Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
<— ELEY —' CARTRIDGES are preferred to all others by the most experienced sportsmen all the woild over, who realize how important it is to select the best. E L E Y Cartridges may alway s be relied on.  I 22 92 Short Long Rim 'Rim Rifle and Rifle and ,evolver Revolver Cartridge Cartridge A^M '^EY A £ cUep-shf ll E B Nitro quality SMOKELESS." Loailed with Eley Cartridge, Sm ikoless (42 gr.) Smokeless 9/- per 100. 8/6 per 100. 9/6 per 100. E.B. Nitro 5" ql ell f Loaded with "Eley deep-shell Gastight j Smokeless," "Schultze" PegarnOJrl (Waterproof) and other Standard Powder. are sold byes JAMES W!LL)AMS,B=?c?. are sold by Builders Merchant. PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C. J Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R.C.S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Groeer, High Street, oily boreu dan 4 y prydnawn.
PWLLHELI.
PWLLHELI. CYHOEDDIADAU SABIIOTHOL.-Hyd. 26 Penlan (A.), am 10 a 6, Myfyriwr o Goleg Bangor. Capel Seisnig (A.), Cardiff Road, am 11 a 6-30 Parch D. W. Roberts, Gweinidog. Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch Thomas Williams, Pwllheli. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch Owen Owen, LlaDelwy. Capel Seisnig (M.C.) Ala Road, am 10 a 6, Parch Owen Thomas. Tabernacl (B.), am 10 a 6, ————- Seion (W.), am 10, Mr John Williams, Rhiw; am 6, Parch E. Mostyn Jones. Gweinidog. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, Vegol. Ysgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Parch J. Rhydderch, Pwllheli. Y&gol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi am 2, Ysgol. South Beach (M.C.) am 2 a 6, Parch Tarais (M.C.), am 10. Parch St. Pedr. 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch T Woodings, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R.G.. am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Ysgol; am 6-30 Pregeth Gymrapg gan y Parch ]?. Merour, benedicsiwn. PRIODAS.- Ddydd Sadwrn diweddaf, yn nghapel yr Annibynwyr Seisnig, Aberystwyth, unwyd Mr. Isaac M. Anthony, mab hynaf yr Henadur W. Anthony, U. H., mewn priodas a Miss Ada C. Jones, The Lodge. Yr oedd yr anrhegion yn niterus a drudtawr. Aeth y ddeuddyn hapus i Lundain i ldreulio eu mis mel. Y TEMLWYR DA.-Cynhaliwyd y Demi nos Fawrth diweddaf fel arfer yn Ysgoldy Penmount pan y cymerwyd rhan gan y Parchn. J. Rhydderch, D. E. Davies,'Thomas Williams, Mri. W. Hughes, Roberts, Mrs. J. Roberts, Mrs. D. E. Davies, ac eraill. Deallwn fod amryw yn bwriadu ymuno a'r Demi fel canlyniad cyfarfodydd y Gymanfa Ddirwestol, ac nis gallai dyngarwyr a Christionogion y dref wneud dim a fyddai yn fwy teilwng. ETHOLIADOL.-Credir y bydd i ethol- iad gymeryd lie i lanw'r sedd aeth yn wag ar Fwrdd y Gwarcheidwaid trwy ymadawiad y Parch Henry Rees.—Y mae y tri ag y mae eu tymor ar derfynu ar y Cyngor Trefol,-Mri Richd. Jones, Argraffydd R. A. Jones, Central Restraurant, a W. M. Toleman,-yn bwriadu sefyll ail etholiad. Y mae sedd arall yn wag er's tro ar y cyngor, ond nid oes sicrwydd fod neb yn bwriadu ymgeisio am sedd oddigerth y rhai a enwyd. CYMDEITHAS LENYDDOL TABERNACL.— Nos Lun diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. R. Gwynedd Evans, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor, pryd yr awd trwy raglen amrywiaethol neillduol o ddyddorol,-Sef canu, adrodd, chwareu I ar y grythen, anerch a chystadlu. Y swyddogion am eleni ydynt:— Llywydd, Mr. Alfred Lewis is-lywydd, Mr. R. Gwynedd Evans; trysorydd, Mr. R. Roberts; ysgrifenydd, Mr. R. W. Williams: Llawenydd digymysg oedd gweled cymaiot yn bresenol. PRIODAS.—Yn nghapel Salem, dydd Sadwrn, gan y Parch. John Hughes, B A., B. D., y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. O. Rowlands, y cofrestrydd, unwyd Mr. Ted Pugh Owen, yr hwn sydd yn gwasanaethu yn y Crown Hotel, mewn priodas a Miss Kate Thomas, Lleyn Street. Misses Thomas, St. Tudwall's Terrace, a Mary Griffith, Ueyn Street, oedd y morwyn- ion, a Mr. Robt. Thomas, St. Tudwall's Terrace, oedd y gwas. Rhoed y briod- ferch ymaith gan ei thad. Aeth y pir ieuanc i dreulio eu mis met i Lerpwl. MARWOLAETH SYDYN.—Oddeutu un- ar-ddeg o'r gloch boreu Llun, yn dra sydyn, bu farw Mrs. Margaret Thomas (priod y diweddar Mr Hugh Thomas, pysgotwr), Penrhydlyniog, yn 71 mlwydd oed. Yr oedd yn y gwasan- aeth yn .nghapel Seion nos Sul, ac yn ymddangos yn ei chynefin iechyd, ond boreu Llun, tra yn dilyn ei goruchwyl- ion arferol, syrthiodd yn farw. Cleddir dydd Iau yn hen fynwent Denio (ang- ladd anghyhoedd). Cydymdeimlir a'r teulu oil yn y brofedigaeth sydyn. DYDD DIOLCHGARWCH. Ddydd Llun diweddaf cynhaliwyd yr wyl hon yn y dref, a chaed gwasanaethau arbenig yn yr holl addoldai yr. ystod y dydd. A ganlyn oeddynt swm y casgliadau am v dvdd s. c. Salem a Tarsis. 293 4 7 Penmount a Sand Street 106 14 6 Penlan. 59 o o Tabernacl 25 o 7i Seion 21 15 10 i South Beach 26 o o Cardiff Road. 14 13 II Ala Road 8 o o Efailnewydd 10 16 o Penrhos 30 10 0 DEDDFAU'R TIR.-Ar agoriad Cym- deithas Lenyddol South Beach nos Lun diweddaf traddodwyd anerchiad gan Mr. E. R. Davies, Cyfreithiwr, ar y testyn uchod (Deddtau'r Tir), ac fe gadwodd y cynulliad am oddeutu awr o amser yn Hawn astudrwydd a mwyn- had. Deallwn y mawr ganmolir yr anerchiad, ac te ddywedir y byddai yn fantais neillduol pe gallai Mr. Davies weled ei ffordd yn glir i draddodi yr anerchiad yn mhob ardal trwy'r wlad. Cymerwyd rhan ymhellach yn y drafod- aeth gan Mrs. Evans, Bungalow Mri. W. Hughes, J. Williams, J. J. Jones,. D. Lloyd Humphreys, Owen Williams, a'r llywydd, y Parch. D. E. Davies Pasiwyd diolchgarwch y gymdeithas i Mr. Davies am ei anerchiad, a bod cyt- arfod nesat y gymdeithas i drafod y mater ymhellach. BWRDD Y GWARCHEIDWAID. Ddydd Mercher diweddaf. — Mr J. T. Jones yn y gadair, a Mr Richard Jones yn yr is-gadair. Daeth bachgen pymtheg oed, yr hwn oedd yn gweithio allan er's peth amser, o flaen y Bwrdd i ofyn am ddillad. Yr oedd yr hwn oedd wedi ei gyflogi gyda'r bachgen, a dywedodd ei fod yn fachgen nodedig o ufudd a gwasanaethgar. Gwnaed sylw gan rai o'r gwarcheid- 1 waid y rhaid fod y bachgen hefyd yn hoffi ei le gan ei fod yn edrych yn hapus iawn. Rhoed caniatad i'w feistr chwilio am ddillad iddo. Dygodd Mr G. Evans gynygiad ger- bron gyda golwg ar y priodoldeb o gyf- newid y gyfundrefn bresenol o ym- wneyd gyda rhestr yr elusenau. Yr oedd ef o'r farn y dylid adolygu rhestr y pJwyfi bob mis, ac nid pedwar neu bump o'r plwyfi fel ag y gwneid yn bresenol. Nis gwyddai y gwarcheid- waid pryd y deuai eu plwyf hwy ger- bron, fel ag y gallent wneud ymdrech arbenig i fod yn bresenol. Sylwodd Mr Hugh Pritchard, y clerc, eu bod yn warcheidwaid y plwyfi oil, nid dros eu plwyfi hwy yn unig, ac fod y gyfundrefn bresenol yn gymorth iddynt sylweddoli hyny, ac yn rhwyddhau y gwaith. Yr oedd y cadeirydd hefyd o'r farn na fuasai cynllun Mr Evans yn gweithio, gan nas gallant ot phet) eu gwaith mewn pryd. Gan na eiliodd neb gynygiad Mr G. Evans, syrthiodd y mater drwodd. Dywedodd y Clerc ei fod wedi anfon at yr overseers cynorthwyol i bwyso arnynt am anfon eu cyfrifon misol ynylyo a'r t'ethi i mewn yn Ifrydlon, ond fod rhai yn oedi. Sylwodd y cad- e:rydd fod rhai plwyfi mewn Undeb I HI all wedi dod i brofedigaeth oherwydd oedi gyda'u cyfiiton ac y byddai'r un peth yn sicr o ddigwydd gyda rhai pkvjfi yn Undeb Pwllheli cs na cheid gvelliant. rendertymvyd sefydlu gorsafau yn Ciiccieth, Llanaeihniajn, a Sum. l e y cni crwydriaid fara a c'laws, os bydt ai ganddynt diced tloty. Credai y gwar- cheidwaid y byddai i hyny rwystro i'r crwydriaid garcjota.
I TKEFOH.I
TKEFOH. GWAHODDIAD.- Sibrydir fod y Parch. Caleb Williams, B. A., gweinidog M.C I Gosen, yn cael gwahoddiad yn weinid- og i le arall. Y mae Mr Williams yn bregethwr dawnus a galluog, ac wedi gwneud enw fddo ei hun ymysg y trigolion Os bydd iddo symud bydd bwlch mawr yn ddiau yn mywyd yr ardal ar ei ol. YR YSGOL Nos.-Deallwn fod ieu- engctyd yr ardal wedi penderfynu o ddifrif y flwyddyn hon ddilyn yr ysgol nos Y mae cynifer a 78 o ddisgvblion wedi ymrestru yn barod, yr hyn a brawf fod deffroad gwirioneddol wedi cymeryd lie yn eu mysg. CLADDEDIGAETH.-Prydnawn Mawrth diweddaf claddwyd gweddillion marwol y diweddar Mr John Hughes-Williams, Eifl Road, yn mynwent Llanaelhaiarn. Gedy weddw a nifer o blant ar ei ol, a'r rhai y mae ein cydymdeimlad yn eu galar dwfn. CYFARFOD PREGETHU.—Nos Fercher a dydd Iau diweddaf cynhaliodd Bed- yddwyr Saron eu cyfarfod pregethu j pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. j Idwal Jones, Llwynpia, ac F. Owens, Abertawe. Caed cynulliadau Iluosog a gwrandawiad astud. --0--
Syr Rufus Isaac yn Arglwydd…
Syr Rufus Isaac yn Arglwydd Brif Farnwr. Y mae y Brenin wedi cymeradwyo y penodiadau a ganlyn Y Gwir Anrhydeddus Syr Rufus Isaac, K.C.V.F., y Twrnai Cyffredinol, i fod yn Arglwydd Brif Farnwr, mewn olyniad i Arglwydd Alverstone, yr hwn sydd wedi ymddiswyddo. Y Gwir Anrhydeddus Syr John Simon, K.C., y Cyfreithiwr Cyffredinol, i fod yn Dwrnai Cyffredinol. Mr S. Buckmaster, K.C., A.S., i fod yn Gyfreithiwr Cyffredinol. Bydd i ddyrchafiad Syr Rufus Isaac wneud etholiad yn angenrheidiol yn Reading. Y mae'n cynrychioli'r ethol- aeth hono er 1904. Iddew o genedl yw Syr Rufus Isaac. Ganed ef yn Llundain yn 1860. Ystyr- id ef y bargyfreithiwr mwyaf disglaer yn y wlad, a chymerai ran ymhob achos o bwys yn y llysoedd. Nid oedd ei hafal fel croesho!wr. Mab i weinidog eglwys Ymneillduol yw Syr John Simon. Y mae efe ar hyn o bryd yn cynrychioli etholaeth Wal- thamstow, ac yn aelod o'r Cyfrin- Gyngor. Aelod Rhyddfrydol tros Keighley yw Mr S. O. Buckinaster. Nid yw wedi cymeryd rhan amlwg yn y dadleuon yn y Senedd, ond y mae ei wybodaeth a'i brofiad o'r gytraith wedi bod o was- anaeth mawr. yno.
-o - Diffyg Goleu yn Achosi…
-o Diffyg Goleu yn Achosi Marwolaeth. CRWNER YN CERYDDU. Yn Welshpool, nos Lun, cynhaliwyd trengholiad ar gorft T. Seymour Collin- son, cynrychiolydd ieuanc Ystad y Garth, yr hwn laddwyd nos Wener pan yn mynd adref ar ei fodur. Yr oedd Mrs. Bailey, gyda'r hon y lletyai, yn eistedd y tu ol i'r modur, yr hwn aeth i wrthdarawiad a cherbyd yn perthyn i ddau frawd o'r enw Thomas a Richard Thomas. Tystiai y brodyr fod ganddynt gan- wyll mewn llusern ar un ochr i'w cerbyd a chanwyll mewn potel yr ochr arall. Yr oeddynt yn ystyried fod ganddynt ddigon o olew. Dywedodd Mrs Howell Williams, yr hon oedd gyntaf i'r He ar ol i'r ddam- wain ddigwydd, i Collinson waeddi, pan yn rholio yn ei boen "cyn marw, am iddynt weini ar y foneddiges a pheidio Malio ynddo et. Ar ol i'r rheithwyr basio rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol dywedodd y crwner (Dr R. D. Thomas) wrth y brodyr Thomas nad oedd y rheithwyr wedi eu boddhau o gwbl gyda'u dat- ganiad o berthynas i'r goleu oedd gan- ddynt ar eu cerbyd Ystyrient fod marwolaeth wedi ei achosi gan eu diffyg goleuni hwy. Yr oedd y rheith- wyr yn dymuno arno eu ceryddu yn drwm, gan obeithio y byddai yn rhy- budd iddynt ar hyd eu hoes, ac i bawb arall. Yr oedd bywyd wedi ei golli oherwydd peidio gwario ychydig gein- iogau am olew, a gobeithiai y byddent yn cofio'r wevs am eu hoes.
IWedi Colli el Gof.
Wedi Colli el Gof. GLOWR IEUANC AR GRWYDR. Yn un o heolydd Manchester, oddeutu dau o'r gloch fore Sadwrn daeth heddpreidwad ar draws glowr ieuanc, mor ddu a phetae newydd ddod i lyny o'r pwll glo. yn crwydro'n ddi- amcan, ac wedi colli ei gof. Gwyddai mai glowr ydoedd, ei fod yn newyr.u, ac y bu yn crwydro ddydd a nos er's dyddiau Fel arfer mewn amgylchiadau o'r tath cymerwyd y dyn ieuanc i'r tloty. Gwnaed archwiliad arno gan feddyg ond methwyd yn Ian a chael allan pwy ydoedd nac o ba le y daethai. Y dybiaeth yw ei fod rhyw- fodd wedi dianc o'r trychineb yn Shenghenydd yn ddianaf, oddigerth fod yr amgylchiad ofnadwy wedi effeithio cymaint arno nes peri iddo golli ei gof. Ond pan soniwyd wrtho am y ddam- wain dywedodd na wyddai ddim am dani, er ei tod yn hollol gyfarwydd ag enw'r lie ac" a Chaerdydd. Cred y meddyg y dew i feddiant o'i gof eto yn y man. -0--
Y Trychineb yn Aisgill.
Y Trychineb yn Aisgill. CANDLE AR EI BRAWF. Yn Mrawdlys Carlisle, ddydd Llun, dygwyd Samuel Candle. gyriedydd tren y Midland a redodd i dren arall yn Ais- gill ar yr 2il o Fedi, i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o achosi marwolaeth Syr Arthur Percy Douglas. Yn y trengholiad ar gorff Syr Pergy- pasiwyd rheithfarn o ddynladdiad yQj erbyn Candle, ond yn y trengholiad ar gyrff y tranceditjion eraill yn y ddam- | wain pasiwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol. Gohiriwyd y prawf hyd heddyw (dydd Mawrth).
I Llewod yn yr Heolydd. I
I Llewod yn yr Heolydd. Oddeutu haner nos, nos Sul diwedd- af, yn Leipzig, aeth wagen milodfa Barnum, yn yr hon yr oedd saith o lewod a theigr, i wrthdarawiad a cher- byd tram ar yr heol. Tarawyd rhan o'r gwagen i ffwrdd gan rym y taraw- iad, a chymerodd y llewod a'r teigr fan- tais ar eu rhyddid ar unwaith a neid- iasant i ganol y bobl oedd yn yr heol. Achosodd hyny gyffro mawr, rhuthrai y bobl i'r tai bwyta ac i mewn drwy unrhyw ddrws a welent yn agored. Rhedai y llewod gan ruo a bygwyth drwy'r heolydd, ond yn tuan daeth nifer fawr o heddgeidwfid gydag arfau tan i'w hymlid. Neidiodd un Hew tros glawdd i ardd, a saethwyd ef yno'n farw. Rhedodd tri Hew arall i lawr yr heol Lladdwyd un o honynt, ac wrth weld y drws yn agored aeth y ddau arall i mewn i hotel gan beri braw a chyffro enbyd i'r gwesteion. Crwyd- rodd y Hewod drwy'r ystafellodd a'r bobl yn dianc o'u blaenau. Llwyddwyd i'w cloi mewn ystafell a chymerwyd hwy i'r ddalfa gyda rhwydi. I wneud yr amgylchiad yn waeth, yr oedd yn niwl trwchus ar y pryd, ac o'i herwydd nis wyddai neb yn iawn faint o lewod oedd yno, na i ba gyfeiriad yr oedd yr heddgeidwaid yn tanio arnynt.
Dirgelwch Mawr yn Ayrshire.
Dirgelwch Mawr yn Ayr- shire. Nos Sadwrn diweddaf. cyflwnwyd I gweithred anfad mewn bwthyn unig ar lan y mor yn Ayrshire. Pan oedd y gwr, ei wraig, a'i chwaer-y'nghyfraith yn eistedd wrth y bwrdd, saethodd rhywun ergydion atynt drwy y ffenestr. Rhedodd y gwr i'r dref gyfagos a hys- bysodd yr heddgeidwaid fod ei chwaer- y'nghyfraith wedi ei saethu'n farw, fod ei wraig hefyd wedi ei zhlwyfo'n ddiftif- ol, a'i fod yntau wedi ei anatu yn ei law. Ymddengys mai o'r ardd y saeth- wyd yr ergydion. Nid oedd lenni ar y ffenestr ac felly yr oedd y teulu i'w g'veled yn amlwg i'r rhai oedd tuallan, ond nis gallent weled y sawl oedd yn saethu atynt.
-v - Manion.
-v Manion. Tybir fod y syhvedd sydd newydd ei ddarganfod, a'r hwn a elwir yn Mesoth- oruim, yn feddyginiaeth effeithiol ar gyfer y cancer. Honir ei fod yn fwy effeithiol na Radium, ac y mae yn llaw- er iawn rhatach. Bu tarw dyn ieuanc yn Nghaer, y dydd o'r blaen, oddiwrth effeithiau gwenwyn. Yr oedd yn dioddef oddi- wrth afiechyd poenus iawn a hollol an- feddyginiaethol er's tros dair blynedd, a bernir iddo gymeryd y gwenwyn i gael mynd o'i boen. Y mae Mr Evans Howell, Porth, Deheudir Cymru, yr hwn sydd yn 91 mlwydd oed, wedi gwneud ei arch ei hun yn barod. Gofynodd un o'r enw Hugh Rourke, yn Stockton, i'w gymrawd am fatsen, ac ar ol tanio'i bibell neidiodd i'r gam- las a bu foddi. Wrth areithio yn Ngholeg y Brenin, y dydd o'r blaen, dywedai Syr John Laughton y gelwid yr hen fwa sseth yn arf Seisnig, ond hen arf y Cymry ydoedd, meddai ef; y Cymry a'i defnyddiodd gyntaf. Ceisiodd hen wr o'r enw John Will- iams, yr hwn sydd yn 74 mlwydd oed, roi terfyn ar ei einioes yn Buckley, y dydd o'r blaen. Pan oedd Arab cyfoethog yn cerdded un o heolydd Paris y nos o'r blaen daeth ei fab, dyn ieuanc heb fod yn llawn ugain oed, ato a saethodd ef yn farw. Yr oedd y trancedig yn filiwnydd lawer gwaith trosodd"
I Cymanfa Ddirwestol Gwynedd…
Cymanfa Ddirwestol Gwyn- edd yn Mhwilhel I. GAN SVLWEDYDD. I Parhad. Y peth a'm tarawodd i gryfaf o bob- peth yn yr holl gytarfodydd oedd y safle uchel o ba un y siaradai pawb. Yr oedd llawer o honom wedi gwrando lluaws mawr o areithiau yn ein hoes, ond yr ydym yn hollol sicr na wran- dawsom erioed yn un man areithiau mor ragorol,-dynion yn edrych ar y cwestiwn dirwestol o safle mor uchel a theilwng, ac yn siarad mor ddifritol ac efengylaidd. Yn ychwanegol at hyny, yr oedd safle yr oil o'r bobl oedd yn cymeryd rhan yn dangos y gall pawb sydd yn- gweithio gyda dirwest deimlo eu bod yn cael y fraint o gydweithio a phobl ragoraf Gwynedd yn mhob y^tyr. j Y mae niter o gyfeillion da yn gweithio j gyda'r Temlwyr Da a Chymdeithasau y Chwiorydd mewn llawer man y rhaid nas gallant beidio teimlo yn ddigon digalon yn ami. ond wedi y Gymanta ragorol hon gallant deimlo mai hwy yw yr arwyr. Diau mai yr hyn sydd wedi eu cynal yn wyneb llawer o achos- ion i ddigaloni yw y ffaith fod Duw o'u plaid. Ond erbyn hyn fe- ddylai y rhai claiar a diwaith weled fod dynion goreu Gwynedd yn yr un "cweh" a'r bobl nad ydynt hwy yn rhoddi iddynt y getnogaeth ddylent. Caniataer i ni ddatgan ein hedmygedd mawr o'r Llywydd--Syr J. Herbert Roberts, ac o'r Ysgrifenydd ymroddgar—y Parch. J. Glyn Davies Gwyn fyd na cheid mwy o'r dosbarth y mae Syr Herbert a Lady Roberts yn perthyn iddo, i ddilyn eu hesiampl deilwng trwy ddefnyddio eu cyfoeth a'u safle i hyrwyddo dirwest a chrefydd. Da genym hefyd gael uno a gohebydd yr Herald Cymraeg i gyd- nabod gweithgarwch y brodyr a'r chwiorydd ar y Pwyllgorau Lleol, ac fel y dywed yr Herald, y mae yr Ysgrif- enyddion —Mr. Roberts a Mr. Hughes, yn ogystal a Miss Jones, a hefyd y LIywydd-y Parch. D. E. Davies, wedi gweithio yn rhagorol; a da genym ddeall fod y diweddzf (y Parch. D. E. Davies) wedi ei ddewis yn un o Is- lywyddion y Gymanfa, a bod Dr. R. Jones Evans a Mr. Robyns Owen wedi eu dewis ar y Pwyllgor Gweithiol.
-0 - ¡ Mr. Ellis Griffith…
-0 Mr. Ellis Griffith a'r Fferm- wyr. Wrth anerch ei etholwyr yn Pen- I traeth, y nos o'r blaen, dywedai Mr EPis Jones Griffith, K. C., gan mai y rhent yn ol y drefn bresenol oedd saton ) y trethiant, yr nedd y rhai a gaent eu gor-rentu yn cael eu gor-drethu helyd, meddai ef, a hwy oedd y rhai mwyaf J analluog i ddal y baich. Yn ychwaneg- ol at hyny, gan fod y rhenti yn cael eu codi ar gyfrif gwelliantau, byddai y trethi yn codi gyda'r prisiad newydd, gyda'r canlyniad fod y ffarmwr da yn cael ei gosbi am wella ei fferm, a'r ffarmwr gwael yn cael llonydd. Yn y ffordd hono yr oedd diwydrwydd yn cael eu drethu a diwygiad yn cael ei lesteirio. Yn ddiweddar yr oedd tir wedi ei werthu yn M6n tuag at amcanion cyhoeddus, megis capelau ac ysgolion, ac mewn achos yr oedd pris y pwrcas yn ol cyfartaledd 0 42op. yr acer. Gyda golwg ar ddaliadau am- aethyddol cydnabyddid yn gyffredinol, meddai ef, fod yr amser a ofynir gan y gyfraith ynglyn a rhybudd yn rhy fyr, gapei fod yn rhwyst' i'r amaethwr roi ei oreu i'w ddiwydiant, ac i fedl o ffrwyth ei lafur. Yr oedd yr iawn gan- iateid o dan Ddeddf Daliadau Amaeth- yddol 1908 yn anigonol, yn arbenig mewn rhai amgylchiadau. Yr oedd sefyllfa y llafurwr amaethyddol hefyd yn galw am ddiwygiad huan. Yr oedd llawer o fythynod yn MOD mewn cyflwr truenus. Yn oedd un ran o dair o'r tai mewn un pentref yn anfoddhaol. Mewn gwirionedd yr oedd aneddau y dosbarth gweithiol drwy yr ynys yn galw am ddiwygiad.
[No title]
Tarawyd priodferch ieuanc yn glaf wrth yr all^r yn Eglwys Fenton, y dydd o'r blaen, a bu farw gynted ag y cyrhaeddodd y ty.
Advertising
Wanted. SMA RT young Ladies for the Drapery Trade. Good experience neces- sary. Apply-Pollecoff, Druid House, Pwllheli. To be Let. MADRYN HOUSE, South Beach, JLU. Pwllheli. Favourable terms. Immediate possession. Apply to MR. LEWIS JONES, Preswylta, Ala Road, Pwllheli. A COMMODIOUS House, in a pro. .L minent position, at L1anbedro. Possession nth of November, 1913. Foi further particulars apply—J," Udgorn Office, Pwllheli, On Sale.- GIG in good condition. Price about ^5. Further particulars from D," UDGORN Office. Arlan ar Log. AMRYW symiau am £ 4 y cant. Ymofyner a Lex," 44 Udgorn Office, Pwllheli. Sale by Mr. Seth Hughes, Auction- eer, Town Hit!, Wrexham. ON. MONDAY, NOVEMBER 3rd, 1913, and the following days. SALE OF CLOTHING, DRAPERY, BOOTS AND SHOES AT ANCHORIA, HIGH STREET, NEVIN. MR. SETH HUGHES has received instructions from Mr W. O. Hughes. who is giving up the business, to sell by Public Auction on Monday, Tuesday, Wednesday, Thursday, Fri- day and Saturday, Nov. 3rd, 4th, 5th, 6th, 7th and 8th, at 2 p. m & 6 p m. each day. The WHOLE OF THE STOCK OF DRAPERY, BOOTS & SHOES. Comprising of. 100 pairs of Men's, Youths and Boys Boots and Shoes, 200 pairs of Ladies and Girls Boots and Shoes, Men's, Youths and Boys Suits, Shirts, Pants, Vests, Gloves, Caps, Jerseys, Combinations, Jackets, Collars, Ties, Hosiery; Lace, &c Counters, Shelving, Desks, Lamps, Chairs, Fit- tings, &c. The Fixtures will be sold un Friday, November 7th, at 2 p.m At Amaethwyr ac Eraill Dymuna SAMUEL EVANS, Masnachydd Glo, MORLAN, SOUTH BEACH, PWLLHELI, Hysbysu'r cyhoedd ei fod am Helaethu ei Fasnach, ac yn bwriadu GWERTHU CALCH yn ogystal a Glo. Bydd S. E. yn y Goods Station o 8 o'r gloch y boreu hyd 4 y prydnawn, a sictha'r cyhoedd y gall, oherwydd cyfleusterau neillduol, eu cyflenwi a Nwyddau o'r Radd Uwchaf am y Prisiau Iselaf Posibl. Hydera y gall deilyugu cefnogaeth gyffredinol. SAMUEL EVANS, COAL & LIME MERCHANT, Morlan, South Beach, Pwllheli. YN Y WASG. Beirdri Gwerin Eifiotfdo o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd yn bresenol, A'u Gwaith Anghyhoeddedig: YNGHYDA DARLUNIAU. GAN CYBI. Pris Llyfr mewn Amlen Bapyr, i/ Llian, 1/6. HYSBYSIAD RHAGBAROTOAWL SOCIAL BLYNYDDOL PENMOUNT, Nos lau, Rhagfyr 4ydd, 1913. Manylion yn fuan. NA TIONAL PROVINCIAL BANK OF ENGLAND LTD. ÅGORIR CANGHEN o'r Ariandy uchod yn Y Groes, Nevin, MOR FUAN AG Y GELLIR. D. T. LLOYD, Goruchwyliwr. Recreation Ground, Pwllheli. SATURDAY NEXT, OCT. 25th. GRAND FOOTBALL MATCH. PV/LLHELI TOWN v. a Weiknowq Team. Kick-off 2.30. Admission 4d.; boys 2d. Free Gift to Ladies. FOR A FEW WEEKS ONLY we are giving away a 2/9 Packet of our famous Health Corrective Powders a guaranteed remedy for all derange- ments of the system. They afford relief in a few hours and their regular use will promote and maintain a sound healthy condition of the system. Try them at our expense. Send 2 stamps to cover postage. Address-The Man- ageress, 106, Liverpool Road, Islington, London. Beware of imitations. m