ar ryw gynllun arall, gwell Dé.l'r eiddof fi i gario pethau drwodd, ond yn fy myw nis gaHaflai na meddwl ei bod yn bosibl i'r pwyllgor drefnu i ddewis An- them yn brif ddarn cystadleuol i'r corau am y tro, ac o hyiiy gellid yn hawdd ddisgwyl trineu bêdwar cor i gystadlu a chael canu da. W. H. H. i —————

Gaiman ar Eglwys Latinaidd…

—————————— I THE KING'S…