Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

I NODIADAU. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I NODIADAU. I Trychinob yr Empress of Sretand. Yn Liverpool y dydd o'r blaen hys- bysodd Barnwr L/lys y Man-ddyledion, trwy y Drysorfa Gynorthwyol a Deddf At-daliad y byddai i v/eddwon y rhai a gyfarfuasant a'u diwedd yn nhrychineb yr Empress of Ireland dderbyn 15s. 6ch. yn yr wythnos tuag at eu cynhaliaeth tra fyddent byw. Wele'r ymyl arian- aidd i'r cwmwl du hwn. Cofrestr o'r Modurcn. I Dengys cofrestr a gymerwyd gan gyhoeddiad yn dwyn enw "The Car" fod r.ynnydd o 111,695 wedi cymeryd He yn nifer y moduron yn y wlad hon o Dach- wedd 1 y flwyddyn ddiweddaf hyd Dachwedd 1 y flwyddyn hon. Nid oes ond yehydig iawn o flynyddoedd er pan ddaeth y rhai cyntaf o honynt i arferiad, ac erbyn hyn y maent yn rhedeg yn drwm ar sodlau y rheilffyrdd a'r tram- ffyrdd drwy yr holl wlad. • Dr. Hartwell Jones. I Cafodd y Parch. G. HartwellJones, D.D., person Nutfield, Surrey,-Ile bu Goronwy Owen unwaith yn gweinidog- aethu—ei anrhydeddu gan Brifysgol Rhydychen a'r gradd o Ddoethawr mewn Llenyddiaeth. Y mae Dr. Jones yn Gymro gwhdgarol a dysgedig, er yn trigiannu yn Dloegr. Bu am rai blyn- yddoedd yn Broffeswr Lladin ym MhriI- ysgol y Deheudir yng Nghaerdydd, ac y mae wedi gweithredu fel arholydd go- gyfer a gwobrau y Canghellydd yn Rhydychen. Y mae yn aelod hefyd ar y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Hen Gof- golofnau. Dyddorol fydd sylwi pa beth fydd tynged pvyr fel Dr. Hartwell Jones pan ddaw'r cyfle i'r etholaethau eglwysig newyddion ddewis esgobion ac urddasolion eglwysig eraill. Ai alltud- ion fel eu holl dadau a raid iddynt byth fod? j. j. ▼ I Y "Llan" yn Ymbaratoi. I Amlwg yw fod yr Lglwys yng Nghymru, o'r diwedd, yn dechreu ym- baratoi o ddifrif gogyfer a'r cyfnewidiad mawr. Ddydd Gwener, Rhagfyr 11, ymgyfarfu cynhadledd o wyr lien a lleyg yn rhifo oddeutu 850, perthynol i'r ped- air esgobaeth, yn y Mwythig. Fel yr esgob hynaf cymerwyd y gadair gan Esgob Llanelwy, yr hwn a ddywedai nad oeddynt wedi ymgyfarfod i wneud areithiau nac i godi dadleuon ond i wneud gwaith anocheladwy. Fel arfer d}"wedai yr esgob ei feddwl yn ddigwm- pas. Addefai fod Dadgysylltiad a Dad- waddoliad eisoes yn ffajth. Mae'r weithred," meddai, wedi ei gwneud." Yn fradwrus iawn y gwnaed hi, ond y mae wedi ei gwneud. Mae Dadwadd- oliad," meddai, yn awr ar waith. Nis gellir mwyach greu buddiannau newyddion. Pe digwyddai i esgob farw yn awr—yr hyn a-ulai ddigwydd yn hawdd-nis gallai y Goron greu un arall. Er pan ymgyfarfuasai y fath bwyllgor yn y Mwythig o'r blaen yr oedd lliaws o bethau wedi newid. Ond arhosai un peth yn ddigyfnewid. Nis gallai fod gan yr un Eglwyswr y pryder lleiaf 31r ddyfodol yr "Eglwys yng N- ghymrii. Dyna eiriau yr esgob, ac, er yr bar fygvthion y byddai Dadgysylltiad a Dad- waddoliad yn ddinistr anocheladwy i'r eglwys, y maent yn eiriau llawn calondid. a i Y "Llan a'i Phwyllgor. I Rhagorol iawn oedd ymgyfarfyddiad y fath gynhadledd liosog i ddechreu. Ond, fel y dywedai yr esgob, nis gelliri disgwyl i'r fath gynulliad ddyfod ynghyd yn fynych. Oherwydd hynny gwell fyddai ffurfio pwyllgor yn cynrychioli yi holl Eglwys yng Nghymru ac yn gyn- wysedig o gynrychiolaeth deg o bob esgob aetli. Dylai y fath bwyllgor gymeryd i mewn yr elfennau goreu a mwyaf cyfaddas yng Nghymru. Gwaith y pwyllgor hwn yn unig fydd ymwneud a materion ariannol ac amgylchiadol. Rhaid gadael y pethau pannaf--disgybl- aeth, athrawiaeth, a nodda,eth-i gorff arall, yr hwn a greid mewn amser. Pasiwyd yn unfrydol. ar gynygiad Arglwydd Mostyn, fod y pwyllgor hwn i fod yn gvnwysedig o 100-4 esgob wrth eu swydd, 80 o gynrychiolwyr wedi eu dewis gan yr esgobaethau, ac If) wedi eu cyd-ddewis gan y pwyllgor. Y rhif gogyfer a.'r esgobaetliau fel y canlyn: Bangor, 4 gwr lien a 6 gwr llevg; Llan- daf, 12 a 18; Llanelwy, 6 a 9; a Thy- ddewi, 10 a 15; y rhai 4 a 12. Ni. ddywedwvd pwy sydd i ethol y rhai hyn. na pha fodd v maent i wneud hynnv. Ymddiriedwyd hvrmy r-vd- I bwyllgor, y rhai a gymerant lais yr esgobaethau cyn eu mabwysiadu. Y mae yn bur amheus gennym a oes- neb I yng Nghymru nad yw yn dymuno yn dda i'r hen Fam yn ei gyrfa newydd. 1. *c ifc I Dau Can' IVHwyddiant White- field. Yr 16eg o'r mis hwn oedd dydd dan can' mlwyddiant genedigaeth George Whiteneld, yn ddiau y pregethwr pennaf a gynyrchodd Lloegr erioed. Nid yw dweyd fel hyn yn cymylu dim ar hawl- iau y ddau Wesley—John a Charles. Trwyddynt hwy, yn y gymdeithas Feehan efengylaidd yn Rhydychen, y dygwyd ef i adnabyddiaeth brofiadol o drefn iachawdwriaeth, ac yr oedd John Wesley yn ddiau yn meddu doniau ang- hyffredin iawn fel pregethwi1, tra y rhag- orai Charles fel emynnydd. Ond er fod gweinidogaeth John Wesley yn nodedig o effeithiol—yn liawer mwy felly, ni a gredwri, nag y tybir yn gyfiVedin. eto fel trefnwr a llywodraethwr y rhoddir v lie Maenaf iddo. A da hynny. Tra y tvn- nai Whitefield y tyrfaoedd at en gilydd, ac y gwnai iddynt wylo neu cliwerthin fel v mynnai. nid oedd nemor o'r ddawn drefniadol wedi ei hvmddiried iddo. Deuai John Wesley ar ei ol i'w trefnu yn fan-gymdeitliasau, v rhai erbyn heddywT ydynt wedi cynyddu yn bren mawr, ac yn gorchuddio yr holl ddaear. Teithiodd Whitfield lawer ar hyd a lied Lloegr ac Ysgotland, a chafodd Cymru ran li el aeth o'i lafur. Croesodd y Werydid, yn yr a'deg honno, liaws mawr o weithiau. Sefydlodd Amddifaty yn Georgea;- ae yno, yn Newbury, Massn- chusetts, Medi 30, 1770, y bu farw, yn 56 oed. Cvfansoddodd Williams Panty- celyn Farwnad ardderchog iawn iddo. Llys genad at y Pab. Y llys-genad ydyw Syr Henry Howard, yr hwn sydd yn 71 mlwydd oed, ac wedi bod yn y gwasanaeth cyhoeddus fel llys-genhadwr bron ar hyd ei oes. Addysgwyd ef yn ysgol y Benedictiaid gerllaw Bath. Perthyna i'r t-euluoedd Pabaidd uchaf, ac y mae yn gar i Dduc Norfolk, pen gwladol y Pab- yddion yn y deyrnas hon. Aiff Mr. J. D. Gregory, pertliynol i'r Swyddfa. Dramor, yno gydag ef fel Ysgrifennydd y Genhadaeth. Ni bu gennym genhad- aeth fel hon at y Pab er's 400 o flynydd- oedd, ac y mae penodiad hon wedi peri liawer o syndod ac ymofyniad. Dywedir mai dros barhad y rhyfel y mae'r apwyntiad, ac itial-el hamcan ydyw gwrthweithio dylanwad Awstria a Ger- fani ar y llys. Cwyna y newTyddiaduron Ffrengig nad ymgynghorwyd a Ffrainc yn y penodiad. Ni wnaed hynny ych- waith a Llywodraeth Itali. Mae'r Bab- I aeth yn rhyfeddol o anesmwyth oher- wydd nad yw y Pab yn cael ei gydnabod mwyach fel teyrn daearol, a chanddo lywodraeth dyniliorol. Mewn rhyfel gwneir liawer o bethau rhyfedd, ac ni ryfeddem pe deallem fod hwn yn dac newydd i'r cyfeiriad hwnnw. Y Diffyg- Cyflawn ar yr Haul, Y Dlffyg Cyflavvn ar yr Hau. I Yn y Mynyddoedd diweddar cymerir I pobpob cyfle gan seryddwyr i wylio y diSygiadau cyflawn ar yr haul. Eleni cymerai y digwyddiad hwn le Awst 21. Oherwydd y rhyfel neu rvwbeth ni chymerodd seryddwyr swyddogol y wlad hon ran fel arfer yn y digwyddiad. Ond gwnaed hynny gan Arsylla nid anenwog Coleg y Jesuitiaid yn Stonyhurst. x en. odwyd dau o'r Tadau Jesuitaidd i fyned i Kieff, yn y Mor Du, fel y He cymwysal i wylied y diffyg. Ond y mae yn rheol yn Rwsia na clialff yr un Jesuit roddi ei droed i lawr yn yt wlad, ac oherwydd hynny ni chawsant ganiatad i fyned yno. Agorwyd y drws iddynt i fyned i Herno- sand, yn Sweden a chawsant bob croesaw. Yn y Gymdeithas Seryddcol Frenhinol, Rhagfyr 11 rhoddodd y Tad A. L. Cortie hanes yr ymgyrch. Yr oedd yr awyr ar yr amgylchiad yn ber- ffaith glir a'r wybodaeth a ennillwyd yn drwyadl foddhadl. Yr oedd spectrum y cerona yn hdllol wahanol i bob spectrum a welwyd mewn arsylliadau Maenorol. Yngwyneb yr anhawsderau a gyfarfu- wyd gyda'r hin gymylog mewn amgylch- iadau blaenorol o'r fath y mae yn lilawen- ydd fod hwn wedi troi allan mor lwydd- ianus. j

PWYLLGOR ANGEN j SIR GAERNARFONI

DYFODOL YR AIFFT I

IY BRAWDLYSOEDD

[No title]

! 0 DDYDD I DDYDD.

I MILWYR BELGIAIDD YN NGHAERNARFON

¡f IWEDDARAF,

Y SAFLE. I

RHYBUDD YR AMERICAI

Advertising

0 SAFBWYNT CERMANII

Y WASG

CYNGOR DOSBARTH, GW'YRFAI

Y NADOLIG.