Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

) PWLLHELI.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

) PWLLHELI. OYHOEDDIADAU SABBOTHOL— Maw. 16. Penlsn (A), am 10 a 6, Parch Morgan Price, Chwilog. Capel Seisnlg (A.) Cardiff Road, am 11 a 6-30, Parch D. W. Roberts, Gweiuidog. "Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch Richard Hughes, Brymbo. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch D. Williams, M.A., Aberystwyth. fiapel Heianig (M.O.) Ala Road am 11 a 6-30, Parch John Evans, Gweinidog. Tabernaol (Ji.), am 10 a. 6, Parch Gwilym Owen, B. A., Bangor. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, y sol. Yagol Genbadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfarfod weddi am 2, Ysgo). Vagol Genhadoi North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. South Beach (M.C.) am 2, Parch W. Lewi Jones, Babel). Tarsia (M.C), am 10 a 6, Parch W. lewilg Jones, Babell. Seion (W.) am 10, Parch W. G. Hughes, Criccieth am 6. Mr Joseph Jones, Nefyn. St. Pedr, 9-3) a 6 (Cymra8). 11 a 6 (Seisnig) Parch. J. Edwarda, B.A., Ficer, a'r Parch. T. Woodifcgs, B.A., Ourad. Cenhadaeth Lydonijr North Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Yøgol; am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Merour, brnedicbiwn LLADD N E r D R.-Ddydd Llun, yn ngardd y Ffridd, lladdodd Mri Griffith Jones a Thomas Lunt, y rhai sydd yn ngwasanaeth Mr W. Eifl Jones, neidr dros dair troedfeda o hyd. A P W Y N T I A D -Liongyfarchwn Mr Richard Roberts, mab Mr T. J. Ro- berts, St. Tudwal's Terrace, ar ei ap- wyntiad i swydd o dan y Llywodraeth yn Nghaerdydd. YN SYMUD.—Y mae Mr. W. O. Hughes, rheolwr Ariandy y Metropoli- tan, wedi ei apwyntio yn rheolwr cang- en Llandudno o'r ariandy uchod, fel olynydd i Mr. Adoniah Evans, yr hwn sy'n ymddiswyddo. DEW I S BLAENORIAID.—Nos Wener diweddaf bu eglwys Salem yn dewis ychwaneg o flaenoriaid. Y rhai a gan- lyn a ddewiswyd,— Mri. D. Caradog Evans, argraffydd R. Barker Jones, LJeyn Street, ac R. Parry, Gwynfryn. MARWOLAETH.-Nos Sadwrn diwedd- af, wedi cystudd maith a phoenus, bu farw Mr Robert Richard Jones, sett- maker, Lleyn Street,-mab ieuengaf Mr Hugh Jones, Cardigan Bay Fish Shop. Yr oedd yr ymadawedig yn 42 mlwydd oed, a gedy mewn galar o'i ol weddw a thri o blant, a'r rhai y cyd- ymdeimlir yn ddwys. Cleddir ddydd Iau, am haner awr wedi un, yn myn- went Denio. YMADAWIAD.-Prydnawn Iau cych" wynodd Dr. J. Ellis Griffith, Bank Place, a'r teulu, ar eu taith i Montreal, Canada, He y bwriadant ymsefydlu. Yr oedd canoedd o'u cyfeillion wedi ymgasglu i'r orsat i ganu yn iach ac i ddymuno yn dda iddynt yn eu gwlad newydd. Nos Fawrth cynhaliwyd swper ymadawol iddo ef a'r teulu yn y South Beach Hotel. CYMDEITHAS LENYDDOL Y TABERNACL. -Gofidiwn ein bod, trwy rhyw an- ffawd, wedi gadael yr enwau canlynol allan o'r UDGORN yr wythnos ddiwedd- af, sef Mr. Dowsing am feirniadu y blodau, Mr. R. Griffith am feirniadu y drawing, a Mr. Alfred Lewis am feirn- iadu. Hefyd diolchwn i Mr. J. O. Jones am ganu, i Miss Jones, Llys Pedr, a Mrs. Dowsing am adrodd, ac i Miss Annie Jones api gyfeilio. Yr wythnos ddiweddaf cynhaliwyd cyfarfod brodyr eglwys Penmount, pryd y caed adroddiad o setyllfa yr achos ar ol yr adgyweiriadau diweddar. Tal- wyd yn ystod y flwyddyn £ 800 o'r ddyled, yn gadael gweddill o ^2,000. Da oedd genym weled fod y ddiweddar chwaer Mrs. Davies, Isallt, wedi gad- ael £ 100 yn ei hewyllys i'r eglwys. Bu y ddiweddar chwaer hon yn hael- ionus yn ei bywyd, a gadawodd etto swm anrhydeddus i'r eglwys yn ei marwolaeth. Dyma esiampl gwerth ei hefelychu. CYMDEITHAS Y MERCHED IEUAINC.- Nos Fercher, yn Festri Capel Ala Road, o dan lywyddiaeth Mrs. Will- iams, Snowdon View, cynhaliwyd cyf- arfod a:nrywiaethol o'r uchod. Dech- reuwyd trwy gyd-adrodd Gweddi yr Arglwydd. Cymerwyd rhan gan am- ryw trwy adrodd a chanu. Cafwyd cystadleuaeth o ddarllen ar yr olwg gyntaf. iaf, Miss Blodwen Davies Mi?s H. M. Roberts a Miss E. Jones yn gydradd ail. Cafwyd anerchiadau hefyd gan Mrs. Davies, Mrs. Thomas, a'r Llywyddes. Treuliwyd noson ddymunQL GWYL FAT.-Prydnawn Gwener cyf- arfu masnachwyr y dref ac aelodau o'r Cyngor Trefol er ceisio trefnu ar gyfer coroni Brenbines Mai yn y dref. Llywyddwyd gan Dr. R. Jones-Evans. Wedi peth trafodneth pasiwyd dydd Isu, Mai 29am, fet y dyddiad, ac yn ychwanegol pasiaryd fod gorymdaith a chwareuon i'w trefnu yr un dydd. Penodwyd* Dr. R. Jones-Evans, Mri. D. John Jones, F. E. 't oung, Cradoc Davies, W. Wynna Owen, R. Albert Jones, ac amryw chwiorydd, yn bwyll- gor i wneud y trefn; adau angenrheidiol, a Mr. J J. Edwards yn ysgrifenydd. GWLEDD A CHYFARFOD.—Nos Iau diweddaf dirwynw\ j Cymdeithas Len- yddol Penmount i fyny am y tymor trwy gynal gwledd a chyfarfod. Ar ol cael eu digoni a'r danteithion caed cyf- arfod amrywiaethol dan lywyddiaeth y Parch. Puleston jones. Cymerwyd rhan ynddo gan Miss M. A. Williams, Mrs. Williams, Crown Boot Stores, Mri Meirion Roberts, Edward Jones, f). T. „ D VWCII IIIUII15, 1 Uiil VWCU, c1 ""1. Jones Evans. Caed amryw gystadleuon pwysig. Gwasanaethwyd fel beirniaid cerddorol gar. Mri. Samuel Williams a W. Picton Jones, a'r amrywiaeth gan y Parch. Thomas Williams a Mr. O. Ellis Jones. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r boneddigesau am ddar- paru y wledd. TEML SOAR.—Nos Fercher diweddaf, yn Penmount, cafwyd swper rhagorol, yr hwn oedd wedi ei drefnu yn y modd goreu gan chwiorydd y Demi. Wedi i bawb orphen gwledda cafwyd cyfarfod, yr hwn oedd yn cynwys anerchiadau, adroddiadau, a chsneuon. Dyma en- wau y rhai gymerodd ran :-Antrch- iadau, Parchn. J. Puleston Jones, M.A., D. W. Roberts, John Evans, Thomas Williams, a D. E. Davies. Adrodd- iadau, Mri. John Robinson, William Hughes, Aweton, a Miss Maggie Roberts, River Sid,. Caneuon, Misses Katie Jones Griffith a Kate Ellen Hughes, Miss Jones, Nantlle House, a Sallie a Griffith O. Griffith. Siaradodd Mr. William Morns, Sand Street, a Mr. Richard Jones, Penrhydlyniog, yn ystod y cyfarfod. Daeth dros haner cant ynghyd. Hefyd derbyniwyd ped. war o aelodau newyddion i'r Deml. Ar gynygiad Mr R Barker Jones, ac eiliad Mr. Thomas Ellis, pasiwyd diolchgarwch i'r chwiorydd am drefnu y swper.- YSG. CYMDEITHAS LENYDDOL SEION (W).— Nos Iau diweddaf cafwyd Cyfarfod Cystadleuol o dan nawdd y gymdeithas uchod. Llywyddwyd gan y Parch, D. Thomas, ac arweiniwyd gan Mr H. E. Roberts, Gas Works Wele enwau y buddugwyr-Am yr atebion ysgrifen- edig goreu o'r Maes Llafur i rai dan 21 oed, i, Miss Ellen j. Goodman, Aber- erch Road Adroddiad i ral dan 21 oed, i, Miss Ellen J. Goodman, Abererch Road Adroddiad i rai dan 10 oed, I, John E. Roberts, 2, Arthur Williams Cyfansoddi brawdd^gau yn dechreu 'gyda'r llythyren C, I, Mr J. Morley Edwards, Gwalia 2, Mr Evan Hughes, Epworth Egturo pedair dihareb Gym- reig, i, Mr Dan Thomas, Central Buildings Darlun L 1iwiedig o unrhyw flodeuyn, i, Mr E. Hughes, Epworth Black board drawing, I, Mr Wm. Rob- erts Unawd i enetbod dan 18 oed, i, Miss Joyce H. Evans, Craigmor; Un- awd i fechgyn dan 18 oed, i, Owen M. Roberts, 2, Arthur Williams Deuawd, i, Misses Lizzie Roberts a Sydney Jot.es; Canu penilli >n telyn, I, Owen M. Roberts Unaw i i rai dros 18 oed, Miss Foulkes, Artro. Cyflwynwyd yn y cyfarfod, i Mr Richard Roberts, St. Tudwall's Terrace, ar ei ymadawiad o'r dret i Gaerdydd, Fe?b!, rhoddedig gan ei athraw yn yr Ys?ot Sul (Mr Lewis Morris, New Row), -■ Llyfr Hymnau a Thonau gan ei ddosbarth. Diolchwyd i'r beirniaid a phawb am eu gwasan- aeth. V SG.

IABERERCH

CIIWILOG.

LLANNOIi!

LLITHFAEN !

-0- ! PENRHOS. I

IuRHIW. -.9! I ?, - - 'i -..…

IEisteddfod Pwllheli, Gwyl…

Bwrdd GwarcheiiwaidI Pwllheli.

11,000p. o Feichi,,,fon.1

.3Bart)Doniaetb.I

Cwmni Yswiriol y Pearl.

Cyfarfod Ysgollon M O. Dosbarth…

(Bobebtactbau.

GWASTRAFF Y CYNGHOR TREFOL

Advertising