Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

IAMYWION.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

AMYWION. I Dydd Mercher, Medi 18, cyehwyuodd y Parch. Morgan Daniel, B. D. yn ol am yr Andes ar 01 treulio rhai misoedd yn ein plith yn Nyffryn y Camwy. Gwerthfawrogwyd yn fawr ei wasanaeth gan eglwysi a chyu- nulleidfaoedd y Wladfa, a chaifif dderbyniad croesawgar pa bryd bynnag y gwel ei ffordd yn glir i ddyfod yma eto. Pob Ilwydd iddo gydai'i waith yn Nghwm Hyfryd ac Esquel. Deallwn mai gyda'r Br. Mihangel Ap Iwan, yn ei fodur, yr aeth Mr. Daniel yn ol. Hefyd yr un adeg yr oedd y Br. a'r Fones John Freeman a'u plant achefydy Br. Joseph Freeman yn myned yn ol ar ol treulio rhai misoedd yma. —o— Mae'r hen frawd ffyddlon David Coslett Thomaswediei gaethiwo gan waeledd iechyd er's wythnosau. Mae arwyddion ei fod yn graddol enill nerth. Dymuniad pawb yw iddo gael adferiad iechyd fel y gallo eto ddyfod i lenwi ei gylch o wasanaeth crefydd- ol fel cynt. -0- Y dydd o'r blaen gwelsoi-n yr hen frawd Josiah Williams yn edrych yn gryf ac efe yn 86 rnhvydd oed. Mae yntau yn parhau i ddarllen Ilyfrau da yr hyn wnai fyny am yr hyn golla o herwydd trymder ei glyw. -0- Yn Gynnadledd flynyddol yr Eglwysi Rhyddion gvnnaliwyd yn Rhyl, Gogledd Cymru, penderfynwyd rhoddi "medals," i aelodau hynaf yr Ysgol babbothol yn Nghymru. Rhoddir" medals" i blimp o'r aelodap hynaf bob blwyddyn. Dyma enwau y rhai sydd wedi eu derbyn eleni :— Mrs. Ann Parry, Carrog, Corwen, oed 94, ac yn aelod o'r Ysgol Sul er's 91 mlynedd Mrs. Jane Jones, Bethel, Porthmadog. oed 92, yn aelod o'r Ysgol Sul er's 89 mlynedd Mrs. Elizabeth Roberts, Penrhyndeudraeth, oed 89, yn aelod o'r Ysgol er's 86 mlynedd Mrs. Jone Williams, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, oed 91, yn aelod o'r Y sgol er's 86 mlynedd. Y burned i gael "medal" ydoedd Mrs. Jane Jones, Prestatyn. Bu Mrs. Jones farw cyn i ddiwrnod y gwobrwyo ddyfod. — o Dywedir fod Italiaid Trelew wedi gwneud swm mawr o arian tuag at Groes Goch y Cyd- bleidwyr. Diwedd yr wythnos ddiweddaf a dechreu'r wythrios hon bu ganddynt Nodachfa a Chynherddau, a bu I y naill a'r llall yn Hwyddianus i godi yn lied uchel Drysorfa'r Groes Goch. —o— Rhaid i blant ysgolion Berlin ddysgu y deg gorchymyn canlynol :— i. Rhaid i bawb gynilo. Os bydd pawb yn darbod, yna fe gaiff Germani ei digoni. 2. Na wastreffwch fwyd. 3. Cymerwch amser i fwyta a chnoi eich bwyd yn drwyadl. 4. Gochelwch fwyta rhwng prydiau. 5. Bwytewch fara rhyg yn lie bara gwen- ith, a byddwch gynil gyda'r bara. 6. Byddwch gynil gydag ymenyn bwyt- ewch gaws, a marmalade yn lie ymenyn. 7. Bwytewch yn helaeth o lysiau tires, fel yr arbedoch gigoedd a, bara. 8. Wrth y bwrdd gelwch am bytatws yn eu crwyn. 9. Prynwch felusion o bob math, ac an- fonwch hwy i'r milwyr sydd ar y tnaes. 10. Yn mhob peth a wnewch, cofiwch y gellwch trwy eich cyfran fechan fod o gym- orth sylweddol i greu gwlad newydd yr hoii ydym yn ei dysgwyl. -0- Uwchlaw pob peth meddai Victor Hugo dysgwch y plant i gynilo, o herwydd cynil- deb sydd sylfaen pob rhinwedd. -0- Mae ambell i ffermwr, meddir, yn defn- yddio ei fab er mwyn y fferm yn lie y fterm er mwyn ei fab. -0- Mae llwyddiant y plant, meddir drachefn, yn dybyuu i raddau helaeth ar eu cychwyn- iad mewn darbodaeth, ae ilr arferion' a ddys- gant oddiwrth eu rhieni. — Dydd gwener, Mehefin 20, yr oedd y Gwir Anrhydeddus Mabon, A. S., yn 77am mlwydd oed. —o— Nos Fercher cyrhaeddodd y Bonwyr Evan John Roberts, Evan Coslett Thomas ac Aeron Morgan yn ol o Buenos Aires, a deallwn fod y FonesJohn Henry Jones a'r Fones Richard Edwards yn gwella yn rhagorol yn yr Ysbyty Brydeinig, hefyd mae y Fones Ivor Rees wedi gwella ac yn bwriadu dychwelyd yn ol gyda'r llong nesaf.

Nodion.1

Cronfa Goffadwriaethol Arglwydd…

The Newspaper of Nicolas.

Ffactri Gaws.