Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODION A HANESION.

Cwyn ynglyn a Sanatorium.1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwyn ynglyn a Sanatorium. 1 CLEIFION YN GADAEL Y LLE. Yr wythnos ddiweddaf ymadawodd deuddeg o gleifion, yr oil yn Gymry, o Sanatorium Udal Torre, De Devon, sefydliad o dan yr Iswiriant Cenedl- aethol ar gyfer rhai yn dioddef oddi wrth y darfodedigaeth. Gwnaethant hyny fel protest yn erbyn y bwyd a roddid iddynt yn y He. Dyma enwau y personau a adawsant y sefydliad G. Robbins, Abertileri; R. Morgan, Pen- deryn G. J. Jenkins, Troedyrhiw R. L. Richards, Abertawe; S. Cann, Mynwy; S Gabriel, Abertawe; G. Harrington. Merthyr T H. Richards, Abertawe F. C. Morgan, Caerdydd H. O. Richards, Caernarfon, ac M. O'Brien, Abertawe. Dywedodd un ohonynt, sef Mr. Ed- wards, athraw yn Ysgol Barry, ond yr hwn sydd a'i gartref yn Nghaernarfon, iddo gael ei symud i'r sefydliad hwn wythnos yn ol. Rhoed i mi ddysglau i'w golchi, y rhai a ddefnyddiwyd gan y naill a'r llall o honom. Gofynais i'r meddyg paham nad oedd y He o dan drefn briodol, ac y credwn nad oedd yr un iidys-^1 i gael ei defnyddio ond yn unig gan yr un claf yn wastadol. Dy- j ?ed'?dd ein bod ni y Cymry mewn tipyn {(ormod o frys, ac fod golchi dysglau gyda dwr yn ddigon i'w gwneud yn addas i'w defnyddio drachefn. Gwnaeth- om gwyn ynghylch y bwyd gynted ag yr aethom yno bron. Gwnaed ychydig gyfnewidiad, ond nid oeddym yn fodd- !on. Aeth pethay mor ddrwg, fodd by nag, yn arbenig adeg boreubryd, fel yr elai amryw o'r cleifion at eu gwaith heb ddigon o fwyd. Y boreu y gadaw- som y lie yr oedd pethau wedi mynd mor ddrwg fel yr aeth deunaw o honom heb frecwast, ac aethom at y meddyg. Addefodd tod y bwyd wedi ei goginio yn wael, a'u bod yn ceisio cael gwell- iant. Yr oedd naw wythnos yn rhy faith genym i aros am welliant yn yr amgylchiadau, a dywedasom wrtho ein bod yn mynd gartref. Ei atebiad oedd ein bod mewn gwlad rydd, ac fod genym hawl i fynd i'r fan a fynom." -o

Styddiad Agerlong yn MauI…

IRhwymyn Undeb Pwllheli aI…

Codi CorfF o'r Bedd.I

Nodion o Affrig. I

Ethollad Kendal.|

Cyfarfod Ohwarterol Annibynwyr\…

,Buddugoilaoth Ryddfrydol…

Marw Pencerdd Gwalia.J

Cyngor -Dosbarth Lleyn.

-. Llofruddio Brenin Groec.

Llosgi Ty Lady White.

! i Ysgolion $ir O&ernarfon.

I'Cyhuddiad Difrifol yn erbyn…

Geneth Berysrlus.

Digwyddiad Trist.