Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
  r W"-?- L "N I CAPjy^D^ES are preferred to all others by the most experienced sportsmen all the world over, who realize how important it is to select the best. ELEY Cartridges may always be relied on. 22 22 Short Long Rim Rim Ride and Ride and Revolver Revolver Cartridge Cartridge ACME "ECAR "ELEY Ag" dfepshdl:5 E B Nitro quality SMOKELESS." Loaded with Eley Cartridge, Smokeless (42 gr.) Smokeless Q/- per 100. 8/6 per 100. 9/fi per 100. u n., I KB. ISitio 5 Shell t 16 t J" deep-shell Gastight t Pegamoid (Waterproof) (Loaded with "Eley I t SmokeleslI," Schultze I ond other Standard Powder. I Ironmonger and I I I Eley Cartridges J A M ES WILLIAMSS Builders Merchaiit. are sold by BUilders Merchant. PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C. J Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones,! L.D.S., R. C. S. (Ed i.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Grocer, High Street, oily boreu dan 4 y prydnawn.
PWLLHELI. !
PWLLHELI. GYHOb DDIADAU SABBOTHOL- Medi 28. Penlsn (A), am 10 a 6, Parch J. RhyJd rcb, Gweiiiidog.. Capel Seisoig (A.) Cardifi Road, am 11 a 6-30, Parch- Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch Robert Thomas, Talsamau. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch John Jones, Hyfrydle. Capel Seisnig (M.C.) Ala Road an il a 6-30, Pareli- Tabernacl (B.), am 10 a 6, Parch Seion (W.) am 10, Parch E. Mostyn J>nes, Gweinidog am 6, Mr W. G. Hughes, Cricc eth Htn Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, Ysgol. Yagol Genhadol (M.C.). and Strict, am 10 a 6, Mr H. E. Roberts, Pwllheli. Ysgol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6 Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. South Keach (M.C.) am 2 a 6, Parch John Hnghes. Tarsia (M.C), am 10, Parch John Hughes. St. Pedr, 9-30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (oeinti g) Parch. J. Edwarda, B. A., Ficer, a'r Par( h. T. Woodifgs, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig; Noith Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Ysgol am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Merour, benedicsiwn. REGATTA.-Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol cynhelir ym- rysonfa gychod yn y porthladd ddydd Iau nesaf. Y CLWB CEIDWADOL.—Nos Iau nesaf bydd yr ystafell newydd sydd wedi ei hadeiladu mewn cysylitiad a'r Clwb Ceidwadol yn cael ei hagor yn ffurfiol gan Mr. Austin Lloyd Jones. COITO'R TLAWD.—Ddydd Iau diwedd- af, trwy garedigrwydd y Mri Andrews a'i Fab, cafodd deiliaid y Tloty bleser- daith i Glyn y-weddw, a rhoed gwledd iddynt yno. CYNGERDD —Nos Fawrth, yr 16eg cyfisol, cynhaliodd y Pierrots fu yn gwasanaethu yn y South Beach yn ys- tod yr haf eu cyngerdd ymadawol yn y. Neuadd Drefol. Lied wan oedd y cynhulliad. YMPUDO.—Yr wythnos hon y mae Mr Harry Parry, Ysgubor Wen Mr Hugh Roberts, Abererch Road Mrs Gwen Jones, Sand Street, a Miss Jennie Roberts, Morfa, yn ffarwelio a'u gwlad ac yn croesi'r werydd am wlad y Gor- Hewin pell. Dyniunwn iddynt fordaith gysurus a phob llwydd yn eu cartret newydd. IV L.i-vs, Cv>FRESTRIADOL—Cynhaliwyd dd Gwener diweddaf, ger- L- i-atham, Mr Cradoc Davies, a John Elias Jones yn ymddangos ar ran y Rhyddfrydwyr a Mr W. H. Wright, Caernarfon, a Mr E, Watkin ar ran y blaid Doriaidd. Yr oedd cynifer a 43 yn apelio am bleidlais fel lietywyr, seE 26 o Rhydfrydwyr a 17 o Doriaid. Bu i'r swyddog groesi 13 ohonynt allan am nad oeddynt yn talu mwy na 4s gc yr wythnos am eu He, ac yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i'r blaid Doriaidd. Gwrthwynebai Mr Wright i weithiwr gael pleidlais am ei fod yn ddiweddar wedi bod yn derbyn cymorth plwyfol. Profodd y dyn na chafodd gymorth plwyfol yn ystod y 12 mis diweddaf. Ac wrth ganiatau ei bleid- lais gorchymynwyd i'r blaid arall dalu 5s at gostau. y dyn. Sylwodd Mr I Leatham yn llym y dylai y gwrthwyn- ebwyr gymeryd mwy o drafferth i sicrhau y ffeithiau yn hytrach na hys- bysu y ffaith iddo gael cymorth plwyfol mewn llys cyhoeddus. Derbyniodd y sylw y fath gymeradwyaeth yn y llys fel y bu raid i Mr Latham fygwth clirio I y llys os na cheid dystawrwydd. o
I ABERDARON. I
ABERDARON. MARWOLAETH. Dydd Gwener y 12fed, bu farw Mrs Ellen Roberts, anwyl briod Mr Lewis Roberts, Tyny- mynydd, Anelog, Claddvvyd y rhan farvvol ohoni ddydd Mawrth yn Aber- daron. Gadawodd briod a saith o blan.t i alaru ar ei hoi. Yr oedd yn 62 mlwydd oed. n--
BOTTWNOG.-I
BOTTWNOG. I YSGOL SIROL.-Llawen genym weled I Ysgol Ramadegol Bottwnog wedi dod i fyny a'i henwogrwydd eleni eto yn y mater o enill tystysgrifau y Bwrdd Canol. Yn dilyn y mae rhestr o'r rhai enillasant dystysgrifau :—Y tystysgrif hynaf: Bessie Mary Hughes (matricul- aton) Nellie Jones, Evan T. Jones, Polly L. Jo-nes (arbenigrwydd mewn llysieuaeth, Winnie Koberte l arbenig- rwydd mewn rhifyddiaeth), Lfe.zie Thomas (arbenigrwydd mewn rhifydd- iaeth) a Willie Thomas (arbenigrwydd mewn amaethyddiaeth). Y tystysgrif ieuengaf: Maggie Jane Hughes (ar- benigrwydd mewn ihifyddiaeth), Mary Ann Hugbes, Caradog Jones (arbenig- rwydd mewn mesuroniaeth, fferylliaeth, Ilysieuaeth ac amaethyddiaeth), David Jones (arbenigrwydd mewn amaeth- yddiaeth), Ellen Mary Jones, Dilys V. Williams, Jane Williams, a Judith Ann Willlams.
-0-I LL1THFAEN.
0 I LL1THFAEN. CYNGERDD ELUSENOL.—Nos Wener cynhalwiyd cyngerdd yn festri capel y Methodistiaid er cynorthwyo Mr John Roberts, Felin, yr hwn sydd wedi colli ei anwyl briod. Bu farw o dan drin- iaeth feddygol yn yr ysbyty. Y cadeir- ydd oedd Dr Lewis, Nefyn, ac arweinid yn ddeheuig a doniol yn ol ei arfer gan Mr J. O Jones 'Arifog). Gwasanaeth- id gan brif gantorion ac adroddwyr y fro, a chan blant yr ysgol ddyddiol, o dan ofal Mr H. Griffith, yr ysgolfeistr. Gwnaed elw lied dda oddiwrth y mudiad. CWRDD PLWY -Yn y Cwrdd Plwy nos Fercher buwyd yn trafod beth fyddai oreu ei wneud o barthed i'r cyflenwad dwr. Yroedd nifer luosog wedi dod ynghyd a chaed trafodaeth dda ar y mater. Pasiwyd yn y diwedd peidio ymgymeryd a chynllun a fuasai'n golygu cost drom, end yn hytrach tod y Cyngor Plwy i gymeryd y mater mewn lIaw a cheisio gwella'r gyfun- drefn bresenol oreu y gallent ac ar mor lleied o gost ag oedd yn bosibl.
-o--I RHYDYCLAFDY.I
o -I RHYDYCLAFDY. I Mae Mr Robert Roberts, efrydydd yng Ngholeg y Bala, a brodor o Caer- geiiiog, Mon, wedi derbyn yr alwad a gafodd i ddod i fugeilio Eglwysi M C., yr Etailnewydd a Rhydyclafdy. Ni bydd iddo ddechreu ar ei waith bugeil- iol hyd yr haf nesaf gan nad yw wedi gorften ei gwrs yn y Coleg. Neithiwr, nos Lun, bu Mr Roberts ar ymweliad a'r eglwys yn Efailnewydd a bwriada ymweled a'r eglwys yn Rhydyclafdy yn ystod yr wythnos hon.
I Priodas Rheithor Oedranus.
I Priodas Rheithor Oedranus. Ddoe, ddydd Mawrth, cafodd rheithor Bolas Magna (Salop) y Parch Joseph Muller, D D., yr hwn sy'n bedwar-ar- ddeg a thrigain mlwydd oed, ddiwrnod anturiaethus iawn ar yr 2chlysur o'i briodas a Miss Dilys Roberts, geneth ugain oed o Ddeheudir Cymru, a'r hon fu'n ysgolfeistres yn Great Bolas er y i eg o Gorffenaf diweddaf. Cymerodd y briodas le yn Whitchurch, ger Caer- dydd. Yr oedd y rheithor wedi cyraedd i stesion Wellington tua wyth o'r gl.och i gael y tren chwarter wedi wyth am yr Amwythig, ar ei ffordd i'r Deheudir, ond gvxnaeth gamgymeriad ac aeth i dren aral). Canfu ei gamgymeriad cyn i'r tren gychwyn, ac wrth ddod yn ol i'r platfform bu agos iddo a chael damwain ddifrifol. Ond cynorthwywyd ef gan swyddogion yr orsaf i'r tren priodol ac aeth ymlaen ar ei daith Pan yyrhaeddodd Whitchurch yr oedd y ffordd oedd yn arwain i'r eglwys yn llavvn o bobl. Yn yr eglwys drrichefn bu golygfa bryderus. Nis gallai y bt iodas gymeryd lie ar ol tri o'r g-Ioch, ac o fewn pum munud i dri yr cedd y priodfab oedranus yn cerdded ol a blaen yn y gangell gyda'r Parch L S. Davies, yr hwn oedd i weinyddu'r seremoni, yr hyn yn ol y drefn arferol a gymer haner awr o amser. Yr oedd y priodfab yn awyddus am i'r briodas ddechreu ond hysbyswyd ef nad oedd y briodferch yn bresenol. Buwyd yn dis- gwyl yn bryderus iawn wedi hyny am ychydig, a phan yr oedd o fewn dau funud i dri dyma'r briodferch yn dod. Y foment y cyrhaeddodd yr oedd y rheithor yn barod i ddechreu'r gwasan- aeth, a. hysbysodd y dorf yr elai drwy y rhan angenrheidiol o'r gwasanaeth i ddechreu cyn arwyddo'r cofrestr, a gorffen y gwasanaeth wedi hyny. Rhoed y todrwy ar fys y briodferch yn frysiog, ac i'r festri a hwy i arwyddo'r cofrestriad, a daethant yn ol drachefn i tynd drwy yr oil o'r gwasanaeth. Pan gychwynwyd o'r eglwys tybiodd gyriedydd y modur fod pawb yn y cer- byd oedd i fod ynddo, ond canfuwyd ymhen ychydig fod tad a chwaer y briodferch ar ol. Bu raid mynd yn ol i gyrchu y rhai hyny drachefn.
-0 - I Tario'r Ffyrdd. I
-0 Tario'r Ffyrdd. Gan fod cwyn gyffredinol fod y ffyrdd sydd wedi eu tario yn beryglus i ddyn ac anifail, ysgrifenodd Mr. G. Cornelius Roberts, Maes, Pwllheli, i swyddfa y Farmer and Stockbreeder er cael gwybod ganddynt pwy fyddai gyf- rifol pe digwyddai damwain ar y ffyrdd hyny. Heddyw, ddydd Mawrth, ceir atebiad i'r llythyr yn y Former and Stockbreeder, a dywed mai y Cyngor Sir fyddai gytrifol am unrhyw ddamwain a gai ei hachosi gan gyflwr y cyfryw i ffyrdd. Dyma fel y dywed eu bargyfreithiwr ar y mater :— "TAR SPRAYING (-Cymro).- Yes. The District Council have evidently done the work in a very negligent manner, and are responsible for dam- ages arising from the inefficient man- net in which the tar has been laid.- BARRISTER-AT-LAW."
-v-i Gwroldeb Gwraig Oedranus
-v- Gwroldeb Gwraig Oedranus Y mae Mrs Grace Jones, hen wraig Jde-g a thriugain mlwydd oed, o Eben- ezer, ger Caernarfon, wedi derbyn gwobrwyon am wrofde6 ursmr ddangos- wyd ganddi beth amser yn ol. Coif. J dy yr hen wraig gychwyn mynd ar dan gaool nos, a buasai dyn oedd yn lletya gyda hi, wedi colli ei fywyd, yn ol pob tebyg, onibae am wroldeb yr hen wraig yn mynd ato i'r ystafell wely drwy'r tan a'r mwg, a'i lusgo allan o'r ty. Am ei gwroldeb y mae Ymddiriedol- wyr Cronfa Carnegie wedi cyflwyno .r iaai aysiysgrir asp., rhoes y Ciynideith- as tuag at Waredu Bywyd rhag Tan fathodyn a iop. iddi, ac y mae s'efyd- liadau eraill wedi anfon rhoddion i'r Prit Gwnstabl i'w cyflwyno iddi. j --o
Cymanfa Undeb Ysgolion i Annibynwyr…
Cymanfa Undeb Ysgolion Annibynwyr Dosbarth Pwll- heli. Nos Sadwrn diweddaf, yn nghapel Salem (A ), Fourcrosses, cynhaliwyd pwyllgor cryf o gynrychiolwyr gwahan- ol Ysgolion yr Undeb uchod i drefnu gogyfer a'r Gymanfa Ganu nesaf. Llywyddwyd gan Mr T. F. McClement, Trefor (Llywydd y Cyfartod Ysgol). Pasiwyd tod y Gymanfa i'w chynal ym Mhwllheli, Mai 8fed, 1914. Penodwyd Mr John Ellis, arweinydd y gan yn Mhenlan, Pwllheli, yn arweinydd Mr Hngh W. Williams, Trefor, yn gyfeil- ydd, a'r Parch H. Davies, Abererch, i holi'r plant. Pasiwyd hetyd i'r ysgrif- enydd drefnu gyda'r gwahanol Ysgol- ion i gael rehearsals cyn y Gymanfa.
Cybi bron Ciplo.
Cybi bron Ciplo. Ymddengys i ragor o yspail Eistedd- fod Genedlaethol y Fenni, ddod i'r Gogiedd, nag a dybid. Deallwn fod Cybi yn un o'r goreuon ar yr englyn, Y Dychangerdd a'r Telynegion. Tes- tyn yr olat ydoedd, Unrhyw Chwe' Chrefft." Canodd ef ar Y n yr Efail, Ger Maine y Crydd, Yng Nghwmni'r Asiedydd, Wrth Fwrdd Gwr y Nod- wydd, Yn Swn y Gwehydd, ac Yng Nghell y Cysodydd. Hefyd, efe oedd y goreu ar y Gadwyn o Englynion i Ddeuddeg o Fynyddoedd Cymrn," allan o saith, am y rhai yr ataHwyd y vvobr, fel am amryw bethau eraill yn yr adran lenyddol.
Mr. Lloyd George ac Arglwydd…
Mr. Lloyd George ac Ar- glwydd Salisbury. Mewn canlyniad i'r ohebiaeth fu rhwng Mr Lloyd George ac Arglwydd Wolmer o barthed i'r rhan a gymerodd y Canghellor ynglyn a chytranau'r Mar- coni, ysgrifenodd Arglwydd Salisbury i roi he; i Mr Lloyd George fu yn euog o droseddu'r amodau a osodwyd i lawr gan Arglwydd Robert Cecil fel y rhai y dylai Gweinidogion y Goron gadw atynt. Y mae'r Canghellor wedi derbyn yr her, ac yn y Times am ddoe ddydd L'un, noda dair o engreifftiau sydd yn profi, yn ol fel yr hona, y bu rhai o deulu Salisbury yn euog o'r hyn y maent hwy wedi bod yn cyhuddo'r Canghellor o'i gyflawni, ac yn ei gondemnio mor llym o'i herwydd-sef g-adael i tuddianau personol ymgyffwrdd a dyledswydd gyhoeddus. Y n yr engraifft gyntaf cyfeiria at fesur ddaeth o flaen Ty'r Cjffredin ynglyn a gwelliantau arbenig ar un o heolydd Llundain. Gwrthwynebwyd y mesur gan dirteddianwr mawi, drwy ei gynrychiolwyr, gan hawliu adran ar- benig yn y mesur. Golygai yr adran hono, medd Mr Lloyd George, y buasai y tirteddianwr yn cael ei lawn werth am y tir. Yr oedd i gael ei brynu ganddo ef yn ol ei werth rhagolygol. Yr oedd i gael iawn am ymraniad, ac wedi hyny yr oedd i gael deg y cant am werthiant gorfodol. Ar ben hyny oil yr oedd i gael y fantais anferth a'r broffit a ddeuai iddo trwy y gwelliantau a wneid ar y lie. Gwrthodwyd yr adran gan Dy'r Cyffredin, gan yr ystyrid ei fod mor nodedig eithriadol. Ond pan aeth y mesur i Dy'r Arglwyddi-o'r hwn yr oedd y tirfeddianwr yn aelod- rhoed yr adran i mewn gan Bwyllgor yr Arglwyddi er ei fwyn, ac er ei fwyn ef yn unig, er fod tirfeddianwyr eraill yn cael eu heffeithio arnyot gan y mesur. Cynygiwyd gan Mr Fawcett yn Nh,,i'r Cyffredin eu bod yn anghy- tuno a'r Arglwyddi ynglyn a'r adran, a phasiwyd hyny heb ymraniad yn y Ty, gan mor gryf oedd y teimlad yn ei erbyn. Sylwodd un aelod Toriaidd, sef yr aelod tros Plymouth, fod yr adran yn dwyll a'r trethdalwyr. Pwy feddyliech chwi," medd y Canghellor, oedj y tirfeddianwr hwnw- a gyhuddid mor llym gan y Toriaid y pryd hwnw ? Marchog Salisbury yd- oedd-y Prif Weinidog. Ar ol nodi dwy o engreifftiau eraill, dywed Mr Lloyd George y rhaid i Arglwydd Salisbury ei hun dderbyn y cyfrifoldeb am lusgo y manylion hyn unwaith vn rhagor i oleuni dydd. Awgryma hefyd N, byddai'n well iddo ef a'i deulu, cyn gosod eu hunain yn farn- wyr ar eieill, o barthed i w heddo, gadw y digwyddiadau teuluol bychain hyny mewn cof. --0--
Nodion olr " Drych."I
Nodion olr Drych." I Mae yr oes hon yn chwIHo pawb a I phob peth yn enbydus. Chwiiir i gyflwr bythod Prydain Giistionogol a cheir eu bod lawer o honynt yn anghyfaddas i aniteiliaid Meddylier am gartrefi heb I le tan—heb aelwydydd Ddwy flynedd yn ol yr oedd poblog- aeth trefi a dinasoedd Lloegr a Chymru yn 28,162,936, ac ond 7.907,556 yn y wlad Dyma engraifft o gythrym- waith tir-berchenogaeth. Yn y wlad v dylai y bobl fod nid mewn tref neu dd'ura-s -(Lid r Pregethwr go wael yw jBrenin Prydain, er ei fod yn cael cyflog mawf iawn. Yn ddiweddar gwelsom gwyno yn Nghymru mai y rheswm fod y pregethwyr yn pregethu mor wael oedd am na chant uwch cyflogau. Ni fu erioed waeth camgymeriad. Ni chai Rowlands a Hywel Harris a John Elias ond cyflogau bychain iawn o'u cymharu a chewri (cyflogol) pwlpudau yr oes hen. Mae pob peth ein hoes yn cael ei roi i orphwys ar ystyriaethau arianol Mae D. Lloyd George yn cadw yr arglwyddi a'r tirfeddianwyr mewn cryndod parhaus. Dyma ddywedai wrth anerch y glowyr yn Sutton-in- Ashfield "Yrydym yn awr ar ym- deithio tua'r cryfle canolog, lie y mae gortaeliaeth yn amgaeredig. Bydd yr ymdrech yn gynddeiriog, ond gyda'ch cymorth ni a orchtvgwn." Os y deil fel hyn i flino giau y tirfeddianwyr, bydd yn rhaid iddynt ar fyr ddeisyf am docynau i fyned am driniaeth feddygol yn iechydfeydd rhad Deddf Yswír- iaeth. Teimla rhywun dipyn yn ddigalon am na enillodd y Methodistiaid Calfin- aidd yn Eisteddfod Fawr y Fermi. Eir ag enwadaeth i grefydd, barddoniaeth ac Eistecidfodau yn Nghymru. Dys- gwylia y M.C. i'w enwad ef flaenu ar fynydd Parnassus, er rhoi Keep off the grass yno neu iddo fod a'i ysten yn gyntaf wrth ffynon Hippocrene; ond ymddpngys i enwad arall, a hwnw yn Undodwr, fyned a hi A oedd rhagluniaeth yn helpu i oddef i Undod- wr enill ar Awdl ar yr Aelwyd ?" Diau fod yr Arfaeth yn deg. Mae yn rhanu y bendtthlon yn o gyfartal. Mae hi yn eu rhoi i'r rhai mwyaf talentog ac ymroddgar. Ni chredwn fod y chwithryn lleiaf o enwadatth yn nglyn a rhagluniaeth. Pe bae, medd- yliem lai o honi, er cymaint ei bri ac uwched ei saQe.
I -Manion.
I Manion. Hysbyswyd ddydd Llun diweddaf, am rodd haelionus iawn gan Syr Wili- iam Lever i Bolton, ei dref enedigol, sef gwaddol 0 io,ooop y flwyddyn i'r Ysgol Ramadegol ac Ysgol y Genethod. Mae'r ddwy ysgol yn fuan i gael eu gwneud yn un. Syrthiodd awyrlong i lawr yn Lilford, ddydd LIun, a maluriwyd hi yn dda'n- au Dihangodd y ddau ddyn oedd ynddi a'u bywyd ond cawsant eu han- afu'n dditritol. Aeth dau fodur i wrthdarawiad yn agos i Market Ora) ton, ddydd Llun, ac anafwyd pump o bersonau yn ddifrif- 01..
-o Iabolpgiab.I
o abolpgiab. Gwaith Barddonol Cybi. 2s. 6c. mewn llian. Pwllheli, Mr Richard Jones, Argraffydd. Cyfro! 1. Dyma anturiaeth go fawr dybygem ni, ac y mae'r gwaith wedi ei argraffu a'i droi aiian yn lanwaitb, a rhestr hiro enwau tanysgi i wyr ar ddiwedd y gyfrol. Nid yw cyhoeddi llyfrau o far- ddoniaeth yn beth anghyffredin q gwbl yn ein g wlad. Bu y beirdd goreu a feddem fel cenedl—Islvvyn a Cheiriog.ac eraill yn cyhoeddi eu g\veithiau am bris isel iawn flynyddau yn ol, rhyw swllt y copi fel rheol. Erbyn hyn y mae ysbryd mwy anturiaethus wedi dal y beirdd, a cheir eu Gweithiau yn awr yn rhedeg i ddwbl a threbl y pris ofynid gynt, a pham lai. Gobeithiwn y diogelir Cybi yn yr anturiaeth hon. Gwyr efe gryn dipyn am gyhoeddi llyfrau bellach. Y mae amryw o lyfrau eraill o'i eiddo, sydd wedi eu hargraffu, yn cael eu cry- bwyll a'u hysbysebu ar ddiwedd y llyfr hwn. Am dano fel bardd y mae wedi enill nifer go fawr o wobrwyon Eisteddtodol, Cadeiriau, &c a dylai hyny fod yn wystl o rywbeth. Y mae yn feistr ar gynghanedd a mesur rhydd yn wlad- j gar iawn ei ysbryd yn glir a diofn ei farn, ac y mae darnau brwd ganddo yn y gyfrol hon,-awdlau a phryddestau, caneuon ac englynion. Gwyr am swyn- ion y wlad, ac am gariad cryf at natur. Gwyr hefyd am deimladau'r gweithiwr, ac y mae'n llawn cydymdeimlad a phob- peth ond a sothach. idyry ergyd chwyrn mewn ambell gyfansoddiad, ac nid yw am hel lol gyda honiadau gwag- eddus. Cyfrol ddyddorol a ciiref yw hon i fynd drwyddi. Llwvddiant mawr i anturiaeth Cybi. GWYLFA yn y Dys- j gedydd. Gwerthir y gweddill am 2S. y copi. Anfoner at yr awdwr: CYBI, Chwilog.
Advertising
PWLLHELI EVENING SCHOOL. (Under the Carnarvonshire County Council) SESSION 1913-14. CLASSES will be held in the follow- ing subjects, and any other subject if 20 pupils signify their intention of joi ling :— I English. Commercial Arithmetic. Navigation. Theory of Music. Woodwork. Drawing. Shorthand and Type Writing. Book keeping. Dressmaking. Cookery. Laundry. j Knitting. Needlework (Plain and Fancy). A fee of 2s. 6J. for each pupil will be charged, which will be returned at the end of the c,,iucse if the pupil has made 75 per cent of the possible number of attendance. Applications are invited for i.e post of Teachers for the several classes. All names to be sent as soon -As pos- sible to E. JONES-GRIFFITH, Troedyrallt School, Pwllheli, Ysgol Nos Pwllheli (dan nawdd Cyngor Sir Caernarfon). TYMOR 1913 14. CYNHELIR DOSBARTHIADAU yn | c y testynau caulynol, neu unrhyw destyn arall, os y gellir cael 20 o ddis- gyblion i ymuno :— Saesneg. Rhifyddiaeth Fasnachol. Morwriaeth. Eltenau Cerddoriaeth. Gwaith Coed. Arluniaeth LIaw Fer a Type Writing. Cadw Llyfrau Masnachwyr. Gwneud Diiladau Merched. Coginiaeth. Golchi. Gwau. Gwrniadwaith (Plaen a Ffansi). Codir tal o 2s. 6c. am bob disgybl," yr hwn swm a ddychwelir yn ol ar der- tyn y cwrs os bydd y disgybl wedi presenoli ei hun 75 y cant o'r presenol- deb posibl. Gwahoddir ceisiadau am y swydd o Athrawon i'r gwahanol ddosbarthiadau. Yr enwau i'w hanfon mor fuan ag y bydd modd i E. JONES-GRIFFITH, Ysgol Troedyrallt, Pwllheli. YMRYSONFA Cwn Defaid LLITHFAEN, Dydd Sadwrn, Hydref lleg. GWOBRWYON RHAGOROL. Manylion llawn oddiwrth yr Ysgrif enydd :—Mr David Williams, Victoria Terrace, Llithfaen. GRAND vlllJVi AND ROWISG RACES IN THE Inner Harbour, ON THURSDAY NEXT, Sept. 25th, 1913. i.-Sailitig Race for Boats up to 26 ft. overall. 2 -International Rowing Race (four- oared boats) between English, Welsh, Irish, Scotch, Danes aud Dutch crews. Sailing Boat Race to start 3-15 p.m. prompt. Rowing R c: immediately after. Substantial Prizes to be distributed after the races. Starters :—Capt. D. O. Evans and Mr W. W. Jones. Wanted. TMPROYER to the Grocery and Pro- 1- vision Trade. Apply to J. Thomas, The Pioneer Stores, Maes, Pwllheli. TAILOR wanted, good general hand. Permanency to suitable man. Apply- L. DAVIES, Taleifion, Pwllheli. SERVANTS of all classes for London, Manchester. Shrewsbury, & Pwll- heli district. Apply -Tils!ey, The Registry, Pwllhcli. To be Let. MADRYN HOUSE, South Beach, .l Pwllhcli. Favourable terms. Immediate possession. Apply to MR. LEWIS JONES, Preswylfa, Ala Road, Pwllheli. PARLOUR and Bedroom to let at moderate terms. Apply 'Udgorn' Office, Pwllheli. flij DYMUNIR HYSBYSU FOD YN OWEN'S GARAGE, Station Square, Pwllheli, LE EANG A CHYFLEUS I OADW BICYCLES. Hefyd gwerthir pob math o accessot am brisiau rhesymol. Gymanfa Ddirwestol Gwynedd AC Undeb Dirwestol Merched Gog- ledd Gymru. Cynhelir y Gymaofa uchod YN MHWLLHELI, Hydref 7fed, 8fed, a'r 9fed, 1913. Disgwvlir nifer luosog o gynrychiolwyr o bob 1 han o Ogledd Cymru Ymhlith amn W o gytarfodydd eraill bwriedir cynal DAU GYFARFOD CYHOEDDUS YN Y NEUADD DREFOL, ac ymhlith amryw enwogion eraill dis- gwylir yr aelodau Seneddol canlynol i draddodi anerchiadau :— Syr HERBERT ROBERTS, Barwnig, A.S. (Llywydd y Gymanfa); Mr WILLIAM JONES, A.S. Mr ELLIS W. DAVIES, A.S. Parch C. SILVESTER HORNE, M.A., A.S. Mae y rhagolygon yn addawol iawn. Ceir manylion yn y Rhaglen, pris ic. (drwy'r post, i £ c.). Cynwysa restr o'r cyfarfodydd. &c., ac hefyd y Tonau a'r Emynuu. I'w chael gan yr Ysgrifen- yddion,— Parch D. W. Roberts, Drayton House. Pwllheli, Mr William Hughes, Awelon, Pwllheli.