Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BOREU SAl>WRN y fan bellaf Pob arcbebioo a tbliaùa.11 am r r Udgohn i'w hanfon i'r Ooruchwyliwr, 74, High Street, Pwllheli. Pob gohebiaeth i'w cyfeirio— YR UDGORN Office, Pwllhbli. Bydd yn dda ger>yir. dderVyn tioheb- iaetbao oddiwrth ohebwyr ar faction denl o ddyddordeb eyhooddut3
NODION A HANESION.
NODION A HANESION. Ffatri ar Dan. Aeth ffatri fawr ar dan yn Bingham- ton, yr Amerig, yr wythnos ddiweddaf, a chollodd tua thri ugain o'r rhai a weithiai ynddi eu bywyd. y rhan fwyaf o honynt yn ferched. Y Rhyl yn llawn Milwyr. Y mae adranau o fyddin y Royal Wthh Fusiliers yn gwersyllu yn Rhyl yr wythnos hor,, ac y mae yno oddeutu deugain mil o filwyr. Mae'r gwersyll o dan ofal y Cyrnol Lloyd. A Coedwig ar Tan. Torodd tAn allan yn y cosd ar ystad y Farchynys, ger y Bermo, ddydd Gwener diweddaf, ac ymledodd yn gyf- lym nes yr oedd tua chwarter milltir o'r goedwig ar dan. Llosgwyd miloedd o goed pinwydd i'r llawr, a pharhaodd y tan am oriau lawer. 11- Genweirio ar y Sul. Yn Nolgellau y dydd o'r blaen cyhuddwyd A. D. Hamlyn, ymwelydd o Lutterworth, o enweirio heb drwydd- ed yn yr Afon Wnion, brydnawn Sul. Pan aeth ceidwad yr afon ato, dywed- odd nas gwyddai tod trwydded yn j angenrheidiol, a'i fod wedi cael can- iatad gan y tirfeddianwr. Dirwywyd y diffynydd i svvllt, gyda ip. lOSt o gost- au Tarw yn Ymosod ar Ffermwr. Y dydd o'r blaen pan yr oedd Mr Philip Winward, Spon Farm, ger y Wyddgrug, yn nol y gwartheg o'r cae ymosododd tarw ifanc arno. Gallodd Mr Winwnrd gael gafael yn ei gyrn a bu'n ymladd ag ef am ysbaid Ond bu'r tarw'n drech nag et. Taflodd ef i lawet a chorniodd ef yn enbyd. Daeth y gwas yno a chyda phastwn gyrodd y j tarw a'r ffo. Cariwyd Mr Winward i'r ty yn anymwybodol. Yr oedd wedi ei aoafu'n ddifrifol yn ei frest. Penodiad Newydd i Arglwydd M ost y n. Y mae y Brenin wedi penodi Ar- glwydd Mostyn yn un o Gomisiwn- yddion yr Ysgritau Hanesyddol. Dy- wedir fod y penodiad yn un priodol iawn, gan fod yn meddiant ei arglwydd- iaeth yn Mostyu Hall, gasgliad thagor- 01 o hen ysgrifau a gasglwyd gan Syr Roger Mostyn yn y ddeunawfed ganrif. Mae llawer o honynt yn dal perthynas a Chymru, ac o ddyddordeb mawr. Yn meddiant Arglwydd Mostyn hefyd mae'r comisiwn gwreiddiol a roed gan y Frenhines Elizabeth i gynal Eistedd- tod yn Nghaerwys yn y fiwyddyn 1568. Colli eu Ffordd ar Ga ier Idris. Cafodd nifer o ymwelwyr o Lundain, I y rhai oedd yn aros yn y Bermo, brofiad chwerw wrth ddringo Cader Idris i ddechreu'r wythnos ddiweddaf. Cyr- J haeddasant gopa'r mynydd ar ol dringo am oriau, ond pan yr oeddynt yn cych- wyn i lawr arrgiuwyd hwy Kan niwl I trwehus a chollasant eu llwvbr. Buont yno am oriau wedi liwyr ddiffygio, ac wedi rhoi'r yspryd i fyny. Y r oèddynt bron a rhynu gan fod niwl y mynydd yn oer erwinol, ac yr oedd rhai plant bychan yn eu pliib. Yn ffodus yr oedd parti o ymvvelwsr eraill yn dring-o'r Gader i wefd (thliaJ yr haul, a clywodd y rheini y lleill yn gwaeddi am help drwy y niwl. Daethant o hyd iddynt ymhen amser. a rhoesant fwyd iddynt. Ymhen ychydig oriau yr oeddynt yn abl i gychwyn am gartref. 4- *■ Ymweliad y Canghellor a Chaer- narfon. Daw Mr Lloyd George i Caernarfon nos yforu (nos Fercher) ar gyfer y cyfartod mawr sydd i'w gynal yn y Pafiliwn ddydd lau. Y mae yr holl dicedi ar. gyfer y seddau arbenig wedi eu gwerthu yn barod, ond y mae digon o dicedi deuswllt a swllt eto i'w cael. Bydd yno le i tua pum cant gael myned- iad i mewn yn rhad. Codir tal am fynediad i mewn wrth gwr* tuag at gliiio y costau ynglyn a'r cyfarfod- huriad y Pafiliwn a'r gost o'i drefnu ar gyfer yr amgvlchiad. Gellir cae! tocycau yn y clybiau Rhyddfrydol yn y bwrdeisdrefi. Cyinerir y gadair gan Mr Evan Jones, Caernarfon, a chynygir y penderfyniad, mewn fFurf o anerchiad i Mr Lloyd George, gan Mr R. Muir, Bangor. Rhydd y Canghellor ei araith mewn atebiad i'r penderfyniad. Damwain Angeuol mewn Tren. Pan ddaeth y tren olaf o Seacombe i stesion Gwrecsa-ii nos Sadwrn, canfu y swyddogion nad oedd y guard yn y tren, ac fod drws y van yn agored Aed i chwilio hyd y rheiiffordd, a deuwyd o hyd i'w gorff ger stesion Gwersyllt Nis gwyddis sut y cyfarfu y truan a'i farwolaeth. Tren ar Dan. Achoswyd cyffro ymysg y teithwyr ar y tren a redai fore Sadwrn o Bacup i Landudno, pan y cyrhaeddodd i orsaf Prestatyn. pryd yr hysbyswyd fod dau o'r cerbydau ar dan. Dadfachwyd y cerbydau a rhoed y teithwyr yn y cer- bydau ereill. Credir mai'r echelydd oedd weJi mynj yn thy boeth, ac mai hyny achosodd y lan. Mr Harry Evans yn Diolch. Antonodd Mr H .rry Evans, Lerpw'. lythyr i Mr W. Morris Jones, ysg'i;- enydd Gwyl Harlech, yn dymuno arno gyflwyno ei ddinlchgarwch i'r cantorion am eu canu rh ag>rol yn yr wyl. Yr oedd eu datganiad o Y nefoedd sy'n datgan, meddai, y goreu glvwodd erioed, ac yn gu neud iddo deimlo'n falch o'i genedlaetholdeb. Ei Dychryn gan Dati. DeffYodd genetli ieuanc yn Sheffield, o'r enw Florence Bassey, nos Sadwrn diweddaf, wrth g lywed rhywbeth yn clecian yr ystafell-wely. Cantu fod rhywbeth yn yr ystafell yn Uosgi, a dychrynodd gymaint wrth feddwl fod y He yn mynd ar dan tel y neidiodd o'r ffenestr i lawr i'r heot. Cafodd ei hanafu'n ddifrifol, a chymerwyd hi i'r ysbyty. Rhodd Ardderchog. Y mae Mr D. S. Davies, Dinbych a Manchester, wedi anrhegu Cymdeithas y Gofeb Genedlaethol Gymreig a 244 o aceri o dir ger Dinbych, a gyfrifir yn werth pum mil o bunau, tuag at adeil- adu ysbyty ar gyfer rhai yn dioddef oddiwrth y darfodedigaeth. Mae'r an- rheg werthfawr hen yn cael ei rhoi gan Mr Davies er cofiiii ei dad-ynghyfraith, y divveddar Mr Thomas Gee, Dinbych. Hen Balasdy Enwog ar Werth. Y mae'r Plas Newydd, preswylfod Ladies Llangollen," unwaith eto yn y farchnad, a bydd yn cael ei gynyg ar ia-ei th yn fuan. Y boneddigesau oedd yr Anrhydeddus Sarah Ponsoby a'r Fonesig Eleanor Butler, a buont yn byw yn y Plas Newydd am dros haner can' mlynedd, gan groesawu yn eu cartref prydferth bobl mwyaf enwog y dydd. Y mae'r plas yn llawn o ddod- retn derw hen a cherfiadau cywrain, a saif yn un o'r lieoedd prydferthaf yn y wlad. Cael ei Lladd ar ei Gwyliau. Daeth diwedd trist iawn ar wyliau geneth iecanc o Bury St. Edmunds, o'r enw Emily Louisa Kelly. Cafwyd hi yn anymwybodol wrth droed clogwyn yn South Shields ddydd lau, a bu farw yn yr ysbyty. Yr oedd yr eneth ieuanc a'i mam yn aros ar eu gwyliau yn South Shields, a foreu lau aeth Miss Kelly am dio hyd y creigiau, gan drefnu cwrdd ei mam ar y pier yn hvvyrach ar y dydd. Gwelwyd hi yn eistedd ar y graig ac yn darllen II) fr, ond ymhen ychydig wedi hyny caed hi yn gorwedd fel y nodwyd, ac wedi ei hanafu'n ddifrifol. Camgymeriad Hynod. Yn Bristol y dydd o'r blaen cyhuddid dyn ieuanc trwsiadus a pharchus yr olwg arno o fod wedi tori i mewn i dy preifat. Tystiwyd gan ddynes ieuanc briod fod ei gwr oddicartref nos Wener, a rywbryd tua haner nos clywai dwrw yn yr ystafell. Dychtynodd yn fawr wrth weld dyn ieuanc yn goleu MAtsen wrth ymyl ei gwely. Diflanodd y dyn fel mel!ten, ond aed i hysbysu'r hedd- geidwaid a daliwyd y dyn ymhen rhyw ddwyawr mewn ty cyfagos lie yr oedd yn byw hfcfo'i fam. 'Roedd yn cysgu'n dawel pan g-ynerwrd ef i'r djalfa Yn ei amddiffyniad dywedai ei fod yn ym- arferol yn llwyr-ymwrthodwr, ond ei fod wedi cael tipyn go dda o ddiod nos Wener, ac wedi meddwi. Nid oedd arno eisieu deffio ei fam, ac aeth i'r ty (ei dy ei hun, yn ol fel y tybiai ef) drwy ffenestr y gegin. 1 fynu'r grisiau tyb- iodd fod rhywbeth allan o le, ac aeth i ystafell i oleu matsen. Gynted ag y gvvnaeth hyny clywodd ddynes yn rhoi ys, rech, a rliedodd allan drwy ffenestr y geg.in. Credodd y Fainc ei stori a gollyngwyd ef yn ihydd, ond rhybudd- iwyd ef i fod yn fwy gofalus yn y dyfodol. Dii wyo Modurwr i 20p. Yn heddlys Stratford, LIurvdain, ddydd Sadwrn, dirwywyd un o'r enw Harold Wood i 20p. a'r costau am or- ) ru modur. Dywedwyd fod nifer o ddynion yn adgyweirio'r flordd, ac yr oeddynt wedi g- sod tociau o gerrig ar un ochr iddi, a phan yr oedd y gweith- '\yr yn gwneud yr ochr arall dyma'r urdur yn d-ni heibio, ac er i'r dynion u ueddi am i'r cei byd stopio daeth heibio h or gjfiyni nes cipio un o'r dynion i fyny i'w anl) II nes y disgyoodd o'i fl ien gan gael ei anafu'n ddifrifol. Dywedai cadirydd yr ynadon yr ym- ddangosai y gyiiedydd fel pe nad oedd yn malio dim leth a wnai i bob!.
Ymfudwr o Gymru wedi ei Siomi.
Ymfudwr o Gymru wedi ei Siomi. HIRAETHU AM YR HEN WLAD Yn Mwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli, beth amser yn ol darllenwyd llythyr oddiwrth lowr o'r enw Davies, yr hwn oedd wedi ymfudo o Dde Cymru i Canada Cwynai ei fod wedi ei siomi gyda golwg ar waith. Nid oedd ond dau bwll glo yn y lie yr oedd ef, meddai, ac ni chymerent ddynion newydd i mewn Cwynai hefyd ynghylch y costau byw yno Yn nghyfarfod y Gwarcheidwaid y Mercher diweddaf, darllenwyd llythyr oddiwrth Thoiiias NeAinan, o Sas- katchewan, yr hwn a ddywedai fod yr h n a honai Davies yn fwy na thebyg yn hollol wir. Yr oedd y sefylifa yn dJ:f ifol, meddai ef, ar hyu o bryd drwy Canada Orlleuinol. Nid oedd v frlot'eydd ogylch Edmonton, lie yr oedd Davie- yn cyflenwi ond yn unig angen- I heidiau y ddinas hono. Os y byddai deg ar hugain i ddeugain yn gweithio tybient fod masnach yn mynd yn ar- dderchog. Yr oedd yno fiioedd allan o wnith Byddai yn garedigrwvdd a'r glowyr eu perswadio i beidio ymfudo i Canada. Pe cai ef ei hun mewn glota yn Nghymru eto, byddai yn waith an-- ha\\Jd iawn ei gae! oddivno. Pasiodd y Gwarcheidwaid anfon copi o'r Pythyr i'r Cynrychiolydd Y mfudol Cyffredinol, gyda'r hwn y maent yn barod mewn gohebiaeth o barthed i lythyr Davies, teulu yr hwn oedd yn gwneud cais am gymorth elusenol ganddynt.
IY Deg Cymro mwyaf Enwog !
Y Deg Cymro mwyaf Enwog Fel y gwyddis, y mae Mr. D. A. Thomas yn mynd i anrhegu Neuadd Ddinesig Caerdydd a cherfluniau y deg Cymro neu'r ddeg Cymraes twyaf en- wog cyn teyrnasiad y Frenhines Vic- toria Bu pwyllgor yn dewis y deg mwyaf enwog yn eu barn hwy, a chyn- yL'iwyd gwobr o 20p. gan Mr. D. A. Thomas i'r sawl a enwai fwyaf o'r rhai dewisedig gan y pwyligor. Dyma'r rhai a enwyd gan y pwyllgor :-Dafydd ab Gwilyrr, y bardd Dewi Sant, nawdd-sant y Cyniry Gerald Gymro Owain Giyndwr; Unrn'r Seithfed, y Brenin Cymreig cyntaf ar Loegr Llew- elyn y Liyw Olaf; Syr Thomas Picton, y rhyfelwr a laddwyd yn Waterloo yr Esgob Morgan, a Williams Pantycelyn. I Yr oedd saith yn y gysladleuaeth wedi enwi wjth o'r deg uchod, a rhenir y wobr rhwng y saith. Bydd i'r ceiflliniati, IlIeLidir gostio tua deng mil o bunau, a bydd yn un o'r pethau m wyaf prydfertb a phwysig yn nglyn a cherfluniaeth yr ugeinted gan- r; f.
I Cyhuddo Tad o Ladd eii Blant.
I Cyhuddo Tad o Ladd ei Blant. Ddydd Gwener diweddaf caed cyrff tri o blant wedi eu claddu o dan lawr seler ty yn Hackney, Llundain, a dydd Sadwrn cyhuddwyd Frederick Robert- son, eu tad, dyn a choes bren ganddo, o fod wedi eu llofruddio. Dyn bychan eiddil yw'r cyhuddedig, a gwallt du trwchus ganddo. Gwran- dawai yn hollol hamddenol ar y cudd- heddwas yn rhoi ei dystiolaeth. Dyu edodd yr Arolygydd Haigh iJdo weled y cyrff brydnawn Gwener yn y marw-dv. Aeth wedi hyny i'r ty lie y dywedid y canfuwyd hwynt. Yn hwyr y nos yr oedd yn cerdded drwy'r heol, a daeth y cyhuddedig heibio. Aeth yntau ato a gofynodd iddo a'i Robert- son oedd ei enw, a dywedodd y car- charor m ii dyna oedd ei enw. Dyvved- odd y t) st wrtho ei fod yn ei gymeryd i fynu ar amheuaeth o tod wedi llof- ruddio ei blant. Oechreuodd y carcharor wyIo, a gofynodd i'r heddwas beidio gafael ynddo, y deuai gydag ef yn dawel. Yn yr heddlys gofynodd y carcharor paham yr oeddynt yn ei gymeryd ef i fyny, a phan ddywedwyd wrtho mai am tod ei blant wedi eu cael wedi eu claddu yn y seler dywedodd na wyddai ef ddim am danynt. Gofynwyd iddo ble'r oedd ei blant ynte, ac atebodd ei fod wedi eu gadael ar y stryd yn agos i dluty Homerton beth amser yn ol. Gohiriwyd y prawf am wytbnos.
Mr. Lloyd George a'r Pulpud,…
Mr. Lloyd George a'r Pulpud Cymreig. Yr oedd y Canghellor, ynghyd a Mrs. George a'r Misses Lioyd George, yn y gwasanaeth yn nghapel y Bedyddwyr, j Castle Street, Llundain, nos Sul. Yr oedd Mr. John Hinds, A.S., a Mr. Wi!)iam Jones, A. S., hefyd yn bresenol. Pregethid gan y Parch Aaron Morgan, Blaenffos Cafw\d gair gan Mr. Lloyd George yn y Seiat ar ol y bregeth. Dywedodd nad cedd ond ychydig iawn o bobl yn sylweddoli g) maint oedd gallu y pulpud Cymreig, a chymaint oedd dyled Uoegr a Chymru iddo. Yn sicr yr oedd wedi gwneud llawer iawn i Gymru. Onibae am y pulpud buas i hyn a wnai ef, ynghyd a Mr. ran Jones a Mr. John Hinds ac eraiil, yn y Senedd yu llawer mwy anodd. Yr oedd wedi dar- lien llawer yn ddiweddar o berthynas i'r pulpud yn Nghymru, yn arbenig yn nghylch y pregethwyr Ymneillducl Cymreig, ac yr oedd yn synu gymaint fu ei dd) LUl\vad er daioni. Hyderai yn fawr y cymerai rhyw efrydydd y mater mewn lIaw, ac y gwnai lyfr a fuasai yn gosod allan yn llawn werth y pulpud i'r aenedI-Jlyfr a fuasai o ddyddordeb nid yn unig i Gymru, ond hefyd i rai u'r lu allan.
Dedfrydu. Arthur Newton iI…
Dedfrydu. Arthur Newton i I Benyd Wasanaeth. Yn yr Old Bailey yr wythnos ddi- weddaf terfvnuyd y prawf ar Arthur Newton, L\rreithiwr enwog o Lun- dain, a Berkeley Barnard Bennet, y rhai gyhuddid o fod wedi cynllwyn gyda Count Andor Festetics (yr hwn sydd heb ei ddai)- i gael swin o arian yn cyraedd i3,ooop. trwy dwyll oddiar Dr Hans Thotsch, dyn ifanc o Awstria. Ar ol ystried y muter o'r neilldu am tua haner awr p.isiod y rheithwyr fod y ddau yn euog o'r cyhuddiadau ddygid yn eu herbyn, J. Apeliai Newton am i'r barnwr fod yn dyner tuag at ato. Dywedai ei fod yn 53 mlvvydd oed, a'i fod yn dioddef oddiwrth afiechyd poenus oddimewn. Pe cai ei ddedfrydu, meddai, byddai ei yrta fel cyfeithiwr ar ben, a byddai hyuv yn ergyd drom iddo. Dywedodd y Barnwr Ridley wrtho ei fod yn gresynu trosto. Mor bell ag y gwelai ef nis cai weithredu fel cyfreith- iwr byth mwy. Ni wnai maint y tlded- fryd unrhyw wahjniaeth iddo mor hell ag yr oedd hyny yn y cwesli n. Yr oedd yn ei ddedfrydu i dair blynedd o benyd wasanaeth, a Bennet i garchar am ddeunaw mis gyda llafur caled.
i Yr Un Stori Eto, I
Yr Un Stori Eto, Mae newydd da yn dal i'w ail aJrodd ac os y caiff ei gadarnhau ar ol ysbaid o amser, hyd yn nod os mai prin y credid ef y tro cyntaf, teimlwn yn ddiogel wrth ei dderbyn yn awr. Mae y profiad yma o eiddo dyn o Bwliheli yn cael ei gadarnhau ar ol deunaw mis o amser. Ar Awst 2gain, igi i, dywed Mr E. Roberts, 2, Mitre Terrace,-yn agos i Orsaf y Rheilffordd, Pwllheli 44 Arfer- wn weithio mewn gwaith mvy, a phan wrth fy ngwaith yno rai blynyddau yn ol yn sydyn cefais boenau dirdynol yn ngwaelod ty nghefn, a phrin y gellais orffen fy ngwaith ar y pryd Bu raid i mi roddi i fyny lawer gwaith wedi hyny oherwydd y trwbl. Yr oedd gwyro yn anodd, ac ni chawn fawr orffwysdra y nos. Canfum, hetyd, tod y dwr yn anaturiol, ac yn gadael sylwedd "Cymrawd i mi a'm cynghorodd i roi prawf ar Doan's Backache Kidney Pills. Yr oeddwn braidd yn amheus o honynt ar y dechreu, ond yn fuan da oedd genyf weled eu bod yn fy ngwella. Aeth y pilenau yn syth at y drwg gan lanhziu yr elwlod, a gyru ymaith bob arwydd o bob afiechyd arnynt. Y m ie Doan's Pills yn ardderchog. Caf lawer cyfle i'w cymeradwyo yn awr, a byddaf bob amser yn gwneud hyny. "—(Ar- wyddwyd) E. Roberts. Ar Mawrth 14eg, 1913.—tros dieunaaA ntis yn ddiweddarach—dyvved Mr Roberts Rwyf yn dal yn holliach er pan y gwellhavvyd fi gan Doan's Backache Kidney Pills. Byddat yn cymeryd dogn yn ami i'm cadw'n iach. Mae ugeiniau o bob! yn Pwllheli wedi gofyn i mi ynghylch Doan's Pills, ac y mae'n bleser genyf gael dweyd wrthynt beth wnaeth y feddyginiaeth i mi." Pris 2s. gc. bocs, chwe' bocs am 13s. gc.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eglur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mr Roberts.
Lladd Masnachwrynei Siop I
Lladd Masnachwrynei Siop I Achoswyd cyffro yn Oldham foreu Sul pan ganfuwyd fod D. W. Bardsley, masnachwr adnabyddus yn y lie, wedi ei lofruddio yn y siop. Yr oedd yn byw ychydig bellder oddiwrth y siop, ac arferai fynd a'r arian dderbyniwyd yn ystod y dydd gartref gydag ef bob nos. Gadawyd ef yn y siop tua haner awr wedi deg nos Sadwrn gan ddwy ferch ieuanc oedd yn ei wasanaeth, a phan aeth y gwyliwr i'r siop tua thri o'r gloch y boreu gwelodd Mr. Bardsley yn gorft wrth waelod y grisiau yn nghefn y siop. Yr oedd ochr ei ben wedi ei guro i mewn ag erfyn trwm. Yr oedd yr arian wedi eu cymeryd o'r siop.—Y mae bachgen tua deunaw mtwydd oed wedi ei gymeryd i fyny ynglyn a'r trychineh, a dywed hwnw iddo ef fynd i'r siop nos Sadwrn a chnocio'r drws. Clywodd Mr. Bardsley yn gofyn pwy oedd yno, ac atebodd y bachgen mai efe, ac fod rno eisieu rywbeth o'r siop. Pan agorwyd y drw s aeth y bachgen i mewn, ac aeth dyn dieithr i mewn ar unwaith ag ef, meddai efe. Tarawodd y dieithrddyn Mr. Bardsley yn ochr ei ben nes y syrthiodd i lawr. Mae yr heddgeidwaid yn chwilio am v dieithr- ddyn.
-0 Haidd Cynar.
-0 Haidd Cynar. Yn y "Daily Mail" am ddydd Sad- wrn, y 26ain cyfisol, ceir hanes taith trwy ranau o ddeheubarth Lloegr i ed- rych ansawdd y cnydau. Mewn lie cynar o'r enw Kilvedon gwelid y med- elwyr yn brysur yn medi amryw gaeau o geirch gauaf, ond tynwyd en sylw arbenig at gnwd rhagorol o haidd chwe rhes yn y dywysen, wedi ei tedi yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y cae lie hauwyd ef yn nodedig am y chwyn a elwir charlock (maip gwylltion), ond tyf- odd yr haidd hwn mor gryf, ac aeddfed- odd mor gyfiym nes llethu y charlock fel nad oedd wedi aeddfedu ei hadau. Bydd tyfu "Haidd Chwe Rhes" i ladd chicyn yn beth newydd a g werth favvr i amaethwyr, hyd yn nod pe byddai y cnwd yn llai o werth ond yn lie hyny amcangyfrifid y ceid tuag ugain hobed i'r acer o haidd, a chnwd rhagurol o wellt gyda hyny.
Eisteddfod G-.vyl y Banc,…
Eisteddfod G-.vyl y Banc, Pwllheli. RHAGOLYGON- YSBLENYDD. Ddydd LIun nesaf cynhelir y ddeu- ddegfed Eisteddfod uchod, ac. yn ol yr arwyddion bydd y fwyat llwyddianus o'r holl Eisteddfodau gynhaliwyd. Fel y gwelir isod y mae llu yn cys- tadlu ar yr uniwdau,—mwy nag- a fu genym erioed o'r blaen. Y mae cys- tadleuwyr o bob rhan o Gymru, ac amryw yn dod o Loegr Edrychir ymlaen at y brif gystadleu- aeth gorawl. Y mae pedwar o Gorau Meibion wedi anfon eu henwnu i mewn, a bydd ymdrechfa galed I hyn ddynt. Dyddorol iawn fydd cystadleuaeth y Corau Plant. Y mae pedwar cor yn parotoi ar gyfer y frwydr, ¡¡c mae'r oil o honynt wedi cipio'r prif wobrau mewn amryw Eisteddfodau o fri. Gresyn na fuasai cor y dref, sy'dd wedi bod mor lwyddianus mewn Eisteddfodau a chyr- ddau (--r,;Il yn ymgeisio pe onibae i gefnogi'r Eisteddfod leol. Bydd thai o adroddwyr goreu CjMnru yn ymgeisio ar yr adroddiadau. Y mae eisys drenau arbenig wedi eu llogi o Lanrwst, Caernarfon, Ffestiniog, Bala, a manau eraill. Disgwylir oddeu- tua mil o bobl i'r dref o Ffestiniog yn unig. Yn ol y rhagolygon bydd mwy o bobl yn y dref y tro hwn nag erioed. Cynhelir rhagbrawf ar y 6 datganu ddydd yr Eisteddfod yn Y sg-oldy Pen- mount a'r Neuadd Drefol am 10-30 y boreu, a rhagbrawf ar yr adroddiadau am yr un adeg yn Ysgoldy Penlan. Bydd Adran y Gelf i'w gweted yn ffenestr y Mri. Lewis Brothers, dillad- wyr, Leeds House. Wele restr o'r vmeeisvvyr :— Testyn y Gadair—"Canoiddydd. "—Ar- anwy, Tant Gobaith, Mab y Mynydd, Spero, Macwy'r Wawr, Dagrau Hedd, Darfelydd, Pen y Mynydd, Hwyrfyfyr, Mog-en-nwr, Pelydryn.- i i Telyneg. Tro trwy'r Wig. "—Ys- wig-w, Aurora, Llwchyn, Tan yr Onn, Tan y Deri, Yn y Glas, Gyda'r Adar, LIef o'r Llwyn, Gwas y Gog, Cupid, Gwyn Ap Nudd, Acen Ferr, Ap Anian, Adgof, Llesg, Yr A wen Lesg. —16. Englyn—41 Dant." B. S. C., Dentydd, Ifor, Asiedydd, Asiedydd arall, Elwy, Mantach, Creigiwr, Rebecca, Y Dorth, Sem y Cnowr, Dafydd Ap Gwitym, Yr Imbill, Cyfeiliog, Ympryd, Pryd, Bob.—17. I"edair Llinell. Blodau'r Eitliin. Myrddyn, Min y Mynydd, Ael y Bryn, Ar y Maes, Mehefin, Awel, LIanc o'r Llan. Lienor o'r Llwyn, Haf o Hyd, Mab yr Hafod, Gvvenllin Call- estr, Gwendon. Morlais, Gwenffrewi, Eg-wan Ymgais, Yn eu Cwmni, Gwerin. fardd, Ael y Bryn. —18. Traethawd. Tuedd Feirniadot yr Oes. "—Carwr Rhyddid Barn, Critic, Bleddyn. -3. Cyfieithu.M. P,, Waw waw, Lex, Index, Emrys, Hebog, Meirion, Marc, Berwyn. Ted, lolo, Nero, Simon, Idwal, Sior, Efrog, Mic.- I 7. Ffon Gollen. — Moelvvyn, Mabon, Twm o'r Nant, Morgan, Mab y Mynydd.— S. Ffyn Drain.—Llandanwg, Thorn, Naboth, Mawddwy, Robin Ddu, leu- anc.-6. Sugar Tongs.-Rhosyn y Mynydd, Min y Mor.-2. Coes Chwip.-Dyfi, Gwylim, Howell. -1. Black Satin Cushion Cover.-Magda, Bessie, Lena, Dienw.-4 Linen Tea Cloth.-Olive May.-i. Fancy Table Centre.—Gwyneth,- Dilys, Nella, Arfona,.Kayengee.—5. Linen j'able Centre. Elsie. I. Tie. Margaret.-i. Five o'clock afternoon Linen Tea Cloilb.- Megan Lloyd, Lilian No 4.-2 > Nightdress Case.-Lilian No 4- Crochet Lace -Eirlys, Hilda, Ceinwen, Mabel, Betsy.-5- Ilosanau Glasa Gwyn. M ai r j ones. i Knitted Socks—Lydia May. — i- Plan of Pwllheli. 1. Unawd Soprano.-IS. Unawd Contralto.;—y. Unawd Tenor. —17. Unawd Baritone.— 24. Unawd Gyfyngedig.—54. Unawd i Blant. — 30. Canu gyda'r Tatinau.io. Canu gyda'r Tannau (dan 18 Oed)-l 2 Unawd ar y Crwth. — 3 Unawd ar y Piano (dan 16 oed) —5 Unawd ar y Piano (dan 10 oed).—4. Adroddiad Cymraeg. —14. Adroddiad Seisneg.-14.
-u"Dynes Fach Ddewr."
-u- "Dynes Fach Ddewr." Yn y Trocaders Restaurant, Llundain, yr wythnos ddiweddaf, rhoed gwledd o groesaw i Mrs. Lloyd George, a chyf- Iwynwyd iddi hefyd ardeb o'r darlun wnaed o'r Canghellor yn ddiweddar gan Mr. Christopher Williams, yr ar- lunydd Cymreig enwog. Wrth gynyg lechyd da Mrs. Lloyd George, Mr. Lloyd George a'r teulu, dywedai y cadeirydd, Syr Vincent Evans, y darllenai ddyfyniad o lythyr a dderbyniodd y prydnawn hwnw oddi wrth Mr. Lloyd George "Credwch fi, 'rwyf yn giverthfawr- ogi n fawr y teimladau caredig a bar i'm cv feillion anrhegu y ddynes fach ddewr sydd imi'n wraig a phortread o'r gwr blin y safodd wrth ei ochr mewn llwydd a drygfyd. Nis gallwn ddweyd I hyny yn gyhoeddus heb dori i lawr ond nis gallaf ddweyd llai a bod yn gyfiawn tuag ati. -0-- I Foreu lau diweddaf bu farw Mr I David Pritchard, dilledydd, Llanfair P.O., yn sydyn iawn pan yn darllen y newyddiadur ar ol ei free west.
Trychineb Ofnadwy yn Mangor.
Trychineb Ofnadwy yn Mangor. GENETH (EUANC YN SAETHU E1 HUN. Digwyddodd trychineb ofnadwy foreu Sul mewn fferm yn agos i Fangor. Y mddengys fod geneth ieuanc bryd- weddol o'r enw Annie Owen, o Glasin- fryn, yr hon oedd yn gweini yn Ty Coch, wedi ei gadael yn y ty tra yr oedd y teulu yn y capel yn y boreu. Ychydig wedi un-ar-ddeg daeth y gwas i'r ty ar ol bod yn y dref yn gwerthu llefrith, ac wtth weld neb o gwmpas galwodd ar Annie Owen. Clywai yr eneth yn ei ateb o'r llofft, ac yn galw arno i fynu. Aeth yntau i'r ystafell a gwelai yr eneth yn gvvaedu n ddifiifol oddiwrth archoll ergyd. Gofynodd y gwas beth oedd wedi digwydd, a dywedodd yr eneth mai hi a'i gwnaeth, a gofynodd iddo beidio dweyd w t'li neb Yn tybio fod yr eneth yn mai u rhedodd y gwas i'r dref i hyshysu Dr. Helsby. yr hwn aeth i'r fferii ar unwaith yn ei gerhyd modur. Ymgeleddodd yr ene'th goreu gallai a chymerwyd hi i'r ysb) ty lIe y bu farw oddeutu saith o'r gloch. I:' I Y chydig cyn marw gwnaeth yr e,? e t!i ddatganiad i'r Arolygydd Griffiths ac eraill. Ymddengys ei bod mewn cyflwr o wendid. Ar ol i'r teulu fynd i'r capel, meddai hi, cymerodd wn dau tarit oedd yn y lie, ac aeth ag ef gyda hi i'r trrdd. Yno safodd yn erbyn coeden a rhoes ffroen y gwn ar ei chorff ychydig is na'i mynwes a thanioda y gwn hefo bawd ei throed noeth. Deuwyd o hyd i'w hesgidiau yn yr artld. Mae yn rhyfedd meddwi fod yr eneth wedi gallu cerdded i'r ty ac i fynu'r llofft ar ol civvyfo ei hun mor ofnadwy.
Helynt Arall hefo'r Suffragettes.
Helynt Arall hefo'r Suff- ragettes. Bu tipyn o gyffro a helynt gyda'r suffragettes drachefn yn Llundain, brydnawn Sul. Yr oeddynt wedi ym- gynull i gadw cyfarfod yn Trafalgar Square, a thybid eu bod am wneud ym- gais i fynd i Downing Street. Yroedd anerchiadau milwriaethus wedi eu traddodi gan amryw yn y dorf, pan yn sydyn neidiodd Miss Sylvia Pankhurst i'r llwyfan a dywedodd ei bod am herio'r awdu rdodau, a chaiio deiseb i Downing Street ei hun. Rhoes y dorf fonllef o gymeradwyaeth i'w geiriau, ac mewn amrantiad ysgubwyd Miss Pankhurst oddiar y lie y safai ac aeth yn gynwrf mawr yno ar unwaith-y dorf yn ceisio noddi Miss Pankhurst, a'r heddgeid- waid yn ceisio cael gafael arni ac yn ymdrechu eu goreu i wasgar y dyrfa anferth ac aflywodraethus. Yr oedd y suffragettes a'r llu oedd yn eu dilyn yn cychwyn er gwaethaf yr heddgeid- i vvaid am Downing Street, pan y daeth nifer o heddbeidwaid eraill o Scotland Yard ar gefnau ceffylau i'w cyfarfod, a llwyddasant i'w hatal. Yn agos i Drummond' Bank cymer- wyd Miss Pankhurst i'r ddalta, ac ar unwaith dyma hi yn ferw gwyllt, ond yr oedd yr heddgeidwaid erbyn hyn yn gryfach na'r gwrthwyn- ebwyr a chymerwyd Miss Pankhurst ac amryw ferched a dynion eraill i gar- char. Cymerwyd o ddeunaw i ugain o honynt i'r ddalfa rhwng yr oil.
- Marw Mr D. R. Jones, Crugeran.
Marw Mr D. R. Jones, Crugeran. Ddydd Mercber diweddaf, bu farw Mr D. R. Jones, Crugeran, Sarn, yn 79 mlwydd oed, a chladdwyd ei wedd- illion ddydd Sadwrn. Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r amaetbwyr mwy- af yn Lleyn, ac yn nodedig lwyddianus gyda'i anifeiliaid yn yr arddangosfeydd amaethyddol ar hyd y blynyddau. --n--
Ysgoloriaethau y Sir,
Ysgoloriaethau y Sir, Ddydd Mercher diweddaf, gwnaed yn hysbys ganlyniad yr arholiad am ysgol- oriaeth yn yr ysgolion Sir. Wele yn canlyn restr o'r rhai llwyddianus i gael ysgoloriaeth yn ysgol Pwllheli :— MERIT LIST. I i, William J. Griffith, Troedyrallt C. 2, John Ellis Williams, Troedyrallt C.; 3, William J. Lloyd, Nefyn C.; 4. Mary L. Williams, Trefor C. PASS CLASS. 5. Richie Jones, Chwilog C.; 6, David 0. J. Williams, Llithfaen C.; a John Rowlands Williams, Troedyrallt C 8, Robert Williams, Troedyrallt C.; 9, William Jones, Nefyn C.; 10, Jennie Davies, Chwilog C ir, Dora L. Drury, Troedyrallt C.; 12, Richard Elias, Chwilog, C.; 13, Leonard Jones (dros oed) Nefyn C. a Doris S. A Foster, Llanaelhaiarn C.; 15, Catherine Gunzel, C. of E.; 16, Annie Cooke, Nefyn C., a Lizzie Evans, Llangybi C.; 18, Hughie Jones, Troedyrallt C.; 19, John D. Jones, Nefyn C. ac Edith E. Murray, Troedyrallt C.; 21, Annie J. Owen, Trefor C.; 22, Evan Jones, Troedyrallt C., ac Annie M. Jones, Troedyrallt C.; 24, Edgar McLeod, Troedyrallt C. a Mary Williams, Nefyn C.; 26, William Jones, Llangybi C.; 27, John D. Jones (dros oed), Llanaelhaiarn C.; 28, Louis V. Hicks, Troedyrallt C.; 29, Percy H. Rose, Penlleiniau C. of E 30, Robert J. Williams, Chwilog C. a William T. Williams, Chwilog C.; 32, William F. Gapper, Llanaelhaiarn C.; 33, Emily M. Tilley, Penlleiniau C. of E.; 34, Jane Davies, Nefyn C.; 35, Eluned Ward, Penlleiniau C. of E.; 36, Gwen May Roberts, Troedyrallt C.; 37, Ella Owen, Nefyn C;; 39, Jane C. Cooke, Nefyn C.