Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y Sefvllfa.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Sefvllfa. ERBYN hyn y mae y rhyfel drosodd a'r Cytuudeb heddwch wedi ei arpyddo, ond y sefyllfa yn un ddifrifol i'r eithaf yn y gwa- hanol wledydd, yn wir, gellir dweud fod cymdeithas heddyw fel pe wedi cael ei thaflu i bair berwedig. Bu i'r rhyfel ofnadwy sydd newydd der- fynu fod yn agoriad llygad i weriu y gwled- ydd mewn ilawer cyfeiriad, ac yn awr, y mae'r werin honno yn mynnu gwrandawiad astud yr awdurdodau i lawer ewyn o'i heiddo a ddiystyrid gynt. Cyn y rhyfel yr oedd math ar agendor fawr rhwng y tir-fedd- ianydd a'i denant, ni fynai peychenog y lofa fod a wnelai ef ddim a'r glowr a chwysai fer ei esgyrn wrth gioddio allan y glo yn nyfll- deroedd y ddaear; yr unig gyfathrach bosibl rhwng y Lord a hawliai y chwarel a'r chwar- elwr a beryglai ei einioes i droi ei chreigiau yn gyfoeth iddo, ydoedd grasol ganiatau i'w weithwyr flewena byw tra yntaa yn dilyn y cwn hela nealn ymdorheulo ar fwrdd ei bleser-long yn Mor y Canoldir. Pan ddaeth yr alwad i'r gad yn 1914, ni fu neb parotach na phlant y werin i fyned i'r ymdrech fawr, ac yno yn y gwarchffosydd a'r llynges, daethant i gysylltiad agos a chydradd a meibion y cyfoethogion, a bu i'r tan a'r dioddef eu gwneud megis brodyr, pan wciuiwyd y cledd ac y distawodd twrf y fag- nel, nis gallai mab y pendefig anghofio gwr- hydri dihafal bechgyn tenantiaid ei dad, na pherchenogion glofeydd a chwarelau wneud i ffwrdd a'r ffaith y dringasai ami un o blant y gweithwyr i fwy enwogrwydd na'i meibion hwynt eu hunain ar faes yr ornest fawr a gwaedlyd, ac o hynny fod canolfur y gwahaniaeth mawr a fodolai gynt rhwng meistr a gwas wedi ei lwyr chwalu am byth. Ar ol dychwelyd o'r bechgyn yn ol i'w eartrefi-filoedd o honynt yn anafus ddiadfer am weddill eu hoes, yr oedd ganddynt bob hawl i ddisgwyl y buasai eu haberth yn cael ei jawn brisio, yn lie hynny, gwelent fod trachwant a rhaib aniwall rhai dosparthiad- au o'r boblogaeth oeddynt wedi cael mwyn- hau diogelwch a chysuron cartref, wedi ym- frasnau ac ymgyfoethogi yn ddirfawr drwy fudrwaith y goretwa a chribddeilio, tra yr oeddynt hwy yn wyneb y gelyn yn Ffrainc a manau eraill yn ymladd eu brwydrau, ac ymgynddeiriogi y maent mewn cyfiawn ddigllonedd fa gwae y wlad a'i llywodraeth- wyr oni wrandawant arnynt. Nid yw bos- ibl bellach i na thir-arglwyddi na pherchen- ogion mwnfeydd a diwydianau eraill i bent- yru cyfoeth heb fod y gweithiwr yntau yn cael ei ran deg o ffrwyth ei lafur, ac hyd oni fydd i lywodraethau y gwahanol wledydd fyned ati o ddifrif i wneud gorelwa yn dros- edd haeddol o gosp drom, nid oes obaith y daw heddwch i deyrnasu mwyach ar y ddaear.

1. 1.--. DYDDIADUR MEDI.

L.1 origan. 'I

Eisteddfod Genedlaethol 1919.…

0 Bed war Ban Byd. o BedwarBan…