Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

TRJLBUJNJ^ib GrWYRFAI

Advertising

[No title]

I -cyngor Piwyf Llanllyfnl.…

I Cyngor Tref Porthmadog I…

Cyngor Doebarth DoudraettiI

Advertising

. - - _-"'"".... - S Cyngor…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

S Cyngor Cwledisr Lleyn < Dydd Mercher.—Mr. J. Hughes Parry yn y gadair.—Pasiwyd i ddigolledi perchenog dillad gwely heintus a losgwyd, ac i gau tai afiach.—Ystyrid yr adroddiad am y cynllun i symud carthion Llithfaen yn foddhaol. COBb- id pwy bynag achosai niwaan&-Hysbyswyd fod Dr. Lloyd Owen wedi cynyg ei hun i'r Fyddin ac wedi ei wrthod.-Eglurodd y Clerc I gynllun Mr. Neville Chamberlain i gael gwas- anaeth pawb yn y wlad. Gellid gweithio y > cynllun drwy y gwahanol Gynghorau Sirol, Dosbarth a Phlwyfol. Bron nas gellid ys- tyried fod pawb yn Lleyn yn gwneyd gwaith cenedlaethol. C?XDEMNIO Y CYNRYCHIOLWYR I MILWROL. j Ynglyn a'r cwestiwn o godi ychwaneg o I I ymborth, cwynai amryw fod yn amhosibl gwneyd hyny yn herwydd y rhew a dififyg gweision. —Mr. Wm. Williams, Punt-y- j Gwair, a ddywedodd eu bod hwy wedi cym- [ eryd ei unig fab ef ymaith, gyda'r canlyniad nas gallai ef o hyn allan ddim dyfod i'r Cyng- hor, na myned i'r capel, am y byddai raid iddo roddi ei holl amser i ofalu am ei ani- feiliaid. Rhyw bobl "y gadair freichiau" oedd yn llywodraethu y wlad yn awr. Yr oeddynt wedi ymddwyn yn anheg iawn tuag ato ef. Nis gallai efe wneyd y goreu o't fferm, yr hon oedd droB 300 acer.—Mr. R. O. Roberts a ystyriai fod yr hyn a wnawd i Mr. Williams yn gam mawr ag ef.—Mr. J. Ro- bertrs, Chwilo. a gwynai fod pobl heb wy- bod am amgylchiadau y ffermwyr ym myned y tu ol i ddyfarniadau y Tribunlysoedd lleoi, ac yn dwyn y dynion o flaen Tribunlys a wneid i fyny o siopwyr a gwerthwyr llechi o ben arall y sir, ac na wyddent ddim am amaethyddiaeth. Sut na fuasai y Pwyllgor Ymgynghorawl wedi cael ei alw?—Y Cad- eirydd Yr oedd y Trnbunlys lleol wedi ym- ddwyn yn deg at Mr. Williams.—Mr. Wil- liams a gydnabyddai hyny, a biodd y bobl a anfonasant y bachgen gerbron Tribunir. na wyddent ddim am amgylchiadau ffarm- wr.—Mr. D. Roberts a gynygiodd eu bod yn gofyn i Brif Swyddog y Recriwtio paham na fuasai y Pwyllgor Ymgynghorawl wedi cael ei alw ynghyd.—Cefnogodd Mr. Nanney Jones, a phasiwyd.—Gwnawd sylwadau cryf- ion iawn ar yr hyn wnaethpwyd gan y Cyn;, rychiolwyr Milwrol.—Sylwodd Mr. R. 0: Roberts nad oedd y swm o fara ganiateid i weithiwr gan Arglwydd Devonport ddim yn ddigon i ddyn fyddai yn aredig am wyth awr y dydd.—Mr. John Pritchard, Carngiwch, gan gyfeirio at godi mwy o ymborth, a ofid- iai na. orfodid i berchenogion y tiroedd oedd dan gocd ei wrteithio.—Mr. R. O. Roberts Os y gwrteithir mwy o dir, o ba le y ceir erydr ac aradrwyr? I WAR BONUSES. Y Parch T. E. Owen a gynygiodd, ar rap y Pwyllgor Arianol fod Mri. D. H. Parry ac H. Williams, Arolygwyr y Flyrdd, a J. T. Turner a H. Roberts, Arolygwyr lechydol, i gael 5p yr un o war bonuses, a ohydwelwyd I a hyny. -?———— 4S4 —

IY Gyngrhorfa Llanddeiniolcn|

I DARGANFYDDIAD PWYSlG j

-MARW GWEIiNSIDOG. I

[No title]

OIOLCH I'R GOGLEDDWYSION.…

...........-................-SUT…

Y FFERMWYR A'R RHYFEL. I

Advertising

----"-CAERNARFON.

GARN A'R CYLCH

EGLWYSBACH

Advertising