Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BOREU SADWRN y fan hell*! Pob archebion a t,h41i"d.n am V r Udgobs i'w hafif >d i'r Ooruchwtliwr, 74* High Street, Pwllheli Pob gohebiaeth i'w cyfeirio- YB UDGORX OrricR, Pwllhkli. Bydd yn dda genym dderhyn gohfh. iaetbau oddiwrth ohehwyr &r fatmion lleol o ddyddordeb cyhoeddus.
NODION A HANESION.
NODION A HANESION. Cael Corff yn y Ddyfrdwy. Caed corff dyn o Blackburn, o'r enw William Taylor, yn y Ddyfrdwy, y dydd o'r blaen, ac archoll ergyd yn ei dalcen. Yn ei boced yr oedd nodyn, yn yr hwn y ffarweliai y tranceqig a'i holl gyfeillion. Er's ychydig amser daethai y dyn i Gaer yn unol a chyngor meddyg i geisio adferiad i'w iechye. < Bechgyn Ynfyd. Cafodd naw o fechgyn eu dirwyo yn Llanidloes, y dydd o'r blaen i cha-e swllt yr un, am osod gwifren ar draws y ffordd yn y oos, Tystiwyd i ddynes a phientyn yn ei breichiau syrthio ar draws y wifren. Canfuwyd Hidiart wedi ei rhoi ar draws y ffordd mewn lie arall. Tynwyd y wifren ymaith gan Mr David Jones, Post Office, a dywedodd yr heddgeidwaid i rywun droi gwartheg David Jones allan o'r caeau a'u gyru ymhell o'r lie, am ei fod wedi cael gwys i dystio yn yr achos. Yr Ieir yn ei AdnaboJ Gwrandawyd achos doniol iawn yn Macclesfield, y dydd o'r blaeo. Anfon- wyd dyn o'r enw George Cochrane i garchar am fis am ddwyn chwech o ieir a cheiliog. Eiddo ffermwr o'r enw Charles Woodword oedd yr ieir, a dywedai yr erlynydd i'r ieir gael eu cymeryd o gwt yn ei gae, ac ymhen deuddydd neu dri gwelodd hwy mewn gardd yn Macclesfield. Gofynodd iddynt "Beth wnewch chwi yma." Adwaenodd yr ieir ef, a daethant ato. Pan oedd yr erlynydd yn rhoi ei dyst- iolaeth dechreuodd yr ieir glochdar yn y llys, a bu raid atal yr achos i'w symud allan oddiyno. 4- Marw Arglwydd Avebury. Yr wythnos ddiweddaf, yn Kings- gate Catle, R:tms-ate, bu farw Arglwydd Avebury, neu Syr John Lubbock, fel yr adnabyddid ef gynt. Yr oedd yn un o'r dynion enwocafyn y deyi- nas ar lawer ystyr. Yr oedd yn un o wyddonwyr mwyat yr oes, yn wleidydd- wr. diwygiwr cymdeithasol. yn natur- iaethwr, ac yn hyfedr neillduol mewn trin materion arianol. Pan yn Nhy'r Cyffredin bu yn gyfriful ain ddeg o tesurau, ac iddo ef y mae'r wlad i ddiotch am Ddeddf Gwyl y Banciau. Pan nad oedd ond dyn ieuanc iawn tal- wyd teyrnged uchel i'w alluoedd gan yr enwog Charles Darwin. Bachgen Gwrol yn Boddi. Yr oedd nifer o blant yn ymdrochi mewn llyn yn Brymbo, ger Gwrecsam, yr wythnos ddiweddaf, a gwelwyd fod un o honynt, bachgen bychan o'r enw John Guest, wedi mynd i le rhy dd" fn ac mewn perygl o golli ei tyw d. Aeth bachgen arall o'r enw Emrys Evans i'w gynorthwyo, ond aeth yntau hefyd i le rhy ddwfn, a bu y ddau foddi. Yn y trengholiad gynhaliwyd ar y cyrff dydd lau, tystiwyd gan John David Hughes a John Griffiths, dau ddyn ieuanc, iddynt wneud ) mdrech i acht-b byA yd y bechgyn ond iddynt fethu yn eu hym- gais Bu agos i un o honynt hwythau hefyd toddi gan nas gallai nofio, ac yr oedd wedi neidio i'r llyn yn ei ddillad- Rhoes y crwner a'r rheithwyr ganmol- iaeth uchel i Hughes a Griffiths, ac addawyd cymeradwyo'r ddau i gael medal y Gymdeithas Ddyngarol Fren- hinol. Suffragettes yn Llanrwst. Gwelwyd merched dieithr yn Llan- rwst y dyddiau diweddaf, a dydd Mercher yr oedd aelodau y Clwb Golff ar y cwrs yn chware, ac wedi gadael eu hetiau a rhai o'u dillad yma ac acw hyd y lie. Cyn hir gwelent fflagiau bychan wedi eu gosod yn ymyl y dillad, a'r geiriau U Pleidtais i Ferched," wedi eu hargrafTu arnynt. Dechreuodd y coed sydd ogylch Castell Gwydir gymeryd t-in hefyd, a bernir mai gwaith y merched hyny ydoedd. Uwyddwyd i ddiffodd y tan, ond nid cyn i gryn ddi- frod gael ei achosi It Noson Allan" a'r Canlyniad. Caed dyn ieuanc o Wigan wedi boddi yn y gamlas y dydd o'r blaen. Nid oedd ond un ar hugain oed, ac yn wr priod. Gadawodd ei gartref nos Lun i fynd i chwareudy ac arhosodd allan drwy'r nos. Pan ofynodd ei wraig iddo beth oedd yr achos, dywedodd y rhaid fod rhywbeth ar ei ben. Aeth o'r ty y boreu wedyn i fynd at ei waith, ond caed ef wedi boddi yn y gamlas. I Trychineb mewn Gwallgofdy. Y dydd o'r bl-ien aeth dyn i wallgof- dy St. Alban, Hertfordshire, i edrych am ei wraig, yr hon oedd yn y gwall- goidy. Yr oedd y dyn hefyd wedi bod yn isel iawn ei feddwl er's peth amser. Yr oedd yno bobl eraill hefyd o'r un lie ag ef yn edrych am t-erthynsau iddynt Pan welodd y wraig y bobl yno yr oedd yn amlwg nad oedd yn hoffi eu presenol- deb, a gwnaeth hyny y gwr yn an- esmwyth iawn. Pan yr oedd y c) m- ydogion ar gychwyn oddiyno clywent ergyd, a gwelent y ddynes yn syrthio i lawr, saethodd y gwr drachefn, ac yna saethodd ei hun. Bu'r ddynes tarw yn ebrwydd, ac yr oedd y dyn wedi ei niweidio'n ddifrifol Dirwy Drom Am ganiatau betio yn ei dy cafodd Thomas Kelly, Leigh, ei ddirwyo i haner cant o bunau a'r costau. Calodd ei wraig a'i fam-ynghyfraith hefyd eu dirwyo i bum' punt yr un am gynorth- wyo. <. • Llew yn Ymosoi ar ei Geidwad. Yn arddangosfi Bostock a Woinbell, yn Plymouth, ddydd Mercher diweddaf, ymosododd llew ieuanc ar Mr Frank VVombell pan yr oedd yn perfformio gydag ef, ac archollodd ef yn ddifritol iawn. Y diwrnod hwnw yr oedd y llew wedi cyraedd o Affrica. Achosodd yr helynt gyffro mawr yn y filodfa. Awyrlong ar Dan. Cafodd dau awyrwr ddihangfa gyfyng iawn y dydd o'r blaen yn Salisbury. Aeth y ddau i fyny mewn awyrlong, a phan yn yr uchder o tua deuddeng mil o droedfeddi canfuwyd fod yr awyrlong ar dân. Gwnaed darpariadau ar un- waith i ddisgyn i lawr yn sytfr. Yr oedd y peiriant wedi mynd mor boeth fel yr oedd yn rhaid i'r gyriedydd sefyll ar ei draed. Disgynasant i lawr yn ddianaf, a neidiasant ohoni ar unwaith. Gynted ag y gwnaethant hyny ffrwyd- rodd y tancpetrol ac aeth yr awyrlong yn ddarnau. Gwerthu Gwraig am Bunt. Yn Wigan y dydd or blaen yr oedd dynes ieuanc, yr hon oedd yn briod, yn apelio am archeb at gynal ei phlentyn, a gofynodd y clerc iddi pam y gadawodd ei gwr. Dywedodd hithau fod ei gwr wedi ei gwerthu am bunt i'r diffynydd, yr hwn hefyd oedd yn wr priod Werthodd ef ei wraig i rywun, gofyn- i ai y clerc, ond nis gwyddai y ddynes a I oedd wedi gwneyd hyny ai peidio. Yr oedd wedi byw hefoV diffynydd am chwech wythnos ar ot i'r plentyn gael ei eni. Gormod o John Jonesiaid. Yn Nghyngor Portardawe y dydd o'r blaen cynygiai y Parch Evan Davies, fod y tai yn nosbarth Caugurwen yn cael eu rhifo. Yr oedd y lie yn cynyddu'n ddirfawr, meddai. Roedd ef ei hun wedi bedyddio tros gant o blant, a byddai rhifo'r tai yn hwylusdod mawr yn herwydd nad oedd pobl yn Gwaun- Caugurwen yn cael eu galw wrth eu henwau priodol. "Yr Hen Berson" y gelwid ef gan bawb, ac nid y Parch Evan Davies. Mewn ambell i heol yr oedd tri dyn yn dwyn yr enw John Jones, a phan ddeuai llythyr i John Jones" yn yr heol hono, rhoddai y llythyr-gludydd ef yn y ty nesaf ato. Efallai yr agoiid y llythyr gan y wraig, ac yna byddai yno helynt anaele. A Cynwrf mewn Cyngerdd. Nos Wener diweddaf, cynhelid cyngerdd yn Llanfair Talhaiarn, er budd cronfa'r Eglwys yn y lie, ac yr oedd nifer o gantorion o Rhyl ac Aber- gele wedi dod yno i gymeryd rhan. Yn ystod y cyngerdd dechreuodd nifer o techgyn gynhyrfu. Apeliodd y ficer am iddynt fod yn ddistaw, a chan nad oeddynt yn tawelu ceisiwyd mynd a hwy allan. Aeth yn gyffro mawr yno, a bu raid tori y cyngerdd i fynu Lluchiwyd cerrig at rai o'r cantorion, a bu raid iddynt ffoi am toches i dafarndy. Ymgais i Roi Gorsaf ar ran. Yn hwyr nos Sadwrn diweddaf, gwnaed ymgais i roi gorsaf Shields Road, Glasgow, ar dan, a thybir mai gwaith y suffragettes ydoedd. Can- fuwyd mwg yn dod o un o'r ystafell- oedd gan rai o weithwyr y rheilffordd, a gynted ag y llwyddwyd i roi y tan allan yn y fan hono gwelwyd fod ystafell arall yn y rhan isaf o'r orsaf yn dechreu cyneu. Buwyd am gryn amser cyn y llwyddwyd i ddiffodd hwnw, ac yr oedd cryn niwed wedi cael ei wneud ar y ddwy ystafell. Ychydig cyn i'r tan j dori allan gwelwyd dwy ddynes yn dod o'r ystafell. I # ♦ Damwain yn Llandudno. Cyfarfu boneddwr o Landudno o'r enw Mr D. Walker, a damwain ddifrifol ddydd Sadwrn, ac ofnir y bydd yn angau iddo. Yr oedd ef a dau o ddyn- ion ereill yn dod mewn gwagen i lawr gait serth ar y Great Orme. Rywtodd llithrodd yr olwynion a thrawodd ochr y aen yn eibyn y graig nes y taflwyd y tri dyn o honi. Syrthiodd Mr Walk- er o dan y wagen, a chafodd ei lusgo i lawr yr allt am tua haner cant o latheni Ni chafodd y ddau arall ond ychydig ysgyttad, ond I u raid cludo Mr Walker i'r ysbyty. Cafodd ei anafu'n dditrifol, I ac yr oedd yn anyn.wybodol.
Ysbeilwyr mewn Hotel. I
Ysbeilwyr mewn Hotel. l DWYN GWERTH 3,ooop 0 DLYS- j AU. Yn gynar foreu lau diweddaf llwydd- odd lladron i dori i mewn i'r Berkley Hotel, Piccadilly, Llundain, ac aethant a gwerth tua 3,ooop. o dlysau, eiddo y gwestywyr, ymaith oddiyno. Oddeutu tri o'r gloch y boreu clyw- odd rhai o'r gwestywyr gynwrf yn yr hotel, ond ni thybiasant fod dim neill- duol yn digwydd. Fodd bynag, clyw- odd heddgeidwaid rywun yn gwaeddi am gymorth yn yr hotel, ac aethant i mewn i'r l'e. Yno mewn ystafell fech- an cawsont un o'r porters wediei gylymu ddwylaw a thraed, ac yn dechreu dod ato'i hun ar 01 cael ei guro ar ei ben. Mewn swyddfa fechan gerllaw i'r ystafell hono cawsant y porter arall mewn llyn o waed. Yr oedd yntau hefyd wedi ei rwymo draed a dwylo. 'Roedd amryw archollion ar ei ben, o'r rhai y llifai gwaed. Ar lawr yn agos iddo yr oedd cyn, gyda'r hwn yn am- lwg y curwyd ef. Daeth y porter cyntaf welwyd gan yr heddlu ddigon ato'i hun i allu dweyd beth ddigwyddodd. Daeth tri neu bedwar o ddynion i mewn i'r hotel, ac aeth un o honynt at Gowers, y porter arall, o'r tu of. Bu ymiaddfa ffyrnig rhyngynt, ond tarawodd y dyn Gowers hefo cyn trwm ar ei ben Jawer gwaith nes aeth yn anymwybodol. Wedi hyny cafodd y ddau porter eu rhwymo, ac aeth y lladron o gwmpas i ysbeilio. Gwelwyd wedi hyny fod sife yr hotel wedi ei dori, yn yr hwn y cedwid tlysau ac eiddo'r gwestywyr. Yr oedd yr holl dlysau wedi eu cymeryd ohono, ag eithrio ychydig arian Ffrengig. Nis gellid bod yn sicr am werth y tlysau ysbeiliwj'd, ond tybir 8U bod o leiaf yn werth 3,ooop. — y rhan fwyat o honynt yn perthyn i ddwy foneddiges. Un peth rhyfedd yoglyn a'r Iladrad yw, nas gellid canfod unrhyw arwydd tod neb wedi tori i mewn i'r hotel o'r tuallan, a gellid rhoi cy:rif am bob gwestywr oedd yno, fel nad oedd modd fod neb wedi cymeryd ystafell dros nos gydag unrhyw amcan ysbeilgar.
Y Dymestl.¡
Y Dymestl. ¡ Ar ol diwrnod poeth a liethol torodd tymestl drom dros ranau helaeth o Ogledd Cymru nos Wenerdiweddafgan greu difrod a cholled mewn llawer lie. Yn Nghonwy yr oedd miloedd lawer o filwyr yn gwersyllu, ac ysgubodd y ddrycin eu gwersyll i'r mor, a chatodd amryw o'r dynion eu niweidio. Bu raid cymeryd ugain o honynt i'r ysbyty, ac y mae un mewn cyflwr peryglus iawn. Yr oedd yn myn'd at ei ddyledswydd i gadw gwyliadwriaeth pan y disgyn- odd darn mawr o haiarn arno gan ei daftu i- lawr, nes yr bedd yn anym- wybodot. Torwyd eoes un Qyn, arall. Cafodd tren a drafaeliai o Conwy i Fangor ddihangfa gyfyng. Pan oedd y tren newydd adael y twnel, yn agos i orsaf Conwy, canfuwyd fod coeden fawr wedi disgyn ar draws y rheilffordd. Rhedodd bugail ar hyd y rheilffordd ac ataliodd y tren mewn pryd, a buwyd am ysbaid o amser cyn y llwyddwyd i gael y llinell yn glir. Cafodd geneth fach ei hanafu'n ddi- frifol yn Nghonwy drwy i sign ddisgyn oddiar un o'r siopau ar ei phen. Yr oedd yn ddifrifol o boeth yn Llun- dain, ac yn derfysg trwm. Cafodd y tan-frigad ei galw allan amryw o weith. iau gan tod y mellt wedi rhoddi lleoedd ar dan. --0
Etholiad Altrincham.I
Etholiad Altrincham. Gwnaed canlyniad yr etholiad uchod I yn hysbys ddydd lau diweddaf, fel y canlyn: — G. C. Hamilton (T) 9,409 L. Kay-Shuttleworth (R). 8,147 Mwyatrif Toriaidd 1,262 Gwnaed y canlyniad yn hysbys tua un o'r gloch, ac yr oedd tyrfaoedd an- ferth wedi ymgynull ynghanol y gwlaw trwm o flaen yr adeilad lie y cyfrifid y pleidleisiau, a rhoed bonllef o gymer- adwyaeth pan wnaed y canlyniad yn hysbys. Dywedai Mr Kay-Shuttleworth, wrth anerch ei gefnogwyr ar ol y frwydr eu bod wedi colli'r sedd oherwydd am- hoblogrwydd tyii-itiool y Ddeddf Ys- wiriant, ond byddai i bob blwyddyn elai heibio brofi fod y Llywodraeth yn iawn, faint bynag o etholiadal, a goll- ent. Ni fyddai iddo ef gredu byth nad oedd y Llywodraeth wedi gwneud yr hyn oedd yn iawn wrth basio'r Ddeddf hono cyn hir byddai iddi gael ei bendithio megis ag y bendithid blwydd. dal yr hen heddyw. Yr oedd y Llywodraeth yn mynd yn ei blaen ar y cwrs priodol, ac er y gallai fod yn am- hoblogaidd ar y pryd, yr oedd yn gosod Prydain i lawr ar sylfeini cadarnach nag erioed o'r blaen yn ei hanes.
- -u-I Her i Mr F. E. Smith.I
u Her i Mr F. E. Smith. Wrth siarad mewn cyfarfod Rhydd- frydol yn Crewe, y d Jd. o'r blaen, dywedai Syr W. H. I ver fod Mr F. E. Smith yn un o'i are.unau diweddar- af wedi dweyd nad oedd y blaid Rydd- frydol o ddifrif. Rbodda. ef her i Mr Smith, gan ei fod mor hoff o herio. Bydded iddo osod gwaith y blaid Ryddfrydol am y saith mlynedd diwedd- af ochr yn ochr a gwaith y blaid' Dori- aidd am y ddwy flynedd ar bymtheg diweddaf, a gofyn i'w gynhulliad nesaf prun oedd fwyaf o dditrif Wedi cym- haru y ddwy restr-un am saith a'r llall am ddwy flynedd ar bymtheg— byddai iddo gael ei argyhoeddi'n fuan iawn.
Ysbeilio Gemydd yn y Tren.…
Ysbeilio Gemydd yn y Tren. LLADRATA GWERTH 2,ooop. Cafodd Mr. Abraham Brown, mar- siandiwr gc>uau, o Hatton Garden, Llundain. ei ysbeilio yn y tren rhwng Manchester a Llundain nos Wener di- weddaf. Yr oedd yn amlwg fod y lladrad wedi ei gynllunio'n ofalus a thrwyadl. Yr oedd Mr. Brown yn dychwelyd i Lundain ar 01 bod yn traf- aelio trwy'r Gogledd ynglyn a'i fusnes, a thybia ef fod tri o djynion yn ei ddil- yn o dref i dref. Daeth un ato yn Stoke-on-Trent a dechreuodd ymddidd- an yn siriol iawn gydag ef, a deuai ar draws y ddau arall bron ymhob man yr arhosai. Pan yn Manchester bu agos iddo a cholli'r tren, a phan oedd yn rhuthro am y tren dyma un o'r dynion rheini yn agor drws y cerbyd iddo ac yn dweyd ei fod wedi cadw lie iddo. Diolchodd Mr. Brown iddo, a rhoes fag bychan oedd ganddo yn cynwys gwerth tua 2,ooop. ar y silff uwchben. Canfu fod un arall o'r dynion a'i dilynai yn y cerbyd hefyd. Rywle ymhellach ar y ffordd aeth Mr. Brown o'r compart ment am funud; ac yn 01 fel y dywedwyd wrtho ar ol hyny daeth dyn oedd yn y corridor tuallan i'r compartment i mewn, ac estynodd rywbeth oddiar y silff, gan ddweyd wrth un o'r teithwyr mai eisieu ei ffon yr oedd. Pan gyrhaeddwyd i Leicester aeth y ddau ddyn a adwaenai allan o'r cerbyd, ac ymhen ychydig wedi hyny sylwodd fod y dyn oedd yn y corridor wedi mynd allan hefyd. Yn St. Pantcras, pan aeth i estyn v bag oddiar y silff uwch ei ben cantu nad oedd ei fag ef yno, ond fod nn arall tebyg o ran ei ffurt a'i ymddangosiad wedi ei roi yn ei le. Nid oedd dim yn y bag hwnw oddigerth ychydig nwydd- au diwerth. Dywed Mrs. Brown, yr hon aeth i'r orsaf i gwrdd ei phriod, y gweiodd dri o ddynion yn cyfateb yn hollol i'r rhai ddesgrifiai Mr. Brown, yn siarad hefo'u gilydd yn y bar yn stesion St. Pantcras _n--
Marw'r Parch. J. C. WilliamsI…
Marw'r Parch. J. C. Williams I Ellis. Foreu Mercher diweddaf, ag efe yn 81 mlwydd oed, bu farw'r Parch. J. C. Williams Ellis, Y. H., Glasfryn, Llan- gybi. Yr oedd yr ymadawedig yn berchen tiroedd eang yn Lleyn ac Eifionydd a Meirion, ac iddo barch mawr gan ei denantiaid. Yr oedd yn M.A., yn glerigwr o Eglwys Loegr, ac yn ynad heddwch tros sir Gaernar- fon er y flwyddyn 1890. Bu hefyd am rai blynyddau yn athro rhif a mesur yn Nghaergrawnt. Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn diweddaf, ac yn unol a chyfarwyddid a roes dayd gwedd- illion y bonedtfwr parcku^ rmn. gre urtw- yng nghanol y coed yn yr ardd. Nid oedd unrhyw addurn na nod ar yr arch. Y galarwyr oedd y weddw a'r tri mab, Syr Osmond a'r Fonesig Williams (Castell Deudraeth), Mr J. E. Greaves (Arglwydd Raglaw Sir Gaernarton), Mrs Greaves, Mr a Mrs R. M. Greaves (Wern), a Miss Greaves (Tan'rallt).
Cael ei Ladd wrth LechuI rhag…
Cael ei Ladd wrth Lechu I rhag y Storm. I Cynhaliwyd trengholiad yn Bromp- ton, ddydd Sadwrn, ynglyn a marwol- aeth William Wetherell, 55 mlwydd oed, yr hwn a laddwyd yn ystod ystorm o fellt a tharanau nos Wener. Tystiwyd gan Tom Hardcastle, cyd- weithiwr, ei tod ef a Wetherell yn gweithio ar y ffyrdd i Gyngor Dosbarth Northallei ton. Pan oeddynt yn myn'd gartref oddiwrth eu gwaith tua phump o'r gloch nos Wener daeth yn ystorm, ac aethant hwythau i feudy i lochesu. Eisteddai y tyst ar gasgen, ac eisteddai Wetherell ar lawr. Y peth nesaf gofiai Hardcastle oedd iddo gael ei hun yn gorwedd ar lawr, a gwelai ei gyfaill yn eistedd ar lawr fel cynt. Er fod y tyst wedi ei syfrdanu ceisiodd ddeffro Wetherell, ond canfu ei fod wedi marw.
-.-o --I Brawdlys Caernarfon.
o -I Brawdlys Caernarfon. Cyhuddwyd un Thomas Bedlow, llafurwr, yn Mrawdlys Caernarfon, yr wythnos ddiweddaf, o dori i siop yn Bau Colwyn a chymeryd oddiyno boteli gwin a phethau craill. Torodd ffenestr y siop, meddid, yr hon oedd yn werth o 8p. i iop., a'r diwrnod wedyn rhoes ei hun i fynu i'r heddgeidwaid. Wrth ei ddedfrydu i ddeuddeng mis o garchar, dywedodd y Barnwr Chan- nell fod y dyn wedi ei gospi lawer gwaith o'r blaen, am droseddau bychain, y rhan fwyaf, ond yr oedd yn amlwg nad oedd yn adnabyddus yn Nghymru. Cafodd J. H. Baum, llafurwr o Lan- aelhaiarn, yn erbyn yr hwn yr oedd cyhuddiad difrifol, el ollwng yn rhydd. Cyhuddwyd llafurwr arall o'r enw David Jones o ymosod ar eneth ieuanc yn Cyffin, Conwy, ac anfonwyd ef i garchar am bedwar mis. --o
Agerlong yn Mynd yn ErbynI…
Agerlong yn Mynd yn Erbyn Greigiau. Foreu lau diweddaf, yn y oiwl, aeth yr aerlong Haverford, yr hon oedd ar ei thaith o Lerpwl i Philadelphia, yn erbyn y creigiau ar lanau'r Iwerddon yn agos i Queenstown. Daeth hysbysrwydd am yr anffawd drwy gyfrwng y pellebr diwefr ac aeth cychod allan ati, ond mor drwchus oedd y niwl fel nas- gellid gwybod ym- ha gyteiriad yr oedd, ond yn ystod y prydnawn deuwyd ati, a dyg.vyd yr holl deithwyr, y rhai a ritent tua 1,200 i'r lan yn ddihangol. Cymerir hwy trosodd i'r Amerig mewn Hong arall.
ICyngor Tref Pwllhell.-1
I Cyngor Tref Pwllhell. -1 Cynhaliwyd nos F iwrth, Mai 27ain. -Presenol Y Maer (yr Henadur Wynne Griffith) yn y gadair yr Hen- aduriaid R. Ivor Parry, W. Eifl Jones, a W Anthony y Cynghorwyr R. Albert Jones, E. Jones Griffith, G. Cornelius Roberts, W M Toleman, W. Wynne Owen, Dr R. Jones-Evans, T. W. Thomas, O. Ellis Jones, Richd. Jones, Hugh Pritchard, a'r swyddogion CYFLOGAU'R SWVDDOGION. I Yn unol a rhybudd roes gaiwodd Mr Wynne Owen sylw at y cyflogau delid i swyddogion y Gorfforaeth. Yr oedd wedi sylwi yn ystod y tymor y bu yn overseer fod sefyllta arianol y dref yn ddifrifol iawn, a gwyddai ei bod yn galed ar lawer i drethdalwr parchus i dalu'r trethi uchel a thalu ei ffordd yr un modd. Cyfiawnheid ef hefyd i alw sylw at y mater yn awr, gan y codid y cwestiwn i tyny yn barhaus adegau etholiad, nc yn ol hyny o brofiad gafodd ef ar y Cyngor nis gallai weled y gellid cyfiawnhau y cyflogau delid i swyddogiou y Gorfforaeth. Yr oedd wedi gwneud ymchwiliad ynghylch faint a delir i swyddogion Cynghorau eraill, ac yr oedd ffrwyth ei ymchwiliad yn cadarnhau ei olygiad. Yn Nghonwy yr oedd yr un dyr. yn gweithredu fel clerc tref a chyfrifydd, a thelid llai iddo o dros gan' punt nag a delid i Glerc Tref a Chyfrifydd Pwllheli, er fod pobl- ogaeth Conwy yn fwy o un cant ar bymtheg nag eiddo Pwllheli. Yr oedd y Gwaith Nwy ag ystad fawr hefyd o dan reolaeth Cyngor Conwy. Yn ol yr herwydd yr oedd Pwllheli yn talu mwy na Gwrecsam hefyd. Yr oedd y cyflog delid i Glerc Bangor, fel ag yn Mhwll- heli, yn cynwys y tal am wasanaeth cyfreithiol, ond yr oedd y cyflog yn llai yn Mangor o lawer, er fod cyflogau swyddogion eraill ychydig yn uwch yno nag yn Mhwllheli. Yr oedd poblog- aeth Fflint yn fwy o bymtheg cant na Phwllheli, ond yr oedd y cyflogau yno yn llawer llai nag yma. Teimlai ei bod yn hen bryd adolygu cyflogau swydd- ogion Cyngor Pwllheli. Nid oedd am ddweyd na haeddai y Clerc y 275P. delid iddo mewn cyflogau, ond y cwest- iwn oedd a allai y dret fforddio hyny. Os nas gallai Mr E. R. Davies wneud y gwaith am lai na 275P. y flwyddyn, dylent gynyg y swydd i'w frawd Mr ( Cradoc Davies. Mr G. Cornelius Roberts Gwell ei chynyg i Mr Hugh Pritchard hefyd. Mr Pritchard Wna i ddim a hi, diolch. Yr oedd y cyflog delid i swyddogion y Cyngor, meddai Mr Wynne Owen, yn gyfartal i dreth o swllt y bunt. T^lent yn ol ??c. o dreth i'r Clerc, cyi?????????? &1.tahA i a cbyfartal i 3 ic""1 r Arc!ygydd. Bu- ?t ont yn talu mwy, ond yr oedd y Cyngor wedi arbed 54p. trwy gyplysu rhai swyddi. Ond credai ef y gallent arbed mwy eto. Gan hyny cynygiai ef tod y mater yn cael ei d-in gan bwyll- gor o'r Cyngor, gyda golwg ar ostwng y cyflogau lie yr oedd yn bosibl gwneud byny. Byddai yn deg i'r swyddogion ddod i roi adroddiad o'u gwaith a'u dyledswyddau, ac wedi hyny fynd allan gan adael i'r pwyllgor drafod y cwest- iwn yn rhydd. Eiliwyd y cynygiad gan yr Henadur Anthony, ac ategwyd ef gan Mr G. Cornelius Roberts. Sylwodd Dr R. Jones-Evans y credai ef y dylai y mater gael ei drin yn gyntaf gan y Pwyllgor Arianol, ac fod i'r draf- odaeth gael ei chyflwyno i bwyllgor o'r Cyngor. Yr oedd ef yn cynyg hyny. Eiliwyd Dr Evans gan yr Henadur Eifl Jones, a dywedodd y dylid rhoi hysbysrwydd i'r pwyllgor ynghylch faint delid mewn costau cyfreithiol gan y Cyngor cyn penu o honynt ar gyflog o 275P am waith clerc a gwasanaeth cyfreithiol yn un. Credai ef y telid mwy y pryd hyny nag a wneid yn awr. Dywedadd Mr Wynne Owen nad oedd golwg y byddai llawer o waith cytreithiol yn y dytodol, a chytunai yr Henadur Eifl Jones ag ef. Barnai yr Henadur W. Anthony mai. gwell fyddai i'r mater gael ei drin gan yr holl Gyngor, gan y teimlai fod y cynygiad rywfodd yn adlewyrchu yn anffafriol ar y Pwyllgor Arianol. Cytunai Mr G. C. Roberts ag ef, a dywedodd fod y cwestiwn hwn yn un ag y dylid edrych i mewn iddo er's amser. Sylwodd Mt Hugh Pritchard hefyd mai gwell oedd i'r mater gael ei drin gan y Cyngor ei hun, y byddent drwy hyny yn arbed amser ac yn osgoi y rheidrwydd o drafod cynygion y Pwyll- gor Arianol. Pasiwyd y cynygiad. GWEiTHWYR Y GORFFORAETH. Yr oedd yr Arolygydd wedi cyflwyno I adroddiad i'r Pwyllgor lechydol ynglyn a nifer y gweithwyr oedd yn cael eu cyflogi gan y cyngor ar hyn o bryd, ynghyd a'u dyledswyddau a'u cyflogau. Nifer gweithwyr y Gorfforaeth yn breseool oedd deuddeg, un-ar-ddeg yn weithwyr cyson, a'r Hall yn cael ei gyflogi ar adegau yn unig. Yr oedd cyflogau'r oil gyda'u gilydd oddeutu up, is. 3c. yn yr wythnos. Yr oedd tri yn cael eu penodi gan y cyngor, sef ceidwad y neuadd, ceidwad y lladd-dy a'r un a otalai am yr harbwr a'r carth- ffosydd. Telid i'r tri hyn 2p. 18s. yr wythnos. Or lleill yr oedd dau yn cael cyflog o 22s. 6c yr wythnos am lan- hau'r heolydd, un yn edrych ar ol y domen am SS. yr, wythnos, un yn goleuo'r lampau am 7s. yr wythnos, I pedwar yn llafurwyr cyffredinol am 1 gyflog o 21s. 3c. yr wythnos, ac un yn torri cerrig am 21s. 3c. yr wythnos, ond nid oedd ef yn cael gwaith cyson. Yn 1907—8 yr oedd o un-ar-bymtheg i bedwar ar bymtheg yn gweithio i'r Gorfforaeth, a thelid iddynt ar gytartal- edd 14p. 1 os. yr wythnos. Yr oedd ef, yr Arolygydd, yn sicrhal y Pwyllgor y hyddai niter y gweithwyr yn cael eu heihau os y gellid gwneud hyny i tan- tais y Gorfforaeth, ond credai fod cynydd gofynion y fwrdeisdref yn debycach o'i gwneud yn angenrheidiol cael ychwaneg o ddynion yn y dytodol, yn hytrach na llai.—Yr oedd y PwylI- gor wedi cymeradwyo'r adroddiad a chadarnhawyd hyny gan y cyngor. --o
Yr Hyn sydd ar Bwllheli eisieu…
Yr Hyn sydd ar Bwllheli eisieu ei Wybod. 0 wythnos i wythnos, o flwyddyn i K flwyddyn, ymddangosodd yn y colofnau hyn ddatganiadau gan gym'dogion, y rhai ddarllenasom oil gyda dyddordeb, a llawer ohonom er ein budd. Ond yr hyn ddymunwn wybod yw, a ydynt yn sefyll y prawf mwyaf oll-prawt amser ? Dyma dystiolaeth derfynol ar y pwynt gan ddynes o Bwllheli: — Ar Awst 2gain, igi i, dywed Mrs. A. Griffiths, 4, Gaol Street, Pwllheli, heb fod ymhell o'r capel, Ptx,llheii Eff- eithiodd anwyd ar ty elwlod, a dechreu- ais gael poenau brathol ar draws fy nghefn. Weithiau prin y gallwn ym- sythu ar ol gwyro i lawr. "Teimlwn bob amser yn flin a thrwm, yr oedd fy mhen yn ddrwg, ac yr oedd- wn yn nerfus ac wedi rhedeg i lawr. Yr oedd casgliad yn y dwr hefyd. Wedi darllen am Doan's Backache Kidney Pills ceisiais flwch i roi cynyg arnynt, ac ar ol eu defnyddio am ychydig yr oedd y poenau oil wedi mynd, ac yr oeddwn yn iach drechefn. Mae'n dda genyf cael cyfle i ganmol y feddyginiaeth. (Arwyddwyd) (Mrs) A. Griffith." Ar Mawrth 13eg, 1913.-ymhen micy na deunaw mis Y mae genyf o hyd yr un meddwl uchel o Doan's Backache Kidney Pills, ac yn eu cymeradwyo'n barhaus. Pris 2S. gc. bocs, chwe' bocs am 13s. gc.; gan bob.siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eglur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs., Griffiths.
Bwrdd CWWa.1 neidwaid -.,Pwllheli.
Bwrdd CWWa.1 neidwaid Pwllheli. Ddydd Mercher diweddaf.—Mr Kicti- ard Jones yn y ?ir y Parch Henry Rees yn yr is-gadair.   r^u.^Gwnai un 0 r tlodion sydd yn y T,. vr hwn sydd fedd- yg, gais am gael byw ar yr elusen blwyf- ol o'r tuallan i'r TlCfey.. Bu allan o'r blaen ond nid oedd chwe swllt elusen ganiateid iddo yn ddigon iddo gael llety.—Awgrymai Mri Samuel Roberts a Griffith Richards fed y Gwarcheid- waid i ystyried y cwestiwn o elusen ar ol iddo gael llety, ond ystyriai Mr John Williams nad oedd yn iawn gwneud y y Tloty fel carchar, a chynygiai ef eu bod yn penodi swm yr elusen yr adeg hono.-Protestiai Mr Morris N. Jones yn erbyn y gair 44 carcharor a ddefn- yddiwyd g In Mr John Williams, a sylwodd y clerc fod gan y tlodion rydd- id i fynd oddiyno pan y mynent.— Cytunwyd gweithredu yn unol ag aw- grymiad Mr Samuel Roberts, a phas- iwyd iddo gael mynd allan yn gynar ddydd Mercher i chwilio am lety, gan y dymunai tynd i aros i Ben Lleyn, Hysbysebu am Pumaeth.- Y sgrifenai y Famaeth Pritchard i hysbysu ei bod yn rhoi ei lie i flny, a derbyinwyd ei hym- ddiswyddiad ar gynygiad Mr Samuel Roberts ac eiliad Mr John Williams. Wedi hyny bu trafodaeth faith parthed cael un i lanw ei lie. Awgrymwyd fod i'r Bwrdd hysbysebu am famaeth brof- iadol am y cyflog o 25p. fel cynt, ond ofnai Mr J. Hughes Parry na chaent gynygion am y cyflog hwnw yn awr, yr oedd Byrddau eraill yn methu cael mamaeth. Yr oedd y Parchn. Henry Rees a J. Edwards, Pwllheli, hefyd, o'r farn y dylid cael mamaeth brofiadol a thrwyddedig, ac nis gallent gael y cyfryw am gyflog o 25P.-Sylwodd Mr G. Richards nad oedd yn agos gymaint o waith yn y Tloty yn awr a phan y penodwyd y Famaeth Pritchard; yr oedd y plant yn awr yn cael eu byrddio allan, a chredai ef gan hyny fod 25P. yn ddigon o gyflog.-Cynygiwyd gan Mr R. O. Roberts eu bod yn hysbysebu am famaeth drwyddedig a allai weinyddu hefyd fel bydwraig am gyflog o 25P, ac eiliodd Mr G. Richards ef.—Cynygiwyd gan Miss Pughe Jones eu bod yn hys- bysebu am famaeth drwyddedig am y cyflog o 32p. Eiliwyd hi gan y Parchn Henry Rees a J. Edwards, ac ategwyd gan Mrs Yale a'r Parch T. E. Owen.— Yn y diwedd pasiwyd trwy fwyafrit mawr i hysbysebu am tamaeth brof- iadol am gyflog o 25P. Saith yn unig bleidleisiodd dros gyflog o 32p. --0-
[No title]
Yn Heddlys Acton, ddydd Sadwrn, gwysid Mir-Awartuddin, cyfreithiwr Indiaidd, gan ei wraig, yr hon sydd yn Saesnes, am archeb cynhaliaeth, gan yr honai fod y gwr yn greulon wrthi. Can- iatawyd archeb am 30s. yr wythnos. Sylwodd yr ynad y tybiai ef fod ym- ddygiad y gwr yn arswydus, a'i fod wedi effeithio ar iechyd y wraig. Yn Brooklands y dydd o'r blaen es- gynodd Mr H. G. Hawker yn ei awyr- long i uchder o 11,300 o droedfeddi. Ni fu neb cyn uched yn y wlad hon.