Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODION A HANESION.

Chwythu Agerlong Brydeinig…

-,-v - Pwllheli a Chaernarfon.…

Y Suffragettes Eto. !

ICreulondeb at Fuwch. I

ETHOLIADAU'R OYNGOR SIR.

Advertising

U ICyfarfod Misol Lleyn ac…

Ag-oriad y Senedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ag-oriad y Senedd. ) Ddoe, ddydd Llun, agorwyd y Sen- edd mewn rhwysg a defod gan y Brenin, ar ddechreuad ei thrydydd Senedd-dymor. Am y tro cyntaf mewn cot gwisgai y Brenin a'r Frenhines eu coronau. Yn ei araeth cyfeiriodd y Brenin at y rhyfel yn y Dwyrain, a dywedodd fod y Galluoedd Mawrion oil yn awyddus am i heddwch gael ei sefydlu, ac fod ymdrechion wedi eu gwneud tuag at sicrhau hyny. Gyda gohvg ar raglen y Senedd, nid oedd yn cynwys ond ychydig tesurau newyddion. Bydd i fesurau Ymreolaeth i'r Iwerddon a Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eg- lwys yn Nghymru gael eu dwyn o flaen Ty'r Arglwyddi. Yn ychwanegol at y mesurau hyny byddai i Dy'r Cyffredin ymdrin a Mesurau ynglyn a'r Etbol- fraint, Tir Bryniant yn yr Iwerddon, ac Addysg. V MERCHED YN AFLONYDDU. Nid oeddis yn disgwyl yr elai yr amgylchiad ?wys!g o agoriad y Senedd heibio heb i'r merched wneud rhyw ymgais pellach i ddwyn gwaradwydd aroynt hwy eu hunain a'u hachos, ac felly y bu. Pan oedd y cerbyd a gyn- wysai y Brenin a'r Frenhines yn yr orymdaith yn dynesu at Pall Mall ceis- iodd amryw ferched ruthro ymlaen at y cerbyd i gvilwyno deisebau i'r Breain, ond nis gallasant fyned nepell gan i'r dyrfa a'r heddgeidwaid eu rhwystro. Wedi methu yn eu hymgais i fyned at y cerbyd ceisiasant luchio y deisebau iddo, ond methasant yn hyny drachefn. Cymerwyd y merched i orsaf yr heddlu a chyhuddwyd hwy o rwystro i'r hedd- geidwaid gyflawni eu dyledswyddau. Dyma yr envau roesant: Miss Dorothy Smith, Mrs. Lilian Dove Willcox, Miss Kathleen Paget, Miss Gertrude Vaugh- an, a Miss Grace Stuart. •v --0--

Advertising