Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GAIR 0 EGLURHAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR 0 EGLURHAD. Fonwr Golygydd,—Ymddengys fy mod wedi troseddu yn ddirfawr yn fy llith fis yn ol. wrth ddweyd :—" Y sibrydid fod y ddau .gyfarwyddwr aethant i'r Brifddinas wedi eu hawdurdodi i amddiffyn achos y Juez Letrado, etc." Nawn Sadwrn diweddaf, havvliai y Br. Elias Owen i mi "gywiro y cyfryw". Gwadai y mynegiad, yn y ffurf ei cyhoeddwyd genyf. Ond addefai ei fod ef a'r Br. Arolygydd yn awdurdodedig- i Wefrebu ar y mater a'u bod wedi gwneyd, minnau atebais fy mod wedi gweled cyf- eiriad at y wefreb yn y "Razon" y 4ydd o Fedi, ond nad oeddwn i yn gweld fawr o wahanlaeth rhwng y naill a'r Hall. Honai ef eu awdurdodiad, minnau a honwn, Nad oedd yr un ohonynt yn awdurdodedig nac ethEledig i'n cynrychioli mewn achosion y tuallan i fasnach y Cwmni. Gyda i mi gael gollyngdod o'i ddwylaw ef wele'r Br. D. E. Williams ar fy nghwar- thaf, ac yn rhuo yn ofnadwy. "Nad oedd waeth ganddo ef am neb. a bod rhaid i mi ddatgan yn y DRAFOD, Nad oedd efe yn gyf- rifot am ddim, Na Phersonol na Chynrych- ioladoV a dyna fi wedi gwneyd. Ond, daliaf at fy nghosodiad, Nad oedd gan na chyfarwyddwyr, ,na chadeirydd nac arol- ygydd hawl i'n cynrychioli mewn achosion o'r fath; a phwy nag sydd yn argyhoedd- edig, nad oedd y person amddiffynid, fel Barnwr, y salaf welodd y Wladfa erioed, heblaw y ffaitn fod Comisiwn arbenig wedi bod yma yn edrych i fewn i'r achos. Ar hyn yna tawaf gan ddymuno llwydd yr hen "Gop", ac iddo ddod a thipyn o Starch fel stiffening, i asgwrn cefn yr achos. Yr eiddoch, J. H, J. — <——

BWRN Y BEGERA A'R CASGLU YMA.

i TREMYDD A'R CYNGANEDDION.I

Dyffryn y Camwy.I

Gleanings.