Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Anfoner erbyn BOREU SAIIWRN y fitn be-Ilaf Pob archebion a thaiia<Uu am Yr UDGOES i'w hanfon i'r GORUCHWTLIWR, 74, Hiyh Strpt-t. Pwllheli | Pob gohebiaeth i'w cyfeirio- YB UDCORN OFFICE, PWLLHELI. Bydd yn dda genyrn ddprhyn sohfb- "ethau oddi w rtb ohebwyr ar fate; ion ileol i «| ?ordeb cyhoeddus. ft.
[No title]
-1 J.¡iJt:1 1N.ei¥tíH. 't!l;aU' ac y mae cyfrerthiwr o Australia yn gwneud ymchwiliad am berthynasau i'r ymadawedig yn y wiad hon. Y mae amryw o Ogiedd Cymru yn honi per- thynas ag un William Jones, a aeth i Awstralia flyoyddoedd lawer yn ol, ond beroir mai y tebycaf i fod yn perthyn i'r William Jones hwn yw Mr Hugh Jones, Cartrefle, Llanberis. Y mae ef yn honi ei fod yn fab i chwaer iddo. Y mae llun ei ewyrth ganddo, a dywed y byddai ei fam yn cael arian yn fynych oddiwrth ei brawd, ac y mae hen wraig o Fon yn adnabod William Jones oddi- wrth y llun sydd gan yr hawlydd o hono, ac yn cofio iddo fynd i'r America ac oddiyno i Awstralia, lie y casglodd gyfoeth mawr. Y mae Hugh JOIes yn gohebu gyda'r cyfreithwyr yn Awstralia o barthed i'w hawl i'r ffortiwn. + Eiddigedd Gwraig. Yn Gwrecsam, y dydd o'r blaen, cyhuddid dynes b'r enw Emily Sides, o ymosod hefo potel gwrw ar wraig arall o'r enw Susanah Hallmark. Dywedai yr achwynyddes y bu hi a'i j;wr mewn tafarn yn Gwrecsam yn yfed, ac y caf- odd hi botelaid o g wrw i tynd allan hefo hi. Ymhen ychydig daeth y gyhudd- edig ati a chydiodd yn y betel gan ei churo'n ant hugarog gyda hi. Dywed- odd v gyhuddedig ei bod yn ameu ei gwr a Susanah Hallmark. Cydiodd yn I y botel, meddai hi, a thaflodd ei chyn- wys am ben Hallmark, ac wedi hyny j curodd hi heto'r botel nes torodd. ( Traddodwyd y ?yhuddedi? i etyll ei iI phrawf yn y Chwarter Sesiwn. Boddi ei Hun. Caed coiff gweddw oedranus o Dre- ffynon, o'r enw Sarah Thomas, n.ewn Ilyn trochi defaid oddeutu can' Hath o fferm Calcot Hall, lie yr oedd vn for- wyn. Mewn nodyn a anfonodd i'w meistres dywedai am iddi hi ysgrifenu i hysbysu ei chwaer, ac yn dweyd y caent ei choiff yn y Ilyn. Yr oedd Mrs Thomas wedi bod yn waet am amser maith, a bernir mai hyny effeithiodd ar ei meddwl. it Taro'r Beili. Dygwyd llafurwr o'r enw James Brooks o flaen y Ilys yn Barrow, am ymosod ar Zechariah Bennett, beili. Dywedodd Bennett i Brooks ymosod arno, a'i daro'n ei wyneb hefo'i ddwrn pan aeth yno i'w dy. Addetai y di- ffynydd ei fod yn euog, a dywedai fod yn ddrwg ganddo am yr h) n a wnaeth Oirwyvvyd ef i 3p., y ddirwy i'w thalu yn ol chweigen y mis. 1t Condemnio'r Badell Ffrio Y n Ulingullen, y dydd o'r blaen, wrth siarad mewn cytarfod ynglyn a'r Cofeb Genedlaethol Gymreig, dywedai Dr R. Owen M on is ei bod yn anodd cael 'n y Cymry i wneud i ifvvidd a'r syniad fod y darfodedigaeth yn rhedeg mewn teulu. Yr oedd mwy o hono yn y plancedi nag yn y gwaed, meddai ete a mwy yn y carpedi n;i, yi, y cyfansodd- iad. Yr oedd rhy ychydig o werth yn cael ei roi yn N ghymru ar flawd ceirch a llaeth fel ymboith. Y badell ffrio oedd melldith y wlad, a dylent ei thaflu dros glawdd yr arù..1 fe! eu gelyn penat. Hanes Du. Dygwyd llafurwr o'r enw Richard Don i sefyll ei brawf yn Chwarter Sesiwn Caernarfon, ddydd Iau divvedd- af, ar y cyhuddiad o fod wedi tori i mewn i dy yn mhlwyf Llanrhos, a dwyn oddiyno botel o whisci. Pan ofynwyd iddo ai euog ai dieuog oedd, dywedodd mai mater i'r llys ei benderfynu oedd hyny, ond yn ddiweddarach addefodd ei euogrwydd. Hysbyswyd fod hanes du iawn i'r carcharor, ac anfonwyd ef i garchar am bedwar mis gyda itafur caled. 1 Syrthio Hefo'i Beisicl i'r Gamlas. Codwyd corft dynes o VVinsford, yngbyd a'i  o'r Staffordshire Canha? l, y dydd o'r blaen. Yr oedd wedi cychwyn o'i chartref ar ei beisicl gvda'r bwriad o fynd i North wich, Ar ol gadael Dayenham bernir iddi adael y ffordd ac olwyno gyda glan y gamlas Nis guelodd neb mohoni, ond credir oddiwrth olion ei beisicl iddi fynd yn erbyn car reg ac iddi hi a'r beisici syrthio i'r gamlas. Angau yn Hytrach na'r Tloty. Caed corff Rwssiad, triugain a phump mlwydd oed, o r enw William Nichol- vitch, yn y gamlas yn Wigan, yr wyth- nos ddiweddaf Yn y trengholiad ar y corff dywedai Alex luder Taylor, eilliwr, i'r trancedig alw yn ei siop ddydd Mawrth, a dweyd wrtho ei fod yn newynog Rhoes y tyst ymborth iddo a chynghorodd ef i fynd i'r tloty. Dywedodd Nicholvitch y buasai yn well ganddo foddi ei hun-yr oedd wedi bod yn y tloty deirgwaith, ac yr oeddynt yn gas wrtho ync. < Mr Runciman yn Diolch. Y mae Mr Runciman, Llywydd Bwrdd Amaethyddiaeth, wedi anfon t,3!' thyr i r Henadur Jones Morris, Porth. )I-grodog. yn datgan ei welthtawrogiad anrhydedd roes Cyngor Sir Caer- ofon arno drwy ofyn iddo agor Ys^ol I Mj.dryn. Ni byddai iddo ,?rr?th anghofio. meddai, agoriad ar- firunol a llwyddianus yr ysgol amaeth- idol gyntaf. i.r0!tlO Strein Penraaen Mawr. Yr wythnos ddiweddaf, daeth per- chenogion Chviaiel Setts Penmaen Mawr i delerau gyda'u gweithwyr Gofynai y gweithwyr am chwecheiniog y dunell o godiad yn mhris pob math o gerrig wneid ganddynt. Cynygiwyd iddynt dair ceiniog o godiad yn mhris yr oil ond y cerrig 4 wrth 6 modfedd, a chwe' cheiniog y dunell ar y rhai hyny. Datganodd y gweithwyr eu bod yn foddlon i'r telerau rheini. I & Gvvarcheidwaid Pwllheli a Mr John Burns. Yn Mwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli, ddydd Mercher diweddaf, darllenwyd llythyr yn gofyn i'r Bwrdd g-yd-uno mewn coffhau gwasanaeth Mr John Burns fel llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol, trwy danysgrifio at dysteh iddo. Sylwyd tod arwyddion y cai y mudiad gymeradwyaeth gyffredinol.-Dywed- odd Mr Griffith Evans, un o'r Gwar- cheidwaid, mai mwy priodol fuasai gwneud tysteb i gadeirydd y Bwrdd, yr hwn oedd wedi g\\ asanaethu'r Undeb am haner canrit yn ddi-dal, tra yr oedd Mr John Burns yn cael pum' mil o bunau y flwyddyn am ei waith. Camgj rneriad Costus. Yn Chwarter Sesiwn Caernarfon, ddydd lau, cyhuddid Robert J ..hn Jones llafurwr, o fynd i le neillduol yn mhlwyf Dolbenmaen, yn y nos, a lladrata macintosh oddiyno, a nwyddau eraill. Gwadai y diffynydd y cyhuddiad a dywedodd mai caingymeryd y ffcrdd a wnaeth y noson hono wrth geisio mynd i fferm gyfagos. Barnwyd ei fod yn euog, ac anfonwyd ef i garchar am fis. Dirwy Drom am Oryru. Yn Nghroesoswallt, ddydd lau di- weddaf, cafodd Capt. Cecil H. C. Crosthwaite, Plas Isa, Rhuthin, ei ddirwyo i 5p. a 38s. o gostau, a gor- chytpynwyd i'w drwydded gael ei nodi, am oryru modur. Yr oedd yn gyru. gymaint, meddai un tyst, fel y bu agos iddo a mynd i'r clawdd wrth droi cornel yn y ffordd, a bu agos iddo hefyd a myod ar draws geneth fach oedd ar ochr y ffordd. Priodas mewn Ysgol. Yr oedd par ieuanc i gael eu priodi mewn capel yn perthyn i'r Methodistiaid yn Matlock y dydd o'r blaen. ond gan fod yr adeilad yn cael ei adgyweirio aed drwy y seremoni yn yr ysgoldy cys- ylltiol ag et. Pan yr oedd y briodas drosodd daeth dyn dieithr i mewn a dywedodd fod y briodis yn anghyf- reithlon gan nad oedd yr ysgoldy wedi ei gofrestru i briodi ynddo. Dywed- odd y gwr parchedig a weinyddai fod y seremoni drosodd, ond os yr oedd yn anghyfreithlon nad oedd dim i'w wneyd ond priodi'r par drachefn mewn lie priodol. Darganf, ddiad Pwysfg. Trwy arbra" fiLln a wnaed yn Mhrif- ysgol Lerpwl yn dJiweddar darganfu- wyJ y gellir puro ilefiith, a liadd hadau y darfodedigaeth ynddo, trwy offer trydanol arbenig Nis gellir dirnad gwerth y darganfyddiad, yn neillduol os y profir y gellir lladd hadau y dar- fodedigaeth ymhob math o fwydydd trwyddo Bydd yn amhrisiadwy ynglyn a magwraeth babanod. Hen Wraig Wrol. Y mae Mrs Grace Jones, hen wraig oedranus o Ebenezer, Caernarfon, wedi cael medal y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol, am ei gwroldeb yn achub un a letyai yn ei thy. pan oedd y ty yn mynd ar.dan. M thodd Mrs Jones a'i dtkffr, ac er ei bod yn hen a methiant- us cariodd ef allan o'r ty yn ei gwsg, a thrwy hyny yn ddi irnheuol achubodd ei fy u yd. 11- Er !id y Suffragetes. (. eisiodd dwy Suffragette gyhal cyf- ar t. d yn Aberdar nos Wener di weddat t:al.i tawyd i'r cadeirydd, Sosialydd, siarld am ychydig, ond rhoed terfyn ar ei a,.iltll yn sydyn trwy i rywun ei daro yn ei g-eg. Lluchiwyd y merched, a bu raid i r hed d oe i iiwil raid 1 heddgeidwaid eu hebrwng i orsaf y I heilffordd, a thorf fau r yn eu I herlid.
Trychineb Ofnadwy yn St. Helens.
Trychineb Ofnadwy yn St. Helens. LLADD MAM A'I PHLENTYN. Bu trychineb ofnadwy yn St. Helens ddydd Iau diweddaf Cafwyd mam a'i phlentvn pum' mlwydd oed yn farw yn eu llety, a chaed y gwr, John Kerrigan, bron yn farw a'i wddf wedi ei dori, a bu yntau hefyd tarw nos dranoeth. Ar lawr yr ystafell yr oedd ysgrifen mewn rhai: i'r perwyl fod y fam a'r plentyn wedi eu lladd, ac fod y gwr am wneud diuedd arno'i hun hefyd. Y r oedd dynes o'r enw Mrs Farn- worth wedi cymeryd y teulu i'w thy i letya er's tua thri mis, pan y cawsont eu troi allan o'r ty yr oeddynt yn byw ynddo. Dywedir fod Kerrigan yn ddyn diwyd a gweithgar, ond fod ei wraig yn yfed yn drwm. Ychydig wedi pedwar o'r gloch foreu Iau, deffrowyd Mr a Mrs Farnworth gan Kerrigan, yr hwn oedd yn gwaedu yn ei wddf. Ga!wyd am help, ac wedi hyny caed y wraig a'r plentyn yn farw a'u penau wedi eu tori bron yn glir oddiwrth eu corff. Dywedai y meddyg a alwyd yno ei bod yn amlwg y llofruddiwyd hwy yn eu cwsg. Yr oedd Kerrigan beth amser yn ol wedi bod a'i blentyn at y meddyg, gan ddneyd nad oedd yn cael chware teg gan ei fam. Yr oedd hi, meddai, allan yn yfed yn hwyr y nos gan esgeuluso ei phlentvn bach. Dywedodd y meddyg wrtho am hysbysu'r arolygydd, ac i sicrhau ei fod yn gwueud hyny teliffon- iodd y meddyg ei hun at yr heddgeid- waid am iddynt anfon swyddog y Gym- deithas er Atal Creulondeb at Blant i'r ty. Aeth Kerrigan hefyd at yr heddlu i ofyn am gyfeiriad y swyddog, ond pan aeth yno yr oedd y dyn oddicartref.
-o - Rheswm o Bwllheli. i
-o Rheswm o Bwllheli. Ceisia rhai siopwyr—nid pawb-ber- swadio cwsmeriaid i gymeryd efelych- iadau o Doan's Backache Kidney Pills yn lie pilenau gwirioneddol Doan. Ond ceisiant yn ofer pan y gofyna pobl Pwilheli iddynt eu hunan, "A wn i am rywun yn Pwllheli iachawyd gan yr elelychiadau hyn? Wythnos ar ol wythnos darllenaf am-bobl wedi eu gwella gan Doan's Backache Kidney Pills, ond ni ddarllenais ac ni chlywais: erioed am neb wedi eu hiachau gan elelychiadau. Beth wyt well o wario arian ar bilenau eraill os na wnant les i mi, pan y gwn y gwna Doan's Backache Kidney Pills les i mi. Mae ty iechyd yn thy bwysig i mi i weith- redu ar unrhyw beth amgtnach na phrofiad pobl Pwllheli." Dywed Mrs E. Jenkins, 16, Sand Street, Pwllheli :Cefais fy mlino gan fy nghefn a'm helwlod am rai blynyddoedd yn ddiweddar. Nid oedd y dwr yn iawn, a dioddefwn oddiwrth boen yn fy meingefn. "Y i'eddyginiaeth wnaeth fwyaf o les i mi yw Doan's Backache Kidney Pills Wedi eu cymeryd yr oedd fy nghefn yn well. Mae genyf feddwl uchel o Doan's Pills." (Arwyddwyd) (Mrs) E. Jenkins. Pris 2s. gc. bocs, chwe' bocs am 13s. gc.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn cybtr am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs Jenkins.
lgwelialr Odeddf Yswiriant.
lgwelialr Odeddf Yswiriant. Mae'r mesur gyflwynwyd gan Mr Lloyd George yn Nhy'r Cyffredin yr wythoos ddiweddaf, i ddiwygio y Ddeddt Yswiriant, yn cynwys yn fwyat arbenig welliantau ynglyn a'r gweithiwr yswiriedig dros haner cant oed, a'r sawl sy'n cael eu cjflogi ar adegau yn unig. inlae y clarpai-iadtu a ganlyn yn cael eu cynwys yn y mesur Buddiant llawn i bob gweithiwr yswiriedig hyd nes y bo yn ddeg a thriugain oed, ac nid yn ol y raddfa bresenol, Buddiant meddygol yn llawn hyd derfyn einioes. Aelodau cymdeithasau cy/eillgar i gael buddiant meddygol llawn allan o'r ychwanegiad ganiateir ar eu cyfer gan y Llywodraeth. Gweithwyr, ar ol bod alian o waith (y ihai yn awr a dalent ol-ddyledion- cyfraniadau y meistriaid yn ogystal a'u rhai eu hunain) i dalu dim ond eu hol- ddyJedion eu hunain yn unig. Rhai na weithiant yn gyson i dalu 1 cyfraniadau llai yn ol fel y byddont yn gweithio yn yr wythnos. Budd meddygol a sanatoria i 80,000 o bersonau ieuainc sydd yn r hydd oddi- wrth dalu r yswiriant, onJ dros y rhai y mae y meistriaid yn talu cyfraniadau.
" Wyth yn Byw mewn Un Ystafell.
Wyth yn Byw mewn Un Ystafell. Y mae poblogaeth Rhos Llanerch Rugog-, ger ^u recsam, yn rhifo oddeutu un mil ar ddeg, ac yn ol adroddiad swyddogol a xk-nted 'i ddiweddar y mae nifer fawr iav\n r (ui'iynt yn byw dan amgylchiadau gic ynus i'r eithaf oherwydd y tai afiach ac anghymwys y trigant ynddynt. Y mae y boblogaeth yno fel llawer pentref yn nghymydog- aeth Gwrecsam, yn cynyddu'n gyflym, ond ychydig o dai newyddion mewn cymhariaeth sy'n cael eu hadeiladu yno, ac mewn rhai tai ceir teulu o chwech neu saith, ac hyd yn nod wyth, yn byw mewn un ystatell techan. Mae yno lawer iawn o dai a phump yn byw mewn un ystafell.. Yn ol yr adroddiad mae yn yr ardal dros dri chant o dai na ddeuant i fynu a'r safon oiynol
Awdurdod lawn-Daliadau Sir…
Awdurdod lawn-Daliadau Sir Gaernarfon. Cynhaliwyd cyfartod o'r uchod, ddydd Mercher diweddaf, Mr J. E. Greaves yn .wyddu. Gwneid cais gan Mr E. W. Johnson am adnewyddiad trwydded tafarn yn Methesda, yr hon oedd wedi ei chyflwyno i sylw'r awdurdod gan ynadon Bangor. Ymddangosai Mr H. C. Vincent yn ffafr dyfarniad yr ynadon, a sylwodd fod mwy n dafarnau yn y lie nag oedd yn an^enrheidiol. Ond gwithwynebai Mr Johnson ar y tir fod y ty hwn yn well ar lawer ystyr na rhai eraill nad oeddynt yn cael eu gwrth- wynebu. Ni chaniatawyd y cais. Gwneid cais gan Mr Horatio Jones am adnewyddiad trwydded Tafarn En- lli, Bangor, un arall a gyflwynwyd i sylw'r awdurdod gan ynadon Bangor. Dywedai y Rhingyll Davies fod y dafarn yn un o'r rhai lleiaf yn Mangor, ac nad oedd ond lie i yfed ynddo yn unig. Sylwudd Mr Horatio Jones tod y tenant presenol wedi ychwanegu'r busnes yn y lie, a'i fod yn enill ei fywol- iaeth drwyddo Yr oedd yn cael ei gario ymlaen yn rhagorol, ac yn un o'r ychydig dai yn Mangor nad oedd cyhuddiad wedi ei ddwyn yn eu herbyn, a dywedai y trwyddedydd ei bod yn ami yn gosod lie i drafaelwyr a iletywyr. Gwrthodwyd adnewyddu'r drwydded. Yr oedd ynadon Pwllheli wedi cyflwyno trwydded chwe diwrnod y White Horse, Llanengan, ac ymddang- osai Mr Arthen O. Owen dros yr ynadon, ond nid oedd gais yn cael ei wneyd am adnewyddiad y drwydded.
Etholiad Leicester.I
Etholiad Leicester. Cymerodd etholiad le yn Leicester, ddydd Gwener diweddaf, i ddewis aelod i lanw sedd Mr Crawsley Williams, yr hwn sydd wedi ymddiswyddo. Yr ym- geis-.vyr oedd Mr Gordon Hewart (R), Mr A. M. Wilshere (T) a Mr E. R. Ha: tley (Sos). Dywedai y Toriaid mai siawns wael oedd gan y Rhyddfrydwyr i ddal y sedd, gan fod ymgeisydd Sosialaidd ar y maes, ond fel y dengys y ffigyrau cafodd y Rhyddfrydwyr tuddugoliaeth ardderchog er y cafodd y Sosialydd ymheli dros ddwy fil o bleid- leisiau. Dyma fel y oedd y ffigyrau Hewart (R) 10,863 I Wilshere (T) 9,279 Hartley (Sos) 2,580 Mwyafrif R. ar y T. 1 -584
Burton yn Cyfaddef eiI Euogrwydd.
Burton yn Cyfaddef ei I Euogrwydd. Yn ngharchar Dorchester, ddydd Mawrth, dienyddiwyd William Burton, a gaed yn euog o lofruddio Winifred Mary Mitchell yn y goedwig yn Gussage St Mitchell. Ar ol y prawf cyfaddefodd Burton ei fod yn euog. Yr oedd mewn trwbl mawr ynglyn a'r eneth, meddai Yr oedd ami eisieu iddo fynd gyda hi i Canada, a bygythiai hysbysu ei wraig os na addawai fynd. Nid oedd gan- ddo arian i fynd gyda hi, ac yr oedd wedi methu cael benthyg rhai. Yr oedd bron wedi myned yn wallgof. Torodd y bedd yn y coed foreu Sul, ac fe'i lladdodd a chladdodd hi rhwng tri I a phedwar o'r gloch. Wedi hyny aeth i'r fferm. Ni chafodd yr eneth ddim poen, meddai efe, bu farw ar amran- tiad. Credai fod Duw wedi maddeu iddo am yr hyn a wnaeth. --o
Ymladdfa rhwng Gweision II…
Ymladdfa rhwng Gweision Ffermydd a'r Heddlu. Bu he'ynt garw yn agos i Lerpwl, brydnawn dydd Iau, rhwng y gweision ffermydd sydd allan ar streic a'r hedd- geidwaid a warchodent wageni llwyth- og ar eu ffordd i'r farchnad. Ceisiodd y streicwyr amryw weithiau dynu y ceffylau o'r gwageni, a rhoent gerrig a choed o dan yr olwynion. Wrth geisio eu rhwystro torodd un heddgeidwad ei arddwrn. Cafodd y gwageni lonydd am ran o'r ffordd wedi hyny, ond pan yn ymyl Netherton ymosododd y streicwyr ar yr heddgeidwaid. Rhuthrodd nifer o heddgeidwaid ar gefn ceffylau arnynt a gwasgarwyd hwy, ac ymlidiwyd hwy ffordd bell fel nas gallent gasglu at eu gilydd drachefn. Wedi hyny catodd y gwageni a'u llwythi lonydd i fynd i ben eu taith. Cafodd amryw o'r streicwyr eu hanafu'n bur dost yn yr helynt, a chafodd rhai o'r heddgeidwaid eu hanafu hefyd. --0--
Wyth o Fodurwyr o flaen yI…
Wyth o Fodurwyr o flaen yI Llys. Mewn canlyniad i drap a osodwyd gan yr heddgeidwaid yn mhentref Porth Dinorwig cafodd wyth o yrwvr modur-teisicl eu dwyn o flaen ynadon Caernarfon ddydd Sadwrn argyhuddiad o oryru. Eu henwau oedd T. J. Williams, Llangollen Sidney Town- send, Mochdre Harston, Caer J. O. Jones, Machynlleth Owen Thomas, Caernarfon Edward Haynes, Ports- mouth J. G. Williams, Cemmaes, ac R. J. Scott, Gwrecsam. Gollyngwyd yr oil yn rhydd ar daliad y costau.
[No title]
--0-- Yr oedd Ftrancwr ac Ysgotyn, o'r enwau Daumas a Rankin. yn ymryson ymaflyd codwm yn Madrid, nos Sad- wrn diweddaf, a sylwodd y canolwr nad oedd y Ffrancwr yn ymryson yn deg a rhybuddiodd ef. Gwnaeth Daumas yr un peth drachefn, a chynddeiriogodd y dort o edrychwyr gymaint witho fel y ceisiasant ei grogi, a bu agos iddynt a I llwyddo i wneud hyny er gwaethaf yr heddgeidwaid.
Cyngor Tref Pwllheli. I
Cyngor Tref Pwllheli. Nos Fawrth, y 2-iain c)-fisol.-Pres- enol Y Maer (yr Henadur O. Wynne Griffith) yn y gadair; yr Henaduriaid R. Ivor Parry, W. Anthony, a W. Eifl Jones; y Cyngorwyr Richard Jones, T. W. Thomas, O. Ellis Jones, Dr Jones Evans, W. Wynne Owen, G. Cottielius Roberts, R. Albert Jones, W. M. Toleman, ynghyd a'r swyddogion. Cytuno.—,Hysbyswyd yr arwyddwyd y cytundeb a'r Anglo-Cymric Cinema Co. o berthynas i'r Happy Valley, ac fod top. o rent wedi ei detbyn. Tir ar Brydlcs. — Hysbysodd y.Clerc y darparodd brydles am ddeng mlynedd ar ran o'r tir adferedig ger yr orsaf, i Mr Tom Owen, Maes, ond fod Mr Owen wedi ei dychuelyd gyda nodi gwelliant- au arni. Yr oedd Pwyllgor y Gweith- feydd yn cymeradwyo glynu wrth y cytundeb cyntaf, fod y lie ar derfyn y brydles o ddeng mlynedd i'w osod am rent b!.nyddoi, ond fod Mr Owen i gael defnyddio y lie o flaen ei adeiar yr amod nad oedd y Cyngor yn yfm- rwymo iddo gael defnyddio'r boll le ei hun yn' unig.—Cynygiodd Dr Jones Evans fod y rent ar derfyn y brydles o ddeng mlynedd yn wyth bunt, a chefnogwyd ef gan Mri Richard Jones a W. M. Toleman.,—Sylwyd gan yr Henaduriaid W. Anthony a W. Eifl Jones fod y cytundeb yn gadael y rhent yn agored, a chytunai Mr G. Cornelius Roberts a Mr O. Ellis Jones mai hyny oedd oreu, gan y gallai y tir fod yn llai neu fwy o werth erbyn hyny.—Pasiwyd argymhelliad y pwyllgor. CarthxCr l'ortltladd -Pasiwyd fod i'r Clerc ymohebu gyda gwahanol awdur- dodau o barthed i sicrhau gwasanaeth dredger i garthu'r porthladd o bryd i bryd, ac i anog lleoedd eraill ag yr oedd angen y cyfryw wasanaeth arnynt i uno fel ag y gellid cael gwneud y gwaith yn rhatach. Llwybr Ala Roati.-Dywedodd yr Ar- olygydd y gellid gwella'r llwybr yn Ala Road am gost o 15P a phasiwyd ei awdurdodi i fynd ymlaen gyda'r gwaith ar unwaith. Ynglyn a Benthyea.,Yr oedd Bwrdd y Llywodraeth Leol yn hysbysu y byddai raid cynal ymchwiliad o berthyn- as i gais y Cyngor am hawl i fenthyca 4c p. tuagat helaethu'r gornel ger White Hall. Cynhadledd -AnogsA-yd aelodau y Cyngor i fod yn bresenol yn y gynhad- ledd gynhelir i drafod y cwestiwn o ddarpar lie ar gyfer ffeiriau Pwllheli. Sylwodd Mr G. Cornelius Roberts mai doeth hefyd fyddai trafod y cwestiwn o gynal y ffeiriau ar ddyddiau penodol, fel ag y gwneid mewn amryw o leoedd eraill Tai Prwdol. Dywedai yr Arolygydd mai tri ar ddeg o dai addas i'r dosbarth gweithiol oedd yn y dref.—Sylwodd Mr T. W. Thomas y pasiodd y Cyngor i'r, Arolygydd drefnu adroddiad o barthed i faint o dai gweigion oedd yn y dref, ynghyd a'u rhent a'u maint, ond nad oeddynt wedi cael ond nifer y tai addas i'r dosbarth gweithiol.-Dywedodd Mr G. Cornelius Roberts eu bod wedi cael yr hyn oedd arnynt ei eisieu, nad oedd y dref mor fawr fel na wyddent p'le'r oeddynt.-Teimlai Mr O. E. Jones nad oedd y Cyngor o ddifrif gyda'r mater. Dylid hefyd cael gwybod pa faint o dai oedd yn anghymwys i fyw ynddynt os oedd tai eraill i'r tenantiaid droi iddynt. Ei faro ef oedd nad oedd y Cyngor yn gwneud dim ond rhywbeth rhag i Fwrdd y Llywodraeth Leol eu cyhuddo o esgeLilusdra.-Cynygiodd Mr Anthony tod yr Arolygydd yn gwneud adroddiad ynglyn a pha faint o dai gweigion oedd yn y dref, ynghyd a'u maint a'u rhent, eiliwyd ef gan Mr T. W. Thomas, yr hyn a basiwyd. Cyilojau'r Swyddogion. — Hysbyswyd y bu pwyllgor yn trafod y cwestiwn o gyflogau swyddogion y Gorfforaeth. Pasiwyd cynal cyfarfod i dralod y mater ymhellach ac fod y Clerc i wneud ymchwiiiad, ac i gyflwyno adroddiad i bob aelod o'r Cyngor o barthed i'r hyn delir mewn cyflogau i swyddogion mewn manau eraill. Gwerthwyr Ffrwythau ar yr Heol. Syl- wodd Mi W. M. Toleman y deuai gwerthwyr ffrwythau i'r dref yn mis- oedd yr hat a gweithent eu ffrwythau mewn cerbydau ar yr heolydd. Yr oedd masnachwyr y dref yn cwyno o'u her- wydd, gan nad oeddynt yn talu rhent na threth Awgrymai ef y dylid eu gorfodi i gymeryd lie yn neuadd y far- chnad neu ar y Maes.-Sylwodd Mr Richard Jones y galwodd efe sylw'r Maer at y peth o'r blaen, ond nad oedd yn hawdd iawn gweithredu ynglyn a'r mater. Cynygiodd Mr Anthony, ac eiliodd Mr Wynne Owen, fod pwyllgor yn edrych i mewn i'r mater ac yn gwneud adroddiad. r\ I
ITri o Ddynion yn Boddi.
I Tri o Ddynion yn Boddi. Aeth pump o ddynion ieuainc allan mewn bad i hwylio ar Loch Lomond brydnawn Sadwrn. Yr oedd awel gret yn cwythu dros y Ilyn ar y pryd, a chafodd y eweh ei yru'n gyflym i Luss. Wrth ddod yn ol tarwyd y eweh amryw weithiau gan donnau mawrion, a chai y dynion drafferth fawr i hysbyddu'r dwr o hono, O'r diwedd daeth ton fawr a llanwodd y cwch nes y suddodd. Boddodd dau o'r dynion ar unwaith, ond bu y lleill yn nofio'n hir. Diffyg- iodd un o honynt hwythau toe a bodd- I odd yntau, ond cafodd y ddau arall eu gwaredu gan agerfad. Yr oedd y ddau a gawsant eu gwaredu yn ddau frawd.
Bwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli.
Bwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli. Dydd Mercher, y 25am cyfisol,— Mr J. T. Jones yn y gadair. Penodi Olamicth. -,Dwy yn unig a ymgeisiai am la fel mamaeth yn y Tloty am gyflog o 25P. y flwyddyn, sef Miss Violet Jones, Pwllheli, a Miss L. Jones, Chwilog.—Miss Violet Jones apwynt- iwyd. Codi I'l-is"ttu Eii-(,A.-Syl",odd y Parch Henry Rees fod y seiri coed yn cwyno eu bod yn eu colled ar wneud circh i'r tlodion yn ol y prisiau delid ar hyn o bryd, gan fod prisiau coed wedi codi. Deunaw swllt delid am arch i ddyn, 16s am arch i ddynes, i blant dan bymtheg oed, 14s; dan ddcuddeg, 12s. dan ddeg, ios. ac o dan bump, 7s. Cyn- ygiai Mr Rees fod gini yn cael ei dalu am arch i un mewn oed, ac fod tri swllt yn fwy yn cael ei dalu am eirch i blant, nag" arferid dalu o dan yr hen drefn. Eiliwyd ef gao Mr John Will- iams, a phasiwyd yn unfrydol. Gwelliantau.-Cynygiwyd gan y Parch Henry Rees, ac eiliwyd ef gan y Parch J. Edwards, eu bod yn gwahodd prisaer i gyflwyno cynllun tuagat ddarparu i.e mwy cyfleus eistedd yn ystafell y Bwrdd, a gwell daipanaeth i awyro'r lie, a phethau ereill.-Cynygiodd MrG. Evans nad oeddynt i ofyn am wasan- aeth prisaer ond yn hytrach fod y Pwyllgor Ymweliadol i dynu cyrillun allan. Penderfynwyd trwy fwyatrif eu bod yn gofyn i brisaer dynu cvnllun allan.
Gwarchae Downing Street.
Gwarchae Downing Street. I SUFFRAGETTES YN METHU YN EU HYMGAIS. I Ddydd Sul diweddaf, ceisiodd y suffragettes, yn cael eu blaenori gan Miss Sylvia Pankhurst, a thorf o tua dwy fit yn ei dilyn, gael mynediad i Downing Street, gyda'r bwriad o fynd drwy eu hystranciau o flaen preswylfod swyddogol y Prif Weinidog a Chang- hellor y Trysorlys. Yr oeddynt wedi ymgynull i gynd cyfarfod yn Trafatgar Square, ac yr oedd yno dorf fawr wedi casglu fel ar- fer, ac yr oedd Miss Sylvia Pankhurst yn eu hanerch. Dywedodd, wrth gyfeirio at aelodau y Weinyddiaeth, nad oeddynt oil yn mynd am eu g NyI- iau i fwrw'r Sul, ac y gallent eu carch- aru yn eu tai os yr elent i lawr i Down- ing Street. Gofynodd pwy oedd yn barod i'w dilyn, a chychwynodd, a dil- ynwyd hi gan y dorf. Cynyddai y dorf o hyd fel yr e!ai yr orymdaith yn ei blaen, ac erbyn cyr- aedd Whitehall yr oedd yno o Jeiaf ddwy fit o honynt. Pan ddaethant i ymyl Downing Street gwelent fod y fynedfa i'r heot yn cael ei gwarchae gan ddwy renc o heddgeidwaid talgryf. Gwnaeth nifer o ddynion ieuainc o'r dorf ruthr at yr heddgeidwaid, a bu yno ymrafaelio brwd am oddeutu awr, ond o'r diwedd bu raid i'r suffragettes a'u dilynwyr glirio i ffwrdd. Cymerwyd rhai o'r bechgyn afreolus i'r ddalfa.
-u - Achos Rhyfedd.
-u Achos Rhyfedd. Bu achos rhyfedd o flaen y llys yn Edinburgh, yr wythnos ddiweddat, yn yr hwn y gofynai un Lewis John Caw am i'r lly: Idatgan ei fod wedi priodi trwy gyd-syniad a'i gyfnither, Jemima Scott Gilmow Caw. Dywedai yr apelydd fod y diffynydd ac yntau wedi priodi trwy gyd-syniad pan yr oeddynt am dro gyda'u gilydd ar ddydd Nadolig, 1911, ac fod y ddiffyn- yddes yn Ebrill, 1912, wedi rhoi iddo gytundeb ysgrifenedig yn cydoabod ei fod ef yn wr iddi. Dywedai y ddiffynyddes iddi roi y cytundeb ysgrifenedig am y dywedai yr apelydd nad oedd rym yn y cytundeb, a dywedodd hefyd iddi wneyd hyny o dan fygythion. Dywedodd y Barnwr fod yr apelydd wedi methu profi ei achos. Yn. ol tystiolaeth yr apelydd ei hun, gwnaed i'r ddiffynyddes roi y cytundeb pan nas gwyddai yn iawn beth oedd yn ei wneyd. Dyfarnodd o blaid y ddiffynyddes gyda'r costau.
-o - Manion.
-o Manion. Yn Crewe, ddydd Sadwrn, dirwywyd un o'r enw Charles Stain am fod yn feddw ac afreolus ar y rheilffordd i 17s. Cafodd un o swyddogion y rheilffordd ef yn cysgu ar y rheiliau, ac yr oedd yn wyrthiol bron nad oedd wedi ei dori'n ddarnau. Pan ddeffrowyd ef, mynai gael gorwedd ar y rheiliau drachefn. Yr oedd baban bach wedi ei adael mewn perambulator yn agos i lyn yn Merthyr, ddydd Sadwrn. Rywtodd cafodd y cerbyd ysgytwad, a rhedodd i lawr ac i'r llyn, a bu foddi'r baban bach. v Cafodd certmon ieuanc o'r enw John Hughes ei ladd yn Dinbych, y dydd o'r blaen, trwy iddo gael ei wasgu rhwng y clawdd a'r wagen a yrid ganddo. Yr. Llanfair Fechan, yr wythnos ddi- weddaf, syrthiodd llafurwr o'r enw Richard Williams i lawr o ben adeilad uchel a bu farw'n y fan. Syrthiodd tren lwythog i'r afon Salko ger Ondal, yr India, a bu foddi llawer iawn o'r teithwyr. Yr oedd nifer o fechgyn ieuainc yn ymdrochi yn y gamlas yn Regent's Park, Llundain, y dydd o'r blaen, ac aeth dau o honynt i chware gwaredu I bywyd." Nis gallai un o honynt nofio, suddodd a bu foddi ar waethaf ym- drech y lleill i'w waredu.