Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Nodion.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion. Gan GAIMANYDD. William Tyndale, Diwygiwr mawr Seis- nig yr unfed ganrif ar bymtheg, Cyfieith- ydd y Bibl i iaith y Saeson, ac un o Ar- dderchog lu'r Merthyron," oedd testyn darlith. y Parch. D. D. Walters ger bron Cymdeithas Camwy Fydd nos Wener yr eilfed cyfisol. Gymaintoedd ei barch a'iedmygedd o Air Duw fel yr ysgrifenodd Tyndale beth fel hyn yn ei ragymadrodd i'w gyfieithiad o'r Testament Newydd. Yr wyf yn galw Duw yn dyst pan yr ymddangosaf ger bron brawdle Crist, i roddi cyfrif olm holl weith- redoedd, nad wyf wedi newid un sill o Air Duw hyd eithaf fy ngwybodaeth, ac na wnaethwn hynny am holl anrhydedd y byd hwn pe y rhoddid ef wrth fy nhraed." -0- Beth amser yn ol mewn cyfarfod cystad- leuol yn Seion, Bryn Gwyn, yroeddcynnifer saith o feirdd (egin beirdd beth bynag) yn ymgeisio ar bennillion i'r Gwanwyn," Prysor feirniadai, a rhoddodd air canmolus i rai o honynt. -0- Digon di raen yw'r Gymraeg yn ami gen- nyin ar lafar, mewn ysgrifen neu mewn argraff, Ond yr Wchw Fawr Chwedl Mabon, o'r braidd y gwelwyd hi erioed waethed ei gwedd a'i diwyg, ag ar furleni yr hunanhysbysebwr oddeutu dyddiau yr Eth- oliad yn Gaiman. Beth feddyliech o hyn, Etholwch Inad Fledwch, Imgaesydd Anibrynol." -0- Cynhaliwyd nifer o gyfrrfodydd gwleid- yddol o fewn cylch y gorphoraeth cyn dydd yr Etholiad, ae yng nghanol graddau helaeth o frwdfrydedd ac unfrydedd y dewiswyd y Bwyr. Elias Owen a Llewelyn Griffiths i seddau ar y Cyngor, a'n cyn ynad Br. Riohard Nichols am yr Ynadaeth. Yr oedd yn amlwg er's tro ^od yr wrthblaid wrthi yn gweithio a'u holl egni, heb arbed na thraul na thrafferth. na dawn 11a dichell er cyrraedd eu hamcan o gael eu dewis- ddynion hwy i fewn- Daeth pedwar i'r maes yn chwaneg am fainc yr Ynad. Ond wrth inni ymgecru ac anghydweld ar y funud olafaciryw giwed benchwiban droi'n frad- wyr ysgeler, collwyd hi ac aeth yn eiddo arall. Ochir a thuchanir yu drwm heddyw o'r her- wydd, a chenir marwnad pob hawl a braint ym mhob maes a marchnad, acar gongl pob heoL -0- Aeth ein dau gynghorwr i fewn gyda mwyafrif anrhydeddus, sef y Bwyr. Elias Owen a Llewelyn Griffiths,-y cyntaf yn hen gynghorwr profiadol ac yn arxvr llu o frwydrau gwladfaol, a'r Llew ieuanc yn cymeryd ei sedd ar gyngor y rhanbarth am y tro cyntaf. Yn wir meddai cyfaill wrthym wedi clywed am ei lwydd, y mae eisiau am- bell lew yna. Llongyfarchwn y ddau yn galonog. -0- Awst y 1ge9. ym mynwent newydd y Gaiman, cleddid yr hyu oedd farwol o'r hen gymrawd hoff Edward Lloyd o'r Dyffryn Uchaf, yn 69 rnlwydd oed. Bu farw nos Sadwrn blaenorol wedi cystudd caled am dri diwrnod. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parch. D. J. Williams, Trelew. Cyd- ymdeimlir yn ddwys a'i unig fab Alun a'r teulu. > • <

[No title]

.Llongau.

ICia. Unida de Irrigacion…

Advertising

Cwmni Undebol Dyfrhaol y Camwy.…

V RHYFEL. I