Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

AT EIN GOHEBWYR. ! I

NODION A HANESION. I

Digwyddiad Ofnadwy yn Prestatyn.…

[No title]

Canfod yr Wddf - Dorclv Werthfawr.…

Ymryson Ehedeg.

Yr Hyn sydd ar Bwliheli I…

I Streic Gweithwyr y Rheil-Iffyrdd…

Bwrdd y Gwarcheidwaid. I

— y Odamwain hefo'r Tren yn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

— y Odamwain hefo'r Tren yn yr Iwerddon. A OEDD Y GYRIEDYDD YN I FEDDW? Yn Strabane, ddechreu'r wythnos ddi- weddaf, cyhuddwyd Neat Fullerton a William Doherty, gyriedydd a thaniwr y tren gytarfu a damwain yn Donemana o yru'r tren yn y fath fodd fel ag i achosi marwolaeth Michael McPhelemy a niweidio amryw ereill. Honai dynes iddi weled Fullerton o dan ddylanwad diod ar y platfform yn Derry. Dywedodd wrtho, meddai hi, os oedd a wnelo ef rywbeth a'r tren nad oedd hi am drafaelio ynddi. Honai y ddynes hefyd fod dyn ar y peiriant yn feddw ac yn galw ar y bobl oedd ar y platfform am iddynt ddod yno i weld y tan. Uywedai Samuel Rule, masnacnwr I oedd yn trafaelio gyda'r tren, y credai fod y tren yn mynd yn ol y cyflymder o rhwng deugain milltir a phum milltir a deugain yr awr pan y digwyddodd y ddamwaim. Ni chlywodd y tyst un- rhyw chwibanogl cyn y gwrthdarawiad. Ar ol y ddamwain gwelodd Doherty ar y platfform o dan ddylanwad diod. Tyst arall o'r enw Henderson a ddywedai iddo weled Fullerton yn sefyll yn ymyl y peiriant ar ol y ddam- wain. Gofynodd Fullerton iddo, "Sut y daeth hwn i'r fan yma? gan gyfeirio at y peiriant. Atebodd y tyst, y dylai ef wybod gan belled mai efe oedd y gyriedydd. Dywedai Thomas Campbell, Strabane y bu yn ymddiddan a'r gyriedydd ar ol y ddamwain. Ymddangosai Fullerton yn hurt, meddai et, ac fel pe o dan ddylanwad diod. -0

[No title]

Gwelliant y Ddeddf Yswiriant.

Cyhuddo Offeiriad o Lofruddiaeth.

Gyriedydd a Thaniwr yn Ymladd…

Gwrthod Pleidlais i Mr Ellis…

Llosgi i Farwolaeth mewn Cadair.