Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. i Aufoner erbyn BOREU A u W H y fskn b(illaf Pob aichebioo a thaliadum am Y r PCGORN i'w baofon !'r UORUCHWYHWR, 74, High Street. Pwllheli. Pob gohebiaeth i'w cyfeirio- YB UDGORN OFFICE, PWLLHKLI. Bydd vn dda genyro dder»>vn irap.tbo,u oddiwrtb rbpbwyr ar fair?ion lleol o ddyddordeh cyhoeddus
NODI ON A HANEStON.| NODION…
NODI ON A HANEStON. | NODION A HANESION. ? Damwain ar Forfa Conwy. Bu damwain hynod ar Forfa Conwy yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd bach- gen ieuanc a gynorthwyai g-yda'r golff yn chware gyda sjwn bychan, a thybiai ei fod wedi tanio'r ergydion o!! o hono. Daeth bachgen arall o'r enw Owen Thomas, heibio toe, ac anelodd y llanc y gwn ato, a thynodd y glided. Er ei fraw taniodd y (Twn ac aeth v f" ied drwy ysgwydd Owen Thomas. V mae'r bachgen yn awr yn ysbyty Llandudno, Claddu Mwnwr yn Fyw. Yn nglofa Cliiton, Burnley, catodd Amos Smith ei gladdu gan gwympiad cerrig o nenfwd y lofa pan oedd yn tynu'r trawstiau o dan y to. Buwyd am wyth awr ar hugain cyn y Ilwydd- wyd i ryddhau ei gorff. Arferiad Creulon. Arferiad Creulon. Dygwyd dyn o'r enw Peter Cook o lfaen y llys yn Clitheroe, y dydd o'r blaen, ar gyhuddiad o beri poen di- angenrhaid i anifeiliaid. Dywedodd heddwas y gwelodd Cook yn gyru nifer o wartheg drwy'r stryd i arwerthiant yn Clitheroe. Yr oedd pyrsau tair o'r gwartheg yn orlawn o laeth, ac ym- ddangosai'r anifeiliaid fel mewn poan Yn ddiueddarach aeth y Prif Gwnstabl at y gwartheg ac archwiliodd hwy a chanfu fod eu tethi wedi eu selio i fyny. j Dirwywyd Cook i bum' swllt a'r costau, a dywedodd yr ynadon wrtho ei fod yn euog o'r weithred fwyat anfad y gellid meddwl am dani. Rheithor yn Gwenwyno'i Hun. Y mae y Parch Godfrey John Bid- dulph, rheithor, a drigai yn Stretton Grandeson, wedi gwenwyno'i hun. Yr oedd yn dioddef oddiwrth afiechyd an- feddyginiaethol, a chredir mai hyny oedd \r achos o'r weithred. Dyn di- briod oedd y rheithor, ac yr oedd yn byw ar ei ben ei hun fel meudwy. Ni chadwai na gwas na morwyn ac nis elai allan o'r ty ond anfynych iawn. Caed ef yn farw yn ei wely a chwpan a gwn- wyn wedi bod ynddi wrth ochr y gwely. + Enwogrwydd Mr Lloyd George Yn nghynhadledd genedlaethol y j Bedyddwyr, a gynhaliwyd yn ddiwedd- ar yn Stockholm, cytarfu y Parch E. O. Thomas, Caerfyrddin, a'r Parch D. G. Whittingbill, llywydd Coleg y Bedydd- wyr yn Rhutain, o dan nawdd Undeb y Bedyddwyr Americanaidd. a gofynodd Mr VVhitlinghill i Mr Thoinas pwy tyhed feddyliai ef oedd y dyn mwyaf poblogaidd yn I tali 'i Dywedodd Mr Thomas nas gwydd-ii, ac atebodd Mr Whittinghill mai Mr L'oyd George. Dywed y bob!, meddai et, mai mesurau fel blwvdd-dal yr hen, yr Yswiriant C enedlaethol, a phethau o'r fath sydd eisieu yn Itali. Pan mae Mr Lloyd George yn siarad yn Nhy'r Cyffredin neu tuallm i'r Senedd arg reffir ei ar- eithiau bo!"> gair yn newyddiaduron Itali. Rhoddir mwy o le i'w areithiau ynddynt nac i areithiau Piif Weinidog Itali ei hun, a darllenir hwy gan y b bl gydag awch. # Claddediggeth John Jones ("Coch Bach y Bala") Claddwyd gweddillion John Jones, yr hwn a gytenwid Coch Bach y Bala," yn nivnwcnt Llanelidan, ger Rhuthin, ddydd Gwener diweddaf. Gwasanaethid yn y tioty gan y Parch. L. O. H. Pryce, Warden Rhuthin, ac yn y tynwent gan Reithor Llanelidan. Cymerodd y seremorii le yn gynar iawn y bore, ac nid oedd ond ychydig iawn o wyddfodolion yn bresenoi. + Efrydydd Cymreig Llwyddianus. Y mae awdurdodau Coleg yr lesu. Rhydychen, wedi cynyg ysgoloriaeth gwerth 8op. i Mr Meurig Owen, efrydydd ieuanc o Y sol y Friars, Ban- gor. Mab ydyw i Mr J. T. Owen, adeiladydd, LUnfairfechan. Yr oedd yn ail ar restr anrhydeddus a: holiad y Bwrdd Cdnol Cymreig. Gael Corff ger Llandudno. Caed corff dyn ar y traeth gyieibyn a'r chwarel sydd ar y Little Orme's Head, y dydd o'r blaen. Bernid mai un o'r tri a syrthiodd i'r mor beth amser vn ol o gwch y Hong Comber ydoedd. Achubwyd y ddau arall, ond methwyd a dod o hyd i'r trydydd er i'r bywydfab fyud alian i chwiliu am danu.
ARAITH FAWR MR. LLOYD GEORGE.
ARAITH FAWR MR. LLOYD GEORGE. AR BWInC Y TIR. I Ddydd Sadwrn, yn Bedford, tradd- ododd Mr. Lloyd George ei araith fawr hir-ddisgwyiiedig ar bwnc y tir. Yr oedd torf anferth yn gwrando arno, a rhoed iddo y tath dderbyniad croesaw- gar a brwdfrydig nas rhoddir ond i arwr ceneal yn anterth ei rym. Siarad- odd am tros ddwy awr a chwarter, ac yr oedd mor groew ei leferydd a'i hy- awd'edd mor rymus ag erioed. Yr oedd yr holl wlad er's amser yn disgwyl am yr araith hon, gan mai trwyddi hi y byddai Mr. Lloyd George yn agor Yin- gyrch y Tir ac yn egluro peth ar holisi v L'ywodraeth o barthed i'r cwestiwn pwvsiif hwn v. Cyfeiriodd \n ei araith alluog at y dadleniadau difrifol wnaed o ganlyniad i ymchwiliad y Llywodraeth ynglyn a'r gyfundrefn bresenoi. Nid oedd yn vi wlad hon, meddai, gyda'r tir goreu yn y byd, ond deugain o weithwyr ar gyfer pob mil o aceri. Yr oedd dros chwe' chan' mil o weithwyr amaethyddol wedi eu colli o'r wlad yn ystod haner can' mlynedd, a'r naill h: ner o'r rhai oedd yn aros yn byw é.r afonis nag eiddo'r tlotv. Yr oedd 37,ooo,ooop yn mynd yn flynyddol mewn rhent a degwm i'r tirfeddianwr a'r person, a dim ond 25,ooo,ooop mewn C'. Ro i'r gweithiwr. Yr oedd yr amgylchiadau dan y rhai yr oedd y gweithiwr \n byw yn warad- wyddus,—ei orchwyl a'i gartref at dru- garedd y tirfeddianwr. Cynyddodd nifer ceidwaid helwriaeth y wlad o naw mil yn iS5r i dair mil ar hugain yn 191 1 yr oedd cynyrch yr amaeth yn cael ei ddinystrio gan helwriaeth, a gwrteithiad y tir yn cael ei gyfyngu gan arwerthiantau neu renti mvch. Ni chai y tir ei drin yn briodol o'r benvydd, ac o ganlyniad deuai cyflenwad anferth o ddefnydd ymborth drosodd i'r wlad o wledydd eraill. Beth am y feddyginiaeth ? Dylai Amaethyddiaeth, meddai'r CaoghelJor, gael ei roi i lawr ar sylfeini priodol, a rhaid fyddai iddo gael ei reoli gan y Llvwodraeth, fel pob busnes mawr arall. Rhaid fyddai'r llafurwr gael cyflog ag y gallai fyw arno, gwell amodau Uafur ac aneddau cymwys i fyw ynddynt. Rhaid oedd iddo hefvd gael cyfle i wella ei amgylchiadau fel ag y gallai o dipyn i beth ddod yn feddianol ar dyddyn iddo ei hun, os y byddai yn meddu ar ysbryd digon anturiaethus, a'r medr a'rdiwyd- ¡ rwydd digonol tuag at hyny. Rh lid oedd ysyubo yma:th bopeth redd yn llesteirio amaethyddiaeth o'r f.itn oreu. Caent y wybodaeth a'r arbrawfion g-oreu at eu gwasanaeth, gwneid gw\1 trefn- iadau tuag at gludo eu cynyrch i'r far- chnad, ac yn fwyaf arbenig- diddymid y ffafrineth roddir yn awr gan gwmniaa rheilffyrdd i gynyrch tramor. Byddai i'r gyfundrefn drethianol gael ei had- drefnu, a gwneid darpariadau ar gyfer yr achosion hyny lie nad oes gan y perchen na'r moddion na'r dymuni.id i roi ei dir i'r driniaeth oreu. Nid oedd am ymosod ar y tirteddianwyr yn unig- ol nac fel dosbarth, ond ni ddylid gadael y tirfeddianwyr mewn safle ag y byddai yn bosibl iddynt fod yn euog o'r hyn oedd wedi digwydd o'r blaen. Yr oedd cyflog y llafurwr amaethyddol yn is nag unrhyw ddiwydiant arall yn y wlad. Yr oedd eu hoiiau llafur yn hwy. Nid oeddynt yn cael haner gwyl ar ddydd Sadwrn, ac yr oedd llawer o honynt yn gweithio ar y Sul. Yr oedd pobl yn siarad am waith amaethwr fel ag y gellid meddwl y gallai unrhyw un wneud y gwaith os gallai daflu rhaw dros ei ysgwydd. Ond yr oedd yn orchwyl ag oedd yn gofyn medr a phrofiad, a dylai gael cyflog priodol am dano. Nid elusen, ond cvf- log dyn am waith dyn. Yr oedd o'r un tarn a'r Times, os oedd yn rhaid dewis, dylent gymeryd peth o rent y tirfedd- ianwr a'i roi i'r gweithiwr. 'Roedd baich y ffermwr yn drwni,-riienti a threthi, a chyflogau, a rhaid oedd idd- ynt ddal y baich o borthi'r helwriaeth. Nid oedd ryfedd fod dynion ieuainc yn g-adael y parthau gwledig wrth y mil- oedd ac yn ymfudo i'r gwledydd tramor. Yr oedd ganddo ef engreifftiau yn ei feddiant, a gallai roi yr enwau os bydd- ai angen, o aceri bvver o dir rhagorol yn cael ei roi'n gyfangwbl i gadw hel- wriaeth. Yr oedd y ffermwr yn rhoi ei holl feddwl a'i latur ar y fferm, ac yr oedd yn ei thrin a'i datblygu nes y byddai bron yn ddwbl werth yr hyn oedd ar y dechreu. Ynn, i ryw bwrpas neu'i gilydd, gwerthid y fferm, ac ni chai y ffermwr ddim yn dal am ei lafur er y gallai fod wedi codi gwerth y fferm gymaint arall. Ai yr elw oddiwrth ei latur i'r tirfeddianwr. Ond nid oedd pobl am roi eu harian yn y tir heb sic- rwydd eu bod yn eu cael yn ol, ac nid oedd hyny i'w gael yn ol y gyfundrefn bresenoi Faint, tybed, oedd yn svlweddoli cyrnaint oedd awdurdod y tirfeddianwr nr fywyd v genedl ? Ni feddai Tevrn H Ymerodraelh ?wdu'dod ar ei ddei!- I id i'w gymharu a? piddo'r tirfeddianwr I chc? ei denantiaid. GaUai'r tirfeddianwr u neud yr hyn n.? ganai v gelyn ymos- 0J0I ei ?neut) yn awr mewn rhyfel- d "ystrio bythynod, gyru'r trigolion i a tudiaeth, a thini y tir yn aniahveh. I hrofi'r ffaith honno nid oedd raid i un "1'1 mycd i Ucheldiroedd yr Ysgotland, i w oled milnecid o aceri a fu gynt yn ciclel eu trigianu gan y genedl wrolaf dan haul—wedi eu troi yn anialwch. GaHai'r tirfeddianwr nacau y tir a thyrru y bobl yn mannau iselaf y trefi. Pan geisid prynu tir, yr oedd elfenau yn dod i mewn nad oedd a wnelynt: dduii a gwerth y 11¡ mewn gvviiionedd. 1 Mae'r dyn wrth brynu'r tir yn prynu safie gymdeithasol, g-allu gwleidyddol, a phethau eraill nad oedd a wnelynt ddim a gwerth y tir fel y cyfryw. Ac nid yn unig yr oedd yn rhaid iddo dalu am yr holl bethau hyn, ond yr oedd yn rhaid iddo hefyd godi'r tal oddiar y llafurwr. Yr oedd y llafurwr os rhyw- beth yn \vaeth allan nag oedd gan' mlynedd yn ol Y mae pris ymborth wedi gwneud ei gyflog yn gymharol is, a cheir eu bod yn ffoi 0'1 wlad with y miloedd o flwyddyn i flwyddyn. Yr oedd yn rhaid ymwneyd a'r drwg y 11 drwyadl. Nid oedd o unrhyw fudd diwygio'r lie yma a gwella'r tan arall- rhaid oedd dadwneyd y gyfundrefn yn gvfangwbl. Yr oedd yn rhaid ei gosod o dan reolaeth briodol, ac ar sylfeini sifadwy. Hefo popeth arall y rheol oedd nad oedd neb i gael defnyddio ei.. monopoli i ddifetha unrhyw ddiwyd- iant. Os oedd dyn yn gosod pris an- lic.4 gydag unrhyw monopoli arall deuai y gyfraith i mewn i roi atalfa arno. Ond gvda'r tir galiai y perchen wneud a fynai gydag ef. Gallai godi'r pris a fynai am dano, neu gallai wrthod ei werthu. Nid oedd y gyfraith yn gofyn faint oedd yn dalu mewn cyflogau, na faint oedd oriau llafur ei weithwyr. Byddai y sefyllfa hon yn cael ei newid, a hyddai holl allu'r Llywodraeth yn cael ei ddefnyddio, mewn gwneud cyf- reithiau, mewn cario alian y deddfau wneir, ac mewn cynorthwy arianol, tuag at gario allan yr holl fwriadau yn drwyadl ac effeithiol. Yr oedd pwnc y tir hefyd yn effeithio nid yn unig >r y parthau gwledig ond hefyd a ,trefi. Effeithiai ar y mas- na ch%v'I h(-)b tref farchnadol, ac yr oedd yn (HfTeithio ar bob cangen o fas- nach. Gallent weled pamphledau a hysbysleni ar hyd a lied y wlad yn galw svlw at y cyfleusterau ardderchog i lafurwyr amaethyddol oedd yn Canada a gwledydd tramor eraill Yr oedd yr hysbysiadau hyny wedi denu miloedd o'r wlad hon dros y Werydd. A pha ryfedd Gwelent ddarluniau o feusydd cvnhyrchiol, a chnydau toreithiog ar- 0) nt, anifeiliaid yn pori ar borfeydd breision, a pherllanau eang o goed ffrwythlon. Ac nid oedd yr hysbysleni yn dangos darlun o dirfeddianwr na cheidwad helwriaeth. Pan welid dar- luniau feliy ar y parwydydydd yn dang- os allan odidogrwydd ein gtvlad ein hunain. yr adeg hono byddai pwnc y tir wedi ei setlo Yn lie anialdir yn llawn o ddrain a mieri, gwelid tyddynod | a'r t i^-olion yn t'in eu tir, a'r cynyrch yn p,;mhi'r ynghenus. Ceid gweled da>luniau o bonl foddlon eu byd, a'u tculuoedd yn ddedvvydd, ac arwyddion pryder a newyn wedi eu hymlid oddiar eu wynebau gan wawr y gobaith ne- wydd fyddai wedi tori ar y wlad.
| ' Yswiriant Genedlaethol.…
Yswiriant Genedlaethol lechyd. GRADDEGAU CYFRANNU AR GYFER CYF- RANWYR GWIRFODDOL DDAW YN YSWIR- IEDIG ERBYN HYDREF I2FED. Dymuna Dirprwyaeth Yswiriant Cen- edlaethol lechyd (Cymru) ddwyn ar got i'r cyhoedd fod yn rhaid i bersonau ddyniunant ddyfod yn gyfranwyr gwir- foddol yn ol y graddelgau is gael cerdyn cyfranydd gwirfoddol gan Gymdeithas Gymeradwy, a dodi'r stamp cyntaf arno erbyn Hydref iafed, neu ynte rhaid iddynt anfon i'r Ddirprwyaeth Yswir- iant cvn Hydref 12feJ, a dywedyd yn bendant eu bod yn dymuno dyfod yn gyfranwyr gwirfoddol (os meddant havvl i hyny). a thalu cydroddion (contribut- ions) oddiar Hydref i 2ted ymlaen (dylid c yfeirio'r amlen at yr Ysgrifenydd, Dirprwyaeth Yswiriant Cenedlaethol lechyd (Cymru), Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ac arnodi arni'r geiriau Cyfranwyr Gvvirfoddol." Ni fydd angen ta1u'r cludiad). Pery'r graddegau is mewn grym dros yr holl gyfnod yn ystod yr hwn y bydd y cyfrannydd yn yswiriedig. Bydd i ber&onau ddaw'n gyfranwyr gwirfoddol ar ol Hydref i2fed, dalu yn ol gradd- egau uwch ar hyd yr amser yn ystod yr hwn yr arhosant yn yswiriedig. Dirprwyaeth Yswiriant Cenedlaethol lechyd (Cymru), Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Digwyddiad Ofnadwy yn Lerpwl.
Digwyddiad Ofnadwy yn Lerpwl. Bu dig wyddiad erchyll iawn yn ( Lerpwl ddechreu'r wythnos o'r blaen. Ymddengys tod un o'r enw William McDonald, dyn o ddaliadau crefyddol a gwleidyddol eithafol, a'r hwn oedd yn dal cysylltiad a sect neillduol, wedi mynd yn wallgof yn sydyn, ac wedi saethu tri o bobl, ac yna saethu ei hun yn farw. Bu dau o'r rhai a saethwyd ganddo hefyd farw, ac y mae'r llall: mewn cyflwr peryglus iawn Ymosododd yn gyntaf ar R. Price Roberts, ceidwnd y Deml lie y byddai y sect yn addoli. Aeth ato i'r ty, ac wedi ymddiddan ag ef am ychydig tarawodd ef hefo Iwmp o haiarn, a saethcdd ef yn ei wyneb Ond er wedi ei jJ^yfo'n ddifrifol llwyddodd Roberts Jdianc i ystafell arall a chloiodd y drws arno ei hun. Wedi hyny aeth McDonald at un o'r enw Paul Gaze, a phan ar ganol ym- ddiddan gydag ef yn gyfeillgar yn ei dy saethodd et yn farw. Yna rhedodd McDonald allan ac aeth yn syth i dy Miss Mary Compton, arweinyddes y sect. Pan aeth yr heddgeidwaid "yt ty yn ddiweddarach gorweddai Compton a McDonald ar lawr yn hb?! j farw. Bernir fod siom serch ac eidd ?r edd wrth wraidd yr helynt. Vr oedd Miss Compton, rneddir, yn ferch ieuanc nodedig o riuweddol a charedig.
- - _- -CYMANFA DDIRWESTOL…
CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. CYFARFODYDD YN PWLLHELI. Cynhaliwyu cyfarfodydd blynyddol y Gymanfa uchod ym Mhwllheli yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Breintiwyd ni a thy wydd rhagorol yn ystod dyddiau yr wyl ac 'roedd gwenau yr Arglwydd ar yr holl weithrediadau o'r dechreu i'r diwedd. Galwyd sylw arbenig at y Gymanfa a'i gweithredoedd eaug, yn yr oil o bwlpudau y dref a'r cylcb, a threu- liwyd y cyfarfodydd gweddiau nos Lun, Hydref 6ed, i erfyn am fendith yr Arglwydd ar holl weithrediadau y Gym- j anta, ac am ddeffroad yspryd Du w drwy yr oil o Gymru a'r byd er daros- twng gallu a grym y fasnach feddwol, "ac i ddwyn sancteiddrwydd a phurdeb i bwyso ar ysprydoedd holl ieuenctyd ein gwlad. Nos Fawrth cynhaliwyd y ddau gy- farfod cyntat. Cyfarfodydd ar Burdeb ydoedd y rhai hyn. Yn Vsgoldy yr Eglwys, ymgynullodd y merched yn unig, o dan lywyddiaeth Mrs Lloyd George, yr hon • gafodd dderbyniad ] calonog. Anerchwyd y cyfarfod hwn gan Mrs Herbert Lewis, M.A Miss Mathews, Amlwch, a Mrs Morgan, Abergele. Yr oedd yr vstatell yn orlawn a'r areithiau yn cario dylanwad annileadwy ar bawb oedd yn bresenoi. Siaradwyd yn glir yn erbyn pob pechod ag sydd yn darostwng merched a dyn- ion ieuainc, a chynghorwyd hwy er eu mwyn hwy eu hunain, er mwyn eu cartrefi, eu gwlad a'u cenedi, i fyw bywyd o burdeb ac o sancteiddrwydd. Cynhaliwyd cyfarfod i ddynion yn Ysgoldy Salem. Yn absenoldeb y llywydd disgwyliedig, y Parch Henry Rees, Dolgellau, cymerwyd y gadair gan Dr R. Jones-Evans, Plasyward. Arweioiwyd mewn gweddi gan Mr Edwards o Gaernarfon, yna cafwyd anerchiad byr ond tra phwrpasol gan y cadeirydd. Dywedai ei fod yn teimlo dipyn o bryder wrth addaw cymeryd y lly wyddiaeth yn neillduol gan fod y cais wedi dyfod mor sydyn, ond llawenhai yr un pryd ei fod yn cael bod yn y cyfarfod, ae yr oedd yn hytrydwch ganddo ef daflu ei ddylanwad o blaid achos mor ragorol, ac yr oedd yn falch o ganfod fod y fath gydymdeimlad ag amcan y cyfarfod. Dywedai ef mai y bywyd pur a glan ydoedd y bywyd n-i,yaf hardd a'r mwyaf urddasol ar y ddaear, ac fod dilyn bywyd amhur yn anghym- wyso pob dyn ieuanc i fyw bywyd detnyddiol. Wedi hyny siaradwyd gan Dr Lloyd, Towyn. Ei bwnc mawr ef ydoedd "Purdeb oddiar safle feddyg- ol." Dywedai ef fod y wedd feddygol ar v pwnc yr oeddynt yn myned i ym- drin ag ef yn bwysig iawn, ac fod llawer yn ceisio llechu tu cefn i'w pechod gan geisio dadleu eu hanwybod- aeth. Diameu tod ieuengctyd Cymru yn cael cam i raddau oherwydd diffyg y rhieni yn peidio eu haddysgu am y drwg mawr a'r llygredigaeth ag oedd yn ffynu o fyw bywyd anfoesol Dywed- ai rhai, meddai ef, fod bywyd diwair yn hollol ddiangenrhaid, ond yr oedd y cyfryw ddywediad yn yntydrwydd ac yn hollolgroes i wirionedd. Da oedd ganddo dystio fod y wybodaeth leddyg- ol a gaed trwy ymchwiliad yn cadarn- hau gwirionedd y Beitl ar gwestiynau mawr bywyd. Tystir felly gan brif feddygon y deyrnas fod bywyd o am- huredd yn antantais i dyfiant y ddynol- iaeth oreu. Yr oedd dynion ieuainc j yn cyflavvni gweithredoedd anllad heb ystyried o gw bl y canlyniadau. Dywedai y Parch. O. Davies, D. D., Caernarfon, y dymunai wel'd y dynion ieuainc oedd yn bresenol yn allu ddigon cryf i gario dylanwad mawr o blaid purdeb a sobrwydd hyd derfyn eu hoes. Credai ef wedi'r cwbl mai ganddo ef vr oedd y testyn goreu, sef "Purdeb o sutie grefyddol." Beth bynag ddywedodd Dr. Lloyd, ac a ddywed Mr Hughes ar fy ol, ni byddent ond yn cadarnhau yr hyn y mae crefydd wedi ei ddysgu ar hyd yr oesau. Yr oedd agwedd meddwl y rhai ag oedd yn meithrin amhurdeb yn eu myfyrdodau yn eu hanghymwyso at waith crefyddol, ac yn eu gwneud mor wan fel nas gallent gymeryd rhan ddisgwylid iddynt mewn cylchoedd crefyddol. Cyfranu addysg ymhlith y bobl oedd eu dyledswydd, gan fod mil- oedd o dan eu dwylaw o barth i'r drwg enfawr a gynyrchir drwy anniweirdeb. Caiff y meddygon fod yn athrawon, ond rhaid i'r addysg ddechreu ar yr aelwyd. Gellid hetyd gwneud lies mawr wrth drin ar y cytryw faterion yn ein cyfeillachau crefyddol. Y Parch. G. Parry Hughes, Morfa Nefyn, a ddywedai fod y testyn a rodd- id iddo i siarad arno yn ymwneud yn fwyaf arbenig a chynwys yr ail lech o'r deg gorchymyn, set perthynas pob dyn ag et ei hun ac a'i gymydog yn holl amgylchiadau bywyd. Awgrymai ef i ddynion ieuainc ddarllen Uenyddiaeth bur ac iachus. Cymerai ef yn ganiataol, trwy fod y genedl yn dirywio oddiwtth burdeb cymdeithasol, fod pawb yn cyd- nabod fod yr aflendid hwn yn ddrwg difaol ac yn bechod gwaradwyddus. Nid mewn anwybodaeth y cyflawnir y pechod hwn, ac nid tai fvaelion yw y bai, oherwydd yrnlusga y llygredd hwn i'r palasdai. Dylai yr eglwys bwys- leisio yn ddwfn y mater hwn. Dylai ein pobl ieualnc, yn fechgyn a geneth- od, gadw eu hunaiu yn bur a dihalog. Dylai yr eglwys ofa!u am roddi lie arbenig i'r mater. DyJai pob dyn fyw bywyd o burdeb ac urddas, a theiinlo y fath fraint o ddilyn Crist, a cherdded yr un llwybrau o burdeb ac o sancteidd- rwydd ag a gerddodd Efe, er anrhyd- edd iddo ei hun. I DDYDD MERCHER. Am 11 o r gloch, yn ysgoldy Seion, cynhaliwyd cyd-bwyllgor ar Undebau y Gobeithluoedd. Am 1-30, cyd-gyfarfyddodd y gwa- hanol obeithluoedd, a ffurfiwyd yn orymdaith, ac aethpwyd trwy brif heolydd, y dref. Am 2 o'r gloch, cyd-ytarfyddodd yr holl blant yn nghapel Penlan. Yr oedd llawr y capel yn orlawn o blant. Yn y gadair roedd Mrs Tom Ellis, a chafodd dderbyniad brwdfrydig. Yn arwain y cytarfod yr oedd Mr E. Jones Griffith, athraw ysgol y Cyngor. Rhoddodd deyrnged ucbel o barch i Mrs Tom Ellis wrth ei chyflwyno i'r cyfarfod. Yna canwyd amryw ddarnau yn swynol gan y plant. Yna cafwyd anerchiad tra dyddorol ac addysgiadol gan Dr Lloyd, Towyn, a gwnaeth arbraw- fion dyddorol iawn i brofi y niwed mawr a gynyrchai alcohol. Profodd fod alcohol yn bwyta y cnawd ac yn mynd o dan wraidd iechyd. Rhoddodd anerchiad Mrs Tom Ellis fwynhad mawr i'r plant. 'Roedd hi' yn caru plant, ac yn gwneyd ei goreu i'w hanog i fyw bywyd glan ac i garu yr Iesu. Am saith yn yr hwyr cynhaliwyd cyf- arfod cyhoeddus yn y Neuadd Drefol, y Parch T. Pritchard, rheithor Llan- fwrog, yn y gadair. Cafwyd areithiau tanllyd gan y cadeirydd, a chan y Parch H. Barrow Williams, Llandudno. DDYDD IAU. DDYDD IAU. Cynhaliwyd cynhadledd y Gymdeithas Ddirwestol yn nghapel y Wesleyaid am ddeg o'r gloch y boreu, o dan lywydd- iaeth Syr J. Herbert Roberts, A.S. Yr un adeg cynhaliwyd cynhadledd Undeb y Merched yn nghapel y Bedyddwyr, o dan lywyddiaeth Lady Roberts. Yn y prydnawn, yn nghapel Pen- mount, cynhaliwyd cyfarlod unedig o'r Gymdeithas Ddirwestol ac Undeb y Merched. Llywyddwyd gan Ladyi Roberts. Cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr W. Jones A.S., a chan Mrs Lloyd George, Miss Parry, Dinbych, y Llywyddes, Mrs Mathews, Mrs Mor- gan, Abermaw, Syr Herbert Roberts ac eraill. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Drefol, am saith o'r gloch, Syr Herbert Roberts yn llywyddu. Yr oedd y Neuadd yn orlawn, a chaed cyf- arfod godidog. Y prif siaradwr yn y cyfarfod hwn oedd y Parch Silvester Home, A. S., ac araith benigamp gaed ganddo. Sylwodd, ymysg pethau ereill, beth bynag oedd Cymru am fod yn y dytodol, ei bod wedi penderfynu bod yn genedl rydd. Nid oedd am gael ei llywodraethu gan fasnach ag oedd wedi profi ei hun y felldith fwyat i fywyd cymdeithasol y wlad, a'r hon oedd yn derbyn y breintiau uwchaf yn y deyrnas yn amgen i'r un fasnach arall, er nad oedd wedi gwneyd dim i haeddu'r anrhydedd Dadlenid ei hanes du o ddydd i ddydd, ac yr oedd y dadlen- iadau yn cyfiawnhau'r cyhuddiadau difrifol ddygid yn ei herbyn. Ymosodid arni'n fuan fel na wnaed erioed o'r blaen, ac yr oedd yn sicr fod amser bywiog ymlaen, gan yr ymladdai y fas- nach yn ffyrnig iawn pan yr ymosodid arm. Ond yr oeddynt wedi penderfynu nad oedd y fasnach andwyol hon i gael mwynhau yr un breintiau yn y dyfodol ag a gatodd ar hyd y blynyddau. Siaradwyd hefyd gan Miss Parry Williams, a chafwyd can gan Mrs. Dr. Fraser. --0--
Advertising
I GADWCt: EIGH ARENA!) YN DDA, A HWY A'CH CADWANT CHWI YN DDA. "Pob 'I darlun I, w a ddywed ??! \'?. A?? M ?\??  ?' L  ????; p?  I r llf pt I tin :-f2-J I  ? ? ? 7 '1'   MEDDYO: Ai yna mae'r boen ? Ah Annhrefn yn yr Arenau yw. Defnyddiwch BELENI ARENAU CEFNBOEN DOAN (Doan's Backache Kidney Pills) at Boen yn y Cefn, Annhrefnau Troethol (Urinary Disorders), Grafel, Cryd Cymmalau, Dyfrglwyf (Dropsy). Pan y gwaela yr arenau (kidneys), gwaola yr holl gorph. Ymboena y cefn, cwyna yraelodau, tryinhav llygaid, melyna y gwcdd. Nis gallwch aros wrth eich gwaith fel nmvaith y gallasoch, na cherddcd mor bell, na chysgu mor dda. Hwyrach v sylwch ar flinderau troethol (urinary troubles), grafel, a lliw 11 well pridd- faen y dwfri.,a natnr c'nwyddcdig v (reran. Mynych y.fceir cur yn y pen, prydiau pensvfr- danol, poerrau cryd cymmalau yn y llywethau a'r cyssylltau. Mae eich archwaeth at fwyd yn newidiol, y galon yn gweithredu yn ddieitlir ewch yn glefychlyd, yn bruddglwvfus, yn ofuus, ac yn anfoddus. Y rhai hyn a llaweroedd o annhrefn- au ereill ydynt arwyddion dityael o liuhwyhluft yn yr arenau. Achosir hwynt gan >venwyn arenol yr hwn y metha yr areuati a 1 hidlo allan; ac nis gallwch fod yn iaeh nes y cryfheir hwynt i'w gwaith naturiol. Aiff PELENI AHKNAI; CEKXHOKN DOAX yn tmiongyrchiol i'r arenau, a gwnant lnvvut yn iach, gan eu hadfywio ac adeiladu eu nlicrth. Gyrant allan o honynt surni dyfrol, glanliant I yr arenau, a lliniarant v fflame"- Yn y modd yma, rhydd PKI.KNI LIOAN (Doan's Pills) i'r arenau gwanllyd gychwviiiad newydd yn eu gwaith mawr o hidlo allan wcuwynau arenol. Mae yr arenau yn organau mor dyner ac yn cael eu gweithio mor galed nes y mae anwyd, neu ryndod, neu ysigiad, yn rhwystr iddynt, ac yn eu t?)nu yn 01 ?yda'u ?'aith. id(iN-iit tcHy, fyddai cadw blvchiad o BELENI AUENAU CKFNBOEN DoAN' (Box of Doaiit Backache R ldney Pills) yn y tv, a chymeryd dogn pryd bynnag nas teimlir i fyny i'r marc. Dvlid ymarfer yn rheolaidd BELENI DOAN gan bawb sydd yn cymcryd ewrw, gwirodau (spirits), neu de, gan fod y cyfryw ddiodydd vn cyffroi ac yn cnnynu arwvnebau tyner yr arenau, a gcllir dibynu ar ÈELEI DOAN i gad«' draw bob effaith drwg. Mae y physig- wriaeth arenol hwn yn hollol lysieuol, a gall yr hen a'r ieuaingc ei arfer gyda. diogelwch perifaith. Nid oes ganddo unrhyw weithrediad ar y coluddion. Mae PELENI ARENOL CEFN- BOKN DOAN yn fudd i bob un svdd raid iddo ymgrvmu wrth ei waith ac i'r dosbarthiadau ae i'r ?dosbarthiadau sydd yn agored i gyfnewidiadau sydyn yr hmsawdd. A chynghorir y rhai hyny a wyddant i'w rhieni neu i'w hynafiaid ddioddef oddiwrth anhwvlderau arenol i amddiffyn eu harenau drwv vmarferiad achlvsurol o BEI,ENI ARENAU CKI XIIOK.V DOAN (Doan's Backache Kidney Pill.<) canys nid oes un afiechyd yn cael ei gyflwyno mor fynych o riant i blentyn na'r hwn sy'n tarddu o anesmwythderau yr arenau. Doans ^>>\ ?lli% \W\\vu I Backache  Pills Co WP?\?????????????\ \??3?   ?\??A?5'?\?? YR UNIG FLWCH DIDWYLL. Gan holl fferyllwyr ac yn y Stores am 2/9 y blwch 6 blwcn 13/9 neu yn rhydd drwy y post yn syth oddiwrth y FOSTER MCCLELLAN CO., 8, Wells Street, Oxford Street, London; W.
Prawf y Dyn Saethodd "Coch…
Prawf y Dyn Saethodd "Coch Bach y Bala." Yn Rhuthin, ddydd Llun, bu'r ynadon yn gwneyd ymchwiliad i'r cyhuddiad o ddynladdiad ddygid yn erbyn Regnald Bateman Jones, mewn cysylltiad a marwolaeth John Jones, "Coch Bach y Bala. Rhoes Mr Hunt, Rheolwr carchar Rhuthin, ddesgrifiad o'r arfau oedd yn meddiant y trancedig, a dywedodd ei tod yn gymeriad peryglus. Buasai yn enbyd i neb fynd ato a'r arfau hyny yn ei feddiant. Yr oedd wedi ymosod yn ffyrnig ar ei geidwaid yn y carchar un- waith. Dyn bychan oedd y carcharor, meddai ef, ond yr oedd yn gryf ac yn nodedig o fileinig. Tystiwyd gan Elizabeth Jones, yr hon a welodd y trancedig a'r cyhuddedigyn ymddiddan a'u gilydd. Nis gallai ddeall popeth ddywedent, ond yr oedd y cyhuddedig yn ceisio rhwystro'r ffoadur rhag mynd i'r goedwig. Gwel- odd y carcharor ffoedig yn taro Mr Bateman, a cheisiodd ei daro drachetn gydag erfyn pan oedd ar ben y clawdd. Y pryd hwnw saethodd y cyhuddedig ef yn ei ddychryndod. Ar ol hyny eisteddodd John Jones ar y clawdd, gan afael yn ei goes. Nid aeth neb ato gan yr ofnent mai cymeryd arno yr oedd ei fod wedi ei anafu. Ategwyd y dysticlaeth uchod gan Catherine Hughes, ac un o'r enw David Jones, gwas ffarm. Gwelodd David Jones y cyhuddedig yn ceisio rhwystro'r ffoadur fynd i'r coed, ac ar 01 iddo gael ei daro ganddo taniodd y gwn arno. Ni tu y fainc ond pum' munud yn ystyried yr achos, a daethant i'r pen- derfyniad nad oedd gyhuddiad yn erbyn Bateman, a'u bod yn taflu'r achos allan.