Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YN EISIEU.

.Dalier Sylw. I

Lord Roberts Memorial Fund.

Yr Eisteddfod.

Gaiman ar Eglwys Latinaidd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gaiman ar Eglwys Latinaidd Brotestanaidd. Br. GOL. Bu'r ysgrifennydd yn ymweled a'r eglwys uchod nos Wener, Awst y 23ain cyfisol. A da yw gennyf allu dywedyd wrth ddar- llenwyr y DRAFOD a caredigion yr achos da, fod yr eglwys hon yn cryfhau, ac yn myned ar gynnydd yn gyflym iawn, mewn nifer, ac mewn ilawenydd ysbrydol. Yr oedd tua 30 neu ragor yn bresenol yno, a llawer o honynt yno ym mhell cyn amser dechreu, dyma wers ac esiampl dda i ni Qymry'r Wladfa. Clywais lawer o'r aelodau mewn oed yn diolch am y cyfleusterau, breintiau, a'r ben- dithion moesol ae ysprydol oeddynt wedi eu cael trwy gyfrwng gweinidogaeth eu bugail Ilafurus-S. Arias Castro. Felly, gwelir yn amlwg fod Duw yn ben- dithio'r gwaith a llwyddo'r Efengyl ymhlith y cenhedloedd lluosog hyn. Llawenydd mawr i bawb o'r saint fydd deall fod yr eglwys hon, oedd mor Ileied a phedwar mewn nifer o aelodau cytlawn ddydd ei hagoriad (y gfed o Orphenaf), yn awr yn rhifo 40 220 oedogion ac 18 o dan yr 16eg oed. Hefyd, Ilawenydd gennyf yw deall trwy eiriau y cenhadwr Arias, fod y bobl ieuainc wedi dechreu yn y gwaith cyhoeddus, i weddio a dweyd eu profiad yn y seiat. Dyma weithredoedd ac y dylasai pob dyn ieuanc eu hefelycbu yn yr eglwysi y perth- ynant iddynt, Fel y dywedais eisoes, bum yno nos Wener diweddaf, yn eu cynorth wyo i gynnal yr achos, a da oedd genllyf fod yno a deall a theimlo bod derbyniad cynes a dymuniad taer gan y frawdoliaeth hon, i bawb a fedr ddyfod yno, i roddi eu presenol- deb a'u cynorthwy iddynt yn y wedd oreu a fedrant. Deallwyf y bydd i'r Parch. Tudur Evans fod yno nos Wener nesaf. Bydded i fendith Duw fod ar y gwaith. Dyledswydd gristion- ogol sydd yn galw arnom i roddi pob cyn- orthwy a fedrwn i'r eglwys ncwydd hon, sydd eto yn wan, i allu byw y bywyd newydd sydd wedi gafael ynddi, Bydded i'r Hwn a'i bendithiodd hyd yma, ei bendithio eto, defnyddied Ei was llafurus i fod yn offeryn addas yn Ei law i arwain craill eto at y Ceidwad, i gael meddiant o'r bywyd tragwyddol. I ESAU EVANS.

—————————— I THE KING'S…