Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
25 erthygl ar y dudalen hon
Caernarfon
Caernarfon TAI.-Brydnawn ddoe (Sul) camvyd y gloch dan, ac ymgynullodd Uu i'r cei pan ddeallwyd fod "Steniar Bach Sir Fon" ar dan. Yn ffodus ni wna-ed Ilawer o niwed iddi. PENODIAD.—Llongyfarchwn Mr. R. G. Evans, 7 New Street, ar ei benodiad yn "book keepe-r" yng Ngholeg y Brifysgol Gogledd Cymrn, Bangor, am y cyflog o 80p y flwyddyn. Dywedir fod tua phedwar ugain yn cynnyg am y swydd. Gwasanaethai Mr. Evans gyda Mri. Williams a Owen, Palace Street.
• —■ ■ . 1 AT EIN GOHEBWYR.…
• —■ 1 AT EIN GOHEBWYR. I Blin gennym orfod gadael amryw ohebiaethau allan oherwydd eu bod wedi dod i law yn ddiweddar, a'n gofod ninnau yn brinach nag arfer. DEFYNNOG.—Yr wythnos nesaf. EBENEZER. -Ymddengys yr wyth- nos nesaf.
I Marchnadoedd a Ffeiriau.…
I Marchnadoedd a Ffeiriau. I Y rhai a gynhelir yr wythnos hon. I P 1. Y GOGLEDD. I ivnagiyr 14, Geryg y druidaon. Gwreceaam; 15, Corwen, Ellesmere; 16, Abergele' Croesoswallt. Dolgellau; 17, Caerlleon Llangefni. 18, Machynlleth (marchnad Nadolig); 19, Amlwch, Bala. I Y DEHEUDIR. I iihagfyr 13, Llanon, Dlanwenen, Tref- clawdd 14, TrecasteH yn llywel, Penfro; 15, H-Iffordd, Ledbury, Llandysul, L-angadog, LIanymddyfri, Ledbtrry (marchnad Nadolig), Pomt Senny; 16, Hwlffordd Rhaiadr, Ty.gwyn-ar-daf; 17, Ross, Sant Nicholas; 18, Leominster: 19, Abea-teofi, Casteillnewydd yn Nghemes.
Advertising
-<- V. LLWYDDIANT PARHAOL.j u Y b b. f.. d 8 0 Yr un cri o bob cyfeiriad. GRON NT RM 1 M OATCAKES. I — u A jj Gwerthwyd allan. Anloner ychwaneg. Brys. 0 i 01 w cael mewn pacedi 2d a 3d gan holl Crocers Bakers, ft a Confectioners. | M PRIF YSTORFA W J Lake and Company, Limited, Caernarfon. rv,h Argraphwyd dros y Perdhenogioo, gan Thomaa Jones, ya Swyddfa'r II Genei:U.U New Harbour, on.
BWRDD GWARCHEIDWAID DOLGELLAU
BWRDD GWARCHEIDWAID DOLGELLAU Cynhaliwyd yr uchod o dan lywyddiaeth .&. D. E. Davies, Abermaw. Ar gynygi-ad Mr. James Lewie pasiwyd i roddi elusen ychwanegol o Is i r tlodion a chwe cheiniog i'r plant at y Nadolig, ac hefyd y tret arferol i'w roddi i ddeiliaid y Ty. ARIANOL. Cyiflwynodd Mr. R. C. E-vans, y dafleai ar- ianol; fod gweddill o £ 1,449 8s 3c yn y Banc yn ffafr y Bwrdd, tra yr oedd F.768 yn ddy- ledus o'r plwyfi. GORSAFOBDD TALU. I Rhoddodd Mri. W. Lloyd, Dolgellau, ac Isaac Lewis, Swyddogion Elusen, adroddiad o nifer y liw-yddfeyddl, y telid rhent am dan- ynt at amcanion ynglyn a'r elusenau. Er eu bod yn myned i dalu i dai y tlodion, eto yr oedd angen y swyddfeydd at gofrestru marwolaethau a genedigaethau. Pasiwyd ar gynygiaod Mr. O. Ellis, f<-d y swyddfeydd hyn yn anhebgorol angenrheidiol. Gofynodd Mr Morgan Williams a oedd yn aragenrhaid myned i DdolgeLlau o'r Dyffryn neu Abermaw i gof- restru tra yr oedd y Bwrdd yn talu am y swyddfeydd hyn. Mr. W. Lloyd (Swyddog Elusenol) a ddywedodd nad oedd felly, ei fod ef yn galw ddwywaith yn yr wythnos, ac mai y meddygon oedd yr unig gyfrwng i hysbysu l ynglyn a hyn. Pasiwydi i bwyso ar y me- ddygon i hyabysu hyn pan fo ang'-n, ac aw- grymwyd fod i'r Swyddogion Elusen roddi rhybudd yn ffenestr v swyddfeydd CACEN NADOLIG. I Cymeradwyai pwyllgor y ty fod cacen Sa- dolig i'w darparu i ddeiliaid y ty, ac fod Miv Pufgh a Mrs Morgan i gydymgynghori r Feis tres gyda. golwg ar wneyd gwledd i ddeiliaid y ty.. Wedi trafcodaeth fywiog cynygiodd Mr W. Hughes, a chefnogodd Mr. O. O. Roberts eji bod i brynu y gacen yn y siop fel arfeT. Pasiwyd i dderbyn awgrymiad y pwyllgor
RHYDDFRYDWYR EIFION
RHYDDFRYDWYR EIFION Y CYFARFOD BLYNYDDOL. Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol yn Festri Saron (M.C.), Penygroes, prydnawn Sadwrn diweddaf. Cymerwyd y gadair gan Mr. W. G Thomas, Y.H., Caernarfon. iDarllenwyd y cofnodion gan yr Y sgrifenydd (Mr. J. Eiia& Jones) a chafwyd ganddo adroddiad o'r gwaitn wnaed yn y cofrestriad. Y r oedd y iihyddfrydwyr yn gwneyd cais am bleidlais i 97, a llwyddwyd gyda. 94, tra yr hawliai y Toriald 41, a iiwyddwyd gyda JO. Cynlial- iwyd deuddeg o gyfarfodydd cyhoeddus yn yr etholaeth yn ystod y flwyddyn. Llesteinodd y rhyfel y gwaith o gynal rhagor. De wis wyd yn swyddogion am y flwyddyn nesaf :— Llywydd, Mr. C. E. Breese, Porthmadog; Is- lywydd, Mr. W. G. Thomas, Y.H., Caernar fon; Trysorydd, Mr. Richard Jones, Y.H., Talysarn; Ysgrifenydd, Mr. J. Eiias Jones, M r. Hu-, h Pritchard, Penygroes Archwiliwr, Mr. Hugh Pritchard, Pwllheli; Pwyllgor Gweithiol, Mri. J. R. Jones, Sam Wilson Roberts, Edeyrn; Robert Williams, Abersoch; G. Jones, Penybont; H. Pritehard, Pwllheli; W. Jones, Hendy, Four- crosses; Dr. Rowlands, Llanaelhaiarn W. E. Williams, Llanystumdwy; J. Jones Morris, Jonathan Davies, a T. Garth Jones, Porth- madog; R. Carey Williams, Garn; J. R. Owen, Gyfelog; D. R. O. Prytherch, M.A., Penygroes; Parch. Ceidiog Roberts, Llan- llyfni W. J. Griffiths, Dorothea, Talysarn; J. O. Roberts, Cesarea; J. Edmund Jones, Llandwrog; E. Lloyd Griffith, Rhosgadfan; T. J. Lloyd, Llanrug; Ellis W. Roberts, Port Dinorwig; J. J. Jones, Beddgelert; John Jones, Dinorwic Street, Caernarfon; R. O. Jones, Waenfawr; G. J. Jones, Nantlle; R. W. Jones, Dwynfa, Bontnewydd. Etholwyd yr un cynrychiolwyr a'r flwyddyn ddiweddaf i gynrychioli y Gymdeithas ar y Cynhgor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymreig. Cafwyd trafodaeth ar y cwestiwn trwyddedol. Sylw- odd y Cadeirydd pa mor bwysig oedd i'n dyn- ion a'n merched ieuainc fod yn sobr. Gofid i bawb oedd canfod cynnydd in\YIl ymyfed yn mysg y merched. Yr oedd hawl gan y Prif Gwnstabl i awgrymu i gau v tafarndai yn gynarach; er hyny nid oedd yn effeithiol. Gallasai y swyddog awgrymu ac i r Ysgnfen- ydd Cartrefol wrthod cadamhau ei waith. Gwnaeth ynadon .Southampton ymgais i leihau yr oriau ymyfed, ond gwrthododd yr Ysgrif- enydd Cartrefol gymeradwyo eu gwaith. Trist oedd meddwl fod 30 i 40 y cant o'n mil- wyr yn aneffeithiol oherwydd y diodydd meddwol. Cafwyd sylwadau i'r un cyfeiriad gan Mr. J. Jones Morris a Dr. Rowlands, a phasiwyd penderfyniad cryf ar y cwestiwn. Cafwyd ychydig eiriau gan Mr. Ellis W. Davies, A.S. Pwysai ar i bawb gofio nad oedd y rhyfel presenol, fel v tybiai rhai, wedi bod yn foddion i oeri'r dyddordeb mewn mut- erion gwleidyddol. Wedi cael heddwch i deyrnasu rhaid ystyried egwyddorion fydd o les i'r werin. Gyda golwg ar gwestiwn y ddiod, penderfynwyd na phesir unrhyw fesur tra bydd cymaint o aelodau oddicartref. Yr oedd hyny yn rhwystr i ddeddfu. Hefyd rhaid cael y wlad yn aeddfed; nis gellir deddfu o flaen barn y wlad. Hefyd, dymun- ai amddiffyn yr etholaeth a'r sir yn ngwyneb y cyhuddiad o beidio ymuno a'r Fyddin. Nid oedd hyny yn wir. Yr oedd 50 o ddynion ieu- ainc Cwmyglo wedi ymuno, tra nad oedd yno ond 800 o boblogaeth; felly am Ebenezer, pentref o'r un maintioli eto, yr oedd 150 wedi ymuno oddiyno. Yr oedd yr anhawsderau mwyaf yn eu haros eto. Cafwyd sylwadau o ganmoliaeth i'r chwior- ydd sydd yn darpar mor helaeth yn y trefi er cysur y milwyr. Cafwyd gair gan Mr. D. R. O. Prythereh, M.A., Dr. Rowlands. J. Jones Morris, a'r Parch. R. J. Parry (W.), Peny- groes. Rhoddwyd gwledd i'r cynrychiolwyr trwy garedigrwydd Mr. W. G. Thomas, Y.H.
CYFARFOD CYHOEDDUS
CYFARFOD CYHOEDDUS Yn y Neuadd Gynull, Talysarn, am 6-30, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i'r amcan o geisio codi rhagor o frwdfrydedd gyda'r ym- uno. Yr oedd yn un o'r cyfarfodydd gwleid- yddol goreu a gaed yn yr ardal erioed. An- erchwyd gan Mri. W. Jones, A.S., Ellis Dav- ies, A.S., Parch. J. W. Wynne Jones, M.A., Mr. W. G. Thomas, Y.H., Caernarfon, ac mi o'r Belgiaid sydd yn aroe gyda Mr. D. R. O. Prydderch, M.A., Penygroes. Llywyddwyd gan Mr. R. Jones, Y.H., a diolchwyd gan M- H. Menander Jones, a Mr. W. J. Griffith, C.S.
, Porthmadog
Porthmadog AMRYWIAETHOL.—Yai Seion, nos Lun, cynhaliwyd cyfarfod adloniadoi pryd y cy- merwyd rhan gan Misses M. J. Jones, W. Jones, Eliza Jone, J. Pugh a J. Jarvice, a Miss B. Martin, E. Jones ac creiM. PRIS Y NWY.—Y mae y Cyngor wedi gostwng pris y nwy o 4s 3c i 3s 6 £ c. "RELWE BACH BEDDGELERT."— Bwriedir myned ymlaen i wneyd hon, ac y mae y Cyngor Tref wedi cymeradwyo y cyn- llun.
CricciethI
Criccieth PE, -NOD,IAD,Y mae Miss Alice Williams wedi ei ddyrdiiafu i swydd arall yn y Llythyr- dy. POTEIL O'R MOR.—iDargajifuwyd potel ar y lan ger y Graig Ddu gan Mr. David Wil- liams, ac o'i mewn yr oedd cerdyn ac ysgrifen yn gofyn i'r darganfyddwr, ysgrifenu at y per- son at ie:iwid? yr hyn sydd' wedi (cael ei wneyd.
. FelinheliI
Felinheli I YMUNO.Y mae oddeutu deg a'r hugain o wyr ieuainc yr ardal wedi ymuno dg adran yr Ambulance perthyn ol i'r Gatrawd Gymreig I sy'n mynd i faes y frwydr ddechreu'r flwydd- yn. Byddant yn ymaflyd yn eu dyledswydd- au yr wythnos nesaf, ac yn mynd i Gaerdydd i ¡ ddysgu. Ardderchog fechgyn I Y MILWYR A'R MORWYR.—Yn ystafell f rydd Cymdeithas Gristionogol y Gwvr leuainc nos Fawrth, cynhaliwyd cyfarfod dan lywydd- iaeth Mr. Pritchard, Belmont, i ystyried y priodoldeb o anfon anrhegion iNadoiig i'r mil- wyr a'r morwyr ieuainc o'r lie hwn sycld wedi ymuno a'r fyddin a'r llynges. Deallwn fod casgliad sylweddol eisoes wedi ei wneyd i'r amcan hwnw, a theimladau cynes yn cael eu dangos at ein cymwynaswyr sydd vn ymladd drosom. DIRWES'T.-Nawn Mawrth, yn ystafell capel Elim, cyfarfu cymdeithas ddirwestol y chwiorydd i wrando anerchiad byw ac amser- 01 ar "Ddirwest a Phurdeb" gan Mrs. Vaughan Davies, Caernarfon. Llywyddoo, Mrs. Griffith, B.A. Y GYMDEITHAS LENYiDDOL.—Yn yr un file, nos Fawrth, cyfarfu cymdeithas len- yddol Elim, i wrando anerchiad gan y Parch. Berwyn Roberts, Bangor, ar "John Burns," cyn-Lywydd Bwrdd Masnach. Tynodd yr an- erchydd wersi buddiol i bobl iesainc oddiwrtli fywyd y gwerinwr eaweg. Llywyddwyd gan y Parch. Thomas Hughes, RiD. PENODIAD.—Y mae Miss Grace Olwen I Jones, Bangor Road, wedi eT phenodi yn nyrs i'r Tolemach Fever Hospital, Birkenhcad. NYRS.-Y mae symudiad ar droed i sicr- I ha..i.J,gwa,sanaeth nyrs watn^ddol i'r gym" ydog- aeth, a'r dyddian rhain gwneir apel af hael- ioni yr ardalwyr gyda chyfraniadau i'r pwrpas hwnw. Tybia hyny gryn faich. Or:d sicr- hau gwasanaeth nyrs ddr,, diau y profai yn fendith i'r ardal, yn arbenig felly i'r werin bobl.
! O Nebo isr L!an I
O Nebo isr L!an I CLAD.DE DIGAETH.—Ddydd Ian, ym mynwent Tai Duon, ciaddwyd Mrs. Jane Gri- ffiths, Nant-y-cwmbran, yn 64 mlwydd oed. Gwasanaethwyd gan y Parch. John William Jones, cyn-weinidog eglwys Pant-y-glas. Mawr ydyw cydymdeimlad yr ardal hen wr yn ei brofedigaeth a'i waeledd. Yr oedd yr ymadawedig yn fam i Mri. Evan a Peter Jones, Ty'nlon Terrace. YMADAEL.—Da genym gael dweyd fod amryw o'r rhai oedd allan o waith yn yr ardal wedi ymadael yr wythnos yma i weithio i Abergele, ac y mae eraill yn b-,I;riadu myned yr wythnos nesaf. Nid oes heddyw ddim ond rhyw dair chwarel yn gweithio yn yr holl Ddyffryn; ac y mae amryw wedi gorfod di- oddef odiwrth y tywydd mawr yma.
I Nanhoron I
I Nanhoron I D.UIW AliN.-iDdydd Mercher yr oedd Mr C. H. Lloyd Edwards yn dvchwelyd ar ei geffyl adref, ac yn Llanbedrog Uithrodd y ceffyl a cwympodd Mr. Edwards a syrthiodd yr anifail ar ei goesau, gan anafu ychydig ar ei ffer ac achosi rhai cleieiau.
Dolsrellau I
Dolsrellau I PENODIAD-Allan o ddeg o ymgeiswyr am y swydd o ysgrifenydd Cymdeithas Ys- wiriol Meirionydd o dan Ddeddf yr Yswiriant, penodwyd Air Ellis Jones, Edwards, Plas-yn- dre Dolgellau.
IHarlech I
Harlech I PRO FED IGAETH DDWBL —Digwydd- odd amgylchiad pruddaidd yn y dref yr wyth nos ddiweddaf—claddedigaeth tad a mab, sef Mr. Edward Roberte; (57 oed), Cerrigwenyn, a'r mab Mr. "w. Lloyd Roberts (21 oed). Claddwyd y mab dydd Llun, a bu farw y tad ddydd Mercher, a chladdwyd ef ddydd Sadwrn yn mynwent Capel Uchaf. Cafodd y ddau hir waeledd a chydymdeimlir yn fawr a Airs. Roberts a'r teulu
DIWEDDARAF.
DIWEDDARAF. GYDA'R PELLEBYR. NOS SUL. Amsterdam. Dywedir fod swn y cvtiegrau wedi eu clywed yn Courtal-oddeutu 22 rinlltir i'r de-ddwyrain o Ypres. Rhufaln. Dywed Llywodraeth Serbia fod yr Awstriaid wedi cael colledion mawr i'r de o Belgrade, a dywedir eu bod yu jparotoi i adael y He. Copenhagen. Dywed gwifreb a ddaeth i'r lie hwn o Belgrade nas gall y Germaniaid fedi'n llawn y budd o drechu'r ilwsiaid yn Lodz. Y mae aden chwith y German- iaid wedi methu symud ymlaen i gyfeir- iad Lowicz. Hawlia'r Germaniaid eu bod wedi meddianu Pozasnysz. Xish. Edrydd adroadiad swyddogol o'r He hwn mai rhif y carcharonon a gymer- wyd ddydd Gwener oedd 4,777, yng- hydag wyth o field guns, 3 o machine guns, mountain ho\\ ltzer, a swm mawr €> bow dr. i s, h. Y mae'r gelyn yn Mladenovatz a Belgrade yn dechreu encilio. a'n milwyr ninau yn symud ymlaen. Stockholm Dywed adroddiad swyddogol o'r lie uchod nad yw'r ymchwiliad i suddiad y llong-ager Swedaidd gan mines yng Nghulfor Bothnia, wedi ei derfynu.
————^ 9 ^ Y SAFLE. -
———— 9 Y SAFLE. Yr oedd newyddion calonog o faes y frwydr ddydd Sauwrn. Y mae'r fudd- ugoiiaeth a gafodd y Serbiaid ar yr Aws- triaid wedi cael ei chadarnhau'n swydd- ogol erbyn hyn. Parhaodd y frwydr am chwe' niwrnod, ac ymestynai ar hyd llinell o bum' milltir a thn-ugain. Addefir fod colledion y Serbiaid yu fawr, ond fod colledion yr Awstriaid yn llawer mwy. Cymerwyd ciros 100 o swyddogion ac 20,UOO o ddynion yn garcharorion, a meddianwvd 70 o ynau, » 50 mitrailleuses a swm mawr o ystor- feydd. Y mae'r Awstriaid yn encilio ar Serbiaid yn dilyn ar eu holau. Y mae'r sefyllfa wedi goleuo ychydig hefyd gyda'r Ewsiaid. Y maent wedt trechu y gelyn i'r de o Cracow ac wedi eu gwasgaru. Wrth encilio gadawsant filoedd o gyrff ar eu holau ar y maes, Cymerwyd meddiant c bum bateri o ynau a cholofn o geir mutor arfog. Y mae'r adroddiaclau swyddogol ar hyd y liinell yn g-alonogol iawn, ac yn dangos fod y Galluoedd Cvfunol yn symud vmlaen vn raddol. Yr un mor galonogol drachefn yw'1' newyddion o'r adran chwith—y tune amryw ymosodiadau o eiddo'r German- iaid wedi cael eu euro ji ol yng nghyffin- iau Ypres. Gwelir fod yr un llwydd- iant yn cyrraedd hyd Argonne, lie y mae'r gwarchffosydd wedi eu meddianu, yn Bois-le-Pretre ac i Alsace, lie y mae gorsaf islaw Thorn wedi ei chymeryd. Y mae'r Goeben wedi ail-ym- ddangos eto. Gyda cruiser arall ym- osododd ar y porthladd Rwsiaidd Ratoum, yn y Mor Du, ond bu raid iddynt ddianc o flaen tan yr amddiffyn- feydd. Dywed yr adroddiad swyddogol na wnaed fawr niwed yno. Parha'r newyddion da i ddod o'r cwrr dwyreinol i faes y frwvdr,^ lie y mae'r Rwsiaid a'r Serbiad yn parhaui lvvyddo. Ymddengys fod yi ad-gyfnerthion Ger- manaidd a anfonwvd i Cracow wedi cael eu difa yn drwm. Yn ychwnnegol at y 2,000 o garcharorion a gymerwyd ddydd Gwener, gellir ychwanegu 2,000 arall, felly y mae 4,000 ohonynt wedi eu cymeryd yn garcharorion. Y mae'r Germaniaid wedi dechreu ail-ymosod ar Warsaw. ond gwrth-saf- wyd eu holl ymosodiadau gyda cholled- ion mawr iddynt, ac y mae'r German- iaid wedi gadael glanau gorllewinol yr Yser. Tawelodd ein cyflegrau ni gyf- legrau y Germaniaid mewn amryw leoedd. Dywedir fod y Ffrancod wedi meddianu Bresel, yn Tpper Alsace, ar ol brwydr ffyrnig gyda'r bidogau am wyth awr. Gadawvd 970 o gyrff—250 o Ffrancod a 720 o Geriiianiald-ar y maes. Y mae'r Awstriaid yn addef iddynt gael curfa yn Galicia, ac addefa'r Germanlaid fod y Ewsiaid yn gwrth- sefyll yn ddewr ym Mholand.
( PWYLLCOR ADOYSO ARFON. i
( PWYLLCOR ADOYSO ARFON. i I Safle Ysgolion Canolraddol 1 PEfrODE SWYDDOG PRESENO-L-I DEB. 1 Cynhaliwyd cyfarfod o'r Pwyllgor, ddydd Tau, yn ghaen:ado!1, o eLm l,n:yddiadh -Will'ams !C-?iu ?.I j N ir. D. P. I 'e i d d LLAIO SLANT Y.\ TK YSOOLIUN. I Yn ol adroddi:td a gyflwymvyd, yr oedd Ueihad o tua 300 yn nifer y plaut ar y llyfrau yn yr ysgolion yn ystod y flwyddyn diweddaf. Pasiwyd i adnewyddu y gyfundieir. o wobr- wyo plant am bresenoideb rhcolaidd yn yr ysgol loii. Paslwvd viiiiiellacli fod tystysgrif wedi ei fframio i'w roddi i'r plentyn a fydd wedi presenoli ei hun am wyth mlyiiedd yn rheolaidd yn yr ysgol. I PENODI SWYDDOG PRESESOLDEB. Adroddwyd fod pedwar ugain o gefciadau wedi eu derbyn am y swydd o swvddog pre- isenoldeb yr ysgolion dros ddoobarth L- aticitid- no. Bu Pwyllgor P, "senoldeb yn ystyried y ceisiadau, a thynvs^ nifer yr ymgeiswyr i lawr i bump, a gofynwyd i'r rhai hyny ym- ddangos gerbron y Pwyllgor Siiol. ddydd Iau. Y rhai hyny oedd Mri. E. H. Evans. Caernar- fon R. T. Roberts, Glasinfryn J. 0. Thomas, Talvsarii; AVilliam Thomas. Chnybont, ac Isaac B. William* (Liew Deulyn). Nantlle. Cyn myned ymlaen i holi'r ymgeiswyr, cwynodd Mr. Isgoed Joneg fod y pwyllgor wedi cyfyngu y nifer i bump. Deallai fod 29 o ymgeiswyr allan or pedwar ugain yn dod o ddosbarth Llandudno, ond nid gymaint ag un ohonynt ar y rhestr oedd gerbron y pwyll- gor. Gwyddai ef am ddynion arddcrchog oedd yn cynyg am y .iwydd. Cynygiai gyr- lwyno'r mater yn ol i'r pwytgor. Y Cadeirydd Bydd rhyddid i umhyw aelod ychwanegu enw person neu bersonau at y rhai a enw id gan y pwyllgor. C'efnogai Mr. T. W. Hughes, Conwy, svlw- adau Mr. Isgoed Jones, a dywedodd fod y pnmp a ddewiswyd i ddod gerbron y Pwyllgor 1 yn dod Q un rhan o'r irl ac nid oedd neb o fanbarth Llandurtno- l Svlwodd Mr. John Owen. 'Llandudno, y teimlid fud rhanbarth Llandudno, lie yr oedd angen y swyddog, wedi i anwybyddu, gan nad oedd neb allan o :19 o ymgeiswyr y rhai oedd i ymddangos gerbron. Sylwai hefyd mai chwarelwyr oedd yr ymgeiswyr gyf- lwynid i sylw'r pwyllgor. Rhaid oedd cofio fod 50 y cant o drigolion Llandudno yn Saes- on, a bod yn bwysig i'r sawl a benodid fod yn hollol hyddysg a'r iaith a thueddiadau y Saes- on er mwyn bod yn llwyddianus yn y rhan- barth. Ystyrid ei fod braidd yn sarhad at Ijlandudno nad oedd neb o'r ymgeiswyr o'l rhanbarth hono wedi eu dodi ar v rhestr i ddod gerbron y pwyllgor. I Cydymdeimlai Mr. Issard Davies, Caernar- fon, a'r hyn a ddywedodd Mr. Isgoed Jones, a svlwodd fod dynion o'r rhanbarth arall yn ddiau yn gymhwys i'w dodi ar y rhestr. Credai fr. J. Bellis, Llandudno, fod yn bwysig i swyddog presenoldeb yr ysgolion fod yn gwybod yn dda am y dosbarth. Sylwodd Mr. W. H. Rhodes fod yr hyn a gynygid yn dangos diffyg ymddiriedaeth yn y pwyllgor. Gwrthwynebai Mr. Henry Parry ohirio y penodiad. Cefnogai Mr. T. W. Griffith, Llandudno, y cynygiad i gyflwyno'r mater yn ol i'r pwyllgor. Dywedodd Mr. Hugh Pritchard fod y pwvll- gor wedi ystyried y ceisiadau yn ofalus iawn, ac wedi ceisio dod a'r rhai a ystyrid oedd v cymhwysaf gerbron. Digwyddiad hollol yd- oedd fod yr ymgeiswyr yn dod o un rhan o'r sir, ac os oedd pobl Llandudno wedi eu cau I' allan, wedi cau allan eu hunain oeddynt. Nid oedd y dynion yn ddim gwaeth am eu bod yn chwarelwyr—(Clywch, clywch)-ac ni ddylai'r ffaith mai chwarelwyr oeddynt fod yn un rhwystr iddynt fel ymgeiswyr, Yn sicr yr oeddynt gystal ac eillwyr Llandndno. Os oedd gan y bob); oedd yn gwrthwynebu ddyn- ion cymhwysach yn y rhestr gadawer iddynt eu cyflwyno i'r pwyllgor. eLi e v ?-,v- v iio Sylwodd Mr. John Owen nad oedd ef wedi taflu unrhyw sarhad ar y chwarelwyr. Yr oedd vn glod iddvnt eu bod ar v rhestr. Atebodd Mr. J. R. Pritchard (CAdeirvdd v pwyllgor) os mai teimlad v Pwyllgor Sirol oedd y dylid cael dyn o ranbarth Llandtidno, dylasid rhoddi cyfarwyddid i'r pwyllgor. Ceisiodd y pwyllgor bigo allan y dynion cym- li wvsaf. Gorchfygwyd y cynygiad i gyflwyno'r mater yn ol, ac aed ymlaen í holi'r ymgeiswyr oedd gerbron. Cyn galw ar yr ymgeiswyr i mewn, dywed- odd Mr. J. R. Hughes y credai nad oedd yn deg iddynt ofyn cwestiynau i'r ymgeiswyr os nad oedd hyny yn cael ei nodi yn yr hysbysiad. Gofynid iddynt, mae'n ddiameu. a oedd yi ymgeiisydd yn llwyr ymwrthodwr. Yr oedd Ilawer o ddynion cystal llwyr-ymwrthodwyr a'r rhai oedd yn profFesu eu bod felly, ond oherwydd na fynegant hyny codlant bleidleis- iau Dywedodd Mr. R. O. Jones, Waenfawr, fod amryw wedi gofyn iddo ef ofyn y cwestiwn dirwestol ar yr achlysur hwn fel ar pob ach- lysur arall y byddis yn gwnevd peiioralaaau, ac yr oedd yn bwriadu gwneyd. (Clywch, clywch). Sylwodd Mr. -lvllliam Roberts os oedd A.r- glwydd Kitchener yn rhoddi pwys ar gwesti- wn sobrwydd ynglyn a'r Fyddin" dylent hwy fel Pwyllgor roddi yr un pwysigrwydd arno. Cynygiai eu bod yn rhoddi caniatad i ofyn y cwestiwn. Eiliodd Mr. H. Parry. Sylwodd Mr. J. iR. Hughes nad oedd ef yn erbvn hvny o gwbl, ond ei ddadl oedd ¡ dylid nodi hyny yn yr hvsbysiad am y swydd. Mr. Griffith: Ai omd gwell gofvn i ba enwad v perthynant? IChwerthin). j Edmygai :Mr. W. George wroldeb Mr. R. 0. Jcnes yn gofyn y cwestiwn dirwestol ynglyn a phob apwyntiad a hyny yn wyneb gwawd Mr. J. R. Hughes. Kid oedd yn deg na gweddus i aelod pan yn dymuno gofyn cwes- tiwn neilltuol gael ei wawdio. Gofynodd Mr. Hughes a oedd ganddo liawl i ofyn i bob ymgeisydd a oedd yn iir gyda'i siopwr? "Buasai'n well genyf ddyn meddw gonest na lleidr sobr," ychwanegai Mr. Hughes. Aelod: Nid ydym eisieu yr un o'r ddau. (Chwerthin). Pasiwyd fod pob rhyddid i aelod ofyn y cwestiwn a fynnai i'r ymgeiswyr. Pleidleisiwyd fel y canlyn—R. T. Roberts, 19; J. 0. Thomas, 13; W. Thomas,,I!l 1. B. Williams, 5; E. H. Evans, 3. Ail-beidlais: R. T. Roberts, 20; J. O. Thomas, 20; W. Thomas, 11. Y bleidlais derfynol: J. O. Thomas, 26; R. T. Roberts, 25. Felly, pen- odwyd Mr. J. O. Thomas. YSGOLION NEWYDD. I Caed llythyr oddiwrth y Bwrdd Addysg yn I j cymeradwyo y tir a gaed at wneyd ysgol new- ydd yn Llanrug. Pasiwyd i ofyn i'r Cvngor Sir wneyd cais am fenthyg swm heb fod dros 300p. tuagat brynu y tir. Hysbyswyd y bu cynhadledd rhwng yr Ys- grifennydd a'r persaer a rheolwyr Ysgolion Penfforddelen a Charmel, gyda Mri. Richard Jones a D. G. Jones i drafod cynllun ynglyn ag ysgolion Penfforddelen. Bu dirprwyaeth hefyd o flaen y Pwyllgor Adeiladau. Hysbys- wyd fod rheolwyr Carmel yn foddlon helaethu yr ysgol er mwyn darparu ar gyfer Safon II; a byddai rhieni ardal Groeslon yn foddlon ar ddarpariaeth ysgol i fyny i'r Safon II; eu bod yn dymuno i gynllun gwelliantau gael ei gario allan ynglyn ag Y sgol Penfforddelen i gyn- nwys dosbarthiadau mewn coginio, gwaith golchi, a gwaith coed. Bu trafodaeth faith yn y Pwyllgor Adeil- adu, a chynygiodd Mr. R. Jones fod y Pwyll- gor yn gohino ystyriaeth cynBun Penffordd- elen yn wyneb yr amgylchiadau gwasgedig y fasnach lechi yn yr ardal, ac yn cvfyngu ei hunan i gynllun helaethu Ysgol Carmel, a darparu ysgol newydd yn Groeslon. Pasiwyd gwelliant i fabwysiadu cynllun Yegol Pen- fforddelen, a bod i'r cynllun gael ei gario allan wedi i gynlluniau Ysgolion Carmel a Groes- Ion gael eu cwblhau. BWYDO PLANT YR YSGOLION. I Adroddwyd y darparwyd lluniaeth i blant ysgolion Bronyfoel a Rhosgadfan, a phasiwyd l ganiatau rhoddion at ddarparu lluniaeth am dymor pellach i 80 q blant yn Mhenfforddelen. 21 yn Carmel, 30 yn Llanllyfni, 30 yn Nhaly- sam, a 4 yn Nantlle. Gofynodd Mr. J. R. Hughes a oedd pethau yn gwella. yn Nvffryn Nantlle. Atebodd Mr. R. G. Davies (Cadeirydd y Pwyllgor) mai rhywbeth yn debyg oeddynt. Credai Mr. Hughes fod amryw o chwareli wedi cau er's y cyfarfod blaenorol. Eglurodd yr Y sgrifenydd_foq :awer o ddyn- ion iuasent allan o waith wedi gadael vr ardal ac era ill wedi ymrestru a'r Fyddin. Mr. D. G. Jones Faint o'r plant sydd yn cael eu bwydo SV'll talu am eu bwyd? Rhoes Mr. Gwyneddon Davies y ffigyrau j canlynol—Bronyfoel, 16; Rhosgadfan, 41; Penfforddelen, 42; Carmel, 6; Penygroes, 9; Talysarn, 0 Llanllyfni, 5. Derbyniwyd adroddiad y pwyllgor. CRONFA FEDDYOOL. i Galwodd Mr. Issard Davies svlw at achos o Tydweiliog ym mha un y gwrthodwyd cais dyn am help i anfon ei Dlentyn i Fangor i weled meddyg ynglyn a'i lygaid. Gofynai am egitii liad. Eglurodd Mr. J. R. Pritchard fod cronfa feddygol i ba un y cyfranai plant geiniogau yn fool, ac nid oedd ond plam a, gyfranai yn cael y budd o honi. Yr oedd y gronfa, hono ar ben yn awr, a chai plant driniaeth yn ddi-dal. Dywedodd Mr Daniel Jones nad oedd rheol- wyr yr Ysojol yn gofyn am ddim ond costau I telthio y plentyn i Fangor. Cyflwynwyd v mater yn ol i'r pwyllgor. SAFLE YSGOLION CANOLRADDOL. I Cyflwynodd Mr. William George adroddiad cyntaf y pwyllgor Addysg Ail-raddol. Bu prif arolygydd ac arolygydd cynorthwyol y Bv.-rdd Canol Cymreig yn nghyfarfod y pwyllgor. Y flwyddyn hon yr oedd 1,157 o blant ar restr yr ysgolion canolraddol, o'i gyrnharu a 1,151 y llvnedd. Cyfartaledd nifer v disgyblion i bob ysgol, 116, 01 gyd- maru a, 140 yn siroedd ereill Cymru. Yr oedd 75 yn llwyddianus allan o'r rhai a eis- teddodd arholiadau y Bwrdd Canol Cymreig. Cafodd chwech o ddisgyblion addysg yn yr iaith Gymraeg y flwyddyn ddiweddaf, ychydig dros haner y plant oeddf yn mynychu yr ysgol- ion canolraddol. O'r rhai hyny cymerodd 90 yr arholiad y ssafon uwchaf, ond dywedodd y prif arolygydd y disgwyliodd weled mwy yn cynyg am y gwaith uchaf yn sir Gaernarfon. Yr oedd y duedd i roddi rhy ychydig o amser i'r cwestiwn hwn i'w anghvmeradwyo.
CYNGOR GWLEDIG IDOLGELLAU…
CYNGOR GWLEDIG DOLGELLAU Cynhaliwyd yr uchod ddydd Sadwrn, o dan lywyddiaeth Mr. H. H. Disley (Is-gadeir- vdd). lECHYDOL. Hysbysodd yr Arolygydd Iechydol fod yn dda. ganddo fod yr adgyweiriadau ar adeilad yr ysgol ddyddiol yn Fairbourne wedi eu gwneud yn foddhaol, ac hefyd ar dy ffarm ar Ystad Caerynwch. Galwodd Dr. Hugh Jones sylw y Cyngor at gyflwr Fairbourne ynglyn a'r carthion. Der- byniodd amryw o lyt'hyrau ar y mater. Dylid gwneud rhywbeth i symud v gwyn ar unwaith—Darllenodd y Clerc lythyr oddiwrth Mr. S. J. Lee, yn bygwth anfon at Fwrdd y Llywodraeth Leol ynglyn a'r mater. Dywedodd Dr Jones ei fod yn dymuno pro- testio yn erbyn i'r bobl hyn ysgrifenu ato ef ae eraill llythyrau yn bygwth ac felly yn y blaen, yn ceisio dychryn wrth enwi y Bwrdd yn Llundain.— Pasiwyd i aros am farn y Cyngor Plwyf cyn cymeryd y mater mewn llaw. DWFR I ABERGYXOLWYN. Antonodd Clerc y Cyngor Plwyf yn Aber- gynolwyn ynglyn a cliael cyflenwad dwfr i Abergynolwyn. Dywedai fod ffynon dda ar dir yr Hendre a chyflenwad rhagorol o ddwfr, ac fod v tenant yn foddlon i'r Cynger gael y dwfr. Hefyd fod Mr. Haydn Jones, A.S., yn foddlon i ymymeryd a dwyn rhan fawr, os nad y cwbl, o r gost. Anfonodd hefyd gopi o lythyr oddiwrth Mr. W. A. Pugh, Gwyndy, Llanfyllin, ar ran ei dad, perchenog y ffarm, yn ateb i gais y Cyngor am delerau ei dad i gael y dwfr o ffynoR Maesygro ar dir yr Hen- dre. Yr oedd ei dad yn foddlon i roddi y çlwfr ;-)1 ol, £ 10 y flwyddyn, ond fo" y Cyngor i roddi i lawr y pibellau a thapiau i Hendre Farm a thai Bwlchcyfyng ac i'r Eglwys a'r Rheithordy. (Chwerthin) Yr oedd ei did yn dal yr hawl i gael y dwfr i unrhyw adeilad a godir ar ei dir. Hefyd, fod y costau cyfreith- iol eid iddynt gan ei dad i dynu allan y weith- red i'w dwyn gan y Cyngor. (Chwerthin). Fod Mr. Haydn Jones, perchenog pentref Abergynolwyn, i dalu cvdnabyddiaeth flyn- yddol i'w dad ag gael dwfr a gymerir o ffos Gaetydylian. (Chwerthin). Ar gynygiad Mr. Lewis Price, pasiwyd i'r Clerc anfon at berchenog y ffarm i ofyn am delerau mwy rhesymol. DWFR TALYBONT. Dywedodd y Clerc iddo ef a'r Arolygydd Iechydol, yn ol cais y Cyngor, fyned i'r Dyff- ryn i egluro i'r trethdalwyr gynllun Mr. Rod well i gael dwfr o waith dwfr Dyffryn, i Dal- ybont. Yr oedd yn ymddangos fod pob parod- rwydd yn y Dyffryn i syrthio i mewn i gyn- orthwyo trigolion plwyf Llanenddwyn. Am- heuai rhai o ddynion blaenllaw y plwyf a oedd digon o gyflenwad o ddwfr i gyflenwi y Dyffryn a. Thalybont, gan fod peth dwfr yn myned i ran o Lanbedr, ac awgrymwyd fod Mr. Rodwell, y peirianydd, i ddod i'r Dyffryn i gyfarfod a'r dynion blaenllaw i fyned i weled y llyn. Dywedodd y Clerc fod Mr. Rodwell wedi anfon ato i ddweud ei fod yn dod i'r Dyffryn ddydd Gwener nesaf.A-r gynygiad Mr. G. Powell pasiwyd i ohirio y mater hyd nes cael barn pellach Mr. RodwelT Mr. D. Jones a gynygiai, a phasiwyd, i anfon at Gwmni Dwfr Llanbedr i barotoi 'meter' i fesur y dwfr gyflenwid o'r llyn. ALLAN O WAITH. Galwodd Mr G. Owen sylw fod amryw a'llan 0 waith yn Bontddu. Yr oedd arian wedi cael eu neillduo i wneud adgyweiria-dau yn Fiddl- er's Elbow, ar ffordd Abermaw. Yn awr yr oedd perygl i'r arian Tiyny gael eu cymeryd i wneyd mannau eraill yn y sir. Cynygiodd anfon at y CyngoC Sir yn gofyn iddynt bry- suro ymlaen i wneyd y gwaith er mwyn dar- paru gwaith i'r diwaith. Pasiwyd hyny.
0 Nant Ffrancon
0 Nant Ffrancon Llawer o haeru sydd wedi bod yn y pa- purau ac ar yr esgynloriau fod chwarelwyr Bethesda yn farw iawn i'r perygl y mae ein gwiad ynddo yn yr argyfwng presenol. Pe cai y cyfryw rai gipolwg ar y rhestr hirfaith sydd yn mynedfa y iNeuadd Gyhoeddus o on- wau bechgyn ieuainc yr ardal sydd wedi ym- uno a'r Fyddin, buan yr argyhoeddid hwy fod chwarelwyr Bethesda a'r cylcli yn gwneyd eu rhan cystal a thrigolion unrhyw dreflan o'i maint yn y wlad. Heblaw hyny, y mae ehwiorydd y 'Patriotic Guild' yn gweithio yn rhagorol. Y maent lATedi prynu gwerth £ 40 o ddefnyddiau at wneyd dilladau ar gyfer y Belgiaid a'r 'Royal Welsh Fusiliers.' Y mae 1,000 o ddilladau wedi eu gorphen eisoes ac wedi eu hanfon i ffwrddi. Yn feddylgar iawn y mae y ehwi- orydd yn anfon pajrsel i bob un o'r milwyr sydd yn y ffrynt, tua saith mewn nifor o fechgyn Bethesda. Mawr fydd llawenydd y saith wrth agor eu pecyn Nadolig, a gweld fod chwiorydd eu hen ardal yn meddwl am danynt yn en caledi. Ond mwy dedwydd y ehwiorydd wrth TOii. Y ma(e y 'Patriotic Guild' yn Ciaeddu jiob canmoliaeth a chofn- ogaeth. iLlywydd y Gymdeithas yma ydyw Mrs. Jones, Vicarage, Glan Ogwen, a Mrs. W. G. Pritchard, Ogwen Terracej ynghyda Miss- Williams, Ysgol y Cyngor, Carneddi, yn ysgrifenyddion; a. Mrs. R. Lulnley Roberts, yn drysoryddes y anudiad. Yr oedd dydd Gwener diweddaf yn un o'r dyddiau mwyaf tymhestlog o'r holl ddyddiau ystormus a gofir gan y rhai hynaf yn y fro. Yr oedd y gwynt ystormus yn y chwarel yn beryglus i'r eithaf, a deallwn i dri neu bed- war o'r gweithwyr gael eu hanaiu mewn canlyniad i ryferthwy yr ystorm. Dywenydd ganym ddeall fod un o fechgyn y fro wedi ei ddyrchafu a'i benodi yn swydd- og yn y Fyddin, sef y cyfaill Mr. Evan Ed. Thomas, Gordon Terrace, wedi ei apwyntio yn ringyll yng Nghorfflu y Fyddin Gymreig sydd' yn cartrefu yn Llandudno. Bu y milwr yma am 12 mlynedd yn perthyn i'r Life Guards yn Llundain, ac wedi gorpfaen gwasanaethu ei dymor dychwelodd adref, ac yn ebrwydd ar ol ei ddychweliad penodwyd ef yn 'Heddwas yn Llandudno, o'r hwn le yr ail ymunodd a'r fyddin ar ddechreu y rhyfei presenol. « Yr oedd' yr wythnos ddiweddaf yn droad y mis yn y ohwarel a chymerwyd, mantais ar hyny i nifer ychwanegol ymrestra. Yng nghymdeithas gwyr ieuanc Siloam nos Fercher, d adieu wyd yn frwd a. deheuig ar y cwestiwn "A benderfynir cymeriad dyn gan ei amgylchi,adau?" Cymerwyd yr ochr ga- darnhaol gan Mri. Hugi, Thomas, a Thomas A Jones, a'r nacaol gan Mrl H. B. Baseett, a Owen Thomas. Cymerodd' eraill o'r aelodau ran yn y ddaidl. Y llywydd ydoedd y Parch. A. W. Davies, gweinidog. "Merched yr Ysgrythyrau" ydoedd testyn papurao dyddorol a gaed yn Llenorfa Jeru- salem nos Fercher diweddaf. Rhanwyd y testyn yn ddau, set un ran ar ferched enwog yr Hen Destament, a'r rhan arall i'r rhai y Bonir am danynt yn y Testament Newydd. Eiddo Miss Williarng, Bodffordd House, yd- oedd y blaenaf a'r olaf yn eiddo i Miss Parry, Manchester House. Diolchwyd iddynt am y papurau. Y Llywydd ydoedd' Mr. Evan Ellis, BryniM1 Alma.
-TalysarnI
Talysarn I PENODIAD.—Llongyfarchwn Mr. J. 0. Thomas, Eifion Terrace, ar ei benodiad yn Swyddog Gor.fodol yn nosbarth Llandudno, o dan Bwyllgor Addysg Arfon, allan o lu mawr o ymgeiswyr. Y mae yn wr ieuanc o berson- oliaeth hardd, yn gymeriad dHychwin, ac yn gymwys i swydd o'r fath. Y mae wedi gwas- anaethu ar y Cyngor Plwyf dros y rhanbarlh hon ac wedi cymeryd rhan flaenllaw gyda sy- mudiadau cyhoeddus yn yr ardal. ac yr ydym yn sicr v tydd :'w waith yn ei gylch newydd gyfreithlor.i y penodiac'. Dymunwu iddo bob llwydciiant.
I Llanrwst
I Llanrwst YMUl().Ymunodd y rhai a. ganlyn i wasanaethu eu gwlad gyda Mr. D. G. Wil- liams, y Swyddfa Yinuno: Tiriogaethwyr, Bertie Jones, 8 Station-road; David Isaac Morris (y peldroediwx adnabyddus); D. Wil- liams, Powesll-terrace. Byddin Kitchener: Cadwaladr Jones, Peny ffrith; D. Roberts, Fuches Goch, Penmaehno; D. Jones, 19 Wel- lingtoit-place; D. H. Jones, Bryn Goleu; R. O. Jones, Shop, Penmachno O. Jones, EJail TJcnaf; R P. Evans, Pentrefelm; W. J. Owen, 3 Lower Mill-street, Llanrwst. G \YiLlEVD-CYT?.taliwyd gwledd ddydd Iau Rhagfyr oydd, yng Nghapel y Wesleya»id Seis- mg, yr elw yn myned tuagat glirio'r gost aethpwyd iddi d'rwy gael oiierynau i dwymo y capel. GofeLid1 am y byrddau gan Mrs. Carter, Airs. Lloyd Jones, Mrs. Jenkins Mrs. Vv. L. Roberts, Mrs Murrin, Miss Allan, Miss 'Hughes (Ferndale), yn cael eu cynorthwyo gan Airs Moses Jones, Miss Edith Jones, Airs, a Miss Reed, Miss Ethel Jones, Miss Elsi Jones, Miss LN-orah Lloyd Jones, Mies Lydia Hughes (Carneddau), Miss Elsi Murrin. Lly- wyddwyd gan y Parch. Air. Briiggs, Colwyn Bay, yn cael ei gynorthwyo gtiai y Parch. W Alellor, Conwy, a Mr. Sam Jones, Colwyn Bay. ARWEfRTSMNT GWAITH—Bu arwerth- iant gwai,th yn ystafeil yr Eglwys ddydd Iau cyn y diweddaf, a'r elw yn myned tuagat gronfeydd yr Eglwys. ICyflwyuwyd Mrs Mor- Morgan, y Rheith&rdy, gan Mr F. A. Charl- ton, i agor y seremoni. Gwasanaethwyd wrt? y stalls gam y rhai a. ganlyn :—Fancy Mrs. Longneville Lloyd, Mrs. Williams (Wa- terloo (House), Airs D. G. Wilson a Airs J. A. Roberts; Cacenau: Mrs J. G. Allsop, Mrs R. H. Jones, Miss 'Williams a Miss Morgan. Tybaco: Mr F. A. Charlton, Miss Morris a Miss Pearce. Llyfrau: Mr Myrfin Edwards. "Wishing well:" Airs T. P. Thomas a'r Parch Jenkyn Jones. Bwyd Mrs. William Hughes a Mrs Grenville Jones. MILWROL—Gwnae-d cyTfe;riadau ynghapel Horeb ddydd Sul cyn y diweddaf, at ymad- avyiad Mr. Herbert Roberts, London House nai Mr. T. H. Jones), i ymgymeryd a gwasan- aeth milwrol. Svlwai'r Parch. Mr. Row- lands y dylid rhoddi rhestr ii fyny ymhob lie o addoliad o'r aelodau sydd yn gwasanaethu eu gwla.d fel y gall yr aelodiau ymohebu a hwy neu anfon anrheg idd'ynt? Mae Mr. John Finchett wedi cyfleoiwi "Dhol Anr/aydedd" ar ba un y mae enwau yr oil sydd wedi gwir- foddoli Danghosir y rhol yn masnachdy Mr D. G. Williams, y swyddog recriwtio. HOREB.—Yntg nghyfarfod y gymdeithas lenyddol nos Lun, i dan lywyddiaeth Mr Owen Evans caed dadl ar genedlaetholi'r tir. Agor- wyd y mater gan Mr. Arthur Owen, a Mr. J. Samuel Roberts.
Bwlan
Bwlan i^yiNUWKDD MAW RE D DO G. —<Nos Iau' di/weddaf, cynhaliwyd cyngerdd uwchraddol Mr. Jolpi Owen, Y.H. Caer. Gwasanaethwyr: yn y capel uchod tuag at gynorthwyo 'r Belg- iaid. Llywyddtwyd y gweithrediadau gan Mrs. Gwyneddon Davies, Llanwnda; Misses Gwen Jones, Katie Jones, a Blodwen Wil- liams, Caernarfon; Mri. H. Vaughan Davies W. Watkin Williams, A.R.C.M. O. Roberts, a T. O. Jones (Gwynfor) Caernarfon. Cyfeil- iwyd gan Mr. Orwig Williams. Yn ystod y cyfarfod caed anerchiad rhagorol gan y Lly- wydd, ynghyda'r Parchn. Caleb Williams, B.A., a Richard Tliomas, B. A., Bontnewydd. Caed cyngeNiJdi rhagOlrol o'r dechrou i'r di- wedd, a. diau fod elw da. wedi ei siorhau. Go- falwyd am y trefniadau gan Miss Owen, The Cottage, ac y mae diolch yn ddyledus iddi am drefnu cyngerdd mor Iwyddianus.
Advertising
 xxxxxxxxx.xxxxxxxxx.xx.xxxxxx.xxxxxxxxxx S x 3 !}! ==== ::====:==: -=== ==. ===? = 1 PRIF FASNACHDY f i x.X PRIF FASNACHDY S | Nwy ddau Dillad Cymru. 1 = S ? s X v  | = YR WYTHNOS HON. S x x S Grand BAZAAR j x K g S x x J ? X G MWY DDAU CYFADDAS AT X 1 x x ?  ? I ANBHEOON NADODC I 1 x* x | S I| t I FLWYDDYN NEWYDD ? S  7->- X ? = K g ? ? Yr Amrywiaeth Mwyaf a S x x ? welwyd yn Nghaernarfon. S S MECHANICAL TOYSMOTOR CARS, MODEL ENGINES SS x x TRAMS MAIL CARTS, MAGIC LANTERNS, SEWING S X MACHINES. BASINETTS, GUNS, SWORDS, POLAR AND X J BEARS, SCOUTS OUTFITS, DRESS AND UNDRESSED gg DOLLS, MECHANICAL DOLLS, Etc., LEATHER GOODS = ?X x x FURS, LACE COLLARS, GLOVES, LEATHER AND WOLLEN X X Etc., GLOVES, UMBRELLAS, RUGS, GAGS, Etc., Etc. XX ? — x  X x ? COFIER YMWELED A = BAZAAR FAWR Y NADOLIG i X x X YR WYTHNOS HON. g^ ¡ S ??.ii V X s K ? N g x YNI E x | Y Nelson Emporium j | x x ? BONT BRIDD, Caernarfon 1 g I BRYMER & DAVIES. | | ? BRYMER z DAVIES. x  ? ?  ======———- -?????? ? g 8>^WOtMMi^WW>«)OOOaOOttKMran«l«»MM»nm..ww.yyjr
t - - MAliCHNADOEDD CYMREIG.
t MAliCHNADOEDD CYMREIG. CAERNARFON.—YriicTiyii ffrecs Is 5c y pwys; ymenyn pot 16 2c i Is 2tc y pwys; wya,u 6 am Is, (18s 6c y 120); biff 7c l lie y pwys; mutton 8c i He y pwya; poro 8c i 10c y pwys; lamb 9c i 11e y pwys; ffowls 4s 6c y cwpl; hwyaid 3s 6c yr un. BANGOR. Ymeoyn ffres Is 5c y pwys; wyau 5 am Is; biff lOc i Is y pwys; mutton 9c i lIe y pwys. pore lOc y pwys; cywion 2s i 2s 3c. DINBYCH.—Ffowls 3s 6c i 4s 6c y cwpl; hwyaid 4s i 5s y cwpl; wyau 6 i 7 am Is; ymenyn ffres Is 3c i Is Sie y pwys. tybiau bach Is 3e y pwys; biff, o 7c i He; » myton, o 8c i Hie Y PWY8; moch tewion (yn fyw), o 4ic i 4ic y pwys; cwningod, Is 6c y cwpl; gwlan Saesnig, o Is 2c i Its 3c y pwys; a gwlan Cymreig, Is y pwys; afaiao, 3s i 4s 6c y cant (126); phytatw, Is 2c y pecaid, neu tua 7s yr hob. LLANRWST.—Ymenvn ffres Is 3c i Ie. 4e y pwys; otto, hallt, Is 11C i Is 2c y pwye; gwlan 11e i Is v pwys: ffowls, 3s 6c i 4s 6c y cwpl; hwyaid 5s i 6s y cwpl; wyau, 6 i 7 a mis; pytatw, 3s 6c i 3s 9c y 112 pwys. RHUTHYN-Ffowls, o 3s i 3s 6c y cwpl; hwvaid, 4s i 4s 6c y ewpl; wyau, 6 i 7 am Is; ymenyn, Is 2c y pwys; gwlin Cym- reig, 10c i^IO-J-c y pwys; a gwlan Saesnig, Is l Is 0 £ c y pwys. 11
Family Notices
————————— J Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau. PRIODASAU. REES—RICHARDS—Yn nghapel y M.C. Pembroke Terrace, Caerdydd, ddydd Lllawrth, Rhagfyr 8fed, unwyd mewn pnodas Mr. Ed.waird, Wailter Rees, cashier yn y London and Provincial Bank, Caerfyrddin,—mab ieuengaf Mr. Richard Rees, U.H., Machynlleth, un o wyr amlwg Maldwyn, a chadeirydd Pwyllgoir Arianol y sia" honno,—gyda Misa Fanny Richards, ail fereh Mr. a Mrs. John Richards, Goleufryn, Whit- church, ger Caerdydd. Gweinyddwyd gan yr Archdderwydd (y Paa-eh. Evan Rees ) Rees), a'r Parch. M. H. Jones, B.A., Ton Pentre. JONES—HUGHES. Rhagfyr 9fed, ym Mhorthmadog, gan Mr. J. Bennett Jonew, cofrestrydd, Mr. W. Jonas, 2, Eryri Terrace, Penrhyndeudraeth, a Miss Ann Hughes, merch Mr. a Mrs. Griffith Hughes, Bethel Terrace, Pen- rhyndeudraeth. MARWOLAETHAU. JONES.—Rhagfyr 7fl-.d, Mrs. Sarah Jones, priod Mr. Jones, Bwlchgwyn, Penmaen- mawr, yn 39 mlwydd oed. BENNETT—Rhagfyr 9fed, Mrs. A. Bennett, 2, St. David's Road, Caernarfon. Claddwyd ddydd Sadwrn. JONES.—Rhagfyr 9fed, Mrs. Ann Jones, gweddw Mr. Hugh Jones, Bronclogwyn, Harlech, yn 71 mlwydd oed, yr oedd. yn aelod gydar Methodistiaid. Ciadd- wyd hi dydd Gwener. JONES. Rhagfyr 7fed, Mary Jones, anwyl briod y Parch. S. T. Jones, Colwyn Bay, yn 56 mlwydd oed. Ciaddwyd ym mynwent Capel Edeyrn, dydd Iau, Rhagfyr 10. ROBERTS—Rhagfyr 6ed, Mr. Edmund Roberts. Arvonia, Bangor Street, Caer- narfon, yn 40 mlwydd oed. EV ANS.-Hvsbvsir am farwolaeth Mja Evans, Gellilydau Terrace, Maentwrog, yr ??? ddigwyddodd yn hynod sydyn GRIFFITHS.-Ddydd Ian ciaddwyd Mrs Jan,-j Griffitns, priod Mr. Thomas Griffiths, Nant y dwtabran, Pantgl", yn 64 mlwydd oed.