Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODION A HANESION. !

Hunanladdiad yn Mhenygroes.…

-v - Erchyllderau Rhyfel.…

Ystranciau'r Suffragettes.

Liosgilr Bil Cymreig. I

,Yr Un Stori Eto. t

-v - - Undeb Ysgrolion Annitynwyr…

Dedfryd Mrs. Pankhurst.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dedfryd Mrs. Pankhurst. TAIR BLYNEDD 0 BENYD- WASANAETH. Ddydd lau diweddaf dedfrydwyd Mrs. Pankhurst i dair blynedd o benyd wasanaeth am anog personau anhysbys' i ddinystrio'r ty yn Walton Heath, yr hwn oedd ar gael ei osod ar brydles gan Syr George Riddell i Mr. Uoyd George. Yr oedd llawer iawr. o gyfeillesau Mrs Pankhurst yn. bresenol yn y Ilys, a phan ddywedodd y barnwr wrth y gyhuddedig mai y ddedfryd leiaf a allai ¡, basio arni oedd tair blynedd o benya- wasanaeth, edrychai y garchares a'i chyfeillion f,,1 pe wedi eu parlvsu, ond yn t'uan dechreuodd rhai o'r merched waeddi H Cywilydd," ac aeth yn gyffro mawr yn y lie am ysbaid, fel nas gellid clywed llais y barnwr. Ar derfyn ei haraith amddiffynol dy- wedodd Mrs. Pankhurst na byddai iddi roi i mewn beth bynag fyddai y dded- fryd arni. Os i garchar yr anfonid hi, y munud y gadawai y llys byddai iddi wrthod bwyta. Byddai iddi ddod allan o garchar yn fyw nen farw y foment gyntaf posibl ac os mai'n fyw y deuai y parhai i ymladd os gallai tros yr achos ag yr oedd hi ag eraill wedi ymrwymo i aberthu er ei fwyn. Wrth ddwyn yr achos i fyny dywedai y barnwr wrth y rheith'wyr nad oeddynt i gymeryd sylw o'r materion ar y rhai y bu y ddiffynyddes yn siarad yn y llys, ond y dylent gyfyngu eu hunain yn hollol i'r dystiolaeth yn unig. Credai y I byddai i'r rheithwyr gytuno, os oedd Mrs. Pankhurst yn euog o'r cyhudd- iadau oedd yn ei herbyn, nad oedd wedi cyflawni'r troseddau gyda'r amcanion hunanol a nodweddai y troseddwyr ddygid o flaen y )!ys yn gyffredin. Ond nid oedd yn Hat euog os y gwnaeth yr hyn y cyhuddid hi ohono, er ei bod yn credu mai trwy weithredoedd o'r I fath y gellid gwella cyflwr cymdeithas. Cafodd y rheithwyr hi yn euog, ond argymhellent iddi gael trugaredd. Yna rhoes y barnwr ei ddedfryd fel y nod- wyd eisoes. I ——————————————————————— r

Merlyn y Slpslwn.

-0 Geneth wedi colli el Chof.

-u-Marw Cerddor Enwog,

Advertising