Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
At ein DarlSenwyr. Streic gwasanaethyddion y Llyth- yrdy yw'r rheswm am fod gan lleied o newyddion gyda'r pellebr yr wythnos hon.
Gleanings.
Gleanings. What a pity that that brave Russian girl failed to bag Lenin, who is now out of danger, but not out of the danger zone," as someone else is sure to down him before long-and what about his friend Trotsky ? So Von Hintze is in Vienna on a "special mission "-I hope that somebody will give him some few broad hints about what is going to happen there and in Germany in the very near future. In the next edition of "The Universal Spelling Book" will be found "Austria- Hungry." "William the Last" has reigned thirty years at an average cost to humanity of $5,000,000,000 (gold please !) a year, so you see it is no joke to call him Bill. "There will be revolution in Germany, but it will be after the war," says Ambassa- dor Gerard. Let us hope it will be soon after, so the boys can see it during their coming visit to the grand city of Berlin. A captured German officer says Germany must have peace as soon as possible. Well, well, he needn't over worry himself about the matter at all, as the Allies will see that she gets it—but not the German-Russian style of peace The word Piave" stands for "rain" in Italian, but to Emperor Carl of Austria it means deluge." W. H, H. ———— ————
Lord Roberts Memorial Fund.
Lord Roberts Memorial Fund. Derbyniwyd y symiau hyn oddiwrth yr Eglwysi canlynol Bryn Crwl1 5 507.20 Treorci it 302.00 Bethesda 11 (1 281,00 Glan Alaw > 176.00 Trelew ,I 891.00 A. THOM MORRIS. Anglo South American Bank. Trelew, Medi 13, 1918.
Family Notices
GENI. HUGHES.—Awst 30, ganwyd merch i'r Br. a'r Fones Arthur Hughes, Erw Fair, y fam a'r ferch fach, yn ol a ddeallwn yn dod yn mlaen yn iawn. DA VIES,-Medi 8fed, ganwyd mab i'r Br. a'r Fones William R. Davies,
IV RHYFEL.
I V RHYFEL. 0 ddarllen hanes, cawn fed yr ysfa aniwall am "fyd-lywodraeth" wedi arwain am] i wlad a theyrn i geisio dwyn hyny oddiamgylch-a methu; ac os ydyw hanes y mynedol yn faen prawf cywir i geisio iTurfio barn am ganlyniadau alaethus yr ymdrech bresenol o eiddo yr Almaen i ddwyn y byd o clan ei hawdurdod, y cas- gliad naturiol y deuiriddo ydyw, mai methi- ant truenus sydd yn ei haros hithau. Gwelwyd Assyria fawr a chadarn yn trefnu ei lluoedd i fathru iawnderau cen- hedloedd o dan ei thraed; ymffrostiai ei brenhinoedd hyfalch yn eu gallu a'u cyf- oeth, ond erbyn heddyw y mae eu prif- ddinas—fu'n nythle pob drygioni, Ninifeh fawr, wedi ei dinystrio yn llwyr a bythol, a'i hadfeilion yn gladdedig a dan haenau lwch canrifoedd iawer. Persia hefyd fu a'i bryd ar ddarostwng y byd i fod yn eiddo ei choron ac yn gaeth- was iddi, ac ofnadwy greulon ydoedd hi bob amser wrth y sawl, a drechid ganddi mewn rhyfel, ymdeithiai Xersxes a'i fy- ddinoedd yn llwyddianus am yspaid, ond yn morfrwydr fawr Salamis gwelodd ei holl obeithion yn diflanu fel mwg. Rhufain enwog hefyd a feddianwyd gan yr awydd am "fyd-lywodraeth", a llwydd- iant mawr a goronodd ei hymgais am gyf- nod hir. Dyn ardderchog ydoedd y rhuf- einiwr, ac y mae ei ol a'i ddylanwad yn fawr ar y byd a'i hanes hyd heddyw; deallai ef yn well na neb a fu o'i flaen- nac at: ei ol am y rhawg hefyd o ran hyny, mai y ffordd oreu 1 lywodraethu gwledydd a gymerid i mewn o dau gysgod y Human rhufeinig ydoedd drwy barchu y trigolion a dangos iddynt werth ei wareiddiad uvvch ef; ond er cymaint y llwydd a fu ar ei waith y diwedd fu iddo yntau fethu, a chwymp ei ymherodraeth a fu mawr. Gwelwyd yr Arab yntau yn ceisio cer- dded ar hyd hen hvybrauy rhufeinwr- ond yr oedd byd o wahaniaeth rhwng y ddau a'u gilydd, gwr caredig ei natur oedd y naill a chreulon y llall, a ymdeithiai o dan orchymyn Mahomet i ddarostwng" y byd a'i orfodi i dalu gwarogaeth i'w dduw (Allah) ac iddo yntau fel y gwir a'r unig brophwyd yr oedd y gorchymyn a roddai Mahomet i'w filwyr yn creu ynddynt deiml- adau a bwriadau cythreulig—"anffydd- wyr" a "chwn" ydoedd pawb ar na chy- ffesent ymostwng i Allah a Mahomet, ac yr oeddynt oil i gael eu difa' yn IIwyr, a chofied y darllenydd mai yr un ydyw ys- pryd mahometaniaeth yn ein dyddiau nirtiau heddyw eto-cofier mai dyna y grefydd sy' gyfrifol am y creulonderau ofnadwy yn Armenia a manau cyfagos lie y llywodraethir gan y Twrc anwar—ond daw diwedd ar ei rwysg yntau gyda hyn! Y gwr a dorodd rym yr ymosodiad Arab- aidd (saracens) ar gristionogaeth y cyfnod hwnw ydoedd Charles Martel, a c yn mrwydr fythgofiadwy Tours yn y fl: 732 y cymerodd hyny le, pryd y gwaredwyd Ewrob rhag syrthio yn ysglyfaeth i'r gallu Mahometanaidd. Philip II o'r Hispaen hefyd a welwyd yn ymfawrhau a'i fryd ar ddwyn y gwledydd yn gaeth i'w awdurdod yntau a'i feistr cyfrwys, y pab o Rufain, ac i'r amcan hwnw adeiladodd lynges gref—"Yr Ar- mada anorchfygol" fel ei gelwid, i dda- rostwng Prydain a'i brenhines (Elisabeth) i'r llwch, ond, druan ohono! ei lynges fawi- eddog a wasgarwyd yn ysgyrion gan lynges Prydain-fechau y pryd hwnw, ac o hyny yn mlaen, ni fu fawr o son am allu milwrol yr hispaen, tra y cynyddodd grym llyngesol Prydain gymaint erbyn heddyw, nes y mae wedi bod yn abl i allu achub byd cyfan rhag caeLei ddwyn yn gaeth o dan sawdl y filitariaeth gryfaf a mwyaf haerllyg yn holl hanes gwledydd y byd. Y ddwy ymgais nesaf at "fyd-lywod-
V RHYFEL.
V RHYFEL. ^lewyddjosi gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) Medi 5. GENEVA.—Mae arian y Cydbleidwyr yn enill yn gysson mewn gwerth. Moscow.—Mae perthynasau Kerensky, yn cynwys ei fam, ei wraig gyntaf a dau o Want wedi eu cymeryd i'r ddalfa. BERLIN.—Ymwelodd Scorto-pagsky, Is- ysgrifenydd tramor Ukrania, a'r Kaiser. Moscow.—Mae cyflwr Lenin yn foddhaol er y gall anhwylusdod ymddangos eto yn- glyn a'i ddolur. ZURICH. Dywedodd Prif Weinidog Awstria wrth ddirprwywr y byddai i Aws- tria-Huftgary yn fuan gael heddwch an- rhydeddus. AMSTERDAM.—Dyvved Frankfort Gazzette fod aelodau o Lywodraeth y Maximilistiaid wedi hysbysu y Cydbleidwyr (Entente) y bydd i'r Maximilistiaid drefnu i gael ym- osodiadau ar Wladweinwyr y Cydbleidwyr yn eu gwlad eu hunain os gwneir ymgais eto i ymosod ar fywydau Gwladweinwyr Maximilistaidd. NEW YORK. -Mae gwasanaeth awyrol llythyrgludol wedi ei ddechreu rhwng New York a Chicago. WASHINGTON.—Dywed y Swyddogaeth Lyngesol fod suddlongau wedi suddo, yn ystod y chwe mis cyntaf o'r flwyddyn, llongau cydbleidiol ac anmhleidiol yn sefyll am gyfanswm 0 2,089,300 o dunelli. Mae'r adeiladwyr llongau wedi troi allan yn ystod yr un cyfnod nifer o longau ag sydd gyda'u gilydd yn 3,113,591 o dunelli, VIENNA.—Mae Von Hintz wedi cyrraedd. WASHINGTON.—Yn ystod Awst anfonwyd allan gan adeiladwyr llongau Gogledd America 66 o longau yn sefyll am gyfan- swm o 34,045 o dunelli. Medi 6. P ARIs.-Dywed y "Figaro" fod yr Al- maenwyr yn gwneud camgymeriad mawr' trwy eu hymdrech i gadw eu safleoedd ar yr Aisne. Yn ngwyneb pob ymdrech o'r eiddynt mae eu henciliad tu hwnt i Chemin des Dames yn ymddangos yn anocheladwy. BERNE.-Mae sefyllfa fewnol Awstria- Hwngari yn hynod ddifrifol. Gwaherddir cyhoeddi newydduron Checo-Slav. RHUFAIN.—Ymwelwyd a Sonnino ac Or- lando gan ddirprwyaeth Seneddol Gogledd America. AMSTERDAM.—Mae newydduron Almaen- aidd yn cyhoeddi cylchlythyr maith oddi- wrth Hindenberg yr hwn sydd yn beirniadu yn llym ganlyniadau lledaeniad y "propa- ganda" medrus ddygir yn mlaen gan y Cydbleidwyr, gyda chanlyniadau niweidiol mewn cylchoedd milwrol a gwleidyddol yn yr Almaen. WASHINGTON.—Suddwyd, gan suddlong, yr agerlong "Larke Owens" perthynol i Gogledd America. Mae 5 o r dwylaw ar goll. PARIS. Swyddogol.—Yr ydym yn parhau i symud yn mlaen rhwng y Somme a Vesle ac yn gwneud cynydd da yn ranbarth y Somme. Croesasom y Somme yn ranbarth Epe- nanicourt, a chymerasom Leplessis, Patt- sboie, Berlancourt, a chyrhaeddasom yn agos i Vaux Aillon. Mae cadluoedd yr Unol Dalaethau wedi cyraedd i Villers-en-grayeres. Dygwyd i lawr 15 o beirianan awyrol y gelyn. LLUNDAIN. Munich via Geneva.Mae Hartlingwedi ymddiswyddo o herwydd gwaeledd iechyd. LLUNDAIN. Swyddogol.—Mae'r Prydein- wyr wedi cymeryd Neuvechapelle a Bussy. Ddoe croesasom y Somme i'r dde o Peronne yn ngwyneb g-wrthwynebiab ffyrnig ar ran olfyddin y gelyn oedd wedi ei gosod ar lan ddwyreiniol yr afon. Cymerasom Saint Christ, Lemonil, Bruntel, Doerigt. Symud- asom ein llinell yn mlaen i'r gogledd ddwy- rain o Amiens gan gymeryd carcharorion, a chyrhaeddasom bentrefi Anhies a Non- senchausen. Yn Templcauxsoesse cymerodd brwydrau buan le. PARIS.— Yr ydym wedi cymeryd Ham. AMSTERDAM. Dywed Rhine Gazite fod Dora Kaplan ag sydd ynglyn a'r ym- osodiad ar Lenine yn IJwael ei hiechyd, ac wedi ei chymeryd i Ysbytty. RHUFAIN.—Mae 300 o garcharorion Ital- aidd, yia dioddef oddiwrth "tuberculosis", wedi cyraedd ac wedi rhoddi adroddiad o'r driniaethannynol y darostyngwyd hwynt iddi yn y "concentration camp", yn Awstria, lie y gorfodid hwy i weithio. Mae'r olwg arnynt yn resynol. — 1 1 ■