Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Colonia Sarmiento.
Colonia Sarmiento. Y DDIWEDDAR MRS. BEN. S. JONES. Yn agos i ddeuddeg mlynedd yn ol, y daeth Letitia Jane Jones i'r lie hwn (o Bed- linog Morgan wg) at ei hewythr a'i mhod- ryb-y diweddar gymeriadau parchus—Mr. a Mrs. Stephen R. Jones (brawd y Br. David Jones, Rhymni) ac ar eu haelwyd gysurus hwy, ar ddydd Gwyl y Gianiad (a phen ei biwydd) ddeng mlynedd yn ol, yr unwyd hi a'r mab, Benjamin, yn ugwmni annai gyf- eillion dreuliasant brydnawn hapns gyda hwynt yn nghwnnii iach a difyr y patriarch a'i briod. Mor belled ag y gwyddom treul- iasant y deng mlynedd yn gytun a chariadus. Y mae iddynt bedwar o blatit, tri bachgen a merch (y baban). Gadawodd S. R.Jones a'i briod ni dros 8 mlynedd yn ol am y Wladfa, ac oddiyno i Gymru. Cydmarol fyrr a chys- tuddiol fu eu harosiad yn y wlad anwyl honno yn enwedig Mrs. Jones, blaenasant Let (fel ei galwent) i'r Wlad welI-gwlad y Sabbath pur. Ar ddychweliad B. S. Jones a'i briod o'u hymweliad a'u perthynasau yn Ngymru oddeutu pum mlynedd a haner yn ol, daeth ei brawd a'i briod-Mr. a Mrs. Edward John Jones, gyda hwynt i'r lie hwn, y mae ef yn wr darllengar a deallus, yn hoffi dilyn a meddylu ar brif faterion y dydd. Rai mis- oedd cyn colli ei chwaer, yr oedd wedi der- byn hysbysrwydd fod ei frawd-swyddog yn y fyddin—wedi syrthio yn y rhyfel. Mor dda oedd gennym dderbyn tystiolaeth yr un a'i rhoddodd, fod y fam, sydd yn, ac wedi profi dyddiau tywyll, yn heu gvfarwydd a'r Gras sy'n ddigon yn mhob treial. Famau a thadau, a fydd ein bywydau yn help i dynnu ein plant at Dduw yn mhen biynyddoedd, o bosibl, wedi iddynt fyned o'n gafael ? Mae E. T. Jones a'i briod mor bell- ed yn preswy lio gyda B. S. Jones, y maent yn gwmni i'w cyfaill a'i blant bychain yri yr amgylchiad trist a'u goddiweddodd yn sydyn ac anocheladwy. Daeth i ran ei briod i fod yn famaeth i'r amddifaid oeddent gyfa.rwydd a hi gynt. Gorchwyl prudd i ni yw croniclo marwol- aeth ein chwaer ieuanc ymadawodd yn hwyr nos y 24ttill o Mehefin. Ar y 4ydd o Mai rhoddodd eriedigaeth i ferch, yr oedd yn teimlo yn gwella yn dda, cvstal os nad gwell nag yn yr amgylchiadau cyffelyb blaenorol, fel y mentrodd ddyfod allan i'r gegin yn mhen y degfed dydd, ond profodd y gwahan- iaeth yn nhymeredd y ddwy ystafell yn or- mod iddi ddal-teimlodd ias yr hinsawdd yn oer-rewol ar pryd, yr hyn achosodd enyniad yr ysgyfaint. Ni theimlodd lawer o boen wedi i wres yr enyniad ddarfod, ond cafodd byliau hirion o besychu diddolur. Niallodd ymdrechion dibaid ei phriod a'i pherthynas- au ei chadw yma, daeth yr eiliad olaf iddi yn sydyn a diboen i'n golwg ni. Mae'n ty- wyllu," meddai hi, gyda'r anadliad diwedda —aeth ymaith yn dawel, Yn yr olwg ar y wedd ddisymud, lonydd, yn nistawrwydd cysgod angau, a oes modd meddwl fod rhyw- beth heblaw cofio'r gorphenol i'r rhai oedd anwyl ganddi ? Bydd yn dda ganddynt allu myned i'r gorphenol, er drwy hiraeth, i ad- gofio yr holl ymddygiadau air gweithredoedd ddangosent ei chariad tuag atynt. Hoff fydd gan rai o honom gofio ei thuedd grefyddol-daeth yma o wres y Diwygiad yn Nghymru. Yr oedd ein capel ni yn rhy bell o'i phreswylfod iddi allu bod yn bresen- ol ond anaml. Ond wedi myned o fewn lig iddi, ar yn ail Sul,fegerddodd i'r cwrdd droion pan na fuasai ceffyl wrth law, a pharod oedd, i ddarllen pennod ac erayn, yr hyn a wuai hi yn eglur a phwysleisiol. Rhoddwyd ei phabell ddaear- ol yn naear myriwent y sefydliad Meh. 26ain. Daeth cynrychiolaeth o'r holl deuluoedd Cymreig a Seisnig sydd ar y dyffryn, ilr eyii- hebrwng, a lluaws o'n cyfeillion o wahanol genhedloedd eraill hefyd. Yn y ty—cyn cychwyn, canwyd yr emyn- au 0 fryniau Caersalem ceir gweled," 0 Ilefara addfwydd Iesu," a darllenwyd y i 5fed bennod o i Cor, a'r emyn 0 aros gyda ni, y mae'n hwyrhau," (yn spaeneg) a chan- wyd yr emyn, -1 Yn y dyfroedd mawr a'r tonau ar Ian y bedd. I Dduw y byddo'r diolch, na raid diweddu gyda'r olwg ar waith angeu ar y babell ddaearol, i amgylchiadau y ddaear y perthynai hon. Y mae ein Gwaredwr mawr wedi rhoddi modd i edrych tu hwnt i'r hyn sydd ddaearol. Y mae y rhai sydd yn byw yn agos iawn ato, nid yn unig yn ymwybodol o anfarwoldeb, ond hefyd, fod y bywyd yn helaethu-cynnedd- fau eu heneidiau yn cynnyddu ar ei ddelw- it ni a wyddom," yw eu hiaith hwy. Symud wnaeth ein chwaer i'r babell, anllygredig, oedd yn ei haros, lie y mae y (ieall, y eyd- ymdeimlad, a'r serch, yn eangach, purach a sancteiddiach. Ei hanwyliaid a'i chydnabod sydd mewn tristwch, neshewch at Dduw, clywch y I!a:s—Y niae cenadWTii chwi o'rtu hwnt i'r lien. Dymuniad yn perthyn i'ch heddwehtragwyddol yclyw,-O fy anwyliaid, Na roddwch eich serch ar y pethau sydd isod, trysorwch i chwi drysorau yn y nef- oedd, ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw, ceisiwch yn daer mynnwch brofi fod eich heneidiau o dan Ei arweiniad ali lywodraeth. Meddai loan,—Ni a wyddom ddyfod Mab Duw, ac Efe a roes i ni feddwl, fel yr adnab- yddom yr hwn sydd gywir; Ac yr ydym yn y cywir hwnnw sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw y gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol. Yn nhre Sarmiento ar y 6ed o Orphenaf bu farw Mrs. Rosumando, y fydwaig gnredig yn 55 oed, o enyniad yr ysgyfaint. Gwelir ei cholli gan y rhai y bu ei chwmni siriol a'i gwasanaeth gwerthfawr o help iddynt, ac yn enwedig gan yr wyrion bychain (wedi colli eu mamau) oedd o dan ei nodded. Yr oedd y noson cyn ei marwolaeth yn nodedig o oer, yn rhewi hyd 17 gradd (centi grade), ac yr ydym wedi cael tywydd eithriadol o oer, am ysbeidiau o'r gauaf sydd yn ein gadael. D. J. om —————
O'r Cwm. I
O'r Cwm. I GWYL 20FED 0 MEDI, 1918. I Cynhaliwyd yr wyl uchod fel arfer yn y Cwm. Yr oedd y diwrnod yn ddymunol iawn, a phawb i'w gweld wrth eu bodd, a golwg iachus arnynt oil ar ol y gaeaf caled aeth heibio. Y peth cyntaf a gymerodd le yn y boreu oedd saethu at nod gyda rhychddrylliau, pellder o ddau gant llath. Yroedd y saethu yn dechreu am ddeg, a buwyd yn saethu hyd banner dydd. Erbyn hyn yr oeddynt yn teimlo yn wan ac eisieu bwyd arnynt, awd i'r capel i gael te, yr hwn oedd wedi ei barotoi gan y merched a ofalent am y byrddau mor ewyllysgar a siriol. Enwau y j rhai ydynt—Boneddigesau Lili Jones, Han- nah Williams (D. Oer), Ellen Williams, Ceinwen Evans, Blodwen Awstin a Llinos Jones. Yn gofalu am y te yr oedd Mrs. W. Coslett Thomas torri bara ac ymenyn, Mrs. Caswallon Jones torri bara brith, Mrs. Derfel Roberts; ac yn berwi dwr, y Br. Tiburcio Matuti. Ar ol digoni pawb a the a bara brith, awd yn ol i saethu gyda llaw- ddrylliau. Yr oedd gofal y saethu gyda'r Bonwyr Derfel Roberts a John Tudur Williams. Tra'r oedd y gwaith hwn yn myned ym mlaen, yr oedd y Br. Caswallon Jones a'r Br. D. M. Roberts (siopwr) yn gofalu am chwareuon i'r plant. Ar ol gor- ffen gyda'r saethu, awd i redeg am y goreu ar draed i feibion, cant pump deg lIath; yr oedd pump yn ymgeisio, ond wrth gvchwyn daeth y no tres mor sydyn ar glust un o honynt nes oedd yn mesur ei hyd yn y fan, ac enillwyd y gamp gan y Bwyr. Plenydd Ll. Williams yn gyntaf, a Thomas Nichols yn ail. Yn ddilynol yr oedd rhedegfa i wragedd, saith yn ymgeisio, cant llath o bellter, ac yn y pen pellaf yr oedd tepot yn rhodd i'r gyntaf yno Br. Gwilym Jones oedd yn gofalu fod pob un yn cychwyn yr un pryd, a phan ddywedoddy Br. y gair tri, cafodd y llythyren 0 ei swnio nes oedd pob man yn eco. Ar ol myned tua deg llath, safodd dwy o honynt i gael eu gwynt, tra tua hanner y ffordd teimlodd un arall fod ei cham yr byrhau, ond yr oedd pedair yn dod yn hynod dda o fewn ychydig i'r pen, pryd y cymerodd un ei chyfeiriad i'r gogledd, ond pan oedd y tair arall yn croesilr marc, gwelwyd fod un yn blaenori ar ei chyfeilles- au o rhyw hanner llath, ac enillodd y wobr, a honno oedd Sian Nichols (begio'ch pardwn, Mrs. Tom Nichols oeddwn yn feddwl). Er- byn hyn yr oedd y te drosodd, a chliriwyd y byrddau, ac yn ystod yr amser yr oedd y Br. Gildas Jones fel un o'r pwyllgor yn casglulr rhaglen ar gyfer y cyngherdd. Galwyd pawb i mewn, tra 'roedd y Br. John Morgan yn gofalu am y drws ac yn derbyn y tocyn- au-am fynediad i iiiewn-oedogion, dolar i blant, pum' deg sent. Yna awd ym mlaen gyda'r iliagleii fel y canlyn :— Gaiwyd ar y Br. T. Dalar Evans i gytner- yd y gadair, a'r Br. David G Rees i gymeryd yr arweinyddiaeth. Can agoriadol gan Br. John Owen, can gan barti y Br. Dalar Evans, anerchiad gan y Cadeirydd, dadl gan Gwladys Roberts ac Edith Evans, adroddiad gan Meredydd O. Jones, can gan y Br. Robert Roberts (Tref- riw), can gan barti y Br. Derfel Roberts, dadl gan Mabel Jones a'i chwaer. Gwobr- wyo y saethwyr,—goreu gyda'r rhychddryll, iaf, Br. Bobbie Williams; 2il, Br. Emrys Hughes. Gydallawddryll,-goreu,Br. Evan E. Lewis; 2i], Br, Sam Ingram. Adroddiad gan Irene Jones, can gan barti Dalar Evans, adroddiad gan Alen Evans, deuawd gan y Br. John Owen a'i gyfaill, can gan barti Derfel Roberts, can gan y Br. John Owen, adroddiad gan Orwig Nichols a-i chwaer fach Letitia, Hen Wlad fy Nhadau o dan arweiniad y Br. Nadolig Jones. Gwnawd enill clir o gant a deuddeg o ddoleri, yr elw at y capel. I B. E. —————- O"
"Effaith Mel Bod Ruffydd."
"Effaith Mel Bod Ruffydd." LIawenydd i'm calon, fod Deiniol mor ddel, Yn canu mor svxynol, am botel o fel Rhai rhyfedd yw beirddion, pob oes a phob gwlad Am ganu pennillion, rhinweddol a mad. CYDGAN. Mae'r blodau yn dod, a inel yn eu cod, Ceir diliau yn llawnion, mae'r blodau yn dod. 'Roedd dda gennyf ddeall, fod rhinwedd mor fawr, A dau bwys o felys, troi'r clorian i Iswr Am hynny fe welir fod rhinwedd mewn mel, A werthaf am arian i'r cyntaf a ddel. CYDGAN, Dewch cyrchwch y mel, rhydd fywyd a set, Mae'r Eisteddfod yn ymyl, dewch pryn- wch y mel. Chwi ladies mwyn leisiau, gofalwch mewn pryd, Am geisio'r lueddyglyn, rhinweddaf y byd Sef met o Bod Ruffydd, rydd iechyd i'r llais, A mynwch y wobr, a hynny heb drais. CYDGAN. 0 cyrchwch y mel, rhydd yni a sel, Mae'r Eisteddfod yn ymyl, enillwch y bê]. G. P.
"1I!Iii"-Ebenezer a'r Cylch.
"1I!Iii"- Ebenezer a'r Cylch. Caniatewch air neu ddau, os gwelwch yn dda, yn eich papur clodwiw. Fel y mae yn wybyddus i'r rhan fwyaf o'r dyffryn, fod tref Dolavon wedi mynd yn ddigon pwysig yn awr i gael Ynad Heddwch a Chyngor, y mae yn ofynol i ni Gymry y rhanbarth fod yn effro i'n dyledswyddau. Dyma yr adeg i ni gael rhoi ein dewis ddynion yn eu lleoedd priodol. Na adawn i'r cyfle hwn fyned heibio yn ddisylw, "now or never." Nid mater i chwareu ag ef yw gosod Cyngor, ond mater pwysig neillduol, y mae yn bur debyg fod y Latinos" yn effro fel bob amser. We], gadewch i ninnau y Cymry fod yn true to nature," dangos ein bod ninnau fel cenedl yn gallu bod fel un gwr pan bydd angen am hynny. Clywais fod yna dri yn cynnyg am yr Ynadaeth, sef y Bwyr. Hayes, W. Roberts a R. Nichols. Y mae yma law- enydd o ddeall fod hen Ynad y Gaiman, sef y Br. R, Nichols yn cynnyg. Well rhwydd hynt iddo. Bydded ini estyn ein pleidlais iddo a'i roddi i mewn yn anrhydeddus. J AMICUS.