Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
I GAIMAN. I
I GAIMAN. I I CAMWY FYDD. I Nos Wener, Gorphenaf 6ed a'r 26ain, caf- wyd anerchiad fhagbrol gan y Parch. Esau Evans ar y testyn t, Gwerth Dyn i Gymdeith- Aeth trwy faes helaeth llawn o amryw- iaeth cyfoethog. Yn gyntaf daeth ag eng- reifftiau o ddyn fel creadur afradus, fe ddis- trywia dyn goedwigoedd mawrion, maluria gymalau pwysig mewn peirianau o herwydd diotalvvch, a theifl longau bach a mawr o'r neulldu ar ol eu defnyddio am ychydig droion. Ond gwel y celfyddwr medrus fod modd eu cywiro a'u cymhwyso i fod eilwaith o wasanaeth i gymdeithas. Ond gwelir ami i ddyn wedi ei luchio gan ei chwantau a'i nwydau taiillyd i gyrrau isaf rnoesoldeb, ond ni wel neb ond Duw werth ynddo mwyach i'w godi a'i gywiro o laid y byd. Geilw Cymdeithas yn uchel a chlir am ddynion galluog a medrus, rhailn meddu addysg a gwybodaeth, deall a cymeriad, dytna"r math b ddynibn sydd angen ar gymdeithas i godi ei chaerau, i ddyrchafu ei gobeithion, ac i'w harwairt tua talaeth perffeithrwydd. Dynion di-addysg ac anwybodus ywlr rhai sydd wedi arwain cymdeithas ar gyfeiliorn. Ni eill dyn fod o neriior werth i gymdeithas oni byddo yn berchen addysg, ac wedi meithrin y galluoedd canfyddol. Dynion annysgedig yw stumbling blocs yr oes, cyn- lluniant bob atalfa ar lwybrau dadblygwyr. Hwynt sydd iawn. A'r neb a faidd eu gwrthwynebti gaiff ddioddef gwawd ac erled- igaeth. Ond ni chymfer y pioneers nembr sylw o honynt, ant drwy bob atalfa, dringant yr anhawsderau, ac ymwthiant drwy bob rhwystrau er cyrhaedd eu gobeithion i wella'r ddynoliaeth, Dros dir a mor mae eu Ilwybrau yn ddi-atal. Archwilir cyfandir- oedd, pegynau'r ddaear, ac ardaloedd rham- antus tan-y-mor, treiddir -i ddirgelion yr atom, yr ether, a'r meddwl, llyfelir mynydd- yddoedd a gwneir lleoedd anhygyrch yn dramwyol, a thrwy, gywreinwyr a medrus- rwydd dyn dadblygir fferylliaeth, gvveHif y ddaear a dyrchefir dynoliaeth. Dyma un o'r engreifftiau roddodd y Br. anerchydd yn dangos gwerth dyn i gym- deithas. Gwerth haiarn yw $ 20 noler aur y dunell. Cymhwyswch ef i wneud pedol ceffyl, bydd yn werth $ 90 noler. Gweithiwch ef eto i wneud llafnau cyHill, a bydd werth $ 200.00 noler. Drachefn coethwch ef i fod yn spring oriawr a bydd yn werth mil o ddbleri aur y dunell. Gwerth yr haiarn o hyd yw $ 20 noler aur, ond y mae'r nerth ymenyddol (Brain Power) yn werth $900 ag 80 noler. Oni ddengys y flaith hon yn unig, pe heb yr un arall, mae'r dyn o feddwl diwylliedig ywlr mwyaf defnyddiol a gwasanaethgar i gymdeithas. Hefyd dywedodd mai Pererin yw dyn yn teithio tua dinas ardderchog, a delfrydau ac uchelgeisiadau yw ysgbgwyr pennaf ei fywyd. Dyhead am ddringo Himalaya gwybodaeth sydd ar bob dyn fo wedi sylweddbli ei bosibilrwydd, athemtir ef gan ei ddychymyg i ymgymeryd a thaith bell taith sy'u Ilawn 0 rwystrau a siglenydd per- yglvs, bydd filii o ellylion yn ceisio ei faglu a llawer cawr anobaith yn gwgu arno, a chant o rianod pleser yn ceisio ei ddenu, ond os bydd ganddo benderfyniad yn ei galon a hyder yn ei obeithion fe fflachia i'r golwg yn y man yn arwr wedi ennill yr holl fuddugol- iaethau, cyrhaeddodd ei binacl, Think out your work, work out your thoughts." MEDDYLYDD.
Nodion.I
Nodion. Gan GAIMANYDD. I, Er fod cyrddau'r gauaf yll prysur ddirwyn i'r terfyn fel tae, eto deil ami un o honynt yn hynod lewyrchus, a chad want eu bias, ac un o'r rhai mwyaf felly oedd yr un gynhaliwyd dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol Bethel nos Lun Awst gfed. Prif waith y cyfarfod hwn oedd Anerchiad gan Br. John Foulkes ar Hawliau Dirwest ar ieuenctid." Traeth- odd yn helaeth ar effeithiau dinystriol y ddiod feddwol, a'r trueni dibendraw ddeiHia o'i herwydd, taer anogir ieuenctid i ofaluym more'u hoes am ymdrechu dod o hyd i'r llwybf arweinia i sobrwydd a glendid cym- eriad eglufodd yn fanwl hefyd yr iselder anfoesol y gall y ddiod ddamniol arwain dynion diofal a blysiog iddo, yn nghyd a'r gwae anocheladwy ddaw i ran y rhai ddech- ry chwareu yh ei chylchynion Ilygredig- Yn y diwedd hi a frath fel sarph ac a biga fel neidr." Gwasgai'r Br. Foulkes yn rymus ar i ieuenctid y Wladfa ddefnyddio eu holl allu i ymladd yn erbyn a chadw draw yr arch elyn sy'n iladd mwy ar gyfartaledd na'r Armagedon ofriadwy yn Ewrop, Chwi Gymdeithasau Dirwestol y Camwy, gwa- hoddwch yr Apostol Ddirwestol hwn am dro i'ch plith, cewch wiedd ddigymar, athyStiwn na fydd edifar genych. Arweiniwyd y cyfarfod gan Tremydd, ys- grifenydd llafurus y Gymdeithas, Caed y gan agoriadol gan y Fonesig Lizzie Williams ac adroddwyd Y Berth yh llosgi," gan Br. W. J. Jones, Llwyn Onn. Yna bu cystadlu areithio difyfyr, amryw yn cynnyg. Y Parch. D. D. Walters yn clorianu, a'r ddeu-lauc Dyfed Rowlands a Herber Evans yn gyd-radd oreu. Terfyn- wyd trwy ddeuawd swynol gan y ddwy fonesig Mair Evans a Myfanwy Roberts. -0- Datllenodd yr Athro R. Nichols bapur rhagorol iawn ar Sarmiento tin o arwyr pen- af Archentina, o flaen Cymdeithas Camwy Fydd nos Wener y 6ed cyfisol. MJUB gait da i draethiad galluog yr Athro. ar ei hoff atwr. Ae ar y nos Wener dilynol aeth yn ddadl frwd, ond heb ffrae na ffrwgwd rhwng Prysor a'r Br. J. H. Rowlands ar destyn tra Gwlad- faol sef,—" A yw'n egwyddor deg i drethu dwr yn ol y pellter." Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gaii y bardd, a'r nachaol gan y garddwr, a phan ranVvyd y Ty ar y diwedd, trodd y mwyafrif o blaid a thros drethu'r dWt yn öly pellter. —6— Mae'r C. M. C. yma ar i fynu bellach new- ydd gael y goleuni trydanol, a'i belydr claer i fflachio ym mhob congl o hono—ystordai a swyddfeydd. Cynhyrchir y trydan gan beirianau y Weithfa Gaws ac Ymenyn o'r tu hwnt i'r afon. Dyna chwi, fel mae'r Gaiman yn dad- blygu. —o— Wel. na 'does fawr argoel yceir Eisteddfod eleni. T'ybiwyd beth amser yn ol fod yna rhyw gyffro ym mysg y corau. Aeth gwaith arall a'u bryd mae'n debyg. Beir llawer ar y pwyligor cyffredinol. Mor ddifraw a di blwc ydynt. Onid y nhw ddylasai fod yn rhoi ainbell broc i-r tan a'i fegina (os oedd yno rhywbeth yn aros heblaw lludw ar ol Eisteddfod Trelew y llynedd). Rhy wan a Ilipa yr esgus fod y Copiau Cerdd heb gyr- raedd, inni adael yr Eisteddfod i farw dan ein dwylo. Rhad arnom. —o— O'r braidd y tybiaf ei bod yn werth gwneud unrhyw sylw o'r glymblaid derfvsg- lyd sy'n ceisio tori ar ein heddwch, a pheri cryn anesmwythder ym mysg y dosbarth gweithiol y dyddiau rhain. "Segurwyr'y Cornelau fuasai Mynyddog yn eu galw. Gwelir hwy, fel y Phariseaid gynt, bob amser yn y lleoedd amlycaf, yn brygawthan fyth a hefyd rhyw druth hirwyntog a alwant yn Sosialaeth ? Y syndod yw fod neb yn iselu cymaint arno ei hun drwy sefyll i wrando ar ei bal- dordd. Mae'n degcyfaddef eu bod yo gyf- oethog o'r gallu clebrog hwnw a elwir mewn iaith arall yn Gift of the gab." Ond dyna eu holl gynysgaeth. Wrth feddwl yn froch- us am danynt daw i gof gan enwog y di- weddar Gwrtheyrn i'r Sin Ffiniaid sy'n dechreu fel hyn :— Haid o felltigedigion cythryblys, gwrthryf- elgar a bradwrus sydd yn aflonyddu'r wlad, Gan daflu masnach a phob peth arall i ddy- ryswch trwyadl trwy eu hanystyriol frad &c.
Cymdeithas Genhadol y Camwy.
Cymdeithas Genhadol y Camwy. Gelwir cyfarfod o bwyllgor y Gymdeithas ynghyd i Gapel y Gaiman, am 2 o'r gloch, 'nawn Mercher, Medi 25ain. Dymunir am gynrychiolydd o bob eglwys. 1, M. PH. JONES, Ysg.
Mr. Llewelyn Williams, A.S.,…
(2) Ymdaith fuddugoliaethus Mr. George trwy'r De yn adeg y Boer War, a Mr. Williams yn ffyddlon iddo'r pryd hwnnw. Pa glod oedd mewu bod yn ffyddlon iddo os oedd ei groesaw yn frwdfrydig ym mhob rhan o'r Deheubarth a'i boblogeiddrwydd yn fawr ar achos yn dda ? Sefyll gydag ef heddyw pan fwrir cerryg ato gan gorachod y deyrnas a'r Senedd sydd yn dangos ffydd- londeb, bid siwr. Dyma gyfle Mr. Williams i ddangos ei ymlyniad. Nid oedd perygl Mr. George y pryd hwnnw yn ddiin at ei berygl heddyw. (3) Y gvvahaniaeth rhwng ymddygiad ein Dafydd ni tuag at ei betiadur, ag ym- ddygiad Dafydd tuag at Saul mab Cis gynt." Nid un ffodus yw'r gymariaeth. Bu cael gwared o Saul yn lies i Israel, ac yr oedd gan y nefoedd law yn y busnes. Diau mai lies i hinnau yn yr argyfwhg presennoloedd cael gwared o Mr. Asquith, a dichon fbd a wnelo'r Uri Gallu dwyfol a'r aingylchiadau hefyd pan y daw'r dydd i edrych arnynt yn ddiragfarn. Sicr yw fod y Saul presennol yn cadw ei waewtfon yn barod i Dafydd b hyd: fel y profwyd ychydig nosweithiau cyn y Sulgwyn yn y Senedd. Ond gwyliwyd dros fywyd Dafydd gynt, a dyogelwyd Lloyd Georgehefyd; daeth allan o'r enbydrwydd gan adael Saul yn vvanach ac yn fwy llwfr nag erioed, ac heb nemavvr cydyitideimlad ag ef mwy. (4) Ymagwedda Mr. Williams fel cenedl- garwr ar hyd y blynyddoedd. Brithir ei ar- eithiau a'i ysgrifau ag enwau'r cewri'Cym- reig, a chredodd pawb o honom mai gyda phobl a phethau Cymru yr, oedd ei nefoedd ef, ac mai efe fyddai'r olaf i gefnu ar Gymro mawr enwog, deued a ddelai. Ond wele gyfle rhyfeddol i ddangos hynny. Daeth Cymro am y tro cyntaf erioed at lyw y deyrnas hon. Cymro hefyd sydd yn wr o athrylith ha ddangosodd y tadau erioed ei bath. Ul1 sydd yri wladweinydd a Ilygaid y byd arno a'i hydier yn angerddol ynddo. Dywedodd LL Williams ei hun mai Mr. George yw'r I- arweinydd gwferinol mwyaf a welodd y byd erioed." Ac eto i gyd, cefnodd Llewelyn Williams arao yn ddibetrus. Bychanodd ef ar lawr y Ty. Ymdaflodd i wersyll ei gaseion a'i holl galon. Dododd bob rhwystr a allai ar ei ffordd, drwy bleid- leisio yn ei erbyn. Bu drwy hynny yn gwbl anffyddlon ilw etholaeth os yn ffyddlon iddo ei hun. Cauodd y drws arno ei hun yn Sir Gaerfyrddin yti ddios, er iddo dybio fel arall, a meddwl y gwyr efe fwy am bethaU na nyni tua'r Bala yma. Os ameua efe yr hyn a haerwn pa beth a ddywed am y llythyrau condemaiol arno sydd wedi ymddangos ym mhapyrau Rhydd- frydol ei etholaeth yn ddiweddar ? Beth hefyd am y Uongyfarchiadau a anfonwyd o Glwb Rhyddfrydol y dref sydd yn ganolfan ei etholaeth—Llanelli—i Lloyd George? Yu y clwb hwn yr oedd cefnogwyr mwyaf aidd- gar Mr. Williams. Profasant yn ffyddlon iddo hyd yn nQd pan ruai eraill yn ei ethol- aeth yn ei erbyn Ó herwydd ei ymddygiad tuag at Mr. George. Ond o'r diwedd pallodd amynedd y ffyddloniaid hyuny, a bwriasant eu ceiniogau at eu gilydd yn frwd i dalu am delegram i'r Prifweinidog i'w gyfarch gyda llawenydd am ei fuddugoliaeth ar Asquith a'i bobl y rhai yr oedd Mr. Llewelyn Williams yn un o honynt. Os nad oes ar- goelion ystorm yn ei etholaeth ef nid ydynt yn unman Mae gennymedmygedd mawr o hono fel Herior, fel hanesydd, fel Cymro, fel gwr car- edig. Ond y mae Llewelyn Williams fel pe wedi mynd ym mhellach oddiwrth Lloyd George na nemaWr i neb o'r aelodau, a sicr yw fod gatiddo fwy o lawer o dalent na dim un o'r Ileill sydd wedi cefnu ar y Prifweinid- og. Pa beth a ddaeth rhyngddynt nis gwyddom, ac ni'n dawr. Ond yirddibetrus dywedwn na oddefa Cymru ddim i'w hael- odau Seneddol ymddwyn fel efe tuag at ei mab athrylithgar; gwr na feiddia yr un o'i elynion ddvveyd yn groew, ac na phrofodd neb hynny, ei fod yn anffyddlon ilw egwydd- orion nac i'w genedl nac i'w Yrnneillduaeth. Nid yw gadael Mr. Asquith yn golygu llaw- er, doed a ddelo. Ond y mae i'n Senedd- wyr ni, rhai fel LI. Williams, adael Lloyd George, yu golygu rhywbeth i Gymru heddyw. Gresyn mawr. > <