Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODION A HANESION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION A HANESION. Talr BIynedd o Garchar. Ym Mrawdlys Stafford, yr wythnos ddiwedcuf cyhuddwyd William Rich- ardson, cyfreithiwr, o gam-ddetnyddio arian p rthynol i tach I yr oedd yn gweithr du drostynt yn Burton-on- Trent. Dywedai y carcharor nad oedd yn ei fwriad o gwbl i dwyllo. Dedfryd- odd y Barnwr ef i benyd-wasanaeth am dair blyuedd. Wedi Blino ar ei Wraig Gyntaf. Y dydd o'r blaen yn Mrawdlys Man- ceinion, cyhuddwyd labrwr o'r enw Thomas Colbeck, 2hin oed, o aml- wreiciaeth. Tystiwyd i'r cyhuddedig briodi gyda dynes o'r enw Mary Jane Wood, yn Ebrill, igi i. a phriododd ddynes arall o'r enw Margaret Rother- ham, yn mis Rhagfyr diweddaf. Dy- wedodd y cyhuddedig iddo briodi dynes 4oain oed, y waith gyntaf, ac ei fod wedi blino ami am ei bod yn rhy hen. Anfonwyd ef i garchar am naw mis. Gwartheg o'r Iwerddon. Glanivvyd yn y wlad hon 135,061 o wartheg o'r Iwerddon, o Ionawr iat hyd y Isfed o Chwefror, neu ar gyfar- taledd dros 3,otto y dydd. Yn ystod yr un amser y llynedd glaniwyd 70,510 Felly gwelir fod mwy o 64,551 o wartheg wedi eu hanfon i'r wlad hon eleni na'r fiwyddyn ddiweddat mewn chwech wythnos o amser. Marw o Oernj. Ddydd Mawrth diweddaf canfyddwyd Mr. G. B. M. Coore. un o ysgritenydd- ion cynorthwyol y Bwrdd Addysg, yn anymwybodol yn St. James' Park, Llundain, a bu farw gynted ag y cyr- haeddodd ysbytty St. George. Bernir iddo gael ei daraw yn wael yn sydyn tra ar ei ffordd i'r swyddfa trwy effaith yr oerfel ar ei galon. Ei Ddedfrydu i Farwolaeth. Yn mrawdlys Bristol, ddydd Mer- cher, dedfrydwyd dyn o'r enw Edward Henry Palmer, 23ain oed. i farwolaeth am lotruddio Ada Louisa James. Cer- ddodd y ddau allan gyda'u gilydd ar y 27»in o Ionawr, a chanfyddwyd y ddyn- es gydag archoll yn ei gwddf. Cyn ei marwolaeth y boreu dilynol gwnaeth ddatganiad mai y carcharor gyflawnodd yr anfadwaith, a desgrifiai effet ei gwr. Pan gymerwyd Palmer i'r ddalta dy- wedodd ei fod yn wael ar ol cymeryd gwenwyn, ond daeth ato ei hun. Tra yn y carchar ysgrifenodd lythyrau yn dweyd ddarfod iddynt briodi yn gyfrin- achol. Yn ei dystiolaeth dywedodd Palmer nad oeddynt wedi priodi, ac iddo wneud y datganiad cyntaf er cadw cymenad y ddynes. -I<- Cyflog Bycban Athrawes. Ym Mhwyllgor Addysg Waltham Abbey, yr wythnos ddiweddaf. gwran- dawyd ar gais an: godir.d cyflog wnaed ar ran moinhess, genetli 27am oed, yr hon sydd yn addysgu yn ysgol elfenol High Ue-:ch er y J 3eg mlynedd diwedd- af, am gyflog o top. y fiwyddyn. Dy- wedid ua dderbyniodd godiad yn ei chyftog er pan y derbvniwyd hi drosodd i;)da r athrawon ereill oedd yn yr ) gan Bivyllgor Addysg Essex yn 1903. Yr oedd yn hynod o fedrus yn ei gwaith. Dywedodd y Parch. A. Woodward tod yr eneth yn cynorthwyo i gynal ei mham weddw, ac yn ystod ei horiau hamdden- 01 a'r gwyliau byddai raid aroi Jyned allan i v/eithio fel waitress. Os gallai Pwyllgor Addysg Essex oddet peth fel hyn dylai fod ganddynt gywilydd o honynt eu hunain. Dywedodd aelod arall nad oedd y cyflog dderbyniai yn ddigon i'w chadw yn drwsiadus. Pas- iwyd per-derfynia&yn arg),nihell Pwyll- gor Add sg Essex i godi y cyilog i sop. « Marw ivvelnidog. Ddydo Sadwrn, bu farw'r Parch. David Griffith, Bethel, ger Caernarfon, yn 90am mlivydd oed. Efe oedd yr hynaf o weinidogion Ymneillduol yn Ngh) mru. a threuliodd 64am o flynydd- au yn y weinidogaeth. Yr oedd yn awdwr o gryn allu, ac y tnae ei walth ar bancs crefydd yn Nghymru yn lied hysbys. Y Divvygiad. Y mae y diwygiad yn L)ut-ddu yn nghymydogaeth Llandrindod. Cyuhelir cylarfodydd diwygiad il gan y Mri. Stephen a George Jeffreys yu nghapel Penybont, ac y mae y bob! yn tyrru i'w gwrando 0 bob man. Damwain Angeuol yn NylTryn Clwyd. Tra yr oedd Mr John Wyr ie, College Farm, Trefna -it, Sir Dinbycli, yn dych- welyd gartref o Ddinbych nos Fawrth diweddaf, cyfarfyddodd a damwain angeuol. Yr oedd y trancedig yn dreifio ceffyl bywiog ar y pryd, a bernir i'r anit3il gael ei ddychrynu, a rhedodd i lawr y rhiw yn orwyllt. Ar ganol y pentref aeth yn erbyn mur un o'r tai ne lladd y ceffyl yn y fan, a thaflwyd Mr Wynne i'r ffordd, a bu farw ymhen ychydig amser. < Cynhebrwng Hynod. Ddydd Mercher diweddaf claddwyd Elizabeth Richards, Graig ddu, Traws- ] fynydd, yn mynwent Llanbedr. Yr oedd wedi dadgan y dymunai gael ei hebrwng i'r lie ar hyd y Llwvbr Rhut- einig, a chan fod y llwybr mor gul fel nas gallai dau gerdded ochr yn ocht hyd-ddo, dygwyd yt arch ar bolyn yn cael ei gario gan bedwar o ddynion, y naill o flaen y llall. Buwyd am dros bedair awr yn gwneud y daith. it oM. Canfod CorfT Mam i Ddau ar Hugain o Blant. Codwyd corff dynes briod o'r enw Hannah Johnson o'r aton Blyth, yr wythnos ddweddaf. Yr oedd yn 46ain oed, ac yn fam i 22Min o blant, 17 o ba I rai sydd yn fyw heddyw, a'r plentyn ieuengat ond pedwar mis oed. Yn y trengholiad dywedodd ei gwr iddo adael ei gartref i fyned i weithio i Barrow-in-Furness, yr wythnos flaen- Iorol. Cyfaddefodd iddo ei tharaw gan ei gwaedu. ond rhocdai fel rheswm mai am iddi hi fygwyth ei daro heto phrocer y gwnaeth hyn. Dychwelodd y rheithwyr reithfarn agored. Ymgrogi o Hiraeth. Ddydd Sadwrn diweddaf cafwyd hen wr o'r enw Ring wedi ymgrogi yn Reading gertydd y gwely ar yr hwn y gorweddai corff ei wraig, yr hon a fu farw ychydig yn flaenorol i hyny. Yr ( oedd yr hen wr yn hiraethus iawn ar ei hol. Bwyta Gormod. Yn sydyn iawn nos lau diweddaf bu farw dyn yn Rawtenstall, a dywedai ei wraig yn y trengholiad ei tod wedi bwyta swper lied helaeth cyn myned i'w wely. Rywbryd. ganol nos cwynai fod ei galon yn sal, a bu farw ymhen chwarter awr. Dywedai y meddyg hefyd mai y swper trwm a fu'r achos o'i farwolaeth. Dadorchuddio Cernun o Tom Ellis Yn Mrymbo, ddydd Mawrth diwedd- af dadorchuddiwyd cerflun o'r diweddar Tom Ellis, A S., wnaed gan Syr Gorscombe John, a'r hwn sydd wedi ei osod yn YSKol y Cyngor, gan Mrs Eltis ei briod. Adgofiodd hwy mai mewn ysgol elfenol y cychwynodd Tom Ellis ei yrfa, ac na tuasai dim a roddai twy o lawenydd i'w phriod, pe y byddai fyw yn awr, na gwelcd ysgolion heirdd trwy Gymru oil. Dywedodd y Parch E. K Jones, yr hwn lywyddai, y gobeithiai y byddai canol neuadd yr ysgolion hyny yn cael eu llenwi a cherf- luniau a choffadwriaeihau eraill o arwyr Cyimeig. Bugail Cyfoethog. Y mae hugail yn yr Ysgotland, o'r enw Donald Gordon, wedi gadael eiddo ar ei ol yn iverth 8,135p. Yr oedd yn hyw yn isel iawn ei amgylchiadau. Bu yn berchen defaid ei hun un tra, ond er's amser maith nid oedd ond yn der- byn cyflog cyffredin bugail Gadawyd rhai canoedJ o bunau iddo gan frawd a fu farw yn Awstralia, ond yr oedd wedi casglu y gweddill o'i ffortun ei hun. Tosturio wrth Sipsiwn. Dygwyd hen wraig o Sipsiwn o flaen ynadon Baschurch, y dydd o'r blaen, am wersyllu ar y briffordo. Dywedai mewn amddiffyniad fod ei gwr wedi marw er's \vhydig, ac na gallai symud y cerbyd ei hun gun nad oedd ganddi ond un mul, a neb i'w chynorthwyo. Yr oedd dros ddeg a thriugain oed ac yn cael y blwydd-dal. Ni bu erioed yn byw mewn ty o falh yn y byd. Tost- urioJd yr ynadon wrth yr hen wreigan pan glywsant ei stori. Yr oedd yn rhaiJ arnynt ei dirwyo am ei throsedd, iond rhoesant yr arian iddi'n ol. < Marw'n y Tren. Pan gyrhaeddodd y hen i Ferthyr o Abergafeni, y dydd l\r blaen, cafwyd John Davies, y ?MW?. yn gorwedd yn farw yn y v(tn. Dywedai meddyg yn y trengholiad mai diffyg y galon oedd acbos ei farwolaeth. Tren yn mynd iros Blentyn. Yr oedd bachgcn bychan yn chware toliir blatforni gorsaf* St. Helens ddydd Sadwrn, a syrthiodd ci dop trosodd i'r rhciliau. Aeth y bychan i lawr i'w gei.,Io a rhedodd tren tresto gan ei ladd yn ddisyniwth. Codwyd ei gorff i h y gaii ei dad, yr hwn a alwyd yno gan rai o'r plant llcdd yo cyd-chware a'r bachgen. + Dywedir fod Nit- Marconi, wedi cym- I eryd Glyn Avon. ger y Waenfawr, i fyw ynddo yn yr hut.

Yr Anthem Genedlae tholI Gymreig.

Darluniau Symudol mewnI Capel.…

Pan gyntaf gyrhaeddodd y i…

I Etholiad Chorley. I -I

Trychineb ar y BrifFordd.…

Dryllio Ty Mr Lloyd George.I

Galanastra'r Suffragettes.

Llyfrgell Gymreig Enwog ar…

Digwyddiad Adfydus. - - &…

Rhal ffeithiau ynglyn a deohreuad…

[No title]

Cyngor Dosbarth Lleyn.

Advertising